Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:
ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
ysgolion cynradd
ysgolion uwchradd
ysgolion pob oed
ysgolion arbennig
unedau cyfeirio disgyblion
ysgolion annibynnol
addysg bellach
colegau arbenigol annibynnol
dysgu oedolion yn y gymuned
gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
addysg a hyfforddiant athrawon
Cymraeg i oedolion
dysgu yn y gwaith
dysgu yn y sector cyfiawnder
Rydym hefyd:
yn adrodd i Senedd Cymru ac yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.
Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:
Yr Adran Gyhoeddiadau Estyn Llys Angor Heol Keen Caerdydd CF24 5JW neu drwy anfon e-bost at
Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan: www.estyn.llyw.cymru
Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).
Ynglŷn â’r arweiniad hwn
Trosolwg
Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Fodd bynnag, rydym yn llunio arweiniad atodol hefyd i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach.
Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu rhai egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai bod y dogfennau’n datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ymhelaethu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion eglwysig).
Nid nod y dogfennau arweiniad atodol yw bod yn gynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth ymdrin ag unrhyw agwedd benodol ar arolygiad. Fodd bynnag, gallent fod yn ddefnyddiol i arolygwyr wrth iddynt ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg yn ystod arolygiadau neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.
Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i gael dealltwriaeth o drefniadau arolygu Estyn hefyd. Gallent fod yn ddefnyddiol i ddarparwyr hefyd o ran gwerthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.
Mae ein gwaith arolygu wedi’i seilio ar yr egwyddorion canlynol:
Bydd arolygwyr yn mynd ati i arolygu’n gadarnhaol, i sicrhau mai’r profiad dysgu proffesiynol gorau posibl fydd hwn ar gyfer y staff ym mhob darparwr
Bydd arolygwyr yn arolygu ar sail dull sy’n cael ei arwain gan y dysgwr
Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
Bydd arolygwyr yn chwilio am arfer arloesol, graff
Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, i’r graddau ag y bo hynny’n bosibl
Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymateb i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, ac yn defnyddio ystod gynyddol yr adnoddau a dulliau arolygu sydd ar gael
Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr
Gwerthuso agweddau disgyblion at asesu ffurfiannol yn yr ystafell ddosbarth
Maes Arolygu 2: Lles ac agweddau at ddysgu.
pa mor dda y mae disgyblion yn deall adborth gan oedolion a’u cyfoedion, ac yn ymateb iddo
pa mor effeithiol y mae disgyblion yn defnyddio adborth i symud eu dysgu ymlaen
Bydd arolygwyr yn cynnal ystod o weithgareddau i gasglu tystiolaeth ar gyfer y meysydd hyn.
Gallai’r rhain gynnwys:
teithiau dysgu
sgyrsiau â disgyblion am eu gwaith
arsylwadau dysgu
craffu ar lyfrau a dysgu arall
Dylai’r pwyslais fod ar werthuso pa mor dda y mae disgyblion yn deall eu rôl nhw yn y prosesau adborth, a beth mae angen iddynt ei wneud i elwa ar adborth a symud eu dysgu ymlaen.
Yn yr un modd ag y dylai arolygwyr ystyried agweddau disgyblion tuag at adborth gan athrawon ac oedolion eraill, dylent hefyd werthuso pa mor dda y mae disgyblion yn defnyddio ac yn ymateb i adborth o weithgareddau asesu gan gyfoedion a hunanasesu i wella eu dysgu.
Mae trafodaethau â disgyblion yn ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar gyfer y meysydd hyn. Bydd hyn yn darparu cyfle i archwilio dealltwriaeth disgyblion o’u rôl yn y broses adborth. Wrth lunio barn ar hyn, mae’n bwysig i arolygwyr gadw mewn cof oedran a gallu’r disgyblion dan sylw.
Dylai arolygwyr ystyried:
beth yw agwedd disgyblion at yr adborth a gânt?
a yw disgyblion yn gwahodd adborth, ac a ydynt yn cael eu cymell ganddo?
a yw disgyblion yn meddwl am adborth fel rhan gefnogol a buddiol o’r broses ddysgu?
a yw disgyblion yn gallu esbonio beth maent yn ei wneud â’r adborth a gânt, a sut byddant yn gweithredu yn unol â’r adborth i wella eu gwaith?
pa mor dda y mae disgyblion yn gwneud gwelliannau neu’n cymhwyso strategaethau newydd o ganlyniad i’r adborth a gânt?
a oes diwylliant lle caiff camgymeriadau eu gwerthfawrogi fel cyfleoedd dysgu, a bod cyfaddef i beidio â deall rhywbeth yn dderbyniol?
Bydd tystiolaeth a gesglir o’r gwaith hwn hefyd yn helpu arolygwyr pan fyddant yn ystyried arferion asesu yn yr ystafell ddosbarth ym maes arolygu 3 (3.2 Addysgu ac asesu). Bydd yn helpu arolygwyr i gael amcan o ba mor dda y mae’r ysgol yn datblygu dealltwriaeth disgyblion o’u rôl yn y broses adborth wrth iddynt symud yn eu blaenau trwy’r ysgol. Nodir y rôl bwysig hon hefyd yn y canllawiau sy’n cyd-fynd â ‘Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu’[1] y Cwricwlwm i Gymru. Mae’n nodi mai rôl bwysig i ymarferwyr yw ‘datblygu sgiliau dysgwyr o ran gwneud defnydd effeithiol o adborth i symud eu dysgu yn ei flaen’.
Wrth werthuso ansawdd yr adborth gan athrawon ac ymarferwyr eraill, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae adborth llafar ac ysgrifenedig yn helpu disgyblion i wybod pa mor dda y maent yn gwneud a beth mae angen iddynt ei wneud i wella. Dylent werthuso effeithiolrwydd yr adborth a gaiff disgyblion am waith y maent wedi’i gwblhau ar-lein neu’n ddigidol.
Bydd arolygwyr yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau i gasglu tystiolaeth ar gyfer y meysydd hyn. Gallai’r rhain gynnwys:
trafodaethau ag athrawon ac oedolion eraill
craffu ar ddogfennau ysgol
teithiau dysgu
sgyrsiau â disgyblion am eu gwaith
arsylwadau o ddysgu
craffu ar lyfrau a dysgu arall, yn cynnwys dysgu ar-lein a digidol
Wrth werthuso ansawdd yr adborth, dylai arolygwyr gofio bod yna ystod o ffactorau a all bennu ei effaith ar gynnydd disgyblion. O’r herwydd, dylai arolygwyr ystyried:
a yw adborth yn addas ar gyfer oedran a gallu’r disgybl?
a yw adborth yn glir, yn bersonol ac yn benodol?
a yw’n canolbwyntio ar yr elfennau sy’n bwysig ac yn berthnasol?
a yw’n glir ynglŷn â’r camau nesaf?
a yw’n darparu arweiniad buddiol ar sut i wella? (h.y. nid dim ond yn dweud wrth ddisgyblion pan fyddant yn anghywir)
a yw adborth wedi’i gysylltu’n fuddiol â bwriadau dysgu a/neu ddeilliannau arfaethedig?
a yw adborth yn amserol, fel ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer dysgu yn y dyfodol?
a gaiff disgyblion gyfle digonol i drafod a/neu weithredu i ymateb i adborth? (D.S. mae’n annhebygol y bydd disgyblion yn elwa ar adborth oni bai eu bod yn cael amser priodol i ystyried ac ymateb)
a oes tystiolaeth fod disgyblion yn cael cyfleoedd i fynd i’r afael â gwelliannau posibl yn ddiweddarach?
D.S. Nid oes angen i’r holl adborth gydymffurfio â phob un o’r meini prawf uchod i fod yn fuddiol.
Hefyd, bydd yn bwysig i arolygwyr ystyried:
pa mor dda y mae athrawon ac oedolion eraill yn addysgu disgyblion am sut i ddefnyddio adborth, er enghraifft trwy hyfforddi a modelu?
pa mor dda y mae athrawon yn helpu disgyblion i ddatblygu’r medrau hyn wrth iddynt symud trwy’r ysgol?
a yw disgyblion yn cael adborth o ansawdd da ym mhob pwnc / disgyblaeth a maes dysgu?
