Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2011- 2012 - Estyn

Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru 2011- 2012

Erthygl

Yn Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi 2011-2012 a gyhoeddwyd heddiw, mae Ann Keane yn adrodd, yn yr ysgolion a arolygwyd eleni, fod y gyfran a gafodd farnau da neu ragorol ychydig yn is na’r llynedd. Mewn ysgolion uwchradd, mae mwy o ysgolion yn dangos eithafion perfformiad rhagorol neu berfformiad anfoddhaol. Mae ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn gwneud yn well nag ysgolion uwchradd. Ac mewn sectorau eraill, mae safonau’n parhau’n amrywiol.

Mae cryfderau mewn llawer o agweddau ar y ddarpariaeth – yn y Cyfnod Sylfaen a Bagloriaeth Cymru – ac mewn llawer o ysgolion a darparwyr unigol. Mae lles yn nodwedd gref ar draws y sectorau, er mai cyfraddau presenoldeb yw’r agwedd wannaf ar les.

Dywedodd Ann Keane,

“Mae newidiadau i’n fframwaith arolygu, ac yn arbennig cyflwyno arolygiadau dilynol, wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth i wella safonau ac ansawdd y ddarpariaeth mewn ysgolion a darparwyr eraill.

“Y llynedd, nodom fod angen ymweliad dilynol ar bron i hanner yr ysgolion a’r darparwyr a arolygwyd gennym, er mwyn gwirio’u cynnydd. Eleni, wrth wneud ymweliadau dilynol, canfuom fod y rhan fwyaf o’r ysgolion wedi gweithredu ar ein hargymhellion a’u bod wedi gwneud digon o gynnydd i beidio â bod angen ymweliad arall. Wrth fynd yn ôl at y darparwyr ôl-16, gwelsom welliannau hefyd mewn dysgu oedolion yn y gymuned a Chymraeg i oedolion.

“Mae angen ymweliad dilynol y flwyddyn nesaf ar oddeutu hanner yr ysgolion a arolygwyd gennym eleni, a hefyd pump o’r wyth awdurdod lleol a arolygwyd.”

Mae’r adroddiad yn amlygu bod safonau ysgrifennu’n parhau’n bryder ar draws pob sector, ac mae plant yn gwneud gormod o gamgymeriadau mewn sillafu, atalnodi a ffurfio llythrennau.

Mae Ms Keane yn parhau:

“Mae nifer o agweddau’n dal i beri pryder, gan gynnwys safonau mewn darllen, ysgrifennu a rhifedd. Mae angen i ysgolion wella o ran cynllunio ffyrdd i ddisgyblion wella’u medrau llythrennedd a rhifedd ar draws pob maes dysgu.”

Mae ansawdd yr arweinyddiaeth yn amrywio ar draws pob sector. Er bod yr adroddiad yn dathlu’r arfer dda sy’n bodoli, mae Ann Keane yn nodi bod llawer i’w wneud eto i wella addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Aiff Ms Keane ymlaen i ddweud:

“Er bod disgwyliadau uchel gan fwyafrif o’r athrawon ac ysgolion, mewn lleiafrif o’r ysgolion cynradd a dros hanner yr ysgolion uwchradd, mae disgwyliadau rhai athrawon yn rhy isel.

“Yng ngallu ac ansawdd yr arweinyddiaeth mae’r ateb. Drwy hyn rwy’n golygu’r arweinyddiaeth sy’n cael ei chynnig gan brifathrawon, penaethiaid, a phrif swyddogion addysg awdurdodau lleol, ond hefyd yr arweinyddiaeth sy’n cael ei chynnig gan athrawon, cynorthwywyr cymorth dysgu, anogwyr dysgu a phawb sy’n gysylltiedig â chyflwyno addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

“Dros y deuddeg mis nesaf, byddwn yn annog pob arweinydd, gan gynnwys athrawon ac ymarferwyr eraill, i ddarllen fy Adroddiad Blynyddol a defnyddio’r canfyddiadau a’r enghreifftiau o arfer dda i feddwl ynghylch sut gallan nhw fynd i’r afael â heriau a gwneud gwelliannau pellach.

“Eleni, rydym wedi cynhyrchu pecynnau PowerPoint hefyd. Maent ar gael ar wefan Estyn a gall ysgolion a darparwyr eu defnyddio i ysgogi trafodaeth ynglÅ·n â rhai o’r materion rwyf wedi’u codi yn fy Adroddiad Blynyddol.”

Nodiadau i Olygyddion:

Mae copi llawn o Adroddiad Blynyddol 2011-2012 a gweddarllediad gan Prif Arolygydd Ei Mawrhydi yn cael eu cyhoeddi ar wefan Estyn.

Estyn yw’r Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Cymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bawb mewn dysgu yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.

Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.

Rydym yn annibynnol ar, ond yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru (o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998).
 

Astudiaethau achos o arfer orau