Inspection Questionnaire Category: Holiaduron - addysg bellach
Rhowch eich barn i ni am eich coleg.
Darllenwch bob brawddeg a rhoi tic yn y blwch sy’n cyfateb i’ch barn. Nid oes atebion cywir nac anghywir. I rai cwestiynau, byddwch chi’n gallu esbonio pam y dewisoch chi’r ateb hwnnw, os hoffech chi wneud hynny.
Meddyliwch am eich profiadau eich hun ac nid am brofiadau eich ffrindiau. Byddwch yn onest.
Mae eich barn yn bwysig i ni. Byddwn ni’n darllen eich atebion ac yn eu defnyddio i ddysgu rhagor am y coleg. Hefyd, gallem ni ddefnyddio’r holiaduron hyn i’n helpu i ddeall beth yw barn dysgwyr am golegau ar draws Cymru.
Mae’r holiadur yn ddienw. Nid ydym i’n gofyn am eich enw. Mae hyn yn golygu bod eich atebion yn gyfrinachol.
Bydd arolygwyr Estyn yn:
- darllen eich atebion
- dweud wrth bobl eraill beth rydych chi wedi’i ddweud dim ond os ydyn nhw’n
poeni am eich diogelwch chi neu am ddiogelwch dysgwr arall.
Os ydych chi’n poeni am unrhyw beth yn y coleg, mae’n bwysig eich bod chi’n siarad ag oedolyn yn y coleg neu gartref.
Bydd eich atebion yn cael eu cadw’n ddiogel yng nghronfeydd data Estyn yn unol â’n polisïau.