Dylai arolygwyr ystyried:
y graddau y mae athrawon yn datblygu meddwl a dealltwriaeth disgyblion trwy gwestiynu a monitro dysgu disgyblion yn fedrus
pa mor effeithiol y mae athrawon ac ymarferwyr eraill yn ymateb i ddysgu disgyblion yn ystod gwersi a gweithgareddau, ac yn addasu eu dull yn unol â hynny
Wrth werthuso’r pwyntiau uchod, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda:
y mae cwestiynau yn denu disgyblion tuag at ddealltwriaeth allweddol ac/neu yn cynyddu lefel yr her wrth i wersi fynd rhagddynt?
y mae holi yn cynnwys yr holl ddisgyblion?
y mae cwestiynau yn hyrwyddo meddwl, cyfiawnhau a rhesymu?
y mae holi yn atgyfnerthu ac yn ailedrych ar fwriadau dysgu?
y mae holi yn annog disgyblion i fyfyrio a damcaniaethu?
y mae’r athro yn creu awyrgylch o ymddiriedaeth lle caiff atebion, barnau a syniadau disgyblion eu gwerthfawrogi?
y mae amgylchedd yr ystafell ddosbarth yn annog disgyblion i wrando ar ei gilydd, ac ymateb i’w gilydd, yn ogystal â’r athro?
y mae athrawon yn annog disgyblion i ofyn cwestiynau, yn ogystal ag ymateb iddynt?
y mae athrawon yn monitro dealltwriaeth disgyblion yn barhaus i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gywir o’u cynnydd yn ystod gwersi?
y mae athrawon yn addasu dysgu i ymateb i gamsyniadau y maent yn eu nodi trwy holi a chraffu ar ddysgu wrth i’r wers, neu gyfres o wersi, fynd rhagddi neu rhagddynt?
Dylai arolygwyr ystyried:
pa mor llwyddiannus y mae athrawon yn darparu cyfleoedd perthnasol a phwrpasol i ddisgyblion asesu eu dysgu eu hunain, a dysgu eu cyfoedion Wrth ystyried pa mor llwyddiannus y mae athrawon yn darparu cyfleoedd perthnasol a phwrpasol i ddisgyblion fyfyrio ar eu dysgu eu hunain a dysgu eu cyfoedion, dylai arolygwyr ystyried y cyfleoedd a gaiff disgyblion, ac effaith hyn ar eu dysgu.
Dylai arolygwyr ystyried:
p’un a yw’r diben ar gyfer defnyddio asesu gan gyfoedion a hunanasesu yn glir ar gyfer disgyblion a staff
p’un a oes gan yr ysgol arferion a ddeellir yn dda ar gyfer datblygu medrau disgyblion mewn gwerthuso eu dysgu eu hunain, a dysgu disgyblion eraill
pa mor dda y mae athrawon ac oedolion eraill yn addysgu disgyblion ynglŷn â sut i asesu eu dysgu eu hunain a dysgu ei gilydd, er enghraifft trwy hyfforddi a modelu
pa mor dda y mae athrawon yn monitro adborth i sicrhau bod disgyblion yn elwa ar gyngor defnyddiol, ac yn gallu gwneud cynnydd o ganlyniad
pa mor dda y mae athrawon yn helpu disgyblion i wneud dewisiadau am sut maent yn symud eu dysgu eu hunain ymlaen
Wrth werthuso arferion, dylai arolygwyr ystyried p’un a yw’r meini prawf ar gyfer gwerthuso dysgu yn glir i alluogi disgyblion i gael dealltwriaeth dda o nodau eu gwaith, ac o beth mae’n ei olygu i’w gwblhau yn llwyddiannus. Gallai athrawon ddatblygu a rhannu’r meini prawf hyn, neu wrth i ddisgyblion ddatblygu, dylent gymryd rhan yn gynyddol mewn datblygu’r meini prawf eu hunain.
Dylai arolygwyr ystyried:
pa mor dda y mae arferion asesu gan gyfoedion a / neu hunanasesu’r ysgol yn annog disgyblion i fyfyrio’n feirniadol ar eu dysgu a’u cynnydd eu hunain neu ddisgyblion eraill
pa mor effeithiol y mae disgyblion yn nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu yn eu dysgu eu hunain ac yn nysgu disgyblion eraill
pa mor dda y mae asesu gan gyfoedion yn helpu disgyblion i ddysgu oddi wrth ei gilydd
pa mor dda y mae dealltwriaeth ac annibyniaeth disgyblion wrth asesu eu dysgu eu hunain, a dysgu eu cyfoedion, yn datblygu wrth iddynt wneud cynnydd
Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:
ysgolion a safleoedd meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
ysgolion cynradd
ysgolion uwchradd
ysgolion pob oed
ysgolion arbennig
unedau cyfeirio disgyblion
ysgolion annibynnol
addysg bellach
colegau arbenigol annibynnol
dysgu oedolion yn y gymuned
gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
addysg a hyfforddiant athrawon
Cymraeg i oedolion
dysgu yn y gwaith
dysgu yn y sector cyfiawnder
Rydym hefyd:
yn adrodd i Senedd Cymru ac yn darparu cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu
Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:
Yr Adran Gyhoeddiadau
Estyn
Llys Angor
Heol Keen
Caerdydd
CF24 5JW neu drwy anfon e-bost at
Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan: www.estyn.llyw.cymru
Hawlfraint y Goron 2021: Gellir ailddefnyddio’r adroddiad hwn yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei ailddefnyddio’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cydnabod y deunydd fel hawlfraint y Goron a rhaid nodi teitl yr adroddiad/y cyhoeddiad penodol.
Ynglŷn â’r arweiniad hwn
Arweiniad atodol
Mae ein harweiniad arolygu yn esbonio Beth rydym ni’n ei arolygu a Sut rydym ni’n arolygu. Yn ychwanegol, rydym yn llunio arweiniad atodol i helpu arolygwyr i ystyried agweddau penodol ar addysg a hyfforddiant ymhellach.
Mae’r dogfennau arweiniad atodol yn amlinellu egwyddorion, ystyriaethau ac adnoddau allweddol ar gyfer arolygwyr. Maent yn ymwneud â phob sector y mae Estyn yn ei arolygu, oni bai eu bod yn datgan eu bod ar gyfer sector penodol. Maent yn ehangu ar agweddau penodol ar addysg/hyfforddiant (e.e. arolygu llythrennedd) neu ar ffyrdd o gynnal arolygiadau (e.e. defnyddio teithiau dysgu) neu drefniadau arolygu penodol (e.e. arweiniad ar arolygu ysgolion ffydd).
Nid yw’r dogfennau arweiniad atodol yn hollgynhwysfawr. Nid yw’n ofynnol i arolygwyr weithio trwyddynt yn drwyadl wrth gwmpasu unrhyw agwedd ar arolygiad. Fodd bynnag, gallai arolygwyr eu gweld yn ddefnyddiol wrth ymateb i gwestiynau penodol sy’n dod i’r amlwg sy’n codi yn ystod arolygiadau, neu pan fyddant yn dymuno myfyrio neu ymchwilio ymhellach.
Gallai’r dogfennau arweiniad atodol helpu darparwyr i ddeall trefniadau arolygu Estyn. Gallent fod yn fuddiol hefyd i ddarparwyr wrth werthuso agweddau penodol ar eu darpariaeth eu hunain.
Mae ein gwaith arolygu yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
Bydd arolygwyr yn arolygu â meddylfryd cadarnhaol i sicrhau bod y staff ym mhob darparwr yn cael y profiad dysgu proffesiynol gorau posibl
Bydd arolygwyr yn defnyddio dull arolygu sy’n canolbwyntio ar y dysgwr
Bydd arolygwyr bob amser yn canolbwyntio’n gryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu
Bydd arolygwyr yn ceisio arfer arloesol dra ystyriol
Bydd arolygwyr yn teilwra gweithgareddau’r arolygiad yn unol â’r amgylchiadau ym mhob darparwr, cyhyd ag y bo modd
Bydd arolygwyr yn hyblyg ac yn ymatebol i ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg, a byddant yn defnyddio ystod gynyddol yr offer a’r dulliau arolygu sydd ar gael
Bydd arolygwyr yn ystyried popeth yn y fframwaith arolygu, ond byddant yn adrodd ar y cryfderau a’r gwendidau allweddol yn unig ym mhob darparwr
Cyflwyniad
Diben yr arweiniad hwn yw cynorthwyo arolygwyr i lunio barnau cywir ar gryfder agweddau disgyblion at ddysgu fel rhan o arolygiadau o ysgolion a gynhelir (ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion) ac ysgolion annibynnol.
