Colegau’n darparu cymorth da ar gyfer dysgwyr i’w helpu i wneud y gorau o’u haddysg

Erthygl

Canfu adroddiad Estyn, ‘Gwasanaethau cymorth i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach ar gyfer dysgwyr 16-19 oed’, fod y rhan fwyaf o golegau’n rhoi arweiniad da i ddysgwyr a’u bod yn darparu ystod o gymorth effeithiol i helpu dysgwyr i fanteisio ar y cyfleoedd y mae eu haddysg a’r hyfforddiant yn eu rhoi iddynt. 

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd: 

“Mae rhoi cymorth llawn i ddysgwyr wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau ar adegau allweddol yn eu bywyd yn hynod bwysig.  Dylai colegau ddarparu’r cyngor a’r arweiniad i gynnal diddordeb dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u helpu i benderfynu ar y camau nesaf yn eu gyrfa wrth iddyn nhw orffen addysg amser llawn.”

Mae colegau’n rhoi cymorth i ddysgwyr trwy eu cyfnod mewn addysg mewn nifer o ffyrdd.  Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn monitro presenoldeb i nodi dysgwyr sydd mewn perygl o roi’r gorau i’w haddysg ac yn darparu cymorth i helpu i leihau nifer yr absenoldebau.  Mae gan y rhan fwyaf o golegau staff sy’n defnyddio eu gwybodaeth dechnegol a galwedigaethol i helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau am eu dilyniant y tu hwnt i addysg bellach a darparu arweiniad priodol.  Cyflwynir sesiynau tiwtorial strwythuredig i helpu i ddatblygu medrau cynllunio gyrfa.  Mae’r rhan fwyaf o golegau’n defnyddio’r sesiynau tiwtorial hyn hefyd i helpu dysgwyr i drefnu profiad gwaith ac ennill medrau ychwanegol a amlinellir yn Gyrfaoedd a’r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru (2008).

Mae gweithio mewn partneriaeth yn ffordd bwysig o gynorthwyo dysgwyr.  Er enghraifft, mae Coleg y Cymoedd yn gweithio’n agos â Choleg Dewi Sant ac Ysgol Gatholig Rufeinig y Cardinal Newman.  Mae hyn yn galluogi disgyblion Blwyddyn 12 o Ysgol y Cardinal Newman sy’n mynychu Coleg y Cymoedd i gynnal cysylltiadau ag addysg yn seiliedig ar ffydd tra byddant yn manteisio ar gyfleoedd dysgu yn y coleg.

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer colegau addysg bellach, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.  Dylai colegau ddatblygu ffordd gyffredin o fesur cyflawniadau dysgwyr yn erbyn y fframwaith Gyrfaoedd a’r byd gwaith  (2008).  Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod pob dysgwr yn ymwybodol o’r dewisiadau cymorth sydd ar gael iddynt a bod colegau’n cael gwybodaeth amserol am gyflawniadau ac anghenion dysgwyr sy’n symud ymlaen i addysg bellach.  Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag ysgolion, Gyrfa Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu system genedlaethol ar gyfer casglu data ar gyrchfannau gyrfa unigolion sy’n gadael y coleg. 

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglyn â’r adroddiad

  • Comisiynwyd adroddiad Estyn Gwasanaethau cymorth i ddysgwyr mewn colegau addysg bellach ar gyfer dysgwyr 16-19 oed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae ar gael yn llawn yn http://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig

  • Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn defnyddio ymweliadau â’r sefydliadau canlynol:

    • Coleg Penybont, Pen-y-bont ar Ogwr

    • Coleg Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin

    • Coleg Ceredigion, Ceredigion

    • Coleg Gwent, Casnewydd

    • Grwp Llandrillo Menai, Gwynedd

    • Coleg Merthyr Tudful, Merthyr Tudful

    • Coleg Penfro, Sir Benfro

    • Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd

    • Coleg Gwyr Abertawe, Abertawe

    • Coleg Cambria, Sir y Fflint

    • Coleg y Cymoedd, Rhondda Cynon Taf

    • Grwp NPTC, Castell-nedd Port Talbot