Yn gyffredinol, ar draws lleoliadau, mae adolygiadau ac asesiadau statudol wedi parhau er mis Mawrth 2020. Mae hyn oherwydd bod staff ac arbenigwyr addysg ar draws y rhan fwyaf o asiantaethau allanol wedi cynnal cyfathrebu trwy blatfformau digidol. Dywed llawer o arweinwyr fod mwy o bobl broffesiynol yn mynychu cyfarfodydd cynllunio ac adolygu nag erioed o’r blaen.
Dywed arweinwyr fod rhieni’n fodlon â’r adolygiadau rhithwir hyn ac yn ymgysylltu’n dda â nhw, yn y mwyafrif o achosion. Fodd bynnag, mewn lleiafrif o achosion, mae arweinwyr yn nodi nad yw rhieni wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein neu nad ydynt yn hoffi peidio â gallu gweld y staff sy’n gweithio gyda’u plant wyneb yn wyneb.
Mewn lleiafrif o achosion, dywed arweinwyr ysgolion arbennig eu bod wedi cael anawsterau yn darparu ystod lawn yr ymyriadau ar gyfer disgyblion, fel yr amlinellir yn eu datganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae hyn yn arbennig o wir am ddisgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog nad ydynt bob amser wedi gallu manteisio ar ddarpariaeth a gyflwynir o bell. Yn ychwanegol, oherwydd cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol, ni ellir cynnig ymyriadau therapiwtig fel hydrotherapi a therapi adlam mewn llawer o leoliadau.
Mae staff arbenigol o lawer o asiantaethau allanol bellach wedi ailddechrau cynnal apwyntiadau ac ymyriadau therapiwtig wyneb yn wyneb mewn ysgolion arbennig ac UCDau. Mae’r datblygiad cadarnhaol hwn yn helpu cefnogi disgyblion sy’n agored i niwed i ddychwelyd i’w lleoliad, yn enwedig y disgyblion hynny sydd ag anawsterau meddygol ac emosiynol sylweddol.
Fodd bynnag, dywed llawer o arweinwyr fod ychydig o wasanaethau’n parhau i gynnig ymgynghoriadau rhithwir yn unig, a’u bod wedi darparu ymyriadau cyfyngedig i ddisgyblion er mis Mawrth. Mewn ysgolion arbennig, er enghraifft, mae ychydig o arweinwyr yn sôn am anawsterau pan fydd staff o asiantaethau allanol yn gwisgo cyfarpar diogelu personol sy’n anghyfarwydd i ddisgyblion, neu’n ymarfer gwahanol ffyrdd o weithio i gydymffurfio â’u mesurau cadw pellter cymdeithasol eu hunain. Yn yr un modd, mae llawer o arweinwyr UCDau yn mynegi pryderon nad yw seicolegwyr a gwasanaethau cwnsela awdurdodau lleol yn gweld disgyblion wyneb yn wyneb o hyd, fel yr oeddent o’r blaen. Maent yn credu bod hyn yn rhwystro datblygiad disgyblion mewn meysydd allweddol ac yn arafu cynnydd yn unol â thargedau yn eu cynlluniau addysg unigol (CAUau).
Ar draws yr holl leoliadau lle dyrannwyd y cyllid recriwtio, adfer a chodi safonau, mae arweinwyr yn nodi’r amrywiad eang yn y symiau a ddosberthir ar draws gwahanol sectorau ac ysgolion yng Nghymru. Mae llawer ohonynt yn mynegi pryderon am effaith bosibl y swm yr oeddent wedi’i gael dros dro. Mewn mwyafrif o ysgolion arbennig ac UCDau, dywed arweinwyr eu bod yn bwriadu defnyddio’r cyllid i gyfrannu at benodi aelod ychwanegol o staff i gyflwyno pecynnau ymyrraeth teilwredig mewn meysydd fel llythrennedd, rhifedd a lles.