Rheolwr Pobl a Datblygu Sefydliadol
Rydym ni’n chwilio am Reolwr Pobl a Datblygu Sefydliadol i arwain a rheoli’r swyddogaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol o ran datblygu a chyflwyno strategaethau ac ymyriadau yn gysylltiedig â phobl i sicrhau bod amcanion busnes yn cael eu bodloni ac yn cefnogi mentrau ac ymyriadau datblygu sefydliadol yn uniongyrchol.
Tasgau allweddol:
- Cefnogi’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Arolygu a Gwasanaethau Canolog) i ddatblygu a gweithredu strategaeth Pobl y sefydliad, i gyd-fynd â nodau sefydliadol a dangosyddion perfformiad allweddol (DPA).
- Gweithredu fel y deiliad cyllideb ar gyfer y gyllideb sy’n gysylltiedig â Phobl yn unol â threfniadau llywodraethu sefydliadol.
- Goruchwylio gweithrediadau Pobl a Datblygu Sefydliadol, yn cynnwys cysylltiadau â chyflogeion, gweithredu polisi, recriwtio, hyfforddi a datblygu, ymgysylltu, dadansoddeg gweithle, cyflogres, iechyd a lles.
- Darparu cyngor ac arweiniad ar gyfer rheolwyr a chyflogeion ar faterion cymhleth yn ymwneud â Phobl gan ystyried cynseiliau a chyfraith cyflogaeth.
- Goruchwylio mentrau datblygu sefydliadol, yn cynnwys ymgysylltu â chyflogeion, amrywiaeth a chynhwysiant, a rheoli doniau.
- Sicrhau bod polisïau Pobl yn cael eu hadolygu’n rheolaidd ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth cyflogaeth ac arferion gorau.
- Partneru ag uwch arweinwyr i gefnogi mentrau rheoli newid a darparu cyngor strategol ar gynllunio’r gweithlu.
- Gweithredu fel cyswllt â rhanddeiliaid allanol, fel cyrff y llywodraeth, i feithrin cydweithio a dysgu ar y cyd.
- Datblygu a chyflwyno mentrau rheoli doniau a chynllunio dilyniant, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â strategaethau cynllunio’r gweithlu.
- Bod yn arweinydd y swyddogaeth ar berthnasoedd ag Undebau Llafur, mynychu fforymau ymgynghorol Undebau Llafur mewnol perthnasol, a pharhau i alluogi gwaith partneriaeth effeithiol.
- Sicrhau bod y systemau Rheoli Pobl yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol a goruchwylio’r gyflogres a rheoli data yn unol â chydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
- Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad, yn cynnwys y Gymraeg, o ran gweithredu strategaethau i wella cynrychiolaeth y gweithlu.
- Arwain a chefnogi’r tîm Pobl, gan ddarparu cyfeiriad, cyfleoedd datblygu, a rheoli perfformiad.
- Arwain o ran cynllunio a gweithredu strategaethau iechyd a lles, partneru â’r darparwr Iechyd Galwedigaethol i gynnal asesiadau risg straen a nodi ffyrdd o helpu meithrin gwydnwch sefydliadol.
- Goruchwylio darparu gwybodaeth allweddol am reoli’r gweithlu a dadansoddiadau tueddiadau ar gyfer y bobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol; defnyddio gwybodaeth am y gweithlu i lywio datblygiad cynlluniau a strategaethau y gwasanaeth.
- Prif bwynt cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Cabinet ac AD y Gwasanaeth Sifil a chynrychioli Estyn mewn cyfarfodydd neu rwydweithiau allanol.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel y gallent fod yn ofynnol yn rhesymol gan reolwyr.
Hyd: Parhaol
Cyflog: £45,974 – £54,430 y flwyddyn (Sylwer y bydd cyflog cychwynnol fel arfer yn cael ei gynnig ar ran isaf y band)
Y Gymraeg: Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd, ac mae llawer o’n rhanddeiliaid yn ddwyieithog. Mae medrau Cymraeg (ysgrifenedig a llafar) yn ddymunol ar gyfer y swyddi hyn.
Lleoliad: Mae’r rôl wedi’i lleoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd: Llys Angor, Heol Keen, Caerdydd, CF24 5JW. Rydym yn gweithredu trefniadau gweithio hybrid anffurfiol ar hyn o bryd, yn amodol ar anghenion y busnes a chytundeb eich rheolwr. Bydd disgwyl i chi fynychu’r swyddfa rywfaint o’r amser i alluogi cymorth a datblygiad parhaus a’ch galluogi i gydweithio â’ch cydweithwyr. Ni ellir gweithio yn y rôl hon dramor; dim ond yn y Deyrnas Unedig.
Oriau gwaith a gweithio hyblyg: Yr oriau amser llawn yw 37 awr, 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio egwylion.
Ffurflen gais: JobBoard
Dyddiad cau: 09:00yb 03 Mawrth 2025