Adroddiad Estyn yn tanlinellu cyfraniad sylweddol darparwyr y blynyddoedd cynnar mewn cymunedau a’r angen am gefnogaeth gryfach i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar ddatblygiad plant ifanc
Rhaid i awdurdodau lleol weithio’n fwy effeithiol gyda darparwyr addysg y blynyddoedd cynnar i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar blant, yn ôl adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan Estyn. Mae’r adroddiad yn archwilio pa mor dda y mae lleoliadau’r blynyddoedd cynnar ac ysgolion yn defnyddio’u hadnoddau a’u cyllid i helpu plant o gefndiroedd difreintiedig i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a lles.
Mae adroddiad Estyn, Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cymorth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar, yn datgelu bod mynediad at addysg gynnar yn amrywio’n helaeth ledled Cymru, gan arwain at annhegwch i deuluoedd, yn enwedig wrth ddewis darpariaeth feithrin. Mae’r adroddiad yn dangos, er bod llawer o ddarparwyr y blynyddoedd cynnar yn meithrin perthnasoedd cefnogol â theuluoedd ac yn mynd i’r afael ag anghenion dybryd, yn aml, nid ydynt yn cael arweiniad penodol gan awdurdodau lleol ar sut i ddiwallu anghenion datblygiadol plant sy’n cael eu heffeithio gan dlodi ac anfantais.
Mae canfyddiadau Estyn yn dangos bod llawer o ddarparwyr y blynyddoedd cynnar yn meithrin perthnasoedd cryf a chefnogol â phlant a theuluoedd, gan wneud gwahaniaeth sylweddol mewn cymunedau sy’n wynebu tlodi a chaledi. Mae’r lleoliadau hyn yn darparu cymorth ymarferol i deuluoedd mewn angen, yn aml mewn cydweithrediad ag elusennau a sefydliadau lleol i gynnig nwyddau hanfodol fel bwyd, teganau, a gwisg ysgol. Mae’r cymorth teilwredig hwn wedi helpu creu amgylcheddau meithringar a chynhwysol sydd o fudd i ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn amlygu materion â system gyllid y Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar (GDDBC). Roedd llawer o leoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir yn defnyddio’r cyllid hwn yn effeithiol i gefnogi medrau iaith a chymdeithasol plant. Fodd bynnag, roedd fformiwlâu cyllid anghyson yn golygu nad oedd lleoliadau mewn ardaloedd â chyfraddau tlodi uchel bob amser yn derbyn cymorth digonol, gan gyfyngu ar yr adnoddau sydd ar gael i fynd i’r afael ag anfantais yn effeithiol.
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, mae cyllid y GDDBC wedi helpu cynnal darpariaeth y blynyddoedd cynnar trwy ganiatáu ar gyfer staff ychwanegol mewn ystafelloedd dosbarth. Mae rhai ysgolion wedi defnyddio’r grant i gefnogi ymyriadau penodol ar gyfer lleferydd, iaith, a lles emosiynol. Fodd bynnag, mewn achosion lle roedd cyllid yn cael ei gyd-gyfrannu gyda chyllid GDD cyffredinol, roedd yn anos sicrhau bod cymorth yn cael ei dargedu’n benodol at blant sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan dlodi.
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi:
“Mae ein hadroddiad yn amlygu pwysigrwydd mynediad teg at addysg y blynyddoedd cynnar a chymorth i deuluoedd sy’n wynebu tlodi. Mae’n glir fod llawer o ddarparwyr y blynyddoedd cynnar yn gwneud gwaith hanfodol i helpu plant dan anfantais, ond mae angen cymorth mwy targedig i wneud gwahaniaeth ystyrlon.”
Mae’r adroddiad yn darparu argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol, arweinwyr ysgolion a Llywodraeth Cymru i wella effeithiolrwydd y cymorth a’r cyllid ar gyfer darparwyr y blynyddoedd cynnar. Mae’n cynnwys awgrymiadau i dargedu cyllid GDDBC yn well a chynnig mwy o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer staff i’w helpu i ddiwallu anghenion plant sy’n cael eu heffeithio gan dlodi.
Yn ogystal â’i ganfyddiadau a’i argymhellion, mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o arfer dda i gynorthwyo darparwyr y blynyddoedd cynnar yn eu gwaith, gan helpu sicrhau bod plant o gefndiroedd difreintiedig yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.