Angen i arweinwyr addysg ganolbwyntio ar wella addysgu a dysgu

Erthygl

Dywed y Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands,

“Mae’r hyn sydd angen ei wneud i godi safonau mewn addysg yng Nghymru yn dod yn fwy eglur a bydd gwella addysgu’n cael effaith hirdymor ar ansawdd a safonau yn yr ystafell ddosbarth.  Mae gan yr athrawon gorau ddisgwyliadau uchel, maent yn herio’u disgyblion ac maent yn meddwl am eu harfer eu hunain yn feirniadol.  Mae ar arweinwyr addysg angen ffocws cryf ar ddarparu cyfleoedd addas ar gyfer datblygiad proffesiynol staff ar bob lefel i feithrin addysgu a dysgu hyderus a chreadigol.”

“Trwy barhau i wella dysgu proffesiynol a chydweithio rhwng ysgolion y gallwn gael gwared ar yr amrywioldeb sy’n bodoli o hyd yn ein system addysg.”

Mae’r Prif Arolygydd yn annog ysgolion a lleoliadau addysg eraill i ofyn i’w hunain i ba raddau mae eu sefydliad wedi sefydlu diwylliant sy’n annog ac yn meithrin datblygiad staff a dysgu proffesiynol.  Mae pennod gyntaf yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys deg set o gwestiynau i helpu gyda’r hunanarfarnu hwn.

Mewn ysgolion fel Ysgol Gynradd Severn, Caerdydd, sydd wedi gwella ansawdd eu haddysgu, mae staff yn teimlo eu bod wedi’u grymuso a’u cymell i herio arfer addysgu bresennol a myfyrio ar y ffordd orau o wella addysgu yn eu hysgol.  Mae astudiaethau achos ychwanegol yn yr Adroddiad Blynyddol yn amlygu ffyrdd arloesol sydd wedi gwella ansawdd yr addysgu a’r dysgu, yr arweinyddiaeth a’r perfformiad mewn ysgolion ac mewn darparwyr addysg eraill. 

Rhagor o ganfyddiadau o arolygiadau 2015-2016:

  • Mae cyfran y safonau da neu ragorol (92%) mewn lleoliadau nad ydynt yn ysgolion, i blant o dan bump oed, yn parhau’n debyg yn fras i’r llynedd.  Fodd bynnag, mae safonau Cymraeg yn faes i’w ddatblygu o hyd mewn mwyafrif o leooliadau cyfrwng Saesneg ac, yn gynyddol, mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg.
  • Mae safonau’n dda neu’n well mewn rhyw saith o bob deg ysgol gynradd a arolygwyd eleni.  Nodwyd bod arfer ragorol ar gyfer o leiaf un dangosydd ansawdd gan ychydig dros un o bob pump ysgol gynradd.  Mae medrau llythrennedd disgyblion yn parhau i wella ac mae safonau rhifedd yn dda neu’n well mewn saith o bob deg ysgol gynradd.  Fodd bynnag, mewn rhyw draean o ysgolion cynradd a arolygwyd eleni, mae disgyblion mwy abl yn tangyflawni am nad yw eu gwaith yn ddigon heriol.  Mae arweinyddiaeth a rheolaeth yn dda neu’n well mewn bron tri chwarter o ysgolion cynradd, ond yn yr ysgolion sy’n weddill, nid oes brys ar arweinwyr i wneud gwelliannau.
  • Mae gan ysgolion uwchradd fwy o amrywioldeb nag ysgolion cynradd o hyd, gyda mwy o ragoriaeth ond mwy o arfer anfoddhaol hefyd.  Mae addysgu’n dda neu’n well mewn lleiafrif yn unig o ysgolion uwchradd a arolygwyd eleni.  Mewn mwyafrif o wersi yn yr ysgolion hyn, nid yw disgwyliadau’n ddigon uchel, yn enwedig ar gyfer disgyblion mwy abl.  Mae’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth yn dda neu’n well mewn rhyw hanner o ysgolion uwchradd, ond yn y gweddill, nid yw arweinyddiaeth yn cael digon o effaith ar wella ansawdd y dysgu ac addysgu, a safonau.
  • Roedd safonau’n dda mewn pedair o’r ysgolion arbennig a arolygwyd eleni, ac yn ddigonol yn y ddwy ysgol arall.  Cafodd pob un o’r pedair uned cyfeirio disgyblion (UCDau) a arolygwyd eleni eu gosod mewn categori gweithgarwch dilynol statudol.  Mae gwendidau sylweddol yn arweinyddiaeth a rheolaeth pob un o’r UCDau hyn.
  • Mewn addysg ôl-orfodol, nodwyd bod arfer ragorol gan y ddau goleg Addysg Bellach a dau o’r tri darparwr dysgu yn y gwaith a arolygwyd.  Mae arweinwyr yn y darparwyr hyn wedi datblygu partneriaethau effeithiol gydag amrywiaeth o gyflogwyr, ysgolion a chymunedau lleol sy’n cyfoethogi profiadau dysgwyr.
  • Mae Consortia rhanbarthol yn adnabod y rhan fwyaf o’u hysgolion yn dda ac yn categoreiddio’r ysgolion hyn yn briodol.  Ar y cyfan, mae consortia yn herio ysgolion yn gadarn o ran eu perfformiad, eu darpariaeth a’u harweinyddiaeth, ond dylent fod yn gwneud rhagor i fynd i’r afael â’r amrywioldeb rhwng ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd.  Hefyd, mae angen arfarnu gweithgareddau gwella ysgolion yn well.

Mae rhagair y Prif Arolygydd i’r adroddiad yn cynnwys y canfyddiadau allweddol mewn addysg a hyfforddiant o flwyddyn academaidd 2015-2016.

Nodiadau i Olygyddion

Cyhoeddir yr adroddiad ar: https://www.estyn.gov.wales/annual-report

Cyhoeddir holl ganfyddiadau arolygiadau 2015-2016 ar: http://data.estyn.gov.wales 

Astudiaethau achos arfer orau:

 Ynys Môn
Cylch Meithrin Bodffordd 

Pen-y-bont ar Ogwr
Coleg Penybont
Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CiTB)
Caerffili
Ysgol Gynradd Cwmfelinfach
Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Caerdydd
Ysgol Uwchradd Caerdydd
Ysgol Gynradd Kitchener
Ysgol Gynradd Rhydypenau
Ysgol Gynradd Severn

Sir Gaerfyrddin
Ysgol Gyfun Bryngwyn

Conwy
Ysgol Glan Gele

Sir Ddinbych
Ysgol Plas Brondyffryn

Sir y Fflint
Coleg Cambria
Ysgol Gynradd Gymunedol Cornist Park

Sir Fynwy
Ysgol Haberdashers Mynwy i Ferched
Sticky Fingers

Castell-nedd Port Talbot
Ysgol Gymunedol Tonnau
Ysgol Gynradd Gymraeg Castell Nedd

Sir Benfro
Ysgol Gymunedol Monkton Priory

Powys
Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr

Rhondda Cynon Taf
Ysgol Gynradd Craig Yr Hesg
Ysgol Gyfun Treorci

Abertawe
Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed
Ysgol Gyfun Pontarddulais