Mae datblygu agweddau ac ymddygiadau cadarnhaol, fel gwydnwch, hunanreolaeth a chreadigrwydd, yn hanfodol i gynorthwyo disgyblion â’u dysgu trwy gydol eu bywydau ac wrth ddatblygu eu lles meddyliol ac emosiynol. Mae’n bwysig fod adroddiadau arolygu yn adlewyrchu’n gywir y cryfderau a’r gwendidau yn agweddau disgyblion at ddysgu er mwyn i ysgolion allu adeiladu ar arfer effeithiol, a’u rhannu, a mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion.
Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r ffynonellau tystiolaeth y bydd angen i arolygwyr eu hystyried yn ystod arolygiadau, a’r gweithgareddau y dylent ymgymryd â nhw i lunio eu barnau. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd trafodaethau tîm wrth gyfosod tystiolaeth a llunio casgliadau, ac yn darparu esboniadau defnyddiol am y mathau o agweddau ac ymddygiadau y mae arolygwyr yn chwilio amdanynt.
Dylid darllen yr arweiniad hwn ar y cyd â’r llawlyfrau arweiniad perthnasol ar gyfer pob sector ac arweiniad ychwanegol sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan Estyn.
Arfer effeithiol wrth arolygu agweddau at ddysgu
Ffynonellau tystiolaeth
Wrth lunio barn am agweddau disgyblion at ddysgu, dylai arolygwyr ystyried tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys:
gwerthusiadau’r ysgol ei hun
arsylwadau gwersi
teithiau dysgu
ymweliadau â gwasanaethau ysgol gyfan, grwpiau blwyddyn a dosbarthiadau
craffu ar ystod eang o waith disgyblion, gan gynnwys cyflwyniad gwaith a pha mor dda y mae disgyblion yn ymateb i adborth ysgrifenedig
cyfarfodydd gyda disgyblion, a’u gwaith, gwrando ar ddisgyblion yn darllen, a thrafod agweddau disgyblion at ddysgu
arsylwi ansawdd ymgysylltiad disgyblion mewn clybiau a gweithgareddau amser cinio ac ar ôl yr ysgol
ymddygiad disgyblion mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol, ac ansawdd eu rhyngweithio
gwybodaeth o holiaduron disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr
cyfarfodydd â staff
trafodaethau tîm
unrhyw werthusiadau ychwanegol a gwybodaeth ategol o arolygon eraill
Dylai arolygwyr ystyried yn ofalus ganlyniadau holiaduron disgyblion i helpu llywio eu gweithgareddau arolygu mewn perthynas ag agweddau disgyblion at ddysgu. Yn benodol, bydd y tîm eisiau mynd i’r afael â materion sydd wedi codi o holiaduron fel rhan o’u cyfweliadau gyda disgyblion. Mae’n ddefnyddiol i’r arolygydd cofnodol arwain trafodaeth gyda’r tîm, neu lunio ymlaen llaw y cwestiynau penodol y bydd y tîm yn eu gofyn yn ystod eu cyfarfodydd gyda disgyblion. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb a bod y tîm yn casglu tystiolaeth berthnasol sy’n effeithiol wrth gefnogi trafodaethau ynglŷn ag unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg.
Cyfarfodydd tîm
Mae’n bwysig fod arolygwyr cofnodol yn cynllunio digon o amser yn ystod cyfarfodydd tîm i drafod agweddau disgyblion at ddysgu. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i’r agweddau a awgrymwyd gan y cwestiynau a restrir isod a’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan y tîm. Dylai’r drafodaeth fod yn bwrpasol, yn ddigonol o fanwl ac nid yn ychwanegiad brysiog at drafodaethau am safonau neu addysgu. Dylai’r tîm ystyried pa mor sefydledig y mae agweddau cadarnhaol at ddysgu ymhlith disgyblion, ac ar draws pob dosbarth. Mae’r tabl yn Atodiad 1 yn cynnig esboniad defnyddiol o’r mathau o ymddygiadau y dylai’r tîm fod yn chwilio amdanynt. Dylai’r arolygydd sy’n arwain ar MA2 ystyried defnyddio detholiad o gwestiynau o’r rhestr isod, sy’n seiliedig ar y tabl, fel sbardunau ar gyfer y drafodaeth tîm.
I ba raddau, a pha mor dda, y mae disgyblion:
yn barod i ymgymryd â thasgau, ac yn dyfalbarhau i’w cwblhau, gan ddal ati i ganolbwyntio ac osgoi rhywbeth sy’n tynnu eu sylw oddi ar eu gwaith?
yn symud yn hawdd rhwng gwahanol wersi a gweithgareddau ac yn ymdawelu’n gyflym i wneud eu gwaith?
yn ymgymryd â phrofiadau a syniadau newydd ac anghyfarwydd, ac yn ymdrin â thasgau mewn ffyrdd creadigol i archwilio cyfleoedd newydd ar gyfer eu dysgu?
yn ymgysylltu â thasgau a gyflwynir o bell gan athrawon? Beth yw eu hagwedd tuag at y cynnig dysgu o bell a ddarperir gan yr ysgol?
yn dangos chwilfrydedd, yn canfod pleser mewn heriau ac yn fodlon â pheidio â gwybod yr ateb?
yn gweithio i ddarganfod atebion eraill a defnyddio ystod o ddulliau pan fydd eu ffordd gyntaf o ddatrys problem yn aflwyddiannus, neu pan fyddant eisiau mynd â’u dysgu ymhellach ar eu pen eu hunain neu gyda’u cyfoedion?
yn gweithredu fel dysgwyr hunanhyderus sy’n myfyrio’n feddylgar ar eu dysgu, ac yn dangos dealltwriaeth o’u cryfderau a’u gwendidau?
yn dangos diddordeb yn eu gwaith, a brwdfrydedd drosto, gan gynnwys agwedd gadarnhaol tuag at ddarllen, a mwynhad ohono?
yn dangos gwerthfawrogiad am y cyfleoedd dysgu y mae’r ysgol yn eu darparu?
yn arddangos synnwyr o uchelgais a dyhead am y dyfodol?
yn dangos creadigrwydd yn eu dysgu, a gallu i roi cynnig ar syniadau newydd, a meddwl yn ehangach?
yn gweithio mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft ar eu pen eu hunain, mewn grwpiau bach ac mewn lleoliadau dosbarth cyfan?
yn dangos parch am gyfraniadau disgyblion a phobl eraill ac yn aros yn bwyllog pan fydd anghytuno?
yn dangos ymddygiad da mewn gwersi, ac o gwmpas yr ysgol?
yn uniaethu’n dda â’i gilydd ac oedolion?
yn cymhwyso eu gwybodaeth am eu hardal eu hunain, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o faterion byd-eang o ran eu dysgu?
Adrodd am agweddau at ddysgu
O fewn MA2, dylai’r adroddiad ddisgrifio pa mor dda y mae disgyblion yn datblygu’r agweddau a’r ymddygiadau allweddol a fydd yn cefnogi eu dysgu trwy gydol eu bywydau. Dylai amlinellu’n glir pa mor dda y mae disgyblion yn ymgymryd â gweithgareddau dysgu a ph’un a ydynt yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd a ddarperir gan yr ysgol. Bydd angen i arolygwyr ystyried pob agwedd ar y gofynion arolygu, fel yr amlinellir yn rhan 2 y llawlyfr arweiniad arolygu ar gyfer y sector perthnasol. Fodd bynnag, dylent adrodd ‘trwy eithriad’ yn eu prif werthusiadau, h.y. adrodd ar rai agweddau dim ond pan fydd cryfderau penodol neu wendidau sylweddol.
Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar yr hyn y mae’r disgyblion yn ei wneud, a pha mor dda y maent yn ei wneud. (Mae MA3 ac MA4 yn canolbwyntio mwy ar ansawdd darpariaeth yr ysgol, a’r cyfleoedd ar gyfer datblygu agweddau at ddysgu y mae’r ysgol yn eu darparu.) Fel arfer, dylai fod cysylltiad agos rhwng y ddau. Dylai prif werthusiadau ynglŷn ag agweddau disgyblion at ddysgu gysylltu’n dda â chynnwys yr adroddiad yn MA4. Yn yr un modd, ceir cysylltiadau agos rhwng agweddau disgyblion at ddysgu, ac ansawdd yr addysgu. Bydd agweddau disgyblion at ddysgu hefyd yn effeithio ar y safonau y maent yn eu cyflawni, fel y disgrifir yn MA1. Pan fydd anghysondebau amlwg yn y barnau rhwng meysydd arolygu, dylai’r Arolygydd Cofnodol sicrhau bod y prif werthusiadau yn esbonio’r rhesymau am hyn, a dylai cynnwys y dystiolaeth ategol gynnig cyfiawnhad addas.
