Arolygwyr Cymheiriaid ac Ychwanegol Uwchradd

Rydym yn recriwtio Arolygwyr Cymheiriaid neu Ychwanegol i weithio gyda ni yn ystod ein harolygiadau o’r sectorau uwchradd.
Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr unigol sydd â:
- o leiaf ddwy flynedd o brofiad mewn rôl uwch arweinydd, (fel Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, Pennaeth Cynorthwyol, Athro â Gofal am UCD)
- o leiaf 5 mlynedd o brofiad addysgu
- cefnogaeth gan eich Pennaeth / Athro â Gofal neu Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr neu’ch Perchennog neu Gadeirydd y Llywodraethwyr (os ydych chi’n Bennaeth / Athro â Gofal eich hun) i fynychu’r cwrs a chael eich defnyddio fel Arolygydd Cymheiriad (yn y sector uwchradd rydym yn arolygu rhwng Medi a diwedd hanner cyntaf tymor yr haf)
Rhaid i Arolygwyr Cymheiriaid fod yn gweithio yn y sector uwchradd ar hyn o bryd i fod yn gymwys ar gyfer y rôl hon.
Mae Arolygwyr Ychwanegol yn arolygwyr sydd â phrofiad o arwain yn y sectorau uwchradd ond gall eu bod wedi neu ar fin ymddeol neu adael. Maent yn tendro am waith.
Mae recriwtio’n dechrau o ddydd Llun, 10 Mawrth tan ddydd Mercher, 9 Ebrill 2025