Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad am y sector cynradd – hydref 2020

Diweddarwyd y dudalen hon ar 11/07/2022

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o’r galwadau ffôn ymgysylltu a wnaed i 166 o ysgolion cynradd rhwng diwedd mis Medi a rhan olaf mis Hydref 2020.  Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar y wybodaeth a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd o bell gyda phenaethiaid ac uwch arweinwyr, yn ogystal â chanfyddiadau o arolygon rhanddeiliaid.  Y prif ffocws ar gyfer pob trafodaeth oedd lles disgyblion, staff ac uwch arweinwyr a naill ai sut roedd ysgolion yn hyrwyddo dysgu neu’n darparu cymorth ar gyfer eu dysgwyr sy’n agored i niwed.  Mae cyfrannau’n ymwneud â’r sampl o ysgolion yr ydym wedi bod mewn cysylltiad â nhw.   

Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei lywio gan dystiolaeth o’r ffynonellau canlynol: 

  • Cyfarfodydd o bell gyda phenaethiaid ac/neu uwch arweinwyr sy’n gyfrifol am feysydd penodol
  • Canfyddiadau o arolygon ar gyfer disgyblion, rhieni, llywodraethwyr, arweinwyr ysgol, athrawon a staff cymorth

Prif ganfyddiadau

Lles disgyblion, staff a phenaethiaid

  • Cefnogi lles disgyblion oedd y flaenoriaeth i bron pob ysgol wrth iddynt ddychwelyd ym mis Medi.  Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion yn hapus i ddychwelyd i’r ysgol, a chyfeiriodd llawer o benaethiaid at awydd nodedig i ddysgu ac awch am addysg ‘normal’, yn enwedig yn y dechrau’n deg yn nhymor yr hydref. 
  • Mae cefnogi lles staff wedi bod yn flaenoriaeth i uwch arweinwyr a phenaethiaid yn ystod tymor yr hydref.  Yn aml, pwysleisiodd arweinwyr fod staff yn gweithio â gwydnwch ac ymroddiad gwych i gefnogi anghenion disgyblion.  Adroddodd llawer o ysgolion am lefelau uwch o or-bryder ymhlith staff wrth iddynt weithio i ddiwallu anghenion cymdeithasol ac academaidd disgyblion ochr yn ochr â chyfrifoldeb am roi gweithdrefnau iechyd a diogelwch llym ar waith.
  • Dywedodd penaethiaid fod graddau digynsail o bwysau ar eu lles personol wrth iddynt reoli sefyllfaoedd sy’n newid yn gyflym o fewn cymunedau’r ysgolion.  Yn aml, maent wedi amlygu’r cymorth cryf a ddarparwyd gan awdurdodau lleol trwy gydol y pandemig hwn i gefnogi eu lles a’u rolau.

