Erthyglau newyddion |

Arfer dda wedi’i nodi mewn mathemateg, ond mae heriau’n parhau i ysgolion uwchradd

Share this page

Mae disgyblion yn gwneud cynnydd da yn eu rhesymu mathemategol pan fyddant yn datrys problemau, yn ôl adroddiad Estyn sy’n cael ei gyhoeddi heddiw. Mae disgyblion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau datrys problemau yn rheolaidd yn gallu deall problemau bywyd go iawn yn well a dewis ffyrdd priodol o fynd i’r afael â phroblemau mathemategol sy’n gynyddol gymhleth.
Mae ‘Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 3’ yn edrych ar safonau a’r ffactorau sy’n effeithio ar gyflawniad, ac mae’n cynnwys astudiaethau achos arfer orau o 15 ysgol uwchradd.

Dywed Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Mae gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau mathemategol yn gynyddol bwysig ar gyfer bywyd bob dydd. Mae’n hanfodol bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth gadarn o fathemateg yn ystod eu blynyddoedd ysgol.

“Mae’n galonogol gweld bod asesiadau athrawon yn dangos bod disgyblion yn cyflawni’r lefel ddisgwyliedig mewn mathemateg ar ddiwedd cyfnod allweddol 3, a bod canlyniadau wedi gwella dros y pum mlynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, nid yw disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gwneud cystal ac mae’r bwlch rhwng cyflawniad merched a bechgyn wedi mynd yn fwy. Mae cyrhaeddiad merched ar y lefelau uwch wedi gwella’n gyflymach hefyd.

“Dylai ysgolion sicrhau bod pob disgybl yn gallu cyflawni ei lawn botensial mewn mathemateg. Rwy’n annog pob ysgol i wneud nodyn o’r argymhellion yn yr adroddiad ac yn defnyddio’r astudiaethau arfer orau i helpu i wella eu hadrannau mathemateg eu hunain.”

Ym mwyafrif yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw, mae’r addysgu’n dda neu’n well, gosodir targedau heriol ar gyfer disgyblion, ac fe gânt eu monitro trwy systemau strwythuredig ar gyfer asesu ac olrhain disgyblion. Canfu arolygwyr fod gan ddisgyblion agwedd gadarnhaol at ddysgu mathemateg o ganlyniad, a dealltwriaeth dda o’u gallu eu hunain a sut i wella’u gwaith.

Fodd bynnag, mewn gwersi lle mae safonau mewn mathemateg yn is, mae disgyblion yn araf i alw dysgu blaenorol i gof, yn arbennig ffeithiau a medrau mathemategol sylfaenol. Mewn llawer o ysgolion, mae angen datblygu medrau disgyblion wrth ddatrys problemau yn fwy a’u cymhwyso i ystod ehangach o gyd-destunau bywyd go iawn. Canfu arolygwyr hefyd fod prinder athrawon sydd â chymwysterau a phrofiad addas mewn rhai ysgolion a bod hyn yn cyfyngu ar y modd y gall ysgolion gyflwyno’r cwricwlwm mathemateg yn llwyddiannus.

Amlygir Ysgol Gyfun Gatholig y Cardinal Newman yn Rhondda Cynon Taf yn un o’r astudiaethau achos arfer orau yn yr adroddiad. Mae gan yr ysgol berthynas gref â’i hysgolion cynradd partner ac mae’n rhannu arfer dda mewn addysgu a dysgu. Mae’r fenter wedi cryfhau parhad rhwng ysgolion cynradd a’r ysgol uwchradd ac wedi arwain at ddeilliannau gwell i ddisgyblion.

Mae ‘Arfer dda mewn mathemateg yng nghyfnod allweddol 3’ yn cynnwys argymhellion ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Dylai ysgolion fonitro perfformiad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a thargedu ymyriadau yn ôl yr angen, a chynyddu lefel yr her ar gyfer pob disgybl. Dylai awdurdodau lleol hwyluso rhwydweithiau ar gyfer rhannu arfer orau a dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r prinder yn y cyflenwad o athrawon mathemateg cymwys.

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â’r adroddiad

Yr adroddiad hwn yw’r ail mewn cyfres a gyhoeddwyd i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn adroddiad cylch gwaith blynyddol y Gweinidog i Estyn ar gyfer 2013-2014 ac mae ar gael yn llawn yma.

Astudiaethau achos arfer orau

  • Ysgol Uwchradd Caerdydd, Caerdydd
  • Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Gyfun Caerllion, Casnewydd
  • Ysgol Gatholig Rufeinig y Cardinal Newman, Rhondda Cynon Taf

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, ond yn cael ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk