Trosolwg
Mae’r ymadrodd dysgu yn y gwaith yn nodi rhaglenni:
- sy’n cael eu cyflwyno yn y gweithle
- sydd fel arfer yn cynnwys elfen i ffwrdd o’r gwaith pan fydd y dysgwr yn mynd i ganolfan hyfforddi neu goleg ar gyfer rhannau theori’r rhaglen
- pan fydd dysgwyr yn cyflawni cyfres o gymwysterau cydnabyddedig
Mathau o raglenni hyfforddi dysgu yn y gwaith
Prentisiaethau
Caiff prentisiaid eu cyflogi ac maent yn gweithio mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae prentisiaethau ar gael ar lefel 2, lefel 3 ac ar lefel prentisiaeth uwch (lefel 4 ac uwch).
Mae prentisiaid yn dechrau eu hyfforddiant ar lefelau gwahanol yn dibynnu ar y swydd, eu profiad blaenorol ac anghenion cyflogwyr. Yn ogystal â datblygu eu medrau cysylltiedig â gwaith yn y gweithle, mae prentisiaid yn gweithio tuag at gyflawni cyfres o gymwysterau cydnabyddedig.
Mae prentisiaethau ar agor i unrhyw un dros 16 oed, gan gynnwys pobl ag anabledd, cyflwr iechyd neu anhawster dysgu. Nid oes uchafswm oedran. Oherwydd bod prentisiaid yn cael eu cyflogi gan y sefydliad y maent yn gweithio iddo, rhaid iddynt wneud cais pan fydd swyddi’n cael eu hysbysebu, fel unrhyw swydd arall. Bydd y cyflogwr sy’n hysbysebu’r brentisiaeth yn datgan pa gymwysterau, medrau a phrofiad sydd eu hangen arnynt.
O Awst 2021 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi contractio deg prif ddarparwr hyfforddiant i gyflwyno prentisiaethau ledled Cymru. Mae’r prif ddarparwyr hyn yn gweithio gyda llawer o isgontractwyr i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth.
Ymweliadau monitro dysgu yn y gwaith, Medi 2021 hyd at fis Gorffennaf 2022
Ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod contractio newydd ar gyfer darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith, cynhaliom ymweliadau monitro â phob un o’r prif ddarparwyr a’u hisgontractwyr.
Canolbwyntiom ar y perthnasoedd strategol rhwng y prif ddarparwr a’i isgontractwyr ac aelodau consortia, yn ogystal ag effaith addysgu, hyfforddiant ac asesu ar ansawdd dysgu a chynnydd dysgwyr.
Yn ystod yr ymweliad monitro, siaradodd arolygwyr â dysgwyr a staff ar bob lefel. Ymwelodd arolygwyr â sampl o isgontractwyr, cyfarfod ag arweinwyr a siarad â dysgwyr. Hefyd, adolygont y rheolaeth ar y rhaglen brentisiaeth a sicrhau ei hansawdd.
Cyhoeddom lythyron i ddarparwyr yn dilyn yr ymweliad. Rhoddodd y llythyron hyn wybodaeth am y trefniadau strategol gydag isgontractwyr ac aelodau consortia, ystod y ddarpariaeth prentisiaethau ac amlinellont rai o brofiadau diweddar y dysgwyr.
Hefyd, cyhoeddom adroddiad cenedlaethol yn seiliedig ar ganfyddiadau ein hymweliad:
Wele wybodaeth a llythyron darparwyr Prentisiaethau dysgu yn y gwaith:
Associated Community Training Ltd
Rhaglen Cyflogadwyedd – Twf Swyddi Cymru +
Mae rhaglen ieuenctid Twf Swyddi Cymru + yn rhaglen hyfforddiant, datblygu a chymorth cyflogadwyedd unigol i bobl ifanc 16 i 18 oed sy’n byw yng Nghymru ac yr asesir nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant amser llawn (NEET). Ei nod yw rhoi’r medrau, y cymwysterau a’r profiad i bobl ifanc gael swydd neu hyfforddiant pellach. Mae’n rhaglen hyblyg sydd wedi’i chynllunio o gwmpas y person ifanc. Amcanion allweddol y rhaglen yw lleihau nifer y bobl ifanc NEET a chynorthwyo pobl ifanc i wneud y mwyaf o’u potensial.
