Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant (AEF) - Estyn

Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant (AEF)


Rydym yn chwilio am rai o’r arweinwyr disgleiriaf a gorau o bob cefndir i ymuno â ni i gyflawni rhagoriaeth i bob dysgwr yng Nghymru. Mae rôl Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF) yn un gyffrous ac amrywiol sy’n rhoi golwg unigryw i chi ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Daw ein AEF o ystod amrywiol o gefndiroedd arwain mewn addysg a hyfforddiant. Pa lwybr bynnag y mae eich gyrfa wedi’i ddilyn hyd yma, bydd gennych hanes cryf o welliant gyda phrofiad o arloesi ar lefel strategol. Byddwch chi hefyd yn deall y tirlun addysg a hyfforddiant ehangach a rôl arolygu fel grym ar gyfer gwella.

Gallwch, er enghraifft, fod yn:

  • uwch arweinydd mewn ysgol uwchradd neu’n uwch arweinydd uwchradd mewn ysgol bob oed
  • cyfarwyddwr / cyfarwyddwr cynorthwyol gwasanaeth gwella ysgolion neu bartner gwella ysgolion
  • arweinydd maes gwasanaeth mewn cyfarwyddiaeth addysg awdurdod lleol
  • rheolwr neu’n arweinydd ansawdd mewn darparwr prentisiaethau dysgu yn y gwaith
  • is-bennaeth neu’n gyfarwyddwr dysgu mewn coleg addysg bellach
  • prif swyddog neu’n arweinydd ieuenctid mewn darparwr gwaith ieuenctid gwirfoddol

Ar gyfer y rownd recriwtio hwn, rydym yn chwilio am bobl sydd â chefndir mewn:

  • Addysg uwchradd
  • Colegau ôl-16/Addysg bellach
  • Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol
  • Gwaith ieuenctid

Cyflog: £70,455 – £82,425 (codiad cyflog yn yr arfaeth).

Hyd: Parhaol

Y Gymraeg:. Mae dwy swydd ar gael yn y sector ôl-16/addysg bellach. Mae medrau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn ac yn ddymunol ar gyfer y llall.

Mae medrau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer swyddi ym mhob sector arall.

Lleoliad: Mae ein prif swyddfa yng Nghaerdydd ac mae ein Harolygwyr yn gweithio o gartref. Mae ein gwaith yn cael ei wneud yng Nghymru.

Trwydded yrru a defnydd o gar: Yn sgil y gofyniad i deithio’n fynych ledled Cymru, dylai fod trwydded yrru gyfredol gennych, a defnydd o gar neu’r gallu i wneud trefniadau teithio amgen addas.

Oriau gwaith: Ein horiau gwaith arferol yw 37 awr yr wythnos dros wythnos bum niwrnod (Llun i Gwener), heb gynnwys cinio. Mae’r rôl hon yn gofyn am deithio’n fynych ledled Cymru, a’r angen i aros i ffwrdd o gartref yn rheolaidd am hyd at bedair noson ar y tro.  Rydym yn croesawu ceisiadau am oriau rhan-amser/gostyngol, rhannu swydd neu sail hyblyg arall.

Ymgeisiwch ar-lein: I wneud cais am y rôl, ewch i – Hysbysfwrdd Swyddi

Dyddiad cau: 10:00yb 07 Ionawr 2025