Wrth lunio casgliadau am gryfder agweddau disgyblion at ddysgu, dylai’r tîm ystyried cyd-destun yr ysgol a’r cynnydd a wna’r holl ddisgyblion wrth ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu o’u mannau cychwyn. Er enghraifft, dylai arolygwyr ystyried pa mor dda y mae disgyblion yn ymateb i weithgareddau sy’n herio eu syniadau, a pha mor dda y maent yn dyfalbarhau pan na fyddant yn llwyddo ar y dechrau.
Dylai cynnwys yr adroddiad roi enghreifftiau defnyddiol sy’n rhoi synnwyr o agweddau disgyblion yn yr ysgol benodol, ac ni ddylai fod yn generig. Bydd enghreifftiau effeithiol yn egluro’r cysylltiad rhwng y gweithgarwch y mae’r disgyblion yn ymgymryd ag ef a’r agweddau penodol y mae’n eu datblygu.
Enghreifftiau sy’n cysylltu gweithgareddau ac agweddau at ddysgu yn llwyddiannus
Mae bron pob un o’r disgyblion yn cydweithio’n effeithiol iawn o oedran ifanc. Er enghraifft, mae disgyblion yn y dosbarth derbyn yn gweithio gyda’i gilydd yn bwrpasol wrth adeiladu llong torri’r iâ o flychau cardfwrdd, sef eu syniad nhw eu hunain.
Mae disgyblion hŷn yn parchu cyfraniadau disgyblion eraill ac yn myfyrio o ddifrif ar syniadau a gynigir gan eu cyfoedion. Er enghraifft, mae disgyblion Blwyddyn 6 yn cymryd rhan yn feddylgar mewn trafodaeth soffistigedig am ganlyniadau’r gêm bêl-droed ym 1914 ar dir neb yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae gan ddisgyblion lefelau uchel o ymddiriedaeth yn y staff ac maent yn credu’n gryf y byddan nhw bob amser yn gwneud eu gorau drostynt. Mae hyn yn magu hyder a hunan-barch ymhlith disgyblion, ac yn eu helpu i ddysgu a meddwl yn annibynnol. Er enghraifft, yn y cyfnod sylfaen, mae disgyblion yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain yn hyderus ynglŷn â beth maent yn ei ddysgu a sut, wrth iddynt archwilio pob agwedd ar eu hamgylchedd.
Mae lleiafrif o ddisgyblion yn araf wrth ymdawelu mewn gwersi, ac maent wedi ymddieithrio am gyfnodau hir. Mae’r disgyblion hyn yn dangos agweddau gwael at ddysgu, ac yn dangos diddordeb cyfyngedig yn eu gwaith. O ganlyniad, gwnânt gynnydd annigonol.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn ystod gwersi ac amser chwarae. Fodd bynnag, mae ychydig o ddisgyblion, yn enwedig bechgyn yn y cyfnod sylfaen, yn colli diddordeb mewn tasgau yn hawdd ac yn tarfu ar ddysgu disgyblion eraill. Mae hyn yn aml am nad ydynt yn ddigon gweithgar, neu ni chânt ddigon o gyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau newydd neu arwain eu dysgu eu hunain.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn hynod effeithiol mewn gwaith pâr neu waith grŵp. Mewn gweithgareddau ar y cyd fel trafodaethau dosbarth am faterion byd-eang, maent yn gwrando’n ofalus ac yn barchus ar ei gilydd, ac yn cynnig cymorth a her aeddfed a sensitif i syniadau eu cyfoedion.
Mae llawer o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu. Maent yn cynorthwyo ei gilydd yn dda ac yn gweithio’n gynhyrchiol mewn parau a grwpiau, er enghraifft pan fyddant yn cydweithio i werthuso manteision ac anfanteision gwahanol fathau o lwyfannau theatr mewn drama. Mae llawer o ddisgyblion yn cynnal eu diddordeb a’u hymgysylltiad â gweithgareddau i ddatblygu eu medrau a’u dealltwriaeth yn llwyddiannus. Mewn cerddoriaeth, er enghraifft, maent yn cynnal ffocws ac yn dyfalbarhau er mwyn gwella cywirdeb ac ansawdd eu perfformiad ensemble trwy amrywio elfennau fel soniaredd a thempo. Fodd bynnag, mae lleiafrif o ddisgyblion yn rhy oddefgar ac nid ydynt yn ymgymryd â’u gwaith yn ystyrlon.
Mae disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol iawn tuag at yr ysgol a’u haddysg. Mae bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn eithriadol o gwrtais ac maent yn barchus iawn tuag at ei gilydd, pob aelod o staff ac ymwelwyr, yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Mae llawer ohonynt yn cynrychioli’r ysgol yn rhagorol wrth siarad ag ymwelwyr, ac maent yn ymfalchïo’n fawr wrth siarad am eu gwaith ac am fywyd ysgol. Mae ganddynt fedrau cymdeithasol cryf, ac yn trafod materion ac yn mynegi eu safbwyntiau’n aeddfed gydag oedolion.
Yn y rhan fwyaf o wersi, mae bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn dda, yn canolbwyntio trwy gydol y wers ac yn dyfalbarhau pan fyddant yn wynebu tasgau cymhleth. Mae llawer ohonynt yn dangos lefel uchel o wydnwch wrth ddatrys problemau ac yn cymryd perchnogaeth o’u dysgu eu hunain. Maent yn gweithio’n ddiwyd i gwblhau tasgau yn annibynnol yn y lle cyntaf, neu’n trafod gyda chyfoedion cyn gofyn i’r athro am gymorth. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu fel dysgwyr annibynnol.
Atodiad: Nodweddion agweddau cadarnhaol at ddysgu
Mae disgyblion yn benderfynol
A yw disgyblion yn barod i ymgymryd â thasgau, a’u cwblhau?
A yw disgyblion yn dyfalbarhau ac yn aros yn bwrpasol pan fyddant yn wynebu anawsterau?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Penderfynoldeb, gwydnwch, cadernid
Bydd disgyblion:
Yn gorffen tasgau a ddechreuwyd ac yn deall gwerth eu gwaith; er enghraifft, mae disgyblion yn cwblhau gweithgareddau gyda’r anogaeth leiaf gan oedolion, a gallant siarad am ba fedr y maent wedi’i wella
Yn dysgu mynd â’r elfennau cadarnhaol o gamgymeriadau, a gwerthfawrogi sut bydd hyn yn eu helpu i gyrraedd nod; er enghraifft, mae disgyblion yn disgrifio ble maent wedi gwneud camgymeriadau yn eu gwaith a sut gallant eu hosgoi yn y dyfodol, neu esbonio sut maent wedi gwella ar eu gwendidau
Yn rhoi cynnig ar syniadau heb fod yn sicr o’r canlyniad terfynol tebygol
Yn dangos y medrau a’r wybodaeth i weithio mor annibynnol ag y gallant, a cheisio arweiniad a chymorth pellach pan fydd angen yn unig
Yn wynebu a goresgyn heriau fel y maent yn codi, trwy addasu eu dulliau a’u strategaethau; er enghraifft, trwy ddarganfod a rhoi cynnig ar atebion gwahanol i ddatrys problem pan fyddant yn methu i ddechrau
A yw disgyblion yn dal ati i ganolbwyntio ac osgoi unrhyw beth sy’n tynnu eu sylw?
A yw disgyblion yn barod i ddysgu ar ddechrau gwersi? A ydynt yn symud yn hawdd rhwng gwahanol wersi a gweithgareddau?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Hunanreolaeth, Hunangyfeiriad
Bydd disgyblion:
Yn talu sylw ac yn ymwrthod ag unrhyw beth sy’n tynnu eu sylw, er enghraifft yn dal ati i ganolbwyntio ar dasg er gwaethaf ymyriadau amgylcheddol posibl, er enghraifft gan ddisgyblion eraill
Yn cofio ac yn dilyn cyfarwyddiadau, ond yn gwneud addasiadau pan fyddant yn wynebu anawsterau, er enghraifft yn dod o hyd i ffyrdd eraill o gofnodi canlyniadau arbrawf gwyddonol pan fydd technoleg yn methu
Yn dangos medrau hunandrefnu da ac yn dechrau tasgau ar unwaith, yn hytrach na gohirio pethau, er enghraifft casglu’r offer neu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, a dechrau ar eu gwaith yn gyflym ar ddechrau gweithgaredd
Yn aros yn bwyllog hyd yn oed pan gânt eu beirniadu, er enghraifft wrth gymryd rhan mewn trafodaethau fel rhan o weithgareddau dosbarth cyfan neu grŵp bach, neu dderbyn adborth fel rhan o asesu cyfoedion
Yn caniatáu i bobl eraill siarad heb dorri ar eu traws, ac yn ymateb yn briodol
Pa mor dda y mae disgyblion yn ymgymryd â phrofiadau a syniadau newydd ac anghyfarwydd?
