Arfer effeithiol Archives - Page 9 of 67 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn ysgol cyfrwng Saesneg 11-16 a gynhelir gan awdurdod lleol Abertawe. Mae’r ysgol wedi’i lleoli yn Eastside, Abertawe. Mae 918 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae tua 33% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae tua 10% o ddisgyblion yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae gan yr ysgol gyfleuster addysgu arbennig i ddisgyblion ag anawsterau dysgu dwys i gymedrol. Mae lle i 20 disgybl yn y cyfleuster addysgu arbennig.

Mae canran y disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn 47.4% o boblogaeth gyfan yr ysgol. Mae cyfran y disgyblion sydd â chynllun statudol o anghenion dysgu ychwanegol (Datganiad/EHCP/Cynllun Datblygu Unigol) tua 6% (gan gynnwys y cyfleuster addysgu arbennig).

Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth (a benodwyd yn 2017), y dirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol a dau uwch athro.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r cynllunio ar gyfer datblygiad cynyddol medrau disgyblion yn hynod effeithiol yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed. Mae arweinwyr yn cynnal ffocws cryf ar wella’r ddarpariaeth ar gyfer medrau llythrennedd, rhifedd, digidol, Cymraeg a medrau meddwl disgyblion. O ganlyniad, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf.

Mae gan yr ysgol ddulliau hen sefydledig ar gyfer datblygiad cynyddol medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm a, thros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae wedi cydlynu a datblygu datblygiad cynyddol medrau digidol disgyblion yn llwyddiannus. Mae arweinwyr yn rhannu disgwyliadau uchel gyda’r holl staff a disgyblion ac maent wedi llwyddo i sicrhau bod athrawon yn darparu cyfleoedd dilys i ddisgyblion gymhwyso a datblygu eu medrau mewn meysydd pwnc perthnasol.

Trwy ei phroses sicrhau ansawdd ei hun, nododd yr ysgol fod angen cryfhau medrau Cymraeg a dwyieithog disgyblion ac mae hyn wedi bod yn ffocws cryf. Mae arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion a sicrhau bod yr holl staff yn deall eu rôl yn datblygu hyn. O ganlyniad i’r ymagwedd hon, mae’r ddarpariaeth ar gyfer y Gymraeg yn gryfder nodedig.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae arweinwyr a staff yn ymdrechu i ddarparu cyfleoedd pwrpasol a chyson i ddisgyblion ddatblygu, ymestyn a chymhwyso’u medrau ar draws y cwricwlwm. Maent yn cydnabod bod llawer o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol gyda lefelau medrau is na’r disgwyl ar gyfer eu hoedran. Mae arweinwyr yng Nghefn Hengoed wedi buddsoddi amser ac adnoddau yn ofalus i ddarparu dysgu proffesiynol effeithiol i’w staff er mwyn datblygu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygiad cynyddol medrau disgyblion. Caiff pob maes pwnc ei gefnogi’n dda i ddatblygu adnoddau penodol i bwnc.

Mae’r ysgol yn cyflogi Rheolwyr Llythrennedd, Rhifedd, Dwyieithrwydd a Rheolwr y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, sy’n cyfarfod yn rheolaidd â’r Pennaeth Cynorthwyol sy’n gyfrifol am gydlynu medrau trawsgwricwlaidd, i werthuso a chynllunio ymagwedd yr ysgol at ddatblygiad medrau trawsgwricwlaidd. Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi’u mapio ar draws holl feysydd y cwricwlwm er mwyn cynllunio ar gyfer datblygiad medrau yn gynyddol ar draws Cyfnod Allweddol 3.

