Llawlyfr enwebeion Archives - Estyn

Math o Arweiniad Arolygu: Llawlyfr enwebeion


Math o Arweiniad Arolygu: Llawlyfr enwebeion


Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer enwebeion a fydd yn cynrychioli’r darparwr ar y tîm arolygu yn ystod arolygiad eu darparwr. Ei nod yw rhoi arweiniad i Brif Swyddogion Gweithredol / penaethiaid ac uwch arweinwyr a fydd yn eu galluogi i ddeall a chyflawni rôl yr enwebai yn effeithiol.

Mae tair rhan i’r llawlyfr.

  • Rhan 1: Cyn yr arolygiad
  • Rhan 2: Yn ystod yr arolygiad
  • Rhan 3: Ar ôl yr arolygiad

Math o Arweiniad Arolygu: Llawlyfr enwebeion


Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer enwebeion a fydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y bartneriaeth ar y tîm arolygu yn ystod yr arolygiad o’u partneriaeth1. Ei nod yw rhoi arweiniad i benaethiaid ac uwch reolwyr a fydd yn eu galluogi i ddeall ac ymgymryd â rôl yr enwebai yn effeithiol.

Mae’r llawlyfr mewn tair rhan.

  • Rhan 1: Cyn yr arolygiad
  • Rhan 2: Yn ystod yr arolygiad
  • Rhan 3: Ar ôl yr arolygiad

Bydd yn ddefnyddiol i chi gael copi o ddogfennau ‘Beth rydym yn ei arolygu’ a ‘Sut rydym yn arolygu’ 2022 Estyn i gyfeirio atynt wrth i chi fynd trwy’r llawlyfr enwebeion. Mae’r dogfennau hyn ar gael ar ein gwefan. Mae’n bwysig iawn i chi fod yn gyfarwydd â nhw cyn yr arolygiad.

Math o Arweiniad Arolygu: Llawlyfr enwebeion


Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer enwebeion a fydd yn gweithredu fel cynrychiolydd yr ysgol ar y tîm arolygu yn ystod yr arolygiad o’u hysgol1. Ei nod yw rhoi arweiniad i benaethiaid ac uwch reolwyr a fydd yn eu galluogi i ddeall ac ymgymryd â rôl yr enwebai yn effeithiol.

Mae’r llawlyfr mewn tair rhan.

  • Rhan 1: Cyn yr arolygiad
  • Rhan 2: Yn ystod yr arolygiad
  • Rhan 3: Ar ôl yr arolygiad

Bydd yn ddefnyddiol i chi gael copi o ddogfennau ‘Beth rydym yn ei arolygu’ a ‘Sut rydym yn arolygu’ 2021 Estyn i gyfeirio atynt wrth i chi fynd trwy’r llawlyfr enwebeion. Mae’r dogfennau hyn ar gael ar ein gwefan. Mae’n bwysig iawn i chi fod yn gyfarwydd â nhw cyn yr arolygiad.

Math o Arweiniad Arolygu: Llawlyfr enwebeion


Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer enwebeion. Bydd yr enwebai yn gynrychiolydd y coleg ac yn aelod o’r tîm arolygu yn ystod yr arolygiad. Datblygwyd y llawlyfr yn bennaf gydag anghenion uwch reolwyr mewn cof ac mae pwyslais cryf ar ddefnydd ymarferol. Mae’n ymateb i’r cwestiwn cyffredin – Beth mae’n rhaid i mi ei wybod i fod yn enwebai effeithiol? Bydd cymryd amser i ddarllen trwy’r llawlyfr yn rhoi i chi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer eich arolygiad, a deall pwysigrwydd y rôl fel enwebai’r coleg.

Math o Arweiniad Arolygu: Llawlyfr enwebeion


Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer enwebeion a fydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y darparwr ar y tîm arolygu yn ystod yr arolygiad o’u sefydliad. Datblygwyd y llawlyfr yn bennaf gydag anghenion uwch reolwyr mewn cof. Mae’n ceisio rhoi atebion i’r cwestiwn, ‘Beth mae’n rhaid i mi ei wybod i fod yn enwebai effeithiol?’

O gymryd eich amser i ddarllen trwy’r llawlyfr, fe gewch y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch paratoi ar gyfer eich arolygiad ac i ddeall eich rôl fel enwebai’r darparwr.

Rydym yn gobeithio y bydd y llawlyfr yn addysgiadol, yn gynorthwyol ac, yn fwy na dim, yn hawdd i’w ddefnyddio wrth i chi baratoi ar gyfer eich arolygiad.

Mae’r llawlyfr enwebeion mewn tair rhan.

  • Rhan 1: Cyn yr arolygiad
  • Rhan 2: Yn ystod yr arolygiad
  • Rhan 3: Ar ôl yr arolygiad

Mae rhan 1 a rhan 2 yn cynnwys y wybodaeth dyngedfennol a’r camau sydd eu hangen ar adegau gwahanol yn ystod cyfnod yr arolygiad. Mae rhan 3 yn ymdrin yn fras â rôl yr enwebai ar ôl yr arolygiad.