Hyrwyddo dysgu

  • Adolygodd llawer o ysgolion eu cwricwlwm ar gyfer tymor yr hydref a chreu cyfleoedd dysgu i ddisgyblion drafod eu teimladau, rhannu profiadau ac ailadeiladu cyfeillgarwch.  Roedd y rhan fwyaf o ysgolion yn darparu cyfleoedd cynyddol ar gyfer ymarfer corff a dysgu yn yr awyr agored.
  • Yn aml, roedd ysgolion yn ystyried ffyrdd o ddatblygu eu cymorth ar gyfer lles disgyblion yng nghyd-destun eu paratoi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.  Roedd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar y Pedwar Diben a gwella medrau gwydnwch a chydweithio disgyblion, yn ogystal â datblygu eu hunanymwybyddiaeth fel dysgwyr.  Roedd ysgolion a oedd wedi sefydlu a strwythuro dulliau o ddatblygu’r priodoleddau hyn yn teimlo y gallent addasu eu darpariaeth yn effeithiol.
  • Yn ystod hanner cyntaf tymor yr hydref, bu’r rhan fwyaf o ysgolion yn asesu’r cynnydd roedd disgyblion wedi’i wneud er mis Mawrth 2020 mewn modd sensitif.  Defnyddion nhw ddulliau gwahanol, gan gynnwys arsylwadau anffurfiol athrawon, profion safonedig ac offeryn asesu personol Llywodraeth Cymru. 
  • Roedd lleiafrif o benaethiaid o’r farn fod disgyblion yn gwneud cynnydd addas ar y cyfan, pan oedd teuluoedd wedi ymgysylltu’n rheolaidd â dysgu o bell.  Fodd bynnag, roedd mwyafrif ohonynt yn teimlo, yn gyffredinol, fod tystiolaeth o ddysgu disgyblion yn dangos dirywiad yn eu medrau llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).  O ganlyniad, addasodd bron pob ysgol eu cwricwlwm i adnewyddu ac ailedrych ar fedrau disgyblion mewn llythrennedd, rhifedd a TGCh.  Mewn llawer o achosion, defnyddiodd ysgolion ddulliau thematig i ddatblygu’r medrau sylfaenol hyn ac ailedrych arnynt mewn cyd-destunau diddorol. 
  • Mynegodd llawer o benaethiaid bryderon ynghylch medrau siarad a gwrando, a medrau cymdeithasol disgyblion iau neu ddisgyblion sy’n agored i niwed.  Yn aml, roedd ganddynt llai o allu i ganolbwyntio, gwrando ar ddisgyblion eraill neu gydweithio trwy gymryd eu tro a rhannu.
  • Nododd y rhan fwyaf o ysgolion sy’n addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg fod dirywiad yn hyder llawer o ddisgyblion o gartrefi di-Gymraeg wrth siarad Cymraeg.  Roedd hyn yn aml yn fwy amlwg ymhlith dysgwyr iau.  Mae llawer o ysgolion wedi addasu eu cwricwlwm i ddarparu mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ymarfer y medrau hyn.  Mae llawer ohonynt wedi gweithio gydag asiantaethau a phartneriaid allanol i greu pecynnau cymorth ar gyfer disgyblion unigol a’u teuluoedd.
  • Nododd llawer o benaethiaid fod disgyblion a oedd yn ei chael yn anodd ymgysylltu’n effeithiol â dysgu gartref, yn aml yn meddu ar fedrau digidol gwan a oedd yn eu rhwystro rhag dysgu.  I oresgyn hyn, mae llawer o ysgolion wedi integreiddio’r defnydd o offer digidol yn fwy rheolaidd yn arfer yr ystafell ddosbarth i baratoi disgyblion ar gyfer unrhyw gyfnodau pellach o ddysgu o bell.
  • Mae llawer o arweinwyr wedi dechrau meddwl yn strategol ynglŷn â sut i gefnogi a gwella medrau disgyblion i ddysgu’n fwy effeithiol o bell, pe bai’r amgylchiadau’n codi eto.  Maent wedi dechrau cynllunio cyfuniad o gyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein ar gyfer disgyblion yn yr ysgol a gartref.
  • Yn y rhan fwyaf o achosion, bu’n rhaid i ysgolion addasu eu haddysgu i adlewyrchu’r cyfyngiadau ymarferol a roddir ar ystafelloedd dosbarth.  Nododd ychydig o ysgolion fod cyflwyno cwricwlwm eang yn heriol o dan y canllawiau presennol, ac y bu’n rhaid iddynt gyfyngu ar brofiadau dysgu, fel canu, ymweliadau a thasgau mwy ymarferol. 
  • Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr wedi datblygu dulliau o leihau effaith cyfyngiadau COVID-19 ar arferion y cyfnod sylfaen.  Mae llawer o ysgolion wedi addasu eu darpariaeth awyr agored ac wedi datblygu cyfundrefnau glanhau llym i sicrhau bod disgyblion yn gallu cwblhau tasgau ymarferol yn ddiogel o hyd.  Amlygodd arweinwyr bwysigrwydd cynnal addysgeg y cyfnod sylfaen, sy’n cynnwys dysgu gweithredol a dysgu trwy brofiad, ble bynnag y bo modd.
  • Mae llawer o ysgolion wedi defnyddio technoleg i alluogi staff i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau dysgu proffesiynol ar-lein.

Cefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed

  • Mae bron pob ysgol wedi rhoi pwyslais penodol ar gefnogi teuluoedd â disgyblion sy’n agored i niwed.  Mae llawer ohonynt wedi cryfhau eu gweithdrefnau cyfathrebu i ddeall anghenion y disgyblion hyn yn well, a dod o hyd i ffyrdd o’u cefnogi nhw a’u teuluoedd.
  • Mae bron pob un o’r arweinwyr wedi gweithio’n agos â’u hawdurdodau lleol i wneud yn siŵr fod eu hysgolion yn parhau i fod yn lleoedd diogel a chynhwysol ar gyfer eu disgyblion sy’n agored i niwed.  Dywedodd ysgolion fod staff cymorth wedi gweithio’n ddiwyd i sicrhau bod arferion diogel ar waith.
  • Yn gyffredinol, bu ysgolion yn gweithio’n agos ag asiantaethau partner, gan gynnwys seicolegwyr addysg a thimau cymorth ymddygiad i sicrhau cymorth ar gyfer disgyblion sy’n agored i niwed.  Mae llawer o arweinwyr wedi elwa ar y modd y mae gweithio mewn clystyrau wedi eu helpu i gefnogi disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.  Er enghraifft, ffurfiodd cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol gwahanol ysgolion berthnasoedd cefnogol ymhlith ei gilydd i rannu arbenigedd a darparu cymorth effeithiol.
  • Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod prosesau statudol ar gyfer disgyblion sy’n agored i niwed yn parhau o bell dros y cyfnod clo.  Dywedodd mwyafrif ohonynt fod cynnydd wedi bod mewn achosion amddiffyn plant yn ystod y cyfnod hwn.  Mae ysgolion yn gwerthfawrogi gwaith yr heddlu a gwasanaethau eraill o ran eu hysbysu os yw plant wedi bod yn dyst i drais domestig, er mwyn i staff allu cynnig cymorth iddynt.
  • Mae’r rhan fwyaf o ysgolion wedi dechrau cyflogi aelodau ychwanegol o staff neu wedi cynyddu oriau staff presennol gan ddefnyddio cyllid ‘recriwtio, adfer a chodi safonau’.  Mae llawer ohonynt yn defnyddio’r adnodd hwn i fynd i’r afael â bylchau ym medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion neu i roi cymorth iddynt ddelio â’u hemosiynau.  Mae ychydig o ysgolion wedi blaenoriaethu cymorth i ddatblygu medrau disgyblion sy’n agored i niwed i ddysgu’n annibynnol.