Ynglŷn â’r newidiadau
Rydym wedi ymgynghori ag unigolion a sefydliadau yn y sectorau gwasanaethau ieuenctid, ysgolion ac UCDau, ôl-16 (addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned a cholegau arbenigol annibynnol), Cymraeg i oedolion a gwasanaethau addysg llywodraeth leol.
Gellir gweld y canfyddiadau tuag at waelod y dudalen hon.
Ein hymagwedd
Cynnwys
- Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi ymgysylltu’n eang â’n holl randdeiliaid a phartneriaid i wneud yn siŵr y caiff eu safbwyntiau eu cynnwys yn y modd y byddwn yn mynd i’r afael ag arolygu o 2024 ymlaen.
- Roeddem eisiau clywed syniadau pawb am ein cynigion cynnar, sy’n edrych yn wahanol mewn sectorau gwahanol.
Gwrando
- Rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau pawb sy’n gysylltiedig ag addysg ac yn gwrando’n ofalus arnynt – o uwch arweinwyr a phenaethiaid i athrawon, darlithwyr, cynorthwywyr dosbarth, rhieni, dysgwyr a’r gymuned ehangach.
Arbrofi ac adolygu
- Buom yn arbrofi ag ymagweddau ychydig yn wahanol tuag at arolygu gydag ychydig o ddarparwyr ar draws pob sector. Bydd adborth o’r arbrofion hyn yn parhau i lywio’r cam datblygu nesaf.
- Rydym yn defnyddio’r adborth hwn i adolygu beth a sut rydym yn arolygu i wneud yn siŵr fod ein gwaith yn mynd bob yn gam â newidiadau yng Nghymru ac yn bodloni anghenion y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr.
Beth fydd yn llywio’r ymagwedd newydd?
- Yng Nghymru, mae gennym genhadaeth genedlaethol i wella addysg a hyfforddiant i bob dysgwr, lle mae gan bob partner sy’n gysylltiedig â gwella addysg rôl allweddol i’w chwarae.
- Dysgwyr fydd ein blaenoriaeth o hyd. Mae eu lles pennaf wrth wraidd popeth a wnawn.
- Mae’r trefniadau newydd yn canolbwyntio mwy ar y meysydd pwysicaf sy’n sbarduno gwelliant.
- Bydd ein trefniadau’n hylaw i bob darparwr ac yn ategu eu prosesau gwerthuso a gwella eu hunain. Rydym wedi archwilio amrywiaeth ehangach o weithgareddau arolygu i gefnogi gwelliant yn well ar draws darparwyr a sectorau unigol. Mae hyn yn cynnwys sut rydym yn teilwra gweithgarwch mewn arolygiadau darparwyr unigol, arolygiadau thematig ac ystod o ymweliadau eraill.
- Byddwn yn cysylltu ag ysgolion a darparwyr eraill yn fwy rheolaidd, gan gynnig adborth mwy cyfredol i rieni a gofalwyr.
- Rhan o’n nod yw dod ag arolygiadau allanol a phrosesau gwerthuso mewnol darparwyr yn nes at ei gilydd. Bydd cydweddiad gwell rhwng y prosesau hyn yn cefnogi gwelliant yn well.
- Byddwn yn parhau i ddefnyddio’n hadnoddau lle mae eu hangen fwyaf, er enghraifft gyda lleoliadau y mae angen cefnogaeth a monitro arnynt i wella.
Ymatebion i’r ymgynghoriad
Diolch i chi am eich ymgysylltiad parhaus i ddatblygu ein trefniadau arolygu newydd.
Roeddem yn falch bod cynifer ohonoch wedi rhoi o’ch amser i ymateb i’n hymgynghoriadau hyd yn hyn a mynegi eich cefnogaeth i’r ymagweddau, yn ogystal â rhannu llawer o syniadau gwych i gyfrannu at y cam datblygu nesaf.
Isod, cewch ganlyniadau’r ymgynghoriadau a wnaed hyd yn hyn.
Sectorau addysg a hyfforddiant ôl-16
Rydym yn ddiolchgar i’r rhai sydd wedi cyfrannu at ein hymgynghoriad diweddar ar ein cynlluniau arfaethedig yn y sectorau addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, a cholegau arbenigol annibynnol.
Rydym yn falch o rannu canfyddiadau ein hymgynghoriad diweddar.
Cymraeg i Oedolion - Canlyniadau’r Ymgynghoriad
Rydym yn ddiolchgar i'r rhai a gyfrannodd at ein hymgynghoriad diweddar yn y sector Cymraeg i Oedolion. Gellir dod o hyd i ganfyddiadau ein hymgynghoriad yma.
Canlyniadau’r Ymgynghoriad – Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL)
Rydym yn ddiolchgar i'r rhai sydd wedi cyfrannu at ein hymgynghoriad diweddar ar draws Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol (GALlL).
Rydym yn falch o rannu canfyddiadau ein hymgynghoriad isod.
Ymatebion ysgolion ac UCDau i’r ymgynghoriad
Rydym wedi mynd ati’n raddol i ddatblygu arolygu mewn Ysgolion ac UCDau, gan gyflwyno nifer o newidiadau i’r fframwaith arolygu, sydd wedi cael eu rhoi ar brawf dros 12 mis. Cafwyd arolygiadau peilot pellach i brofi unrhyw newidiadau yn drylwyr.
Arolygiadau gwaith ieuenctid - ymateb i'r ymgynghoriad
Bydd ein dull arolygu wedi’i deilwra i’r sector gwaith ieuenctid. Rydym wedi datblygu model y gellir ei gymhwyso i waith ieuenctid a gyflwynir gan awdurdodau lleol ond ar wahân hefyd i fudiadau sector gwirfoddol sy’n darparu gwaith ieuenctid, lle bo’n briodol. Byddwn yn cyd-ddylunio ac yn cyflawni arolygu gyda’r sector a thrwy ymgysylltu â phobl ifanc sy’n manteisio ar waith ieuenctid cyn cynnal arolygiadau peilot yn ystod y flwyddyn hon.