Hoffem wybod am eich rôl o fewn yr ysgol fel aelod o’r corff llywodraethol. Darllenwch bob datganiad gan ystyried eich profiadau eich hun fel llywodraethwyr a thiciwch y blwch sy’n cyfateb orau i’ch barn. Gobeithio bydd ymateb i’r cwestiynau hyn yn gallu cael eu defnyddio hefyd i lywio a llunio eich gwaith fel corff llywodraethol.
Mae eich barn yn bwysig i ni. Bydd eich atebion chi ac atebion pobl eraill yn helpu i lywio’r arolygiad. Lle y bo’n briodol, gallem ddefnyddio’r holiaduron hyn hefyd i helpu llunio darlun cenedlaethol o waith darparwyr addysg ar draws Cymru.
Mae’r arolwg yn ddienw. Mae eich atebion yn gyfrinachol ac nid ydym yn gofyn am eich enw.
Bydd arolygwyr Estyn:
- yn darllen eich atebion
- byth yn datgelu eich atebion unigol i’r ysgol nac i unrhyw un arall y tu allan i Estyn. Yr unig amser pan y gallem ni rannu gwybodaeth gyda phobl eraill yw os oes gennym ni bryderon am ddiogelwch dysgwyr.
Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisi ar gadw data.