A yw disgyblion yn chwilio am atebion eraill pan fydd eu dull cyntaf o ymdrin â phroblem yn aflwyddiannus?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Chwilfrydedd ac awydd i ddatrys problemau
Bydd disgyblion:
Yn awyddus i archwilio pethau newydd; er enghraifft, mae disgyblion yn awgrymu syniadau am destunau newydd i’w hastudio neu’n ymateb gyda diddordeb a brwdfrydedd pan fyddant yn wynebu themâu newydd neu dasgau anghyfarwydd
Yn gofyn ac yn ateb cwestiynau i ddyfnhau eu dealltwriaeth; er enghraifft, mae disgyblion yn gofyn cwestiynau tra ystyriol, neu’n defnyddio gwybodaeth yn fedrus i ateb cwestiynau
Yn mwynhau datrys problemau; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos brwdfrydedd dros ddod o hyd i atebion fel rhan o ymchwiliad mathemateg ac yn rhoi cynnig ar nifer o ddulliau
Yn meddwl yn greadigol ac yn ehangach i ail-lunio a datrys problemau; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos amrywiaeth o ddulliau i’w hystyried ac yn datrys problemau trawsgwricwlaidd, er enghraifft sut i leihau’r defnydd o blastig
Yn fodlon â pheidio â gwybod yr ‘ateb’ ond yn dangos chwilfrydedd a holgarwch
A yw disgyblion yn deall eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain?
Pa mor dda y mae disgyblion yn myfyrio ar eu dysgu eu hunain?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Dysgwyr hunanymwybodol
Bydd disgyblion:
Yn dangos dealltwriaeth glir o’r hyn y maent yn ei wneud yn dda, a’r hyn y mae angen iddynt ei wella; er enghraifft, maent yn siarad am ba mor llwyddiannus y buont mewn dysgu blaenorol, y meysydd y mae angen iddynt eu datblygu ymhellach, a sut byddant yn gwneud gwelliannau
Yn esbonio’r syniadau a’r cysyniadau y maent yn dysgu amdanynt, ac yn deall sut mae’r rhain yn cyd-fynd â gweddill eu dysgu; er enghraifft, maent yn disgrifio’r medrau y maent wedi eu gwella, neu wybodaeth y maent wedi’i dysgu yn ystod y wers, ac yn cysylltu hyn â dysgu blaenorol neu bynciau/testunau eraill
Yn rhannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu neu’r medrau newydd y maent wedi’u datblygu yn effeithiol a hyderus, gyda’u cyfoedion neu’r gymuned ehangach; er enghraifft, ar ddiwedd testun gwaith, mae disgyblion yn cynllunio a chyflwyno gwasanaeth er mwyn i rieni rannu eu dysgu
Mae disgyblion yn optimistaidd
A yw disgyblion yn dangos diddordeb yn eu gwaith, a brwdfrydedd drosto?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Brwdfrydedd ac arddeliad
Bydd disgyblion:
Yn cymryd rôl weithredol yn eu dysgu; er enghraifft, mae disgyblion yn awyddus i ddarganfod mwy am eu testun a chyfrannu eu meddyliau a’u syniadau eu hunain, gan gynnwys cynllunio gweithgareddau neu wersi penodol
Yn dangos brwdfrydedd a diddordeb yn eu dysgu, ac ymgysylltiad cryf â dulliau newydd a chreadigol; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos hunangymhelliant yn eu tasgau, nid oes angen rhyw lawer o ymyrraeth gan oedolyn arnynt i wneud cynnydd, ac maent yn meddwl am syniadau newydd gydag ychydig iawn o anogaeth gan oedolion, os o gwbl
Yn adnabod ac yn achub ar gyfleoedd ac yn chwilio’n annibynnol am ffyrdd i ymestyn eu dealltwriaeth; er enghraifft, mae disgyblion yn dangos annibyniaeth wrth ddewis gweithgareddau y maent yn credu y byddant o fudd i’w dysgu, fel dewis gwahanol ddulliau o gynnal arbrawf gwyddonol neu ymgymryd ag ymchwil bellach ar destun dosbarth gartref
Yn helpu bywiogi disgyblion eraill yn eu dysgu; er enghraifft, mae agweddau cadarnhaol y disgyblion eu hunain tuag at eu dysgu yn helpu cynorthwyo ac annog dysgu disgyblion eraill
Yn gosod safonau uchel iddyn nhw eu hunain, ac yn rhoi cynnig ar her a’i mwynhau; er enghraifft, o gael cyfle, bydd disgyblion yn ceisio ymgymryd â thasgau sy’n eu herio, ac o bryd i’w gilydd, yn mynd â nhw y tu hwnt i sefyllfa y maent yn gyfarwydd â hi
A yw disgyblion yn werthfawrogol?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Diolchgarwch
Bydd disgyblion:
Yn cydnabod ac yn dangos gwerthfawrogiad o bobl eraill; er enghraifft, mae disgyblion yn disgrifio’r modd y mae gweithio gyda’u cyfoedion yn eu helpu i ddatblygu eu medrau eu hunain
Yn cydnabod ac yn dangos gwerthfawrogiad ar gyfer eu cyfleoedd eu hunain; er enghraifft, mae disgyblion yn siarad am y modd y mae’r gweithgareddau sy’n cael eu cynllunio gan eu hathro, fel ymweliadau â’r gymuned leol, yn gwella eu dysgu
Pa mor hyderus yw disgyblion?
A ydynt yn dangos synnwyr o uchelgais, ac a oes ganddynt uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Hyder ac uchelgais
Bydd disgyblion:
Yn barod i roi cynnig ar brofiadau newydd a chyfarfod â phobl newydd; er enghraifft, mae disgyblion yn gofyn cwestiynau difyr a buddiol i ymwelwyr
Yn mynd ar drywydd breuddwydion ac uchelgeisiau; er enghraifft, mae disgyblion yn trafod eu huchelgeisiau ac yn disgrifio pwysigrwydd eu dysgu, a sut bydd yn eu helpu yn y dyfodol
Yn mentro’n ofalus; er enghraifft, mae disgyblion yn deall pwysigrwydd defnyddio camau diogelwch priodol fel rhan o ymchwiliadau gwyddonol neu wersi Addysg Gorfforol, er mwyn iddynt allu mentro a datblygu eu medrau
Yn meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi; er enghraifft, mae disgyblion yn cefnogi ei gilydd ac yn canolbwyntio’n dda i gwblhau tasgau cynyddol gymhleth
Yn meddu ar yr hyder i gymryd rhan mewn perfformiadau; er enghraifft, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau i weddill y dosbarth i ddangos a datblygu medrau cerddorol, dramatig neu gorfforol newydd
Pa mor greadigol yw disgyblion?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Creadigrwydd, Dychymyg
Bydd disgyblion:
Yn dangos gwreiddioldeb a dychymyg wrth gwblhau tasgau
Yn profi ac archwilio sefyllfaoedd o safbwynt arall ac yn hapus i ystyried gwahanol opsiynau
Yn mwynhau arbrofi â phosibiliadau, diystyru rhagdybiaethau a derbyn yr anghyfarwydd, er enghraifft wrth gydweithio â disgyblion eraill i greu drama ar sail eu hastudiaethau mewn hanes; caiff disgyblion eu cymell gan dasgau nad oes iddynt ganlyniadau wedi’u pennu ymlaen llaw neu ganlyniadau penodedig
Yn adnabod a datblygu syniadau newydd; er enghraifft, maent yn mwynhau cymhwyso eu medrau llythrennedd i ddatblygu darnau dychmygus o ysgrifennu sy’n adlewyrchu’r hyn y maent wedi’i ddysgu ym meysydd eraill y cwricwlwm, fel hanes ac Addysg Grefyddol
Yn ffurfio syniadau gwreiddiol a newydd o symbyliadau; er enghraifft, mae disgyblion yn dylunio gwefan i hyrwyddo digwyddiadau cerddorol
Yn ymgymryd â phrosiectau dychmygus neu’n mynd i’r afael â gwaith mewn ffordd arloesol
Yn bod yn ddyfeisgar; yn defnyddio adnoddau presennol mewn ffordd wreiddiol, er enghraifft defnyddio offeryn mapio realiti rhithwir ar-lein i nodi’r safle gorau yng Nghymru i adeiladu maes rocedi
Mae disgyblion yn emosiynol ddeallus
A yw disgyblion yn aros yn bwyllog pan fydd disgyblion eraill yn anghytuno â nhw?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Gwyleidd-dra
Bydd disgyblion:
Yn dod o hyd i atebion yn ystod achosion o wrthdaro â disgyblion eraill; er enghraifft, wrth gydweithio â’u cyfoedion, mae disgyblion yn dangos y gallu i gyfaddawdu, cymathu syniadau disgyblion eraill ac addasu eu hatebion
Yn cydnabod bod gwahanol safbwyntiau, sydd weithiau’n gwrth-ddweud ei gilydd, yn gallu eu helpu i ffurfio eu safbwynt eu hunain
Yn sensitif i deimladau ac emosiynau pobl
Pa mor dda y mae disgyblion yn dangos parch at gyfraniadau disgyblion eraill, er enghraifft trwy ganiatáu i ddisgyblion eraill siarad?
