Ceisiadau ar agor ar gyfer Rhaglen Arweinwyr o Leiafrifoedd Ethnig

Yn 2023, lansiwyd rhaglen ddatblygu newydd i leihau’r rhwystrau sy’n wynebu gweithwyr addysg o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Ar ôl llwyddo i recriwtio dwy garfan o arweinwyr gwych, rydym nawr yn agor ein cylchred nesaf.
Mae’r broses recriwtio ar gyfer ein rhaglen Arweinwyr Lleiafrifoedd Ethnig bellach yn fyw ac yn agored i’r rheini sy’n gweithio mewn lleoliad addysg neu awdurdod lleol sydd am gymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae’r rhaglen hefyd yn gobeithio hybu profiadau a gyrfaoedd y rhai sy’n cymryd rhan a chynyddu amrywiaeth mewn arweinyddiaeth addysg.
Dywedodd Owen Evans, PAEF:
“Mae’r rhaglen hon yn rhan bwysig o’r gwaith rydym yn ei wneud i gynyddu cynrychiolaeth ar draws pob lefel o arweinyddiaeth a’r gronfa o arolygwyr rydym yn gweithio gyda nhw, fel bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.”
“Rydyn ni’n gwybod bod sefydliadau sy’n denu ac yn datblygu unigolion o’r gronfa ehangaf o dalent yn perfformio’n well yn gyson ac mae gennym ni rôl i’w chwarae wrth yrru amrywiaeth yn y sector addysg a hyfforddiant.”
Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen ar agor ar hyn o bryd. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gweithio mewn lleoliad addysg neu awdurdod lleol yng Nghymru ar hyn o bryd, bod ag o leiaf bum mlynedd o brofiad addysgu a bod yn gyfrifol am ddatblygu dysgu, addysgu neu les.