Memorandwm Dealltwriaeth Arolygwyr Cymheiriaid ar gyfer Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol - Estyn

Memorandwm Dealltwriaeth Arolygwyr Cymheiriaid ar gyfer Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol


Mae’r ddogfen hon yn amlinellu rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau’r tri pharti (arolygydd cymheiriaid, cyflogwr ac Estyn) yn gysylltiedig â chyfranogiad arolygwyr cymheiriaid mewn hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant diweddaru, yn ogystal â gweithgareddau arolygu.

Bydd arolygwyr cymheiriaid sy’n cwblhau eu hyfforddiant a’u hasesiad cychwynnol yn llwyddiannus yn cael eu rhoi ar restr a fydd yn cynnwys gwybodaeth, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost, enwau, cyfeiriadau, manylion am gyflogwr presennol ac arbenigeddau. Mae’n bwysig bod arolygwyr cymheiriaid yn rhoi gwybod i Estyn am unrhyw newidiadau i’w cyfeiriad neu gyflogaeth. Gallant wneud hyn trwy system ar-lein Estyn ar gyfer proffiliau arolygwyr. Os yw’r arolygydd cymheiriaid yn newid cyflogaeth, rhaid iddo ddiweddaru ei broffil gyda’i sefydliad newydd, a diweddaru ei hepgoriadau hefyd. Rhaid i’r arolygydd cymheiriaid lenwi Ffurflen Cymeradwyaeth Cyflogwr newydd ac anfon hon yn ôl i Estyn.

Bydd Estyn dim ond yn defnyddio’r wybodaeth yn y rhestr i ddefnyddio arolygwyr cymheiriaid a rhannu gwybodaeth ag arolygwyr cymheiriaid ynghylch datblygiadau arolygu a chyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol. Bydd arolygwyr cofnodol yn gallu gweld cyfeiriadau e-bost, enwau, cyfeiriadau ac arbenigeddau ar gyfer pob Arolygydd Cymheiriaid ar eu Proffil Arolygydd personol at ddibenion arolygu yn unig.

Mae’r partïon yn cydnabod dyletswydd Estyn i gydymffurfio â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) ac mae’n deall y gallai fod angen i Estyn ddatgelu gwybodaeth benodol i drydydd parti. Bydd y cyflogwr ac arolygwyr cymheiriaid yn cynorthwyo Estyn i gydymffurfio â’r Ddeddf.

Mae’r partïon yn cydnabod y bydd arolygwyr cymheiriaid yn parhau i fod yn gyflogai’r cyflogwr ac na chaiff ei ystyried yn un o gyflogeion Estyn. Ni fydd arolygwyr cymheiriaid yn cyflwyno eu hunain fel petaent yn gyflogai Estyn nac yn asiant nac yn llefarydd ar ei ran.