Beth yw barn rhanddeiliaid amdanom?

Yn ddiweddar, lansion arolwg ar-lein annibynnol i gasglu barn ein rhanddeiliaid am yr hyn y maent yn ei ddeall am Estyn – pwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud a’r effaith a gawn. Un o’n huchelgeisiau yw bod pawb rydym yn rhyngweithio â nhw yn deall ac yn gwerthfawrogi ein cyfraniad i’r sector ac i ddysgwyr yng Nghymru.
Diben ceisio mewnwelediadau rhanddeiliaid yw ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r perthnasoedd gwaith sydd gennym â’n rhanddeiliaid – i asesu ein henw da, asesu effaith a defnyddioldeb ein hadroddiadau, cyhoeddiadau ac ymgyrchoedd allweddol ac i ddeall y dulliau sy’n well gan randdeiliaid ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â ni.
Rydym yn falch o weld o’r canfyddiadau bod ymatebwyr sydd wedi cael arolygiadau ers y pandemig yn sôn am brofiad mwyfwy cadarnhaol, ac mae’n fy nghalonogi bod mwy o bobl yn gwerthfawrogi ein harolygiadau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mynegodd rai cyfranogwyr eu barn y bu newid amlwg yn naws Estyn.
Er bod dealltwriaeth ac ymagwedd gydweithredol ein gwaith yn cael eu cydnabod, mae’r adroddiad yn sicr yn amlygu meysydd y gallwn eu gwella. Mae pryder ynghylch arolygiadau o hyd, sy’n aml yn cael ei briodoli i’r pryder naturiol a ddaw yn sgil cael eich gwerthuso. Serch hynny, mae gwaith y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r cydbwysedd hwn o sicrwydd a chymorth.
Rwy’n falch o’r gwaith rydym yn ei wneud yma yn Estyn ac o’r newid cadarnhaol rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd a byddwn yn myfyrio ar y canfyddiadau hyn ac yn parhau i gasglu adborth gan randdeiliaid. Byddwn yn cynnal yr ymarfer hwn yn flynyddol i’n galluogi i feincnodi a mesur cynnydd yn ein gwaith wrth i ni wrando ac ymateb.
Rydym yn ddiolchgar i bob un ohonoch a roddodd eich amser i ymateb a rhannu eich mewnwelediadau a’ch profiadau o gydweithio â ni trwy’r gwaith hwn. Mae llawer o fanylion yn yr adroddiad ac rwy’n gobeithio y byddwch yn neilltuo amser i fwrw golwg arno.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma: Estyn Stakeholder Perceptions Research – Estyn