Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar y sector uwchradd – hydref 2020

Diweddarwyd y dudalen hon ar 11/07/2022

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o’r galwadau ffôn ymgysylltu a wnaed i 114 o ysgolion uwchradd rhwng diwedd mis Medi a rhan olaf mis Hydref 2020.  Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar y wybodaeth a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd o bell gyda phenaethiaid ac uwch arweinwyr, yn ogystal â chanfyddiadau o arolygon rhanddeiliaid.  Y prif ffocws ar gyfer pob trafodaeth oedd lles disgyblion, staff ac uwch arweinwyr a naill ai sut roedd ysgolion yn hyrwyddo dysgu neu’n darparu cymorth ar gyfer eu dysgwyr bregus.  Mae’r cyfrannau’n cyfeirio at y sampl o ysgolion yr ydym wedi bod mewn cysylltiad â nhw.   

Mae’r adroddiad hwn wedi  ei lywio gan dystiolaeth o’r ffynonellau canlynol:

  • Cyfarfodydd o bell gyda phenaethiaid ac/neu uwch arweinwyr sy’n gyfrifol am feysydd penodol
  • Canfyddiadau o arolygon i ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr, arweinwyr ysgol, athrawon a staff cymorth 

Prif ganfyddiadau

Lles disgyblion, staff a phenaethiaid

Mae bron pob ysgol yn adrodd bod disgyblion yn hapus i fod yn ôl yn yr ysgol.  Maent wedi addasu’n dda i drefniadau newydd ac yn gwerthfawrogi’r cyfle i weld eu ffrindiau ac athrawon.  Mae llawer o ysgolion yn arbennig o bryderus ynglŷn â disgyblion presennol Blwyddyn 11 sy’n pryderu am yr ansicrwydd ynghylch  arholiadau.

Mae bron pob arweinydd yn teimlo bod y pandemig wedi cryfhau’r ymdeimlad o gymuned o fewn eu hysgol a bod gwaith tîm y staff a’u parodrwydd i addasu wedi bod yn gryfderau arbennig.  Mae bron pob ysgol wedi darparu cymorth ar gyfer lles staff, er bod arweinwyr yn bryderus iawn ynglŷn â lles eu staff, o ran cynaliadwyedd y trefniadau presennol a’r effaith hirdymor.

Mae nifer o ffactorau wedi effeithio’n negyddol ar les penaethiaid ac uwch arweinwyr.  Mae’r rhain yn cynnwys ymateb i gyfarwyddiadau sy’n newid, pryder ynghylch lles cymuned yr ysgol a’r llwyth gwaith ychwanegol a achosir gan faterion gweithredol.  Mae penaethiaid yn gwerthfawrogi’r cymorth gan benaethiaid eraill ond nid ydynt wedi cael fawr o seibiant ers dechrau’r pandemig.

Hyrwyddo dysgu

Ymatebodd bron yr holl ysgolion yn gyflym i ddarparu dysgu o bell i ddisgyblion yn ystod y cyfnod clo, ac fe wnaeth y rhan fwyaf addasu’u darpariaeth dysgu proffesiynol yn gyflym i ganolbwyntio’n fanylach ar ddatblygu medrau digidol ymarferwyr.  Teimla’r rhan fwyaf o arweinwyr fod eu darpariaeth ar gyfer dysgu o bell wedi gwella wrth i hyder athrawon wrth ddefnyddio llwyfannau digidol gynyddu. 

Amrywiol oedd ymgysylltiad disgyblion yn ystod y cyfnod clo.  Yn benodol, ymgysylltiad disgyblion presennol Blwyddyn 11 oedd wannaf.  Yn gyffredinol, mae arweinwyr yn pryderu nad yw’r medrau TGCh sylfaenol sydd eu hangen i ymgysylltu â dysgu digidol ac i wneud cynnydd effeithiol o bell gan ddisgyblion.  Roedd hwn yn un o nifer o ffactorau a effeithiodd ar lefelau ymgysylltu yn ystod tymor yr haf.  I  ymateb i hynny, ers mis Medi, mae llawer o ysgolion yn darparu mwy o gyfleoedd i’w disgyblion ymarfer y medrau hyn yn ystod addysgu wyneb yn wyneb.  Hefyd, mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn canolbwyntio ar fedrau llythrennedd a rhifedd disgyblion gan eu bod wedi nodi bod y rhain, yn gyffredinol, wedi dirywio.

Bu’r rhan fwyaf o ysgolion yn monitro ymgysylltiad yn ystod y cyfnod clo drwy ystyried arferion mewngofnodi a lawrlwytho disgyblion.  Defnyddiodd llawer o ysgolion arolygon rhieni a disgyblion i gefnogi hyn.  Datblygodd ychydig o ysgolion ddulliau i fonitro ansawdd y gwaith a oedd yn cael ei osod.

Mae arweinwyr yn gorfod addasu’u darpariaeth yn unol â chanllawiau COVID-19.  Mae hyn yn cyflwyno nifer o heriau.  Yn benodol, maent yn addasu dulliau o addysgu wyneb yn wyneb ac asesu yn unol â chanllawiau’n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol, yn datblygu dulliau ar gyfer dysgu o bell i baratoi ar gyfer unrhyw darfu pellach ac yn treialu dulliau i ffrydio gwersi’n fyw er mwyn cynyddu ymgysylltiad ag unrhyw ddysgu o bell.  Yn sgil yr angen i arweinwyr ymateb yn rheolaidd i ganllawiau gweithredol COVID-19, mae arweinwyr yn adrodd bod llai o amser ganddynt i feddwl ac i gynllunio’n strategol.

