Ymatebodd ysgolion pob oed yn gyflym i ddarparu addysg ar gyfer disgyblion pan gaeodd ysgolion. Roedd llawer o ysgolion pob oed yn gweithredu fel hybiau i ddarparu addysg i blant gweithwyr allweddol. Mae’r mwyafrif o ysgolion yn parhau i ddatblygu dysgu o bell ac yn addasu’u strategaethau addysgu i ddull mwy cyfunol ar gyfer pan fydd rhaid i ddisgyblion dreulio mwy o amser gartref. Cred y rhan fwyaf o arweinwyr ysgol bod staff wedi datblygu’u medrau technoleg gwybodaeth yn sylweddol dros y chwe mis diwethaf. Mae’n well gan ychydig o ysgolion ffrydio gwersi’n fyw pan fydd disgyblion gartref, yn hytrach na gweithgareddau anghydamserol, yn enwedig ar gyfer disgyblion y cyfnod cynradd. Mae ysgolion pob oed wedi rhoi blaenoriaeth i rannu arfer dda yn eu hysgol, ar draws cyfnodau ac adrannau.
Ers mis Medi, mae ysgolion wedi ystyried pa ddarpariaeth sydd ei hangen i ddal i fyny ar ddysgu a gollwyd, ac maent yn dechrau cynllunio sut i gau’r bwlch hwnnw.
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion wedi nodi bylchau mewn medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion oedran cynradd. Ymhlith disgyblion oedran uwchradd, mae’r pryder yn ymwneud â chyflawni’r cydbwysedd cywir rhwng cyflwyno gwaith newydd a chyfnerthu dysgu ac adolygu.
Mae bron pob ysgol wedi targedu’r cyllid adfer, recriwtio a chodi safonau i wella medrau llythrennedd a rhifedd yr holl ddisgyblion a chynorthwyo disgyblion Blwyddyn 11 a Blwyddyn 13 gyda’u gwaith cwrs ac asesiadau.
Ers mis Medi, mae bron yr holl ysgolion wedi cynnig y cwricwlwm llawn ac wedi addasu’u dulliau addysgu yn unol â chyfyngiadau trefniadol. Mae ychydig o ysgolion wedi manteisio ar y cyfle i gyflymu’u gwaith ar y Cwricwlwm i Gymru. Caiff disgyblion y cyfnod cynradd eu haddysgu yn eu dosbarth fel arfer. Trefnir disgyblion oedran uwchradd mewn swigod gan gadw pellter cymdeithasol. Mae cyflwyno pynciau ymarferol yn her barhaus i ysgolion. Mae llawer o ysgolion wedi addasu’u cynlluniau ar gyfer monitro a gwerthuso gwaith yr ysgol ac wedi lleihau gweithgareddau’n sylweddol.
Mae medrau Cymraeg disgyblion mewn ysgolion dwyieithog neu ysgolion Cymraeg wedi gwella wrth ddychwelyd ym mis Medi trwy drefniadau trochi a chymorth arbenigol. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn fwy o her o dan y cyfyngiadau presennol. Adroddodd yr ysgolion hyn fod ymgysylltiad disgyblion â’r Gymraeg yn wan yn ystod y cyfnod clo, ac ers dychwelyd, nid yw ychydig o ysgolion wedi gallu darparu arbenigwyr Cymraeg i addysgu pob swigen dosbarth.