Mae pob maes pwnc yn gweithio’n gydweithredol ac ochr yn ochr â’r Rheolwyr Llythrennedd, Rhifedd, Digidol a Dwyieithrwydd i sicrhau bod cynllunio ar gyfer medrau yn adeiladu’n bwrpasol ar ddysgu blaenorol disgyblion a bod cyfleoedd i gymhwyso medrau yn gynyddol wrth i ddisgyblion symud drwy’r ysgol. Mae ffocws clir ar greu cysylltiadau dilys rhwng y medrau trawsgwricwlaidd a chynnwys pynciau i sicrhau bod gwersi’n ystyrlon ac yn cael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion. Mae cyfleoedd i ddisgyblion gymhwyso a datblygu’u medrau’n cael eu monitro’n agos gan staff ac arweinwyr ac mae hyn yn helpu sicrhau datblygiad cynyddol medrau yn dda. Mae arweinwyr a staff yn adolygu ac yn gwerthuso’r dull hwn yn rheolaidd ac yn rhannu arfer effeithiol yn barhaus.

Yn ogystal, mae’r ysgol yn defnyddio model seiliedig ar ymholi i ddatblygu medrau trawsgwricwlaidd lle mae pob maes pwnc, ar ôl gwerthuso cryfderau a meysydd i’w datblygu, yn rhoi prawf ar fenter newydd i wella agwedd ar lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Caiff arfer orau ei rhannu gyda staff addysgu eraill bob tymor ac, ynghyd â’r gwaith arall sy’n cael ei gyflawni, mae’n sicrhau bod datblygiad cynyddol medrau trawsgwricwlaidd yn cael ei gynllunio a’i gydlynu’n dda.

Medrau meddwl critigol

Yn 2019, cwblhaodd yr holl staff addysgu broses hunanwerthuso ar sail y 12 egwyddor addysgegol sydd wedi’u hamlinellu yn ‘Dyfodol Llwyddiannus’. Nododd hyn fod angen gwella’r cyfleoedd i ddatblygu medrau meddwl critigol disgyblion. Yn dilyn sesiwn datblygiad proffesiynol, datblygodd pob maes pwnc adnoddau a gweithgareddau gwersi penodol i bwnc i wella’r cyfleoedd i ddatblygu meddwl critigol disgyblion yn gynyddol. Gweithiodd arweinwyr medrau gyda meysydd pwnc unigol i wella’r cynllunio gan athrawon ar gyfer datblygu meddwl critigol disgyblion a’r defnydd o gwestiynu. Fe wnaeth hyn gynnwys creu gweithgareddau cyfoethog ac ysgogol i annog disgyblion i ehangu eu meddwl ac archwilio safbwyntiau gwahanol. Er enghraifft, datblygodd yr Adran Saesneg gwestiwn meddwl critigol cyffredinol ar gyfer pob uned waith. Roedd gweithgareddau meddwl critigol llai, a luniwyd i annog disgyblion i gymryd risgiau yn eu dysgu, yn ategu’r cwestiynau hyn. Fe wnaeth pob maes pwnc werthuso llwyddiant eu dull a rhannu’u canfyddiadau â’r staff ehangach ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer medrau meddwl yn parhau i lunio rhan o gylch rheoli perfformiad yr ysgol.

Medrau llythrennedd a rhifedd

Mae gan yr ysgol ymagwedd gadarn at ddatblygiad cynyddol medrau llythrennedd a rhifedd ar draws pob maes pwnc trwy ddefnyddio ymddygiadau Llythrennedd a Rhifedd. Buddsoddwyd amser sylweddol yn ystod cyfarfodydd staff a HMS mewn datblygu dealltwriaeth gyffredin o’r ffordd y dylid addysgu medrau darllen, ysgrifennu, llafaredd a rhifedd, a sut gellir datblygu’r medrau hyn mewn meysydd pwnc unigol. Mae’r ymddygiadau’n rhoi dealltwriaeth glir i staff o sut i gynorthwyo disgyblion i gymhwyso a datblygu’u medrau. Er enghraifft, mae ymddygiadau darllen yr ysgol yn helpu sicrhau bod disgyblion yn defnyddio’u gwybodaeth flaenorol, yn delweddu ac yn cwestiynu agweddau ar yr hyn maen nhw wedi’i ddarllen, yn ogystal ag yn datblygu medrau lefel uwch, fel gwerthuso, dadansoddi a dod i gasgliad. Yn yr un modd, mae ymddygiadau rhifedd yr ysgol yn darparu arweiniad clir ar gyfer cynorthwyo disgyblion i ddatrys problemau