Erthyglau newyddion |

Arweinyddiaeth yw’r ‘ffactor mwyaf arwyddocaol’ wrth ysgogi gwelliant ysgolion cynradd

Share this page

Arweinyddiaeth effeithiol yw’r dylanwad pwysicaf o ran codi safonau, gwella addysgu a dysgu, ac ymgorffori diwylliant o hunan-wella mewn ysgolion cynradd.

Mae adroddiad Estyn, ‘Arweinyddiaeth a gwella ysgolion cynradd’ yn defnyddio tystiolaeth arolygu ac astudiaethau achos o ystod eang o ysgolion ledled Cymru i nodi nodweddion cyffredin gwelliant llwyddiannus ar gyfer ysgolion sydd ar gamau datblygu gwahanol – p’un a ydynt yn cychwyn o fan isel neu’n bwriadu cynnal safonau uchel.

Mae’n dangos hefyd sut gall ysgolion ddysgu o brofiadau ei gilydd a’u defnyddio i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. 

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

“Mae ei heriau ei hun gan bob ysgol, ond gall pob ysgol wella. I sicrhau gwelliant effeithiol, mae arnoch angen arweinwyr sydd â gweledigaeth glir o’r hyn sydd angen ei newid.  Mae arolygu yn cefnogi’r broses hon drwy nodi cryfderau ysgolion a’u meysydd i’w gwella, a thrwy flaenoriaethu camau nesaf posibl.” 

Mynd ar y daith wella

Mae’r astudiaethau achos yn yr adroddiad yn dangos pedwar cam taith wella ysgol - dechrau'r daith, gwneud cynnydd, adeiladu momentwm, ac yna cynnal safonau uchel.

Er enghraifft, dechreuodd Ysgol Gynradd Deighton (Blaenau Gwent) o fod angen ‘gwelliant sylweddol’ ar ôl arolygiad yn 2011.  Fe wnaeth tîm arweinyddiaeth newydd yr ysgol ganolbwyntio ar wella’r addysgu a meithrin diwylliant o ddisgwyliadau uchel.  Hefyd, aeth yr ysgol ati i ddatblygu rôl llywodraethwyr a meithrin cysylltiadau cryfach gyda rhieni a’r gymuned leol.  Erbyn 2015, roedd deilliannau disgyblion yn gwella a dyfarnodd arolygiad llawn gan Estyn fod yr ysgol yn ‘dda’ o ran ei pherfformiad presennol a’i rhagolygon gwella yn y dyfodol.   

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys model ar gyfer gwelliant effeithiol ar bob un o’r camau hyn, yn seiliedig ar set o nodweddion cyffredin, fel:

  • gweledigaeth a chyfeiriad strategol clir gan arweinwyr sy’n datblygu wrth i’r ysgol wella

  • gwneud gwella safonau a lles disgyblion yn brif flaenoriaeth

  • cyflwyno cwricwlwm sy’n bodloni anghenion pob disgybl yn llawn

  • cynnal ffocws cyson ar fedrau llythrennedd a rhifedd

  • codi safonau proffesiynol proffesiynol - gwella’r addysgu, datblygu medrau staff, a sicrhau bod staff yn atebol am ysgogi gwelliant a

  • sicrhau bod hunanarfarnu wedi’i seilio ar dystiolaeth gadarn ac yn gysylltiedig â blaenoriaethau gwella.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

  • Mae’n adeiladu ar ganfyddiadau adroddiad cynharach:  ‘Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth’ – a gyhoeddwyd gan Estyn yn 2015 
  • Mae’r adroddiad:
    • yn archwilio sut mae arweinyddiaeth a datblygu gallu i arwain yn hanfodol i wella perfformiad ysgolion cynradd

    • yn nodi model ar gyfer gwella yn seiliedig ar nodweddion cyffredin sy’n cefnogi gwelliant ar bob lefel

Casglodd arolygwyr dystiolaeth o:

 

  • ymweliadau â 27 o ysgolion cynradd ledled Cymru sydd wedi gwneud gwelliannau

  • tystiolaeth ychwanegol o arolygiadau o ysgolion cynradd rhwng Medi 2010 a Gorffennaf 2015

    Astudiaethau achos o sut mae ysgolion cynradd yn gwella

  • Ysgol Gynradd Parkland - Abertawe

  • Ysgol Gynradd Deighton - Blaenau Gwent

  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban - Caerdydd      

  • Ysgol Gynradd Ystrad Mynach - Caerffili

  • Ysgol Gynradd Glasllwch - Casnewydd

  • Ysgol Gynradd High Cross - Casnewydd

  • Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan - Castell-nedd Port Talbot

  • Ysgol Gynradd Gymunedol Tonnau - Castell-nedd Port Talbot

  • Ysgol Glan Gele - Conwy                    

  • Ysgol Gynradd Gymunedol Y Friog - Gwynedd

  • Ysgol Gynradd Craig yr Hesg - Rhondda Cynon Taf

  • Ysgol Gynradd Dolau - Rhondda Cynon Taf

  • Ysgol Tafarnspite - Sir Benfro

  • Ysgol Templeton - Sir Benfro

  • Ysgol Gynradd Deri View - Sir Fynwy

  • Ysgol Gynradd Brynaman, - Sir Gâr

  • Ysgol Gynradd Gymorthedig Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru Pentref Penarlâg - Sir y Fflint

  • Ysgol Gynradd Gymunedol Clawdd Wat - Wrecsam