Angen mwy o gysondeb wrth reoli cwynion dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach - Estyn

Angen mwy o gysondeb wrth reoli cwynion dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach

Erthygl

Dywed Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Mae’n bwysig bod llais gan bob dysgwyr a bod colegau yn delio’n briodol ag unrhyw bryderon a all fod gan ddysgwyr. Er bod colegau’n cydnabod yr angen i gael mecanwaith ar gyfer delio â chwynion dysgwyr, mae gormod o anghysondeb yn y modd y maent yn ymdrin â chwynion ar draws y sector. 

“Bedair blynedd yn ôl, nododd arolwg gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) faterion yn ymwneud â chwynion myfyrwyr mewn addysg bellach. Ceir arweiniad gan Lywodraeth Cymru hefyd sy’n argymell gwelliannau penodol. Mae fy adroddiad yn tynnu sylw at gyfres o gamau i sefydliadau addysg bellach eu cymryd i sicrhau bod eu gweithdrefnau cwynion yn glir, yn gynhwysfawr a’u bod yn cael eu gweithredu i safon uchel ar draws y sector.”

Canfu arolygwyr fod pob sefydliad yn darparu rhywfaint o wybodaeth i ddysgwyr am eu gweithdrefnau cwynion. Fodd bynnag, dim ond ar 66% wefannau sefydliadau y mae’r wybodaeth hon i’w chanfod yn hawdd. Dim ond 87% o sefydliadau sy’n trefnu bod eu polisi a’u gweithdrefnau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae diffiniadau aneglur o’r hyn yw cwyn a’r hyn nad yw’n gŵyn, yn golygu mai ychydig iawn o sefydliadau sy’n gwahaniaethu’n glir rhwng materion bob dydd a materion o natur fwy difrifol. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn dweud yn briodol y byddant yn delio â chwynion ynghylch canlyniadau asesu ar wahân i’r drefn cwynion arferol. Er bod pob sefydliad yn trefnu’u gweithdrefnau cwynion yn wahanol, mae pob un ohonynt yn disgrifio’u gweithdrefnau mewn ffyrdd tebyg, sy’n cynnwys tri neu bedwar cam ar gyfer ymdrin â chwyn, yn cynnwys camau ffurfiol, anffurfiol a cham apeliadau. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn cynhyrchu adroddiadau cryno rheolaidd ar gyfer eu rheolwyr a llywodraethwyr, ond mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn canolbwyntio gormod ar nifer y cwynion yn hytrach nag ar y negeseuon pwysig ynglŷn ag ansawdd y ddarpariaeth.

Mae rhyw hanner y sefydliadau o’r farn y dylai fod corff apeliadau allanol yng Nghymru, gyda phwerau i adolygu cwynion myfyrwyr a’u canlyniadau. Fodd bynnag, cred nifer o sefydliadau eu bod eisoes yn delio’n ddigon da â chwynion eu hunain heb yr angen am gorff allanol o’r fath. Mae sefydliadau eraill yn credu ar gam fod naill ai Llywodraeth Cymru, Estyn neu Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn cyflawni’r swyddogaeth hon. Byddai 73% o sefydliadau yn dymuno cael mwy o arweiniad gan Lywodraeth Cymru ar sut i wella gweithdrefnau cwynion dysgwyr.

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer sefydliadau addysg bellach a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys dwyn materion a nodwyd gan UCM yn eu hadroddiad yn 2011 ar gŵynion myfyrwyr yn eu blaen; mynnu bod uwch reolwyr yn gwirio trylwyredd ymchwiliadau i gŵynion; sicrhau bod gwahaniaethau rhwng cwynion lefel isel a chwynion difrifol; a defnyddio’r holl dystiolaeth sydd ar gael i ddadansoddi ansawdd polisi a gweithdrefnau cwynion, gan gynnwys dulliau math gwasanaeth cwsmeriaid i wneud yn siŵr bod profiad dysgwr wrth wneud cwyn yn un cadarnhaol. Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi arweiniad i helpu sefydliadau ddatblygu’u gweithdrefnau; sicrhau bod arolwg Llais y Dysgwr Cymru yn cipio profiadau dysgwyr o wneud cwynion yn ddigonol; a gweithio gyda’r sector i ystyried ymarferoldeb sefydlu corff apeliadau cwynion allanol gyda phwerau priodol ar gyfer dysgwyr ôl-16 yng Nghymru.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Comisiynwyd adroddiad Estyn Pa mor dda y mae sefydliadau addysg bellach yn rheoli cwynion gan ddysgwyr? gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae sail y dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad yn cynnwys:

  • Holiadur ar-lein a lenwyd gan bob un o’r 15 sefydliad addysg bellach yng Nghymru
  • Holiadur ar-lein a lenwyd gan dros 1200 o ddysgwyr o bob sefydliad addysg bellach yng Nghymru
  • Ymweliadau ag wyth o sefydliadau addysg bellach ar gyfer cynnal cyfweliadau â rheolwyr, adolygiadau manwl o ddogfennau, a chyfweliadau gyda dysgwyr