Annog ysgolion a cholegau yng Nghymru i adolygu eu cefnogaeth ar gyfer dysgwyr LGBT - Estyn

Annog ysgolion a cholegau yng Nghymru i adolygu eu cefnogaeth ar gyfer dysgwyr LGBT

Erthygl

Mae ymchwil yn awgrymu bod dysgwyr LGBT, mewn llawer o achosion, yn dioddef lefelau uwch o fwlio na’u cyfoedion, a gallant brofi teimladau o arwahanrwydd sy’n cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.  Fodd bynnag, fel rhan o’u hadroddiad arfer effeithiol, canfu arolygwyr fod dysgwyr LGBT yn ffynnu yn yr ysgolion a’r colegau hynny sy’n hyrwyddo diwylliant cynhwysol.  Mae’r dysgwyr hyn yn teimlo mor hyderus â’u cyfoedion i rannu eu teimladau a’u credoau. 

Mae’r arolygiaeth yn argymell y dylai pob ysgol a choleg adolygu pa mor dda y maent yn addysgu amrywiaeth a chynhwysiant ac yn integreiddio’r rhain mewn bywyd bob dydd. 

Mae canllaw arfer dda Estyn yn edrych ar gefnogi dysgwyr LGBT mewn ysgolion a cholegau.  Mae’n canfod bod y darparwyr gorau yn archwilio materion LGBT mewn gwersi mewn ffordd sy’n briodol i gyfnod datblygu’r dysgwr, yn hyrwyddo modelau rôl cadarnhaol ac yn dathlu amrywiaeth yn y gymuned ehangach.  Mae eu harweinwyr a’u staff yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i gasglu eu safbwyntiau a gweithredu er budd y dysgwyr bob amser – gan hyrwyddo unigoliaeth, goddefgarwch a pharch.

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd, 

“Mae gan bob disgybl yr hawl i gael addysg yn rhydd o wahaniaethu.  Mae gan ysgolion a cholegau ddyletswydd i sicrhau nad yw disgyblion yn wynebu bwlio homoffobig, deuffobig neu drawsffobig, a mynd i’r afael ag unrhyw achosion o hyn. 

“Dylem ni ddathlu’r arfer dda sy’n cael ei gweld yn yr ysgolion a’r colegau yn adroddiad heddiw, a rhannu hyn yn eang fel bod pob darparwr yn cyflawni diwylliant amrywiol a chynhwysol.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o ysgolion lle mae’r ddarpariaeth yn arbennig o dda.  Sefydlwyd grŵp llais y disgybl, sef Digon, gan Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd, a chynhaliwyd arolwg o’r defnydd o iaith a bwlio homoffobig.  Bu’r ysgol yn gweithio gyda grŵp Digon i wella dealltwriaeth disgyblion o effaith negyddol defnyddio’r math hwn o iaith.  Mae Ysgol Gynradd Eveswell yng Nghasnewydd yn sicrhau bod derbyn gwahanol gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn cael ei addysgu yn yr un ffordd â nodweddion gwarchodedig eraill, fel hil, anabledd a chred grefyddol.

Mae Estyn yn cynnig sawl argymhelliad i helpu ysgolion a cholegau i greu diwylliant cynhwysol.  Mae’r rhain yn cynnwys adolygu eu cwricwlwm, delio’n briodol â bwlio, a sicrhau bod pob un o’r staff wedi eu hyfforddi i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo amrywiaeth.