Adolygiad annibynnol o'r trefniadau arolygu ar y cyd ag Estyn wedi'i gyhoeddi - Estyn

Adolygiad annibynnol o’r trefniadau arolygu ar y cyd ag Estyn wedi’i gyhoeddi

Erthygl

Two young children playing with shaving foam on a table in a classroom, wearing colorful aprons.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan y Learning Partnership rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r adolygiad annibynnol hwn o’r trefniadau arolygu ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Cymru ac Estyn. Mae ein cyrff arolygu yn cydweithio i arolygu lleoliadau gofal plant nas cynhelir ar y cyd. 

Mae’r adolygiad yn gadarnhaol am effaith y rhaglen arolygu ar y cyd. Yn ddefnyddiol iawn, mae hefyd yn trafod ffyrdd y gellid gwella’r dull arolygu ac yn cynnwys amrywiaeth o argymhellion i’r ddwy arolygiaeth eu hystyried. 

Gallwch lawrlwytho a darllen yr adolygiad ar waelod y dudalen hon.

Gyda’i gilydd, bydd AGC ac Estyn yn llunio ymateb i’r argymhellion dros y 12 mis nesaf, gan gymryd amser i sicrhau ein bod yn ystyried y goblygiadau ar gyfer y ddau sefydliad. 

Rydym yn ymrwymedig i’r bartneriaeth rydym wedi’i meithrin dros y pum mlynedd neu fwy diwethaf, a byddwn yn cydweithio i wella ein dull mewn modd sy’n gweithio i’r ddau sefydliad. 

Pan gytunir ar newidiadau sylweddol i’r fframwaith a’r fethodoleg, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth ar gyfer y sector.