Angen gwneud rhagor i helpu dysgwyr anabl a dysgwyr o grwpiau pobl dduon ac ethnig lleiafrifol gael prentisiaethau
Mae adroddiad Estyn, ‘Chwalu rhwystrau rhag prentisiaethau’,yn canolbwyntio ar arfer effeithiol wrth fynd i’r afael â’r anawsterau y mae grwpiau penodol yn eu cael wrth geisio cael prentisiaethau. Nodwyd llawer o’r rhwystrau mewn adroddiad a gyhoeddodd Estyn y llynedd. Gallai llawer o’r arfer effeithiol a amlygir yn adroddiad heddiw gyfrannu’n sylweddol at fynd i’r afael â’r problemau hyn.
Meddai Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd
“Rwy’n falch o weld yr enghreifftiau niferus o arfer effeithiol. Mae darparwyr dysgu yn y gwaith ac asiantaethau allanol yn dechrau mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal dysgwyr ag anableddau a dysgwyr o grwpiau pobl dduon ac ethnig lleiafrifol rhag ymhél â phrentisiaethau.
Rhaid i’r gwaith da hwn barhau. Rhaid i ni barhau i fynd i’r afael â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth a pharhau i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn cynlluniau prentisiaeth. Rwy’n annog staff ac arweinwyr dysgu yn y gwaith i ddarllen ac efelychu’r astudiaethau achos yn adroddiad heddiw.”
Gellir grwpio’r rhwystrau y mae dysgwyr anabl yn eu hwynebu yn bedwar maes, yn ymwneud â’r swydd, y cyflogwr, y gweithiwr a’r cymorth. Mae rhwystrau’n bodoli o ran natur y swyddi sy’n cael eu cynnig, y diffyg dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr ynglyn ag anghenion gweithwyr anabl, lefel hunanhyder isel darpar weithwyr, a pha mor anodd yw hi i gael at wasanaethau’r Ganolfan Byd Gwaith.
Mae darparwyr dysgu yn y gwaith ac asiantaethau cyflogaeth yn cynorthwyo cyflogwyr i addasu arferion er mwyn integreiddio cleientiaid ag anableddau yn y gweithle yn gyfartal. Fodd bynnag, nid yw rôl darparwyr wrth chwalu rhwystrau wedi’i sefydlu’n ddigon da ac nid oes digon o gysylltiadau rhwng asiantaethau allanol, cyflogwyr a darparwyr.
Mae nifer o fentrau ar waith i chwalu’r rhwystrau hyn i ddysgwyr ag anableddau. Er enghraifft, ffurfiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Elite Supported Employment Agency a Chanolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol GIG Cymru Project Enable er mwyn cydweithio a chynnig interniaethau gyda gwasanaethau arlwyo Ysbyty Brenhinol Morgannwg i bedwar o bobl ifanc ag anawsterau dysgu. Bu’r fenter yn llwyddiannus, gan fagu hyder yr interniaid a galluogi iddynt ennill cymhwyster mewn hylendid arlwyo.
Rhwystr mawr i ddysgwyr duon ac ethnig lleiafrifol yw amgyffrediad eu rhieni mai i’r rheiny sydd heb wneud yn dda yn yr ysgol y mae prentisiaethau. Mae darparwyr dysgu yn y gwaith yn mynd i’r afael â’r amgyffredion negyddol hyn trwy gyflogi swyddogion recriwtio arbenigol sy’n darparu gwell gwybodaeth, cymorth ac arweiniad i bobl ifanc.
Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o astudiaethau achos ar ffyrdd o oresgyn rhwystrau rhag prentisiaethau, gan gynnwys gwaith a wnaed gan Fwrdd Iechyd Cwm Tawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Nodiadau i Olygyddion:
Ynglyn â’r adroddiad
- Comisiynwyd adroddiad Estyn Chwalu rhwystrau rhag prentisiaethau gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael yn llawn yn http://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig
- Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos ar
- Futureworks, Sir Benfro
- Quest Supported Employment, Caerdydd
- Project Enable, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Elite Supported Employment Agency a Chanolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol GIG Cymru
- Gwasanaethau Pontio a Chyflogaeth, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall(RNIB)
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Codi Ymwybyddiaeth Rhieni o Gyfleoedd Prentisiaethau, Quality Skills Alliance, consortiwm dysgu yn y gwaith, Caerdydd a Bro Morgannwg
- Ymateb i anghenion y gymuned, ACT, darparwr dysgu yn y gwaith
- Prosiect Sahan, Caerdydd
- Cynorthwyo dysgwr i gael cyfweliad, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Abertawe
- Gwaith Anogwr Dysgu yng Ngwasanaethau Ieuenctid Cyngor Dinas Caerdydd