Angen i ysgolion ddatblygu medrau arwain staff ar bob lefel

Erthygl

Mae adroddiad Estyn, ‘Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion’, yn amlygu sut mae’r arweinwyr mwyaf llwyddiannus yn nodi ac yn meithrin potensial eu staff o ran arwain. Mae astudiaethau achos yn amlinellu sut mae ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru wedi datblygu medrau arweinyddiaeth eu staff yn llwyddiannus.

Meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd:

“Mae ymddygiadau arwain cadarn ar bob lefel yn rhan allweddol o greu ysgolion llwyddiannus. Mae’n bwysig bod pob ysgol yn cefnogi eu holl staff, gan gynnwys y rhai ar ddechrau eu gyrfa, i ddatblygu eu potensial i arwain.

“Er bod arfer dda mewn rhai ysgolion, nid yw’r cyfle i ddatblygu medrau arwain allweddol ar gael ym mhob ysgol ac mae prinder arbennig o hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.”

Mae uwch arweinwyr hyderus sydd wedi sefydlu diwylliant lle caiff pwys ei roi ar ddysgu proffesiynol ym mron pob un o’r ysgolion yr ymwelodd Estyn â nhw ar gyfer yr adroddiad hwn. Mae llawer o’r arweinwyr ysgol yn cynnal dadansoddiadau manwl o’r wybodaeth, y medrau a’r rhinweddau sy’n ofynnol ar gyfer pob rôl arwain yn eu hysgol ac yn datblygu system o ‘arweinyddiaeth wasgaredig’ ymhlith eu staff yn llwyddiannus. Ystyr arweinyddiaeth wasgaredig yw bod yr holl aelodau staff yn cael cyfleoedd i arwain agweddau ar waith ysgol.

Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedi creu ‘Strategaeth Gwireddu Potensial’, sydd wedi’i hadeiladu ar egwyddorion rheoli perfformiad presennol. Diben y strategaeth hon yw cynorthwyo arweinwyr i ddatblygu potensial staff i arwain, yn gynnar yn ystod eu gyrfa. Caiff athrawon dawnus eu nodi er mwyn diogelu gallu i arwain yn y dyfodol.

Fwyfwy, mae ysgolion yn dosbarthu rolau arwain ymhlith staff ar bob lefel. Mae’r arweinwyr ysgol gorau yn cynnwys eu huwch dîm arwain mewn amrywiaeth o weithgareddau i baratoi ar gyfer swydd pennaeth. Maent yn annog yr arweinwyr hyn i chwarae rhan weithgar, strategol wrth arwain agweddau ar yr ysgol.

Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion, gan gynnwys argymhellion y dylai ysgolion ddatblygu diwylliant cadarn o ddysgu proffesiynol i staff ar bob lefel, gwella cynllunio ar gyfer olyniaeth, nodi potensial staff i arwain yn gynnar yn ystod eu gyrfa a chefnogi eu datblygiad gyrfaol, a defnyddio’r safonau arweinyddiaeth yn sylfaen ar gyfer arfarnu eu medrau arwain eu hunain. Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol roi arweiniad i ysgolion a mwy o gyfleoedd i ddatblygu medrau. Yn olaf, mae’n argymell bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu strategaeth ar gyfer datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Comisiynwyd adroddiad Estyn Arfer orau o ran datblygu arweinyddiaeth mewn ysgolion gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn ar http://www.estyn.gov.uk/english/thematic-reports/recent-reports/

Mae sail dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys:

  • Cyfweliadau ag uwch arweinwyr, arweinwyr canol, athrawon dosbarth a chynorthwywyr cymorth dysgu
  • Craffu ar gynllun gwella’r ysgol, ei strwythur staffio, disgrifiadau swydd a chofnodion datblygiad proffesiynol parhaus

Cafwyd tystiolaeth ychwanegol o:

  • Adroddiadau arolygiadau ysgolion cynradd ac uwchradd rhwng 2010 a 2014
  • Adroddiadau arolygon thematig Estyn
  • Astudiaethau arfer orau ychwanegol o wefan Estyn ac ysgolion eraill nad ymwelodd Estyn â nhw

Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos ar

  • Ysgol Gyfun Cwm Rhymni (Caerffili)
  • Ysgol Uwchradd Caerdydd (Caerdydd)
  • Ysgol Gynradd Herbert Thompson (Caerdydd)
  • Ysgol Gyfun Bryngwyn (Sir Gaerfyrddin)
  • Ysgol y Foryd (Conwy)
  • Ysgol Uwchradd Elfed (Sir y Fflint)
  • Ysgol Dyffryn Ogwen (Gwynedd)
  • Ysgol Gynradd Glan Wysg (Casnewydd)
  • Ysgol Gyfun Gŵyr (Abertawe)
  • Ysgol Gynradd Ynys y Bari (Bro Morgannwg)