Arwyddair newydd Estyn: Dros ddysgwyr, dros Gymru
Bu Estyn yn datblygu’r ffordd y mae’n gweithio. Er mai atebolrwydd yn y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru yw ein hegwyddor sylfaenol o hyd, rydym wedi ymrwymo i gefnogi sectorau i wella. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd a’n dulliau cyfathrebu yn gynyddol, gan gynnwys ein gwefan ar ei newydd wedd, i gyfeirio at arfer orau a ganfuwyd yn ein rhaglen genedlaethol. Mae’r dysgwr wrth wraidd popeth a wnawn ac, yn yr ysbryd hwnnw, rydym wedi newid ein logo i adlewyrchu hynny.
Mewn ymarfer ar draws Estyn cyfan, dan arweiniad cyfranogwyr carfan gyntaf ein Rhaglen Arweinyddiaeth, rydym wedi datblygu arwyddair syml sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i ni. Yn y bôn, dylai ddod â’n cenhadaeth, ein gwerthoedd a’n ffocws at ei gilydd fel sefydliad.
Ar ôl pleidlais ymhlith yr holl staff ac ar ôl cryn drafod, cytunom ar arwyddair y gobeithiwn ei fod yn cyfleu’r hyn rydym yn credu ynddo a’r hyn y mae’r sectorau rydym yn eu gwasanaethu yn credu ynddo.
“For learners, for Wales | Dros ddysgwyr, dros Gymru”