A yw disgyblion yn dangos ymddygiad da mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol?
A yw disgyblion yn ymddwyn yn dda amser cinio ac amser egwyl?
A yw disgyblion yn ystyriol, ac a ydynt yn uniaethu’n dda â’i gilydd ac oedolion?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Parch a moesau da
Bydd disgyblion:
Yn dangos parch at deimladau pobl eraill, er enghraifft yn cydnabod pan fydd disgyblion eraill yn cael trafferth â chysyniadau newydd ac yn rhoi cymorth pan fo’n briodol
Yn gwybod pryd a sut i gynnwys disgyblion eraill; er enghraifft, fel rhan o drafodaethau dosbarth cyfan neu grŵp bach, mae disgyblion yn gofyn am gyfraniadau gan ddisgyblion eraill, ac yn gwerthfawrogi hyn
Yn gwrtais at oedolion a’u cyfoedion
A yw disgyblion yn cymhwyso eu gwybodaeth gefndirol a’u hymwybyddiaeth o faterion byd-eang i’w dysgu?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Sensitifrwydd i bryderon byd-eang, cyfrifoldeb cymdeithasol
Bydd disgyblion:
Yn dangos ymwybyddiaeth gynyddol o faterion byd-eang a’u heffaith ar fywydau pobl; er enghraifft, mae disgyblion yn codi pryderon ynglŷn â’r effaith amgylcheddol wrth baratoi ar gyfer trafodaeth ar ddatblygiad arfaethedig archfarchnad newydd yn eu tref
Pa mor dda y gall disgyblion weithio mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft yn annibynnol, mewn grwpiau bach ac mewn lleoliadau dosbarth cyfan?
Mae disgyblion yn dangos yr agweddau canlynol:
Cydweithio’n effeithiol
Bydd disgyblion:
Yn arwain ac ymgymryd â rolau gwahanol mewn timau yn effeithiol ac yn gyfrifol
Yn gweithio’n hyblyg mewn grŵp, gan ddiystyru dewisiadau personol weithiau i dderbyn syniadau disgyblion eraill
Yn defnyddio eu hegni a’u medrau er mwyn i bobl eraill elwa; er enghraifft, mae disgyblion yn barod i gynorthwyo eu cyfoedion i’w helpu i wella eu medrau a’u gwybodaeth
Yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr; er enghraifft, mae disgyblion yn cydweithredu’n dda â disgyblion eraill, gan gynnwys y rheiny o wahanol gefndiroedd cymdeithasol, rhywedd, ethnigrwydd a grwpiau ffrindiau
Yn gwrando ar ddisgyblion eraill, gan dderbyn eu syniadau neu ddarparu her feirniadol adeiladol
Diben Estyn yw arolygu ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu:
ysgolion a lleoliadau meithrin a gynhelir gan, neu sy’n cael arian gan awdurdodau lleol
ysgolion cynradd
ysgolion uwchradd
ysgolion pob oed
ysgolion arbennig
unedau cyfeirio disgyblion
ysgolion annibynnol
addysg bellach
colegau arbenigol annibynnol
dysgu oedolion yn y gymuned
gwasanaethau addysg awdurdodau lleol ar gyfer plant a phobl ifanc
addysg a hyfforddiant athrawon
Cymraeg i oedolion
dysgu yn y gwaith
dysgu yn y sector cyfiawnder
Rydym hefyd:
yn adrodd i Senedd Cymru ac yn rhoi cyngor ar ansawdd a safonau mewn addysg a hyfforddiant yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ac eraill
yn cyhoeddi achosion o arfer dda yn seiliedig ar dystiolaeth arolygu.
Cymerwyd pob rhagofal posibl i sicrhau bod y wybodaeth yn y ddogfen hon yn gywir adeg ei chyhoeddi. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu sylwadau ynglŷn â’r ddogfen hon/cyhoeddiad hwn at:
Yr Adran Gyhoeddiadau Estyn Llys Angor Heol Keen Caerdydd CF24 5JW neu drwy anfon e-bost at
Mae’r cyhoeddiad hwn a chyhoeddiadau eraill gan Estyn ar gael ar ein gwefan: www.estyn.llyw.cymru
Cyfieithwyd y ddogfen hon gan Trosol (Saesneg i Gymraeg).
Ynglŷn â’r arweiniad hwn
Trosolwg
Diben yr arweiniad atodol hwn yw:
esbonio sut bydd ysgolion â chymeriad crefyddol yn cael eu harolygu o dan adran 50 ac adran 28, ac amlygu’r gwahaniaethau mewn cyfrifoldeb rhwng y ddau arolygiad
rhoi gwybodaeth gefndir i arolygwyr am ysgolion sydd â chymeriad crefyddol
Beth yw ysgolion ffydd?
‘Ysgolion ffydd’ yw’r enw rydym yn ei roi ar ysgolion â chymeriad crefyddol neu rai sydd â chysylltiadau ffurfiol â sefydliad ffydd. Maent yn disgyn i ddau gategori, sef: ysgolion a gynhelir sydd â chymeriad crefyddol ac ysgolion annibynnol sydd â chymeriad crefyddol.
Mae ysgolion ffydd a gynhelir yn debyg i’r holl ysgolion a gynhelir eraill mewn sawl ffordd. Maent yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn cael eu harolygu gan Estyn. Yn yr un modd, mae’n ofynnol i bob ysgol a gynhelir, p’un a oes iddi gymeriad crefyddol ai peidio, gynnal gweithredoedd dyddiol o addoli ar y cyd ac addysgu addysg grefyddol fel rhan o’u cwricwlwm. Mae bod â chymeriad crefyddol yn rhoi hyblygrwydd penodol i ysgol a gynhelir o ran:
penodi staff
addysgu ac arolygu Addysg Grefyddol
addoli ar y cyd
polisi derbyniadau
ethos yr ysgol
Ar hyn o bryd, mae ysgolion ffydd annibynnol yng Nghymru yn cynnwys y rhai sy’n dilyn traddodiad Cristnogol a’r rhai sy’n dilyn y ffydd Islamaidd. Cânt i gyd eu harolygu gan Estyn. Rhaid i ysgolion ffydd annibynnol gydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 yn yr un ffordd ag ysgolion annibynnol eraill.
Nodweddion ysgol ffydd a gynhelir
Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
Caiff ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir eu hariannu’n bennaf gan y wladwriaeth, gyda’r sefydliad yn gyfrifol am o leiaf 10% o waith cyfalaf, ond yn cael mwy o ddylanwad dros yr ysgol. Y corff llywodraethol sy’n rhedeg yr ysgol, yn cyflogi’r staff ac yn penderfynu ar drefniadau derbyn yr ysgol, yn amodol ar reolau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae disgyblion yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol. Yn yr ysgolion hyn, bydd addysg grefyddol yn cael ei phennu gan y llywodraethwyr, ac yn unol â darpariaethau’r weithred ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â’r ysgol, neu ble nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y weithred ymddiriedolaeth, gyda’r grefydd neu’r enwad a grybwyllir yn y gorchymyn sy’n dynodi bod gan yr ysgol gymeriad crefyddol.
