Mythau Arolygu – a’r ffeithiau - sectorau ôl-16 - Estyn

Mythau Arolygu – a’r ffeithiau – sectorau ôl-16


Bydd gofyn i uwch arweinwyr gynorthwyo’r tîm arolygu i gydlynu’r ymweliad i sicrhau bod yr arolygiad yn ymgorffori ystod o weithgarwch a chynrychiolwyr ar draws y lleoliad. Yn ystod wythnos yr arolygiad, fodd bynnag, hoffem weld gwir adlewyrchiad o sut le yw eich lleoliad o ddydd i ddydd. Rydym eisiau amlygu beth rydych chi’n ei wneud yn dda ac archwilio meysydd y gellir eu gwella. Nid ydym am i staff a dysgwyr newid yr hyn maen nhw’n ei wneud dim ond oherwydd ein bod ni’n ymweld. 

Rydym yn gofyn am ychydig iawn o ddogfennau cyn arolygiad. Nid oes rhaid i chi greu dogfennau yn arbennig ar gyfer wythnos arolygiad – ac nid oes rhaid i chi dacluso unrhyw ddogfennau. Rydym yn gwybod bod dogfennau yn eich lleoliadau yn ddogfennau gweithio. Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r dogfennau angenrheidiol ar gyfer arolygiadau yn y sectorau ôl-16.

Rydym eisiau gweld eich lleoliad fel y mae go iawn, ac mae ein harsylwadau gwersi yn canolbwyntio’n bennaf ar gynnydd dysgwyr, ansawdd yr addysgu a pha mor dda y mae dysgwyr yn ymateb. Nid ydym yn gofyn am gynlluniau gwersi unigol, a byddwn yn llunio barnau yn seiliedig ar ein harsylwadau a’r trafodaethau a gawn gyda dysgwyr a staff trwy gydol cyfnod yr arolygiad.

Rydym am i arolygiadau gyfrannu at wella addysg a hyfforddiant. Rydym wedi cynllunio arolygiadau gyda llawer o drafodaethau gyda darparwyr yn canolbwyntio ar gyfleoedd i wella. Byddwn bob amser yn canolbwyntio ar ansawdd y cyflwyno a’r effaith ar ddeilliannau ar gyfer dysgwyr. Rydym ni yma am yr un rheswm â chi – i helpu dysgwyr i gael y gorau o’u cyfnod mewn addysg a hyfforddiant.