Bydd yn ddefnyddiol i chi gael eich copi o lawlyfr arweiniad arolygu 2019 Estyn ar gyfer Cymraeg i Oedolion i gyfeirio ato wrth i chi fynd trwy’r llawlyfr. Mae’n bwysig iawn i chi fod yn gyfarwydd â’r llawlyfr arweiniad arolygu ar gyfer Cymraeg i Oedolion cyn yr arolygiad.

Math o Arweiniad Arolygu: Llawlyfr enwebeion


Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer enwebeion a fydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y darparwr ar y tîm arolygu yn ystod yr arolygiad o’u sefydliad. Datblygwyd y llawlyfr yn bennaf gydag anghenion Prif Weithredwyr/penaethiaid ac uwch reolwyr mewn cof. Mae’n ceisio rhoi atebion i’r cwestiwn, ‘Beth mae’n rhaid i mi ei wybod i fod yn enwebai effeithiol?’

O gymryd eich amser i ddarllen trwy’r llawlyfr, fe gewch y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch paratoi ar gyfer eich arolygiad ac i ddeall eich rôl fel enwebai’r darparwr. Rydym yn gobeithio y bydd y llawlyfr yn addysgiadol, yn gynorthwyol ac, yn fwy na dim, yn hawdd i’w ddefnyddio wrth i chi baratoi ar gyfer eich arolygiad.

Mae’r llawlyfr enwebeion mewn pedair rhan.

  • Rhan 1: Cyn yr arolygiad
  • Rhan 2: Yn ystod yr arolygiad
  • Rhan 3: Ar ôl yr arolygiad
  • Rhan 4: Cwblhau’r canllaw adolygu ar-lein

Mae rhan 1 a rhan 2 yn cynnwys y wybodaeth dyngedfennol a’r camau sydd eu hangen ar adegau gwahanol yn ystod cyfnod yr arolygiad. Mae rhan 3 yn ymdrin yn fras â rôl yr enwebai ar ôl yr arolygiad tra bod rhan 4 yn esbonio ychydig yn fanylach am y canllaw adolygu ar-lein.

Bydd yn ddefnyddiol i chi gael eich copi o lawlyfr arweiniad arolygu 2018 Estyn ar gyfer arolygiadau peilot colegau addysg bellach i gyfeirio ato wrth i chi fynd trwy’r llawlyfr. Mae’n bwysig iawn i chi fod yn gyfarwydd â’r llawlyfr arweiniad arolygu ar gyfer colegau addysg bellach cyn yr arolygiad.

Math o Arweiniad Arolygu: Llawlyfr enwebeion


Mae’r llawlyfr hwn ar gyfer enwebeion a fydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y darparwr ar y tîm arolygu yn ystod yr arolygiad o’u sefydliad. Datblygwyd y llawlyfr yn bennaf gydag anghenion Prif Weithredwyr/penaethiaid ac uwch reolwyr mewn cof. Mae’n ceisio rhoi atebion i’r cwestiwn, ‘Beth mae’n rhaid i mi ei wybod i fod yn enwebai effeithiol?’

O gymryd eich amser i ddarllen trwy’r llawlyfr, fe gewch y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch paratoi ar gyfer eich arolygiad ac i ddeall eich rôl fel enwebai’r darparwr.

Rydym yn gobeithio y bydd y llawlyfr yn addysgiadol, yn gynorthwyol ac, yn fwy na dim, yn hawdd i’w ddefnyddio wrth i chi baratoi ar gyfer eich arolygiad.

Mae’r llawlyfr enwebeion mewn pedair rhan.

  • Rhan 1: Cyn yr arolygiad
  • Rhan 2: Yn ystod yr arolygiad
  • Rhan 3: Ar ôl yr arolygiad
  • Rhan 4: Cwblhau’r canllaw adolygu ar-lein

Mae rhan 1 a rhan 2 yn cynnwys y wybodaeth dyngedfennol a’r camau sydd eu hangen ar adegau gwahanol yn ystod cyfnod yr arolygiad. Mae rhan 3 yn ymdrin yn fras â rôl yr enwebai ar ôl yr arolygiad tra bod rhan 4 yn esbonio ychydig yn fanylach am y canllaw adolygu ar-lein.

Bydd yn ddefnyddiol i chi gael eich copi o lawlyfr arweiniad arolygu 2017 Estyn ar gyfer dysgu yn y gwaith i gyfeirio ato wrth i chi fynd trwy’r llawlyfr. Mae’n bwysig iawn i chi fod yn gyfarwydd â’r llawlyfr arweiniad arolygu ar gyfer dysgu yn y gwaith cyn yr arolygiad.

Math o Arweiniad Arolygu: Llawlyfr enwebeion


Mae’r llawlyfr hwn wedi’i gynllunio ar gyfer enwebeion. Bydd yr enwebai yn gweithredu fel cynrychiolydd y darparwr ac aelod o’r tîm arolygu yn ystod yr arolygiad. Datblygwyd y llawlyfr yn bennaf gydag anghenion uwch reolwyr mewn cof, a cheir pwyslais cryf ar gymhwyso ymarferol. Mae’n ymateb i’r cwestiwn cyffredin – “Beth mae’n rhaid i mi ei wybod i fod yn enwebai effeithiol?”. O gymryd amser i ddarllen trwy’r llawlyfr, fe gewch y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer eich arolygiad ac i ddeall pwysigrwydd y rôl fel enwebai’r darparwr.