Ysgolion gwirfoddol a reolir
Caiff holl gostau ysgolion gwirfoddol a reolir eu talu gan y wladwriaeth, a chânt eu rheoli gan yr awdurdod lleol. Caiff y tir a’r adeiladau eu perchnogi yn nodweddiadol gan sefydliad elusennol, sydd hefyd yn penodi tua chwarter o lywodraethwyr yr ysgol. Fodd bynnag, yr awdurdod lleol sy’n cyflogi staff yr ysgol, ac mae ganddo’r prif gyfrifoldeb am drefniadau derbyn yr ysgol. Mae disgyblion yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol. Bydd darpariaeth Addysg Grefyddol mewn ysgolion gwirfoddol a reolir â chymeriad crefyddol yn cael ei chynnig yn unol â’r maes llafur y cytunwyd arno yn lleol. Fodd bynnag, pan fydd rhiant unrhyw ddisgybl yn yr ysgol yn gofyn am i Addysg Grefyddol gael ei darparu yn unol â darpariaethau’r weithred ymddiriedolaeth yn gysylltiedig â’r ysgol (neu, ble nad oes yna unrhyw ddarpariaeth yn y weithred ymddiriedolaeth, yn unol â’r grefydd neu’r enwad a grybwyllir yn y gorchymyn sy’n dynodi bod gan yr ysgol gymeriad crefyddol), rhaid i’r llywodraethwyr wneud trefniadau ar gyfer sicrhau bod Addysg Grefyddol yn cael ei darparu i’r disgybl yn unol â’r grefydd berthnasol am hyd at ddwy wers yr wythnos, oni bai eu bod yn fodlon fod yna amgylchiadau arbennig a fyddai’n golygu ei bod yn afresymol gwneud hynny.
Arolygiad ysgol a gynhelir: arolygiadau adran 28 ac adran 50
Mae Adran 28 Deddf Addysg 2005 yn amlinellu dyletswyddau arolygu Estyn o ran ysgolion a gynhelir.
Os oes cymeriad crefyddol gan ysgol a gynhelir, fel y dynodwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, caiff addysg grefyddol enwadol a chynnwys addoli ar y cyd eu harolygu o dan Adran 50 Deddf Addysg 2005. Caiff yr arolygwyr sy’n cynnal arolygiadau Adran 50 eu penodi gan gorff llywodraethol yr ysgol trwy ymgynghori â’r awdurdod crefyddol priodol, ac maen nhw fel arfer yn dod o arolygiaeth Adran 50 y grŵp ffydd perthnasol (er enghraifft, y Gwasanaeth Addysg Gatholig yn achos ysgolion Catholig Rhufeinig). Pan fydd yn ofynnol darparu addysg grefyddol gan ddefnyddio’r maes llafur y cytunwyd arno yn lleol sy’n berthnasol i’r ysgol, fel yn achos ysgolion gwirfoddol a reolir, er enghraifft, byddai addysg grefyddol yn cael ei harolygu o dan Adran 28 Deddf Addysg 2005.
Er bod arolygwyr Adran 50 yn arolygu gweithredoedd o addoli ar y cyd, gwersi Addysg Grefyddol (yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir) a / neu’r gwersi hynny y dynodwyd eu bod yn darparu Addysg Grefyddol enwadol (yn achos ysgolion gwirfoddol a reolir), gallai arolygwyr Estyn ac arolygwyr Adran 50 fynychu gweithredoedd o addoli ar y cyd a gallent arsylwi gwersi y darperir Addysg Grefyddol ynddynt. Mewn achosion o’r fath, ni fydd arolygydd Estyn yn arolygu nac yn adrodd ar faterion y mae’r arolygydd Adran 50 yn gyfrifol amdanynt – yn gyffredinol, y cynnwys enwadol a gaiff ei ddarparu. Caiff y berthynas rhwng arolygiadau Adran 28 ac Adran 50 ei llywodraethu gan brotocol rhwng Estyn ac arolygiaethau grwpiau ffydd.
Wrth arolygu gwersi Addysg Grefyddol neu weithredoedd o addoli ar y cyd, gall arolygwyr Estyn roi sylwadau ar y canlynol:
cynnydd mewn dysgu
datblygiad medrau, h.y. llythrennedd neu rifedd
agweddau at ddysgu
cyfraniad gwasanaethau / gwersi Addysg Grefyddol at ddatblygiad personol ac addysg ysbrydol, foesol, gymdeithasol a diwylliannol disgyblion
ansawdd yr addysgu
Dylai arolygwyr Estyn osgoi rhoi sylwadau ar y canlynol:
cynnwys enwadol gwasanaethau neu wersi Addysg Grefyddol, yn benodol
natur neu ansawdd enwadol penodol ethos yr ysgol. Dylid osgoi ymadroddion fel: ‘Mae’r ysgol yn llwyddiannus iawn o ran hyrwyddo ethos Cristnogol cryf’
Nodweddion ysgolion ffydd annibynnol
Mae’r arweiniad hwn yn ceisio rhoi ychydig o wybodaeth gefndir i chi am bob math o ysgol ffydd annibynnol a’r moesau a ddisgwylir. Hyd yn oed mewn ysgolion ffydd sy’n dilyn yr un grefydd, gallai fod yna ychydig o wahaniaethau mewn moesau.
Ysgolion o fewn y traddodiad Cristnogol
Ysgolion OneSchool Global (annibynnol)
Cefndir
Caiff ysgolion OneSchool Global eu cynnal gan gymunedau lleol Exclusive Christian Brethren. Mae’r ysgolion hyn yn darparu ar gyfer disgyblion oedran uwchradd yn bennaf. Cefnogir yr ysgolion hyn gan y cymunedau ffydd lleol. Yn gyffredinol, nid yw athrawon a phenaethiaid yn aelodau o gymuned Exclusive Brethren.
Mae datblygiadau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) wedi ysgogi newid sylweddol diweddar i’r cwricwlwm. Mae ysgolion wedi eu cysylltu â rhwydwaith a gynhelir gan y Focus Learning Trust a gallant ddefnyddio meddalwedd sydd wedi’i thrwyddedu gan yr Ymddiriedolaeth. Hefyd, gallent ddefnyddio fideo gynadledda ag ysgolion eraill OneSchool Global i ymestyn cyfleoedd o fewn y cwricwlwm. Efallai na fydd gan ddisgyblion fynediad at deledu, radio neu gyfryngau electronig gartref.
Cwricwlwm
Er bod disgyblion yn aml yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd, mewn gwersi fel addysg gorfforol, gemau, dawns neu nofio, mae disgyblion yn tueddu i gael eu haddysgu mewn grwpiau rhywiau ar wahân. Hefyd, ceir ymagwedd fwy traddodiadol at dechnoleg, gan roi’r pwyslais ar bynciau ymarferol, fel coginio, gwaith gwnïo a gwaith coed.
Roedd y gymuned yn osgoi technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn draddodiadol, ond caiff ei defnyddio’n ehangach ar gyfer pynciau fel astudiaethau busnes erbyn hyn. Gan fod Exclusive Brethren yn ystyried y cyfryngau yn niweidiol ar y cyfan, caiff mynediad at y rhyngrwyd ei reoli’n llym.
Yn aml, mae ysgolion Brethren yn dechrau’n gynnar ac yn gorffen yn gynharach na’r hyn sy’n arferol mewn ysgolion eraill. Er bod rhai ysgolion yn darparu clybiau amser cinio, nid oes unrhyw glybiau ar ôl yr ysgol oherwydd y gred fod angen i blant dreulio cymaint o amser ag y bo modd gyda’r teulu. Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd Brethren yn mynychu cyfarfod gyda’r nos bob dydd, ac mae plant yn teithio pellterau sylweddol i fynd i’r ysgol hefyd.
Wrth siarad â’r plant, dylid osgoi cyfeirio at bynciau sy’n gysylltiedig â’r teledu neu ddiwylliant poblogaidd, y rhyngrwyd neu’r cyfryngau yn gyffredinol. Efallai na fydd gan blant fynediad at deledu, radio neu’r rhyngrwyd gartref.