Mae Twf Swyddi Cymru + yn rhaglen Llywodraeth Cymru sydd wedi’i chynnwys yn y Gwarant i Bobl Ifanc (cynnig cymorth wedi’i warantu i bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu fod yn hunangyflogedig).
O Ebrill 2022 i Fawrth 2026, mae Llywodraeth Cymru wedi contractio rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant i gyflwyno’r rhaglen hon ar draws pedair ardal ranbarthol: y gogledd, y de-orllewin a’r Canolbarth, canol y de a de-ddwyrain Cymru. Mae pob rhanbarth yn cynnwys prif ddarparwyr contract yn gweithio gydag isgontractwyr partner i ddarparu rhaglen integredig o ddysgu a/neu ddatblygu.
Mae cynghorwyr Cymru’n Gweithio yn atgyfeirio pobl ifanc i ddarparwyr y rhaglen ac yn darparu asesiad cychwynnol o’r cymorth sydd ei angen, gan nodi canghennau priodol y rhaglen:
Ymgysylltu – Mae’r gangen hon yn helpu pobl ifanc i benderfynu pa lwybr gyrfa yr hoffent ei ddilyn.
Datblygiad – Mae’r gangen hon yn cynnig cymorth neu raglenni sy’n cynnig cymwysterau i helpu’r person ifanc i symud ymlaen i astudiaethau pellach, hyfforddiant neu waith.
Cyflogaeth – Mae’r gangen hon yn darparu cyfleoedd gwaith â chymhorthdal i bobl ifanc.
Bydd pobl ifanc ar y rhaglen, sy’n cael eu galw’n gyfranogwyr, yn cael cynllun dysgu unigol (CDU). Mae’r cynllun hwn yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno gan ddarparwyr a fydd yn cynorthwyo’r person ifanc i ennill y medrau, y cymwysterau a’r profiad i symud ymlaen i ddysgu ar lefel uwch, cyflogaeth (gan gynnwys hunangyflogaeth) neu brentisiaeth.
Ymweliadau monitro rhanbarthol Twf Swyddi Cymru + Hydref 2022 i Orffennaf 2023
Ym mlwyddyn gyntaf cyfnod contractio newydd rhaglen Twf Swyddi Cymru +, byddwn yn cynnal ymweliadau monitro â phob un o’r pedwar rhanbarth ac yn ymweld â phrif ddarparwyr y contract a’u partneriaid.
Yn ystod yr ymweliad monitro, bydd arolygwyr yn arsylwi cyfranogwyr mewn sesiynau, yn siarad â nhw ac yn adolygu’u cynlluniau dysgu unigol a’u dogfennau allweddol. Bydd arolygwyr yn arsylwi tiwtoriaid ac yn cyfarfod ag arweinwyr ar draws y sefydliadau sy’n cyflwyno’r rhaglen ym mhob rhanbarth.
Byddwn yn cyfarfod â staff allweddol o Gymru’n Gweithio a chydlynwyr partneriaethau addysg eraill i adolygu’r broses atgyfeirio. Hefyd, bydd arolygwyr yn adolygu ansawdd a phriodoldeb y safle a’r adnoddau ar gyfer y rhaglen.
Bydd arolygwyr yn adrodd canfyddiadau allweddol yr adborth yn ôl i’r darparwyr yn y rhanbarth ar ddiwrnod olaf yr ymweliad a byddwn yn cyhoeddi adroddiadau rhanbarthol yn dilyn yr ymweliadau.
Rydym wedi cyhoeddi adroddiad cenedlaethol yn seiliedig ar ganfyddiadau ein hymweliadau.
Rhanbarth Gogledd Cymru
Rhanbarth Canol De Cymru
Rhanbarth De-ddwyrain Cymru
Rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru
Cyhoeddiadau ôl-16 Estyn
Ein gweledigaeth yw gwella ansawdd addysg a hyfforddiant a chanlyniadau i holl ddysgwyr Cymru.
Ein cenhadaeth yw cefnogi darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu diwylliant hunanwella a dysgu trwy ein cyngor, ein harolygiad a meithrin gallu.