Awdurdod Lleol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Awdurdod Lleol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gwybodaeth am yr Ysgol
Ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion 11–18 oed yw Ysgol y Creuddyn, ac fe’i cynhelir gan awdurdod lleol Conwy. Mae 669 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 89 yn y chweched dosbarth. Mae rhyw 17% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Dros gyfnod o ddegawd mae adran fathemateg yr ysgol wedi cyhoeddi cyfres o adnoddau rhad ac am ddim ar eu gwefan. Cefnogir yr arlwy gan sianel YouTube sy’n egluro’r cysyniadau tu ôl i’r adnoddau. Mae’r deunyddiau wedi’u selio ar ddehongliad yr adran o feistrolaeth, ble mae’r disgyblion yn datblygu dealltwriaeth ddofn, tymor hir, diogel a hyblyg o fathemateg a rhifedd.
Yn y cyfnod yn arwain at gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru’n swyddogol, cyd-weithiodd yr adran fathemateg gyda’r clwstwr cynradd lleol i ddatblygu cyfres o adnoddau ar gyfer camau cynnydd 2 a 3. Roedd y rhain yn cynnwys adnoddau ar ymchwilio’n ddyfnach i werth lle, defnyddio trinolion i weithio gyda rhifau negatif, ac egluro’r cysyniadau o gymudedd, cysylltiadedd a dosbarthedd.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Ar gyrraedd yr ysgol ym Mlwyddyn 7, mae pob disgybl yn cwblhau cyfres o asesiadau ar-fynediad sy’n rhoi sgôr allan o 90. Mae cydberthyniad cryf rhwng canlyniadau’r asesiadau hyn â’r radd TGAU Mathemateg derfynol, felly mae’r adran fathemateg yn defnyddio’r canlyniadau i dargedu carfannau penodol er mwyn cynnig cymorth a her priodol. Er enghraifft, mae’r disgyblion sy’n sgorio rhwng 20 a 40 yn yr asesiadau cychwynnol yn derbyn cymorth un-i-un gan fyfyrwyr mathemateg y chweched dosbarth yn ystod cyfnodau cofrestru boreol. Mae data ehangach hefyd ar gael ar gyfer disgyblion sy’n cychwyn yn yr ysgol, gan bod taflen wybodaeth yn cael ei darparu gan yr ysgolion cynradd sy’n bwydo’r ysgol, ac mae cyfle i athrawon cynradd ymweld â’r ysgol yn fuan ym Mlwyddyn 7 i drafod sut mae eu cyn-ddisgyblion wedi setlo’n yr ysgol.
Mae’r ysgol hefyd yn rhedeg cyfres o sesiynau cefnogaeth rhifedd i bawb ym Mlynyddoedd 7 i 10, gyda’r pecynnau “Campau Cofrestru”, “Rhufeiniaid Rhifedd”, “Meistroli’r Medrau” a’r “Anhysbys” ar waith mewn sesiynau cofrestru boreol wythnosol. Ym Mlwyddyn 11, mae grŵp targed yn derbyn sesiynau ar dechnegau cyfrifo, ac mae sesiynau adolygu ar ôl ysgol yn cynnig cyfleoedd i baratoi at arholiadau allanol.
Y tu allan i wersi swyddogol, mae cyfle i holl ddisgyblion yr ysgol gymryd rhan mewn twrnament dartiau blynyddol, gyda’r rownd derfynol yn cymryd lle yn yr Eisteddfod ddiwedd blwyddyn. Mae clwb mathemateg wythnosol yn cynnig lloches dawel i chwarae gemau bwrdd megis Cluedo a Monopoly, neu’n cynnig cyfle i gystadlu’n rhyngwladol mewn gweithgareddau codio. Mae hyn yn datblygu medrau rhifedd pen disgyblion ac yn cyfrannu at ddatblygu eu hyder.
Mae’r cynllun gwaith mathemateg wedi’i ddylunio’n ofalus i adeiladu ar ben testunau blaenorol (nid eu hail-adrodd), cynnig cyfleoedd cyson i adalw gwaith blaenorol (er mwyn datblygu rhuglder), ac yn cynnwys ymarferion wedi’u hamrywio’n ofalus i ddatblygu dealltwriaeth gysyniadol. Cedwir y cynllun gwaith a’r adnoddau addysgu yn sefydlog dros amser er mwyn i athrawon yr adran drafod y ffyrdd gorau o addysgu testun penodol, yn hytrach nac ‘ail-greu’r olwyn’ pob blwyddyn yn datblygu adnoddau newydd.
Ar draws y cwricwlwm, mae’r cydlynydd rhifedd wedi cyd-weithio gyda rheolwyr canol i fapio’r ddarpariaeth yn erbyn y fframweithiau rhifedd cyfredol ym Mlynyddoedd 7 i 9. Darperir cyfleoedd cyson i graffu ar lyfrau er mwyn arfarnu’r ddarpariaeth rhifedd. Mae cyfres o becynnau ‘tasgau ychwanegol’ wedi’u hawduro i gynnig cyfleoedd i ymgorffori medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm, gan gynnwys cyfleoedd i ymgorffori’r 5 hyfedredd mathemategol newydd.
Mae strategaeth rhifedd yr ysgol yn cynnwys cyfleoedd i ymgysylltu gyda disgyblion, rhieni a staff. Cynhelir cyfres o weithdai “rhifedd i rieni”, er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd agwedd bositif tuag at rifedd, ag i egluro sut i ddarganfod a defnyddio adnoddau cefnogol yr ysgol, gan gynnwys gwefan cwestiynau diagnostig. Mae’r adran fathemateg hefyd yn dathlu Diwrnod Pi bob blwyddyn (Mawrth 14eg), gan gynnal gweithgareddau megis cystadleuaeth pobi cacen ar thema pi, cyfle i lunio nenlinell pi (“pi-scraper”), a chyfle i adrodd pi i gymaint o lefydd degol ac sy’n bosib eu cofio.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mewn llawer o achosion, mae’r garfan ym Mlwyddyn 7 sy’n derbyn cymorth ychwanegol gan y chweched dosbarth yn arddangos gwell cynnydd yn eu sgorau profion rhifedd cenedlaethol na gweddill carfan Blwyddyn 7. Dengys holiaduron cyson i Flwyddyn 9 bod llawer o ddisgyblion yn mwynhau eu gwersi mathemateg, a bod y rhan fwyaf o’r disgyblion eisiau gwneud yn dda ym mathemateg. O ganlyniad i’r gwaith cynllunio bwriadus mae llawer o ddisgyblion yn cymhwyso eu medrau rhifedd yn annibynnol i ddatrys problemau mewn cyd-destunau amrywiol ar draws y cwricwlwm.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Cynigir hyfforddiant pwrpasol gan arweinwyr yn y maes i staff yr ysgol, athrawon yr ysgolion cynradd a rhieni ar sut mae cefnogi’r disgyblion orau. Trwy hyn mae arweinwyr wedi datblygu ymagwedd bositif ymysg staff er mwyn codi ymwybyddiaeth pawb o bwysigrwydd rhifedd. Mae’r ysgol yn arloesi drwy rannu ei hadnoddau rhifedd ar ei gwefan bwrpasol ac mae’r adnoddau hyn yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd eraill ar draws Cymru.