Moesau
Dylai arolygwyr benywaidd ystyried gwisgo sgertiau yn hytrach na throwsusau, a gwisgo yn unol â’r hyn y byddai’r ysgolion yn ei ystyried yn weddus.
Gallai’r ysgolion hyn gynnig lletygarwch a lluniaeth, ond yn gyffredinol, maent yn disgwyl i arolygwyr fwyta neu yfed y lluniaeth i ffwrdd oddi wrth aelodau’r gymuned, gan nad yw Exclusive Brethren yn bwyta nac yn yfed gyda’r rhai y tu allan i’w cymdeithas eu hunain. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn fach, ac yn aml, nid ydynt yn gweini bwyd ar y safle: efallai nad yw’n briodol tarfu ar blant sy’n dod â phecynnau cinio o gartref yn ystod amseroedd prydau bwyd, a chael trafodaethau â’r plant. Dylai arolygwyr ddod â’u cinio eu hunain. Ychydig iawn o staff sy’n aelodau o gymuned Exclusive Brethren, felly gallai fod yn bosibl siarad â’r pennaeth neu aelodau staff eraill yn ystod amser coffi neu amser cinio.
Nid yw llawer o ferched yng nghymuned Exclusive Brethren yn torri eu gwallt ac maent fel arfer yn gwisgo sgarff pen neu ruban yn y gwallt. Nid yw bechgyn yn gwisgo teis.
Ysgolion Mwslimaidd (annibynnol)
Cefndir
Mae’r ysgolion hyn yn ceisio hyrwyddo ethos Islamaidd ar draws y cwricwlwm. Yn gyffredinol, cânt eu cefnogi gan gymunedau lleol, ac felly, maent wedi eu lleoli gan amlaf mewn ardaloedd sydd â phoblogaethau sylweddol o Fwslimiaid.
Yn aml, bydd gweddïau dyddiol (Salat) bum gwaith y dydd yn pennu ffurf y diwrnod ysgol, felly caiff amserlenni eu haddasu yn ystod tymhorau’r hydref a’r gwanwyn fel arfer, er mwyn cynnal y gweddïau ganol dydd ac yn ystod y prynhawn.
Yn ystod Ramadan, gellir cyfyngu gweithgareddau fel addysg gorfforol gan y bydd llawer o ddisgyblion yn ymprydio. Yn ystod Eid a Muharram, bydd llawer o ysgolion yn cynnal dathliadau i nodi pwysigrwydd y digwyddiadau hyn.
Gallai bechgyn a merched gael eu haddysgu neu’u rhoi i eistedd ar wahân yn unol â’r cyd-destun penodol, yn enwedig yn ystod gweithredoedd o addoli ar y cyd. Ni ddylid ystyried hyn fel arwydd o anghydraddoldeb rhwng gwahanol rywiau.
Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion wisg ar gyfer bechgyn a merched. Gan amlaf, dillad arddull Asiaidd draddodiadol yw’r wisg, sy’n cynrychioli egwyddor Islamaidd gwedduster. Bydd merched yn gorchuddio eu pen â’r ‘hijab’ neu sgarff. Gall bechgyn wisgo cap bach.
Yn aml, mae staff benywaidd yn gorchuddio eu pennau; mae rhai ohonynt yn gwisgo’r gorchudd wyneb llawn (niqaab).
Bydd y llety’n cynnwys cyfleusterau ar gyfer ‘wudu’, sef y ddefod ymolchi ofynnol cyn gweddïo a phrydau bwyd. Gwneir hyn trwy eistedd ar stôl sownd ger tap, fel y gellir golchi’r traed, y dwylo a rhannau o’r pen o dan ddŵr rhedegog. Gallai’r ardaloedd ymolchi hyn fod ar wahân i doiledau, a allai fod mewn arddull ‘orllewinol’ neu ‘ddwyreiniol’. Weithiau, darperir cafnau â sawl tap yn fasnau ymolchi.
Cwricwlwm
Mae’r cwricwlwm yn amrywio yn ôl barn yr Ymddiriedolwyr a’r traddodiad Islamaidd a ddilynir. Yn unol â’r safonau ysgolion annibynnol, dylai arolygwyr werthuso ehangder a chydbwysedd y cwricwlwm, yn cynnwys medrau a addysgir yn y gwahanol bynciau, ac ar draws grwpiau oedran.
Fel arfer, caiff darpariaeth ieithoedd tramor modern ei haddysgu trwy Arabeg, ac ieithoedd Ewropeaidd eraill o bryd i’w gilydd.
Gellir cyfyngu celf a cherddoriaeth. Gallai arolygwyr ddarganfod tystiolaeth o gerddoriaeth yn cael ei haddysgu trwy sesiynau addoli crefyddol: y tajweed (adrodd y Qur’an), canu caneuon Arabeg (nasheed), chwarae’r ‘Duff’ (drymiau) a’r alwad i weddïo (adhaan). Addysgir y rhain i ddisgyblion o oedran cynnar. Ni fydd ysgolion Mwslimaidd yn addysgu unrhyw fath o gelf sy’n portreadu’r ffurf ddynol neu greaduriaid byw. Fodd bynnag, nid oes cyfyngiad ar addysgu arddulliau celfyddyd haniaethol, geometrig neu arabésg.
Ar gyfer addysg gorfforol, bydd merched hŷn yn tueddu i wisgo tracsiwtiau ac yn gorchuddio eu pennau. Bydd addysg gorfforol yn cael ei haddysgu i ddisgyblion ysgol gynradd gyda’i gilydd ac ar wahân wedi iddynt gyrraedd yr ysgol uwchradd.
Bydd addysg iechyd a rhyw yn cael ei haddysgu o fewn astudiaethau Islamaidd, ac yn aml o dan ymbarél addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd, oni bai ei bod yn ofynnol gan faes llafur arholiadau, fel gwyddoniaeth TGAU. Mae rhai ysgolion yn gofyn iddi gael ei haddysgu gan athrawon Mwslimaidd o’r un rhyw â’r disgyblion yn unig.
Moesau
Bydd gan ysgolion ystafell weddïo, a rhaid tynnu esgidiau bob amser cyn mynd i mewn i’r ystafell hon. Mae rhai staff ysgol yn newid i sliperi. Dylai arolygwyr ddod â sliperi neu wisgo sanau. Bydd gan rai ysgolion fosg wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar y safle. Hefyd, gallai rhai ysgolion ofyn i arolygwyr dynnu eu hesgidiau cyn mynd i mewn i’r brif ysgol.
Mae’n bwysig i arolygwyr fod yn ymwybodol o ystyriaethau crefyddol, a’u parchu. Mae Mwslimiaid yn cyfarch ei gilydd, trwy ddweud ‘as-salamu alaykum’ – ‘tangnefedd i chi’. Yr ateb yw ‘wa’ alaykum as-salam’ – ‘tangnefedd i chi hefyd’. Os caiff ei ddefnyddio’n barchus wrth fynd i mewn i ddosbarth, bydd y plant yn ateb.
Hefyd, dylai arolygwyr benywaidd wisgo siwt trowsus neu sgert hirach a siaced i orchuddio eu breichiau. Hefyd, argymhellir y dylai arolygwyr benywaidd gario sgarff rhag ofn byddan nhw’n mynd i mewn i ystafell weddïo neu fosg, pan fydd angen iddynt orchuddio eu pen.
Fel arfer, nid oes unrhyw gyswllt corfforol rhwng gwrywod a benywod nad ydynt yn rhan o’r un teulu. Nid yw dynion Mwslimaidd fel arfer yn ysgwyd llaw â menywod, ac nid yw menywod Mwslimaidd fel arfer yn ysgwyd llaw â dynion, felly mae’n well peidio â chynnig ysgwyd llaw, oni bai fod rhywun yn cynnig ysgwyd llaw â chi.
Mae’n bwysig gwirio gyda’r ysgol beth yw’r moesau o ran arolygwyr gwrywaidd yn mynd i mewn i ystafell ddosbarth athrawon benywaidd. Mewn rhai ysgolion, bydd angen rhoi amser i’r athrawes orchuddio’i phen a/neu ei hwyneb rhag yr arolygydd gwrywaidd. Hefyd, mae angen i arolygwyr fod yn ymwybodol y gallent roi adborth o wers i athrawes a allai fod yn gwisgo ‘niqaab’ llawn (gorchudd wyneb a phen). Mewn rhai ysgolion, bydd angen i fenyw arall fod yn bresennol gydag arolygwyr gwrywaidd er mwyn rhoi adborth i athrawes.