Cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd ar ôl y pandemig yn peri pryder, gydag effaith anghymesur ar ddisgyblion o deuluoedd ag incwm is

Erthygl

Agos-i o berson yn ysgrifennu ar ddarn o bapur gyda beiro lliwgar, gyda ffôn clyfar wedi'i osod ar y ddesg gerllaw.

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn yn dangos bod presenoldeb mewn ysgolion uwchradd wedi dirywio ers pandemig COVID-19 ac y bu’n araf i wella. Mae gan ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gyfraddau presenoldeb is na’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae nifer y disgyblion sy’n absennol yn gyson wedi cynyddu’n sylweddol.

Canfu’r adroddiad bod ysgolion wedi ymateb i’r heriau hyn trwy gynyddu eu cymorth ar gyfer lles disgyblion a rhoi mesurau ar waith i wella presenoldeb, fel monitro a dadansoddi cyfraddau presenoldeb yn drylwyr. Fodd bynnag, nid yw presenoldeb cyffredinol wedi gwella’n ddigon cyflym. Mae gan yr ysgolion a fu’n fwyaf effeithiol ddiwylliant cryf o ddisgwyliadau uchel o ran presenoldeb, maent yn defnyddio data’n effeithiol, yn canolbwyntio ar addysgu o ansawdd uchel, ac yn gwerthuso effaith eu gwaith yn effeithiol.

Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans:

‘Mae cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn peri pryder; pan nad yw disgyblion yn yr ysgol, nid ydyn nhw’n dysgu ac mae’r data a gofnodwyd yn dangos bod gormod o ddisgyblion yn cael o leiaf un diwrnod i ffwrdd bob pythefnos. Mae absenoldeb yn dal llawer o ddysgwyr yn ôl, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi ac mae diffyg presenoldeb ymhlith disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn bryder sylweddol. Er bod y rhan fwyaf o ysgolion yn deall pwysigrwydd gwella presenoldeb disgyblion, mewn rhai ysgolion, nid yw gwaith i wella presenoldeb wedi cael digon o effaith. Mae ysgolion sy’n llwyddo i wella presenoldeb yn targedu adnoddau’n ofalus, yn monitro presenoldeb gan ddefnyddio data’n drylwyr, yn cydweithio â theuluoedd ac yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer disgyblion. Mae gan ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyd rôl i’w chwarae o ran gwella presenoldeb a dylent roi ystyriaeth fanwl i’r argymhellion yn yr adroddiad.’

Mae’r adroddiad yn ystyried ystod o rwystrau y mae ysgolion yn eu hwynebu wrth fynd i’r afael â phresenoldeb gwael, gan gynnwys sut mae rhieni’n ystyried pwysigrwydd presenoldeb da, y costau cynyddol sy’n gysylltiedig â chludiant ysgol a’r diffyg cyllid penodedig gan Lywodraeth Cymru i wella presenoldeb.

Dywed awdur yr adroddiad, Alan Edwards:

‘Er bod gan ysgolion rôl bwysig mewn gwella presenoldeb, mae’n glir na allant fynd i’r afael â’r mater hwn ar eu pen eu hunain. Bydd gwella presenoldeb yn mynnu ymagwedd drawswasanaeth, ochr yn ochr â chymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys adolygu’r cyfyngiad tair milltir ar gyfer cludiant am ddim, sy’n cael effaith benodol ar ddisgyblion o deuluoedd ag incwm is, a sut y gellir cefnogi’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim yn well i fynychu’r ysgol. Rydym hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y ffordd orau i ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael i ysgolion i feithrin gallu a chynorthwyo staff i wella presenoldeb. Rydym hefyd wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ymgyrch genedlaethol i wella amgyffrediad rhieni a gofalwyr o bwysigrwydd mynd i’r ysgol.’