Holiadur cyn arolygiad – pwyllgor rheoli (unedau cyfeirio disgyblion)
Hoffem glywed eich barn am eich rôl o fewn yr Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) fel aelod o’r pwyllgor rheoli. Darllenwch bob datganiad gan ystyried eich profiadau eich hun fel aelod a thiciwch y blwch sy’n cyfateb orau i’ch barn. Gobeithio y bydd ymateb i’r cwestiynau hyn yn gallu cael ei ddefnyddio hefyd i lywio a llunio’ch gwaith fel pwyllgor rheoli.
Mae eich barn yn bwysig i ni. Mae eich atebion chi ac atebion pobl eraill yn helpu i lywio’r arolygiad. Lle y bo’n briodol, gallem ddefnyddio’r holiaduron hyn hefyd i’n helpu i lunio darlun cenedlaethol o waith darparwyr addysg ar draws Cymru.
Mae’r holiadur yn ddienw. Mae eich ymatebion yn gyfrinachol ac nid ydym yn gofyn am eich enw.
Bydd arolygwyr Estyn:
- yn darllen eich atebion
- byth yn datgelu eich atebion unigol i’r UCD nac i unrhyw un y tu allan i Estyn. Yr unig amser pan y gallem ni rannu gwybodaeth gyda phobl eraill yw os oes gennym ni bryderon am ddiogelwch disgyblion.
Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisi ar gadw data.