Rhaglen Arweinwyr o Leiafrifoedd Ethnig
Ynglŷn â’r rhaglen
Nod ein rhaglen arweinyddiaeth yw helpu lleihau’r rhwystrau rhag dilyniant gyrfa i weithwyr proffesiynol addysg o gefndiroedd ethnig leiafrifol er mwyn i ni allu creu gweithlu addysg mwy cynrychioliadol a chynhwysol yng Nghymru.
Mae’r rhaglen yn ein helpu i gynyddu amrywiaeth ymhlith ein harolygwyr ac ehangu profiadau ymgeiswyr, gan helpu i adeiladu profiad i gefnogi dilyniant gyrfa yn y dyfodol.
Mae’n cefnogi tegwch a chydraddoldeb mewn addysg – yn enwedig o ran hawl dysgwyr i fod yn barod ar gyfer bywyd mewn byd amrywiol er mwyn iddynt allu adnabod eu hunain a’u profiadau yn eu delfrydau ymddwyn.
Ar gyfer pwy mae’r rhaglen?
Nid yw ar gyfer uwch arweinwyr yn unig, ond arweinwyr canol hefyd. Hoffen ni glywed gan y gweithwyr proffesiynol addysg hynny o gefndiroedd ethnig leiafrifol sy’n gweithio yn y sectorau canlynol:
- Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol
- Lleoliadau nas cynhelir
- Ysgolion arbennig
- Ysgolion cynradd, uwchradd a phob oed a gynhelir
- Colegau addysg bellach (AB)
- Darparwyr addysg gychwynnol athrawon (AGA)
Byddwch yn gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a/neu Saesneg a:
- Byddwch yn uniaethu fel rhywun sydd o gefndir ethnig lleiafrifol.
- Byddwch yn gweithio mewn ysgol, coleg AB, darparwr AGA, Awdurdod Lleol, Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol, lleoliad nas cynhelir neu ysgol arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn parhau i wneud hynny trwy gydol y rhaglen.
- Bydd gennych o leiaf 5 mlynedd o brofiad addysgu.
- Bydd gennych gyfrifoldeb addysgu, dysgu neu les (am dâl neu heb dâl).
- Bydd gennych gefnogaeth eich pennaeth neu gyflogwr i’ch galluogi i gymryd rhan mewn sesiynau wyneb-yn-wyneb a gweithgareddau arolygu.
Beth fydd y rhaglen yn ei gynnwys?
Yn ystod y rhaglen, byddwch:
- Yn ennill profiad o’n fframweithiau arolygu.
- Yn datblygu medrau arolygu a gwerthuso ar draws pob maes arweinyddiaeth addysg.
- Yn dyfnhau eich dealltwriaeth o arweinyddiaeth feithiol ac yn ennill profiad perthnasol i’ch cynorthwyo i fodloni’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
- Yn meithrin medrau effeithiolrwydd, arweinyddiaeth a chyfathrebu personol i’ch helpu i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau o ran hyder a phrofiad.
- Yn gallu manteisio ar fentora/anogaeth gydag AEF profiadol i gefnogi eich datblygiad.
- Yn cymryd rhan mewn gweminarau a gweithdai ar fedrau cyfathrebu ac arwain.
- Yn meithrin rhwydwaith dysgu cydweithredol gyda chyfranogwyr eraill.
Sut i wneud cais
Darllenwch y pecyn cais llawn cyn gwneud cais drwy’r ddolen isod:
Dyddiad cau: Dydd Gwener 30 Mai 2025 am 5:00yh.