Mae’r llawlyfr hwn yn amlinellu beth rydym yn ei arolygu mewn arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol (GALlL). Dylid ei ddarllen ar y cyd â llawlyfr ar wahân ‘Sut rydym yn arolygu’, sy’n esbonio’r broses a’r fethodoleg arolygu.
Mae’r arweiniad yn ddeunydd darllen hanfodol i arolygwyr cofnodol a phob aelod arall o’r tîm arolygu, gan gynnwys yr enwebai. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i ddarparwyr i ategu eu dealltwriaeth o’r arweiniad arolygu.
Mae gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnwys swyddogaethau addysg statudol yr awdurdod lleol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau addysg sy’n cael eu darparu ar ran awdurdod lleol gan:
- wasanaeth gwella ysgolion
- partneriaeth rhwng dau neu fwy o awdurdodau lleol
- sefydliad arall wedi’i gomisiynu gan yr awdurdod lleol (er enghraifft, mudiad gwirfoddol neu gwmni preifat)
Gallai’r darparwyr eraill hyn gael eu harolygu ar wahân i awdurdod lleol a chyfeirir atynt yn yr arweiniad hwn fel ‘darparwyr eraill gwasanaethau addysg’. Yn yr arolygiadau hyn, byddai arolygwyr ond yn cymhwyso’r rhannau o’r fframwaith sy’n cwmpasu’r gwasanaethau addysg perthnasol. Darllenwch ein harweiniad ‘Sut rydym yn arolygu’ am ragor o wybodaeth.
Mae dau faes arolygu mewn arolygiadau GALlL, fel yr amlinellir isod.
Meysydd arolygu
Maes arolygu 1. Gwasanaethau addysg a’u heffaith
1.1 Gwasanaethau gwella ysgolion
1.2 Cymorth i ddysgwyr bregus
1.3 Gwasanaethau cymorth eraill
Maes arolygu 2: Arwain a gwella
2.1 Ansawdd ac effeithiolrwydd arweinwyr a rheolwyr
2.2 Hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella
2.3 Trefniadau diogelu
2.4 Defnyddio adnoddau
Mae arolygiadau o wasanaethau addysg llywodraeth leol yn cynnwys arolygiad o unrhyw rai o’r canlynol:
- awdurdod lleol
- gwasanaeth gwella ysgolion
- gwasanaeth partneriaeth rhwng dau neu fwy o awdurdodau lleol i ddarparu
unrhyw wasanaethau addysg
- gwasanaeth addysg a gomisiynwyd gan awdurdod lleol neu grŵp o
awdurdodau lleol
Byddwn yn cynnal arolygiadau ar wahân o waith ieuenctid awdurdodau lleol ac addysg drochi Cymraeg o fis Medi 2024 ymlaen. Yn achos y gwasanaeth ieuenctid statudol, caiff yr arolygiadau eu cynnal bedair wythnos cyn yr arolygiadau GALlL fel bod y canfyddiadau’n llywio agweddau perthnasol ar arolygiad GALlL yr ALl.