Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar y sector nas cynhelir – Tymor y Gwanwyn 2021

Diweddarwyd y dudalen hon ar 19/08/2021

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o alwadau ffôn ymgysylltu a wnaed i 267 o leoliadau nas cynhelir rhwng diwedd mis Medi 2020 a chanol mis Chwefror 2021. Mae wedi’i seilio ar y wybodaeth a drafodwyd yn ystod galwadau ffôn gydag arweinwyr lleoliadau. Yn ystod tymor yr hydref, cysylltom yn unig â lleoliadau mewn awdurdodau lleol oedd yn ariannu addysg gynnar y tymor hwnnw. O fis Ionawr 2021, rydym wedi cysylltu â lleoliadau ym mhob awdurdod lleol sy’n cynnig addysg gynnar mewn lleoliadau nas cynhelir. Y ffocws ar gyfer pob trafodaeth oedd lles plant a staff, a sut roedd lleoliadau yn cefnogi dysgu ac yn ailsefydlu darpariaeth yn dilyn y cyfnod clo. Mae cyfrannau’n perthyn i’r sampl o leoliadau yr ydym wedi cysylltu â nhw.