Memorandwm Dealltwriaeth Arolygwyr Cymheiriaid ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau’r tri pharti yn gysylltiedig â chyfranogiad arolygwyr cymheiriaid mewn arolygiadau yn y sector ôl-16.
Bydd arolygwyr cymheiriaid sy’n cwblhau eu hyfforddiant a’u hasesiad cychwynnol yn llwyddiannus yn cael eu rhoi ar restr a fydd yn cynnwys gwybodaeth gan gynnwys cyfeiriad e-bost, enwau, cyfeiriadau, cyflogwr ac arbenigeddau. Mae’n rhaid i arolygwyr cymheiriaid hysbysu’r Arolygiaeth am unrhyw newid i gyfeiriad neu newid perthnasol arall, fel newid enw neu gyflogwr, trwy system ar-lein Estyn ar gyfer proffiliau arolygwyr. Bydd yr Arolygiaeth yn defnyddio’r rhestr dim ond at ddiben defnyddio arolygwyr cymheiriaid a rhannu gwybodaeth ag arolygwyr cymheiriaid ynghylch datblygiadau yn yr Arolygiaeth a chyfleoedd ar gyfer datblygu a hyfforddi. Bydd arolygwyr cofnodol yn gallu gweld cyfeiriadau e-bost, enwau, cyfeiriadau ac arbenigeddau ar gyfer pob Ymgynghorydd Her ar eu Proffil Arolygydd personol at ddibenion arolygu yn unig.
Mae’r partïon yn cydnabod y bydd arolygydd cymheiriaid ar bob adeg yn parhau i fod yn gyflogai’r cyflogwr/darparwr ac na chaiff ei ystyried yn un o gyflogeion yr Arolygiaeth. Ni fydd arolygydd cymheiriaid yn cyflwyno’i hun fel petai’n gyflogai’r Arolygiaeth nac yn asiant nac yn llefarydd ar ei rhan.
Mae’r partïon yn cydnabod dyletswydd yr Arolygiaeth i gydymffurfio â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) ac mae’n deall y gallai fod angen i’r Arolygiaeth ddatgelu gwybodaeth benodol i drydydd parti. Bydd y cyflogwr ac arolygwyr cymheiriaid yn cynorthwyo’r Arolygiaeth i gydymffurfio â’r Ddeddf yn unol â chais rhesymol gan yr Arolygiaeth.