Adroddiad Blynyddol Estyn: Cyfeiriad Clir, gwella hunanwerthuso a chymorth a mynd i’r afael â recriwtio yn allweddol i lwyddiant system addysg Cymru yn y dyfodol

Heddiw, mae Estyn yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd 2023-24, syn amlinellu darlun cymysg ar gyfer darpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru wrth i’r arolygiaeth amlygu arfer gref yn ogystal â meysydd allweddol y mae angen eu gwella.
Yn ôl y Prif Arolygydd, Owen Evans, mae llawer i’w ddathlu yn y sector, ond mae problemau parhaus fel cynllunio ar gyfer hunanwella yn faes hollbwysig i addysgwyr ganolbwyntio eu hymdrechion arno o hyd. Mae’r adroddiad yn pwysleisio mai dim ond lleiafrif o ddarparwyr sy’n dangos arfer gref sy’n sbarduno gwelliant, tra nad yw eraill yn gwerthuso effaith addysgu ar ddysgu yn ddigon manwl.
Yn ogystal â hyn, mae’r Prif Arolygydd yn amlygu’r angen am ffocws clir ar fedrau sylfaenol ar draws y cwricwlwm. Mae bylchau nodedig o ran sut mae darparwyr yn cynllunio i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol dysgwyr ar hyn o bryd.
Mae’r adroddiad yn amlygu ymdrechion clodwiw gan ysgolion i ymwreiddio gwrth‑hiliaeth yn eu hethos a’u harferion, yn ogystal ag arfer gref o ran hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymreig. Mae materion hirsefydlog fel absenoldebau dysgwyr a recriwtio athrawon a staff cymorth ar draws nifer o arbenigeddau yn parhau i beri heriau ychwanegol i arweinwyr addysg.
Dywed y Prif Arolygydd, Owen Evans,
“Rydym yn dra ymwybodol o’r pwysau a’r heriau y mae darparwyr addysg yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ond mae angen gwella hunanwerthuso mewn ysgolion a darparwyr eraill i gryfhau’r system. Mae angen arweinwyr cryf arnom i ysgogi’r gwelliant hwn, gan fod methiant i wneud hynny’n atal cynnydd gormod o ddysgwyr.”
Mae adroddiad blynyddol PAEF yn edrych yn ôl ar ganfyddiadau arolygiadau ac adroddiadau thematig dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Ar ôl cyhoeddi crynodebau sector Estyn ym mis Hydref, mae adroddiad llawn mis Ionawr yn cynnig cyd-destun manwl ac yn rhoi mewnwelediad llawer dyfnach i’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y mae angen ei wella ar draws un ar bymtheg o sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae ysgolion, lleoliadau meithrin nas cynhelir, colegau, prentisiaethau dysgu yn y gwaith, dysgu oedolion yn y gymuned a gwaith ieuenctid ymhlith y sectorau sydd wedi’u cynnwys.
Gyda’r nod o roi adborth defnyddiol i’r gweithlu addysg a hyfforddiant, mae’r adroddiad blynyddol hefyd yn rhoi crynodeb o bob un o’r adroddiadau thematig cenedlaethol a luniwyd gan Estyn eleni ac, i gefnogi gwelliant ymhellach, mae’n cyfeirio at adroddiadau arolygu ac astudiaethau achos gan ddarparwyr a arolygwyd ac y canfuwyd eu bod yn gwneud yn arbennig o dda.
Mae’r adroddiad hefyd yn gwerthuso pa mor dda mae darparwyr yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau penodol y mae dysgwyr yng Nghymru yn eu hwynebu trwy gyfres o grynodebau o themâu allweddol cyfamserol.
Mae’r themâu allweddol eleni yn cynnwys:
- gwrth-hiliaeth
- gweithredu Cwricwlwm i Gymru
- hunanwerthuso a gwella
- heriau recriwtio
- arfer dda o ran hybu’r Gymraeg
Parhaodd y Prif Arolygydd, Owen Evans:
“Mae’r adroddiad eleni yn dangos bod gan y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru gryfderau sylweddol, ond hefyd nifer o feysydd y mae angen eu gwella o hyd. Rydym yn ymrwymo i gefnogi gwelliant trwy ein gweithgareddau ac yn gobeithio y bydd yr adroddiad ei hun a’r adnoddau ategol yn helpu darparwyr i fyfyrio’n adeiladol a sbarduno gwelliannau ar gyfer ein dysgwyr ledled Cymru.”
Yn ogystal ag ystod o astudiaethau achos arfer orau, mae cyfres o bodlediadau yn cyd-fynd ag adroddiad Estyn eleni, sy’n dod â darparwyr ar draws y sectorau at ei gilydd i drafod rhai o’r heriau ac arfer orau yn unol â themâu allweddol gwrth-hiliaeth a gweithredu Cwricwlwm i Gymru.
Gallwch weld yr adroddiad llawn yma.