Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal
Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod bwlch mawr o hyd rhwng cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal a chyrhaeddiad disgyblion eraill. Fodd bynnag, mae ysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru yn cymryd camau i gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal, gan eu helpu i gyflawni eu potensial a chodi eu dyheadau.
Mae adroddiad Estyn, ‘Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru’, yn canolbwyntio ar enghreifftiau o arfer orau mewn ysgolion ac awdurdodau lleol. Caiff y rhain eu dangos trwy gyfres o astudiaethau achos.
Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,
“Nid yw bron i hanner (45%) y plant sy’n derbyn gofal yn cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NEET) nac mewn cysylltiad â’u hawdurdod lleol yn 19 oed. Mae hyn o gymharu â thua 5% o blant eraill. Mae’r adroddiad hwn yn dangos, gydag ymrwymiad, penderfynoldeb a gweledigaeth strategol glir, gellir mynd i’r afael â bylchau mewn cyrhaeddiad a’u lleihau.”
Y canfyddiadau
Canfu’r adroddiad bod gan yr ysgolion a’r awdurdodau lleol sy’n fwyaf effeithiol o ran cynorthwyo plant sy’n derbyn gofal nifer o nodweddion cyffredin, sef:
-
cymorth bugeiliol cryf yn ystod argyfyngau neu anawsterau personol
-
olrhain effeithiol i fonitro cynnydd
-
cynlluniau addysg personol sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau clir, gan gynnwys nodau ar gyfer datblygiad personol ac annibyniaeth
-
parodrwydd i wrando a defnyddio adborth gan blant a gofalwyr
-
hyfforddiant rheolaidd i staff
-
uwch arweinwyr sy’n cydnabod yr angen am gymorth ac arweiniad ychwanegol, ac yn sicrhau y cânt eu rhoi
Mae’r astudiaethau achos arfer orau yn dangos ystod eang o strategaethau i gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal.
Ysgol Gyfun Brynteg
Mae’r ysgol yn defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal i ddarparu cymorth ac adnoddau ychwanegol i ddisgyblion, i ymestyn eu profiadau diwylliannol a chydweithio â gofalwyr maeth. Mae’n cynnwys disgyblion a gofalwyr mewn penderfyniadau ar sut i ddefnyddio’r cyllid grant i gynorthwyo popeth o hyfforddiant ychwanegol neu “wersylloedd ymarfer” llythrennedd a mathemateg i becynnau adolygu, clybiau ar ôl ysgol a gweithgareddau gwyliau.
Mae disgyblion yn mwynhau’r ysgol ac yn cael cyfleoedd i gyfranogi’n llawn ym mywyd yr ysgol. Mae presenoldeb plant sy’n derbyn gofal, sef 95%, yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer disgyblion eraill. Ni fu unrhyw waharddiadau parhaol yn ystod y tair blynedd diwethaf ac mae nifer y gwaharddiadau am gyfnod penodol yn isel iawn.
Yng nghyfnod allweddol 3, cyflawnodd llawer o ddisgyblion y lefel ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran yn y pynciau craidd. Cyflawnodd yr holl ddisgyblion TGAU ddangosyddion lefel 1 a 2.
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion ac awdurdodau lleol adeiladu ar yr enghreifftiau niferus o arfer orau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.
Gallai consortia rhanbarthol wella’r modd y maent yn cynllunio ar gyfer grantiau cymorth i sicrhau bod ysgolion yn glir ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer defnyddio grantiau. Hefyd, mae angen i’w cynlluniau roi digon o ystyriaeth i anghenion cymhleth plant sy’n derbyn gofal.
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried ehangu mesurau perfformiad i gynnwys cynnydd o gymharu â man cychwyn y plentyn ac ymestyn y tu hwnt i’r oedran ysgol statudol. Hefyd, mae angen sicrhau bod cynlluniau gwariant y consortia rhanbarthol yn briodol ar gyfer anghenion lleol ac wedi’u seilio ar ddadansoddiad cadarn o anghenion plant sy’n derbyn gofal.
Nodiadau i Olygyddion:
Ynglŷn â’r adroddiad
-
Comisiynwyd adroddiad Estyn gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn ei gyfanrwydd yn http://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig
-
Mae’n ystyried y meysydd darpariaeth canlynol:
Arfer dda mewn ysgolion
- Strategaeth
- Cwricwlwm a chyfoethogi
- Olrhain
- Mentora a chymorth ar gyfer lles emosiynol
- Pontio a lleoliad addysg
- Datblygiad proffesiynol ar gyfer staff
- Llais y dysgwr
- Partneriaethau gyda rhieni a gofalwyr
- Rôl llywodraethwyr
- Y Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
Arfer dda mewn awdurdodau lleol
- Polisi awdurdodau lleol
- Strategaeth awdurdodau lleol
- Rôl aelodau etholedig
- Systemau gwybodaeth reoli
- Penderfyniadau am leoliad
- Rôl cydlynydd addysg plant sy’n derbyn gofal
- Gwaith gyda rhieni a gofalwyr
- Arfarnu ymyriadau a rhannu arfer orau
- Ymwelodd arolygwyr â’r ysgolion, awdurdodau lleol a’r consortia canlynol:
Ysgolion
- Ysgol Breswyl Therapiwtig Amberleigh, Y Trallwng
- Ysgol yr Esgob Gore, Abertawe
- Ysgol Gyfun Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gynradd Colcot, Bro Morgannwg
- Ysgol Gyfun Gymunedol Cwrt Sart, Castell-nedd Port Talbot
- Ysgol Gymunedol Glynrhedynog, Rhondda Cynon Taf
- Ysgol Arbennig Greenfield, Merthyr Tudful
- Ysgol Gynradd Sirol Maerdy, Rhondda Cynon Taf
- Ysgol Gynradd Pen-y-bont, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga, Caerffili
- Ysgol Gynradd Tredelerch, Caerdydd
- Ysgol Gyfun Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf
- Canolfan Datblygu Plant Woodlands, Wrecsam
- Ysgol Dyffryn Conwy, Conwy
- Ysgol y Castell, Sir Gaerfyrddin
- Ysgol y Gogarth, Conwy
Awdurdodau lleol
- Cyngor Sir Gâr
- Cyngor Dinas Caerdydd
- Dinas a Sir Abertawe
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Cyngor Sir Penfro
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Consortia rhanbarthol
- Canolbarth y De: yn cynnwys Rhondda Cynon Taf, Caerdydd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg
- Y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS): yn cynnwys Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen
- ERW: Sir Gâr, Powys, Ceredigion, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
- GWE: yn cynnwys Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn
Ystyriodd yr adroddiad arolygon blaenorol Estyn, canfyddiadau arolygu a data.Rhoddodd sylw i ystod o adroddiadau ac ymchwil eraill am brofiadau dysgwyr ac addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.