Amlygu cryfderau yn y dyniaethau mewn ysgolion ledled Cymru - Estyn

Amlygu cryfderau yn y dyniaethau mewn ysgolion ledled Cymru

Erthygl

Ymwelodd arolygwyr ag ysgolion cynradd ac uwchradd y nodwyd bod ganddynt gryfderau o ran y ffordd y maent yn cyflwyno daearyddiaeth a hanes.  Mae adroddiad Estyn, ‘Arfer dda yn y dyniaethau’ yn edrych ar y safonau, y ddarpariaeth a’r arweinyddiaeth yn y pynciau hyn yng nghyfnodau allweddol 2, 3 a 4, yn ogystal ag amlygu astudiaethau achos i athrawon eu defnyddio. 

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd,

“Mae arfer dda sydd wedi cael ei nodi yn yr adroddiad hwn yn cynnwys arweinwyr ysgol sy’n deall rôl y dyniaethau mewn cwricwlwm cytbwys, ac athrawon sy’n cyfuno datblygu gwybodaeth a medrau pynciol yn fedrus, yn defnyddio ystod eang o adnoddau, ac yn gwneud defnydd effeithiol o’r ardal leol.”

Canfu’r adroddiad fod cynllunio ar gyfer dilyniant yn y dyniaethau o’r Cyfnod Sylfaen i gyfnod allweddol 2 wedi’i ddatblygu’n dda.  Fodd bynnag, mae cynllunio ar gyfer dilyniant o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 3 yn wannach.  Y rheswm am hyn yw bod trefniadau pontio’r cwricwlwm rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd yn canolbwyntio amlaf ar y pynciau craidd  yn hytrach nag ar hanes a daearyddiaeth, a gall hyn olygu bod disgyblion yn ailadrodd gwaith ar lefel debyg.

Mae’r adroddiad yn cynnwys saith astudiaeth achos, gan gynnwys Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Nghaerdydd ble mae disgyblion yn cael profi byd faciwîs trwy chwarae rôl a mynd ar daith mewn trên i neuadd eglwys leol er mwyn cael llety.  Mae aelodau o’r gymuned leol a oedd yn faciwîs yn rhannu eu profiadau gyda disgyblion hefyd.

Canfu arolygwyr hefyd fod gan y dyniaethau ran bwysig o ran rhoi’r ddealltwriaeth, y medrau, y gwerthoedd a’r agweddau i ddysgwyr gymryd rhan yn y gymdeithas amrywiol yng Nghymru.  Dylai’r arfer dda a rennir yn yr adroddiad hwn gael ei defnyddio gan ysgolion i fyfyrio ar eu harfer eu hunain er mwyn iddynt allu paratoi eu disgyblion yn well ar gyfer bywyd fel dinasyddion byd-eang. 

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai ysgolion sicrhau bod profiadau dysgu disgyblion yn y dyniaethau yn amrywiol, yn ddiddorol, yn ddilyniadol ac yn heriol, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4.  Dylai ysgolion fonitro’r cynnydd a wna disgyblion yn y dyniaethau yn agosach ac arfarnu eu cwricwlwm dyniaethau i baratoi ar gyfer datblygiadau’r cwricwlwm yn y dyfodol.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol gwell ar gyfer athrawon y dyniaethau, a dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod rhaglenni hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn sicrhau bod gan athrawon newydd y medrau sydd eu hangen i addysgu’r dyniaethau yn llwyddiannus, ac ymateb i newidiadau i’r cwricwlwm yn y dyfodol. 

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn defnyddio ymweliadau ag 19 o ysgolion.  Nodwyd bod arfer arloesol o ran cynllunio’r cwricwlwm a/neu ddeilliannau cryf yn y dyniaethau yn yr ysgolion a ddewiswyd ar gyfer ymweliadau.  Wrth ymweld â’r ysgolion hyn, bu arolygwyr:

  • yn arsylwi gwersi’r dyniaethau yng nghyfnodau allweddol 2, 3 neu 4
  • yn cynnal trafodaethau ag arweinwyr canol ac uwch arweinwyr
  • yn cyfarfod â grwpiau o ddisgyblion gyda’u gwaith
  • yn adolygu cynlluniau’r cwricwlwm a dogfennau’r ysgol

Mae astudiaethau achos o’r sefydliadau canlynol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad:

  • Ysgol yr Esgob Gore, Abertawe
  • Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe
  • Ysgol Uwchradd Elfed, Sir y Fflint
  • Ysgol Gynradd Garnteg, Torfaen
  • Ysgol Gynradd Rhiwbeina, Caerdydd
  • Ysgol Gynradd Cae Top, Gwynedd
  • Ysgol Gynradd Llanllechid, Gwynedd