Adroddiad Blynyddol Estyn: Llawer i’w ddathlu ond mae arfer wan yn dal dysgwyr yn ôl

Erthygl

Bachgen ifanc mewn siwmper ysgol goch yn chwarae y tu allan, gyda breichiau wedi'u hymestyn ac yn gwenu, gyda adeilad ysgol brics yn y cefndir.

Yn ôl y Prif Arolygydd, Owen Evans, mae llawer i fod yn falch ohono, ond mae gwybodaeth a medrau dysgwyr yn wannach nag yr oeddent cyn y pandemig o hyd. Mae ysgolion a darparwyr eraill yn wynebu heriau penodol o ran cyflwyno llythrennedd, rhifedd a’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae materion ehangach, fel absenoliaeth dysgwyr a recriwtio athrawon a staff cymorth ar draws nifer o arbenigeddau, yn achosi heriau ychwanegol i arweinwyr addysg.

Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans,

Mae ymrwymiad cryf addysgwyr ledled Cymru yn destun balchder, ond mae’n amlwg bod cysgod y pandemig yn effeithio ar les dysgwyr a’r cynnydd a wnânt o hyd. Mae agweddau gwannach ar arfer yn atal gormod o ddysgwyr rhag gwneud cynnydd ac mae angen i hunanwerthuso mewn ysgolion a darparwyr eraill wella i gryfhau’r system.

Mae adroddiad blynyddol PAEM yn edrych yn ôl ar ganfyddiadau o adroddiadau arolygu ac adroddiadau thematig dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Ar ôl cyhoeddi crynodebau sector Estyn ym mis Hydref, mae adroddiad llawn fis Ionawr yn cynnig cyd-destun manwl ac yn rhoi mewnwelediad dyfnach o lawer i’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella ar draws y ddau ar bymtheg o sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae ysgolion, lleoliadau meithrin nas cynhelir, colegau, prentisiaethau dysgu yn y gwaith, dysgu oedolion yn y gymuned ac addysg gychwynnol athrawon ymhlith y sectorau sydd wedi’u cynnwys.

Gyda’r nod o gynnig adborth defnyddiol i’r gweithlu addysg a hyfforddiant, mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn rhoi crynodeb o bob un o’r adroddiadau thematig cenedlaethol a gyhoeddwyd gan Estyn eleni ac, i gefnogi gwelliant ymhellach, mae’n cyfeirio at adroddiadau arolygu ac astudiaethau achos gan ddarparwyr a arolygwyd ac y canfuwyd eu bod yn gwneud yn arbennig o dda.

Yn ogystal ag ymateb i ganlyniadau PISA 2022 a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae’r adroddiad yn gwerthuso addysg a hyfforddiant yng nghyd-destun ystod o themâu allweddol, y mae llawer ohonynt yn hanfodol i addysgwyr wrth iddynt wynebu’r heriau deuol o adfer ar ôl pandemig COVID-19 a gweithio i roi diwygiadau ar waith sy’n canolbwyntio ar wella.

Mae’r themâu allweddol eleni yn cynnwys:

  • agweddau at ddysgu a phresenoldeb
  • y Gymraeg mewn addysg a hyfforddiant
  • rhoi Cwricwlwm i Gymru ar waith
  • lliniaru effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol
  • addysg a chymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Parhaodd y Prif Arolygydd, Owen Evans,

Mae addysgwyr ledled Cymru yn parhau i weithio’n ddiwyd ac ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig â chefnogi ein plant, a dysgwyr o bob oed, i ddysgu a ffynnu. Mae fy adroddiad yn amlygu’r llwyddiannau ac yn amlinellu rhai o’r heriau y mae addysg a hyfforddiant yn eu hwynebu o hyd; rwy’n gobeithio y bydd yn sbarduno myfyrdod a thrafodaeth adeiladol am sut gallwn ni wella ar y cyd.