Adroddiad yn canfod bod angen mwy o gysondeb ac arweiniad cliriach wrth roi system anghenion dysgu ychwanegol newydd ar waith

Erthygl

Mae’r cyntaf o ddau adroddiad, o leiaf, yn edrych ar gyflwyno diwygio anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gan Lywodraeth Cymru yn raddol, wedi cael ei gyhoeddi heddiw gan Estyn. Mae’r adroddiad yn archwilio pa mor dda y mae’r ysgolion a gymerodd ran yn yr adolygiad yn rhoi agweddau allweddol ar y system newydd ar waith, a’r cymorth sy’n cael ei roi gan awdurdodau lleol.

Canfu’r adroddiad fod lleoliadau unigol yn dehongli a chymhwyso’r ddeddfwriaeth mewn gwahanol ffyrdd, roedd ychydig o awdurdodau lleol ac ysgolion yn ansicr ynglŷn â sut i gymhwyso’r diffiniadau cyfreithiol o ADY, ac yn cyfaddef i ddefnyddio’u diffiniadau eu hunain ac aros am eglurhad o ddeilliannau tribiwnlys. Roedd gwahanol leoliadau yn anghyson o ran eu diffiniad o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Dywed Owen Evans, y Prif Arolygydd, 

Mae ein canfyddiadau dros dro yn cydnabod bod symud o un system i un arall yn gymhleth ac yn cymryd amser. Mae swyddogion awdurdodau lleol a staff ysgolion wedi dangos gwydnwch, gonestrwydd ac uchelgais i addasu yn unol â’r ddeddfwriaeth flaenllaw hon.

Gydag eglurder am ddiffiniadau cyfreithiol ac enghreifftiau ymarferol i gynorthwyo’u dealltwriaeth, byddan nhw mewn sefyllfa well i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru yn gyson i wella’r profiadau a’r deilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Cydnabu awduron yr adroddiad fod y sector addysg yng Nghymru wedi bod yn gweithredu’r fframwaith newydd yn ystod cyfnod o her ddigynsail a sylweddol i’r sector. Effeithiodd y pandemig ar y broses ar gyfer nodi a chadarnhau pa blant oedd ag ADY, gan arwain at ddau estyniad gan Lywodraeth Cymru i symud disgyblion i’r fframwaith newydd.

Mae disgyblion sydd ar y system anghenion addysgol arbennig (AAA) ar hyn o bryd yn cael eu hailddosbarthu i symud i’r system ADY. At ei gilydd, mae niferoedd y dysgwyr yr adroddwyd bod ganddynt ADY wedi gostwng wrth drosglwyddo i’r system newydd, er bod y gyfran sydd â chynllun statudol wedi aros yn debyg. Canfu’r adroddiad fod gwelliannau yn y ffordd y mae ysgolion wedi gweithio gyda disgyblion a rhieni, er enghraifft trwy arfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, wedi helpu rhieni i ddeall y cymorth mae eu plentyn yn ei gael yn well, p’un a nodwyd bod gan y plentyn ADY ai peidio.

Mae’r adroddiad yn codi cwestiynau am y cyllid presennol ar gyfer ADY yng Nghymru. Er gwaethaf cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn cyllid ADY am sawl blwyddyn, canfuwyd bod dulliau i werthuso’r effaith y mae cyllid wedi’i chael ar gefnogi gweithredu diwygio ADY yn amrywiol ac yn wan.

Nodwyd bod diffyg tryloywder ynglŷn â chyllid yn destun pryder hefyd. Mae arweinwyr ysgolion wedi datgan nad oes ganddynt ddealltwriaeth ddigon clir o sut mae awdurdodau lleol yn pennu eu cyllidebau ar gyfer ADY, gan gynnwys y rhai a ddyrennir i ysgolion.

Dywed Huw Davis, awdur yr adroddiad,

Mae gweithredu diwygio ADY yng Nghymru yn mynd rhagddo ac rwy’n annog awdurdodau lleol ac ysgolion i dderbyn yr argymhellion rydym ni wedi’u nodi. Rydym ni wedi cynnwys enghreifftiau o arfer effeithiol sy’n cynnwys syniadau ar gyfer darparu gwybodaeth glir, gywir a chyfoes i randdeiliaid, yn ogystal â datblygiad cadarnhaol gweithio mewn clystyrau.

Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig mewn sicrhau bod gan bob lleoliad ddealltwriaeth glir o’r diffiniadau cyfreithiol, yn ogystal â chynnal gwerthusiad mwy cyfannol o effaith cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol.