Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Gradd 6) – Arolygydd Ei Fawrhydi


Rydym yn chwilio am ddau o’r arweinwyr craffaf a gorau i ymuno â ni fel Cyfarwyddwyr Cynorthwyol yn ein huwch dîm arweinyddiaeth. Yn y rôl hon, byddwch yn rheoli tîm o arolygwyr, yn ogystal ag arwain cyfrifoldebau ar draws y sefydliad.

Mae ein Cyfarwyddwyr Cynorthwyol yn gweithio ar draws sectorau, ond ar gyfer y ddwy rôl hon, byddai profiad o arwain gwaith ar draws addysg drydyddol neu o fewn gwasanaethau addysg awdurdod lleol yn fanteisiol.

Mae tasgau allweddol yn cynnwys:

  • Arwain a gosod cyfeiriad ar gyfer gwaith Estyn yn y dyfodol fel rhan o’n huwch dîm arweinyddiaeth, a sicrhau bod ein datblygiad a’n diwylliant sefydliadol yn cefnogi hyn
  • Datblygu a chyflwyno fframweithiau arolygu, arweiniad ac arfer ar draws y sectorau rydych chi’n gyfrifol amdanynt i sicrhau gwelliant parhaus mewn perfformiad ac arfer arolygu
  • Sicrhau cyflwyno rhaglenni arolygu cylchol ac adolygiadau thematig o ansawdd uchel
  • Golygu, cadarnhau a sicrhau ansawdd adroddiadau arolygu a thematig
  • Datblygu perthnasoedd cryf â’n partneriaid allweddol ar draws y system addysg
  • Arwain, cynghori, llywio a dylanwadu ar drafodaethau polisi gyda Medr a Llywodraeth Cymru
  • Nodi a goruchwylio datblygiad gweithgareddau i feithrin gallu a hyrwyddo arfer orau yn y system addysg yng Nghymru
  • Rheoli llinell a datblygu grŵp o arolygwyr

Hyd: Parhaol

Cyflog: £70,455 – 82,245 yn ogystal â lwfans recriwtio a chadw o £6,920 bob blwyddyn (Sylwer y bydd cyflog cychwynnol fel arfer yn cael ei gynnig ar ran isaf y band)

Y Gymraeg: Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd, ac mae llawer o’n rhanddeiliaid yn ddwyieithog. Mae medrau Cymraeg (ysgrifenedig a llafar) yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Oriau gwaith: Yr oriau amser llawn yw37 awr, 5 diwrnod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener), ac eithrio egwyliau.   

Ymholiadau: Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â Jassa Scott ar .

Ymgeisiwch ar-lein: I wneud cais am y rôl, ewch i – Hysbysfwrdd Swyddi

Dyddiad cau:  10:00am 28 Tachwedd 2024