Mae’r sefyllfa bresennol lle mae disgyblion naill ai yn yr ysgol neu gartref yn golygu bod y rhan fwyaf o ysgolion naill ai’n darparu dysgu wyneb yn wyneb neu ddysgu o bell.  Mae ysgolion yn dechrau archwilio dulliau dysgu cyfunol fel mae’r sefyllfa hon yn newid.

Mae’r holl arweinwyr ysgolion uwchradd yn pryderu ynglŷn â’r ansicrwydd mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer arholiadau yn 2021.  Yn benodol, mae ganddynt bryderon ynglŷn â’r pynciau hynny sy’n cynnwys elfennau ymarferol a’r amrywio o ran tarfu o ysgol i ysgol.  Mae ychydig o bynciau yn gweld gweithio gyda’r cyfyngiadau COVID-19 yn heriol, yn enwedig wrth gynllunio a darparu cyfleoedd ar gyfer gwaith ymarferol.

Mae ysgolion dwyieithog neu ysgolion Cymraeg yn arbennig o bryderus fod gallu a hyder disgyblion i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg wedi dirywio.  Mae hyn oherwydd bod disgyblion wedi cael llai o gyfleoedd nag y byddent yn eu cael fel arfer i ymarfer ysgrifennu a sgwrsio yn y Gymraeg.

Cefnogi dysgwyr bregus

Mae ysgolion wedi blaenoriaethu lles disgyblion ac wedi ystyried sut yr effeithir ar ddysgwyr bregus yn benodol gan y pandemig, a sut gallant eu cefnogi.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion bregus wedi croesawu dychwelyd i’r ysgol, a’r strwythur a’r drefn bob dydd.  Mae lleiafrif wedi gweld yr ailintegreiddio yn heriol.

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn darparu cymorth parhaus i deuluoedd disgyblion bregus ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar sut mae’r teuluoedd hyn yn ymgysylltu â’r ysgol.  Wrth baratoi ar gyfer disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi, darparodd llawer o ysgolion ganllawiau clir i rieni a disgyblion ynglŷn ag agweddau iechyd a diogelwch.  Darparodd ychydig o ysgolion gyfleoedd i ddisgyblion bregus a’u rhieni i ymweld â’r safle.

Mae ysgolion yn adrodd bod y bylchau mewn dysgu yn fwy yn gyffredinol ar gyfer disgyblion bregus.  Yn benodol, mae eu medrau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn wannach nag o’r blaen.  Mae ysgolion yn adrodd bod y diffyg gweithgareddau yn gysylltiedig â chreadigrwydd a gwaith ymarferol wedi cael effaith niweidiol ar ymgysylltiad dysgwyr bregus yn arbennig.

Amrywiol yw’r ddarpariaeth cyrsiau cwricwlwm amgen ar gyfer dysgwyr bregus.  Nid yw nifer fawr o gyrsiau allanol ymarferol wedi gallu cael eu cynnal ac mae hyn wedi arwain at ychydig o ddisgyblion yn arddangos ymddygiad heriol neu’n ymddieithrio.

Ar y cyfan, mae ysgolion, awdurdodau lleol a gwasanaethau arbenigol wedi gweithio’n dda â’i gilydd i barhau â’u cymorth ar gyfer disgyblion bregus.  Fodd bynnag, mae’r pandemig wedi arwain at anawsterau o ran cyflwyno rhai o’r gwasanaethau hyn.  Mae cymorth gan wasanaeth yr heddlu a’r gwasanaethau ieuenctid wedi cael ei werthfawrogi’n arbennig gan bron pob ysgol.  Mae llawer o ysgolion yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu ar gyfer staff allweddol sy’n cefnogi dysgwyr bregus. 

Bu cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl, iechyd cyffredinol a chwnsela.  At ei gilydd, mae atgyfeiriadau o ysgolion at wasanaethau arbenigol wedi cynyddu ac mae ysgolion yn pryderu’n gynyddol fod mwy o ddisgyblion yn methu cael asesiad arbenigol neu gymorth.

Yn gyffredinol, fe wnaeth ysgolion elwa o weithio gydag ysgolion eraill a swyddogion awdurdod lleol i rannu adnoddau, trafod materion a datrys problemau er mwyn bodloni dyletswyddau statudol.

Mae bron yr holl ysgolion yn adrodd bod trefniadau i barhau â phrosesau asesu statudol ar gyfer datganiadau o anghenion addysgol arbennig (AAA) wedi parhau ers mis Mawrth.  Mae ysgolion wedi parhau i gynnal adolygiadau blynyddol, gan wneud addasiadau, lle bo angen.  Erbyn hyn, mae ysgolion yn dechrau cynyddu lefel y cymorth i ddisgyblion ag AAA drwy ymyriadau yn yr ysgol.  Mae’r llwyth gwaith gweithredol a achoswyd gan y pandemig wedi arafu cynnydd tuag at y cynllunio ar gyfer gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg [Cymru].