Angen gwella nifer y dysgwyr sy’n ymgymryd â phrentisiaethau yng Nghymru - Estyn

Angen gwella nifer y dysgwyr sy’n ymgymryd â phrentisiaethau yng Nghymru

Erthygl

Mae adroddiad Estyn, ‘Rhwystrau rhag Prentisiaeth’, yn archwilio’r anawsterau y mae dysgwyr o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau’n eu cael o ran cychwyn rhaglenni prentisiaeth. Mae dadansoddiad o’r data perthnasol yn awgrymu y gallai’r dysgwyr hyn fod yn cael eu tangynrychioli mewn prentisiaethau. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o’r materion sy’n codi o stereoteipio yn ôl y rhywiau.

Meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd,

“Mae sawl rheswm pam y gallai dysgwyr benderfynu peidio â gwneud cais am brentisiaeth, er nad yw rhai o’r materion sy’n atal pobl rhag ymgymryd â nhw bob amser yn perthyn yn arbennig i grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Mae rhai o’r rhesymau hyn yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth ymhlith rhieni, dysgwyr a chyflogwyr o’r hyn sydd gan brentisiaethau i’w gynnig. Yn ogystal, gall darpar brentisiaid weithiau gael anawsterau wrth ddod o hyd i leoliad gwaith gan fod cyflogwyr yn meddwl y bydd angen iddynt drefnu cymorth ychwanegol iddynt. Gall anawsterau iaith a chyfathrebu gyfrannu hefyd at ddiffyg ymroddiad ar y ddwy ochr.

“Er bod darparwyr dysgu yn y gwaith yn gwybod am y rhwystrau hyn at ei gilydd, mae angen gwneud mwy i hybu ymwybyddiaeth o brentisiaethau’n fwy gweithgar ymhlith pob dysgwr ac i ennyn diddordeb unigolion mewn grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, unigolion ag anableddau ac unigolion o’r ddau ryw, fel y gallant ystyried a fyddent yn elwa o brentisiaeth.”

Mae darparwyr sydd wedi mynd i’r afael â’r rhwystrau rhag prentisiaethau yn weithgar yn cael eu disgrifio mewn astudiaethau achos arfer dda yn yr adroddiad. Un o’r rhain yw Associated Community Training (ACT) yng Nghaerdydd, cwmni sydd wedi gweithio gyda’r awdurdod lleol i gyflwyno cymwysterau er mwyn mynd i’r afael â phrinder cynorthwywyr addysgu sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol ethnig. Mae eu cyfraddau cyrhaeddiad yn gyson dda ac mae nifer o ddysgwyr wedi mynd i hyfforddi’n athrawon neu wedi dod o hyd i waith o ganlyniad i hyfforddi gydag ACT.

Mae’r adroddiad yn amlygu argymhellion ar gyfer gwella’r niferoedd sy’n ymgymryd â phrentisiaethau, gan gynnwys yr argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod am y cymorth sydd ar gael iddynt wrth gyflogi prentisiaid ag anghenion penodol, a gweithio gyda darparwyr i ddatblygu eu polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth. Dylai darparwyr dysgu yn y gwaith weithio’n agosach gydag ysgolion, cyflogwyr ac arweinwyr cymunedol i wella ymwybyddiaeth o’r hyn sydd gan brentisiaethau i’w gynnig.
 

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â Rhwystrau rhag Prentisiaeth – anawsterau a gaiff dysgwyr o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau wrth gychwyn rhaglenni prentisiaeth

Cyhoeddir yr adroddiad hwn mewn ymateb i gais gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol 2013-2014 y Gweinidog i Estyn am gyngor ynghylch y rhwystrau a gaiff pobl ifanc o grwpiau penodol rhag ymgymryd â phrentisiaethau. Yr adroddiad hwn yw’r cyntaf o ddau adolygiad; bydd yr ail yn canolbwyntio ar astudiaethau achos arfer dda y gellir eu defnyddio i lywio gwelliant. Mae’r adroddiad ar gael yn llawn yma.

Astudiaethau achos arfer orau

  • Associated Community Training Ltd, Caerdydd
  • CITB – sgiliau adeiladu, Pen-y-bont ar Ogwr

Ynglŷn ag Estyn

Estyn yw Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Gwnawn hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond yn cael ein hariannu ganddi (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan www.estyn.gov.uk