Camau cadarnhaol ar gyfer prentisiaethau iau, ond mae cyfleoedd yn anghyson ledled Cymru
Mae adroddiad newydd gan Estyn a gyhoeddwyd heddiw yn archwilio effaith y rhaglen prentisiaethau iau yng Nghymru. Mae’n amlygu nifer o ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys cyfraddau llwyddo uchel iawn mewn cymwysterau galwedigaethol, lefelau gwell o ymgysylltu a phresenoldeb, a chyfraddau dilyniant cryf i addysg bellach a hyfforddiant. Fodd bynnag, mae niferoedd y dysgwyr yn fach, ac nid yw pobl ifanc mewn llawer o ardaloedd o Gymru yn gallu manteisio ar y cyfleoedd trwy ddarparwyr lleol.
Mae rhaglenni prentisiaethau iau wedi’u cynllunio i helpu awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau i weithio gyda’i gilydd i gynnig dysgu amser llawn â ffocws galwedigaethol ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 o fewn colegau AB. Mae’r rhaglen, a gyflwynwyd yn 2017, wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn mewn 5 o’r 12 coleg yng Nghymru, yn cynnwys tua 150 o ddysgwyr. Fodd bynnag, nid yw dysgwyr mewn llawer o ardaloedd o Gymru yn cael cyfleoedd tebyg oherwydd nad oes trefniadau cydweithredol lleol ar waith o fewn eu hardaloedd i gefnogi’r cyflwyno.
Dywed Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Owen Evans:
Mae ein hadroddiad yn amlygu’r effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen prentisiaethau iau yn ei chael wrth ymestyn cyfleoedd galwedigaethol cyn 16 oed i ddysgwyr sy’n ei chael yn anodd ymgysylltu â’r cwricwlwm ysgol brif ffrwd. Fodd bynnag, gan mai 5 yn unig o’r 22 awdurdod lleol ledled Cymru sy’n cyflwyno’r rhaglen, gallwn weld yn glir beth yw cyfyngiadau’r ddarpariaeth a’r anghydraddoldeb mewn cyfleoedd dysgu rhwng rhanbarthau ac ardaloedd lleol yng Nghymru ar hyn o bryd.
“Pan mae rhaglenni prentisiaethau iau ar gael, maen nhw’n gwneud cyfraniad pwysig at helpu cynorthwyo pobl ifanc a allai fod mewn perygl o fod yn bobl NACH (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), a goresgyn ymddieithrio â dysgu, ond mae gwaith i’w wneud i sicrhau bod y cyfleoedd yn cael eu cynnig yn fwy cyson.
“Mae’r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad i gyd, a byddwn i’n annog Llywodraeth Cymru, colegau addysg bellach, ysgolion ac awdurdodau lleol i fyfyrio ar y rhain wrth iddyn nhw ddatblygu’r rhaglen ymhellach i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn gallu dilyn y llwybr unigryw hwn o ddysgu galwedigaethol strwythuredig.”
Dywedodd awdur yr adroddiad, Ian Dickson:
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi llais i arweinwyr a staff colegau, cynrychiolwyr o ysgolion ac awdurdodau lleol dysgwyr a dysgwyr prentisiaethau iau ym Mlwyddyn 10 ac 11. Rydym ni wedi amlygu arfer dda ac wedi nodi rhwystrau rhag cyflwyno’r rhaglen prentisiaethau iau gan golegau addysg bellach. Rydym ni’n canolbwyntio ar effaith y rhaglen ar ddeilliannau dysgwyr ac yn nodi nifer o argymhellion i gefnogi datblygu a chyflwyno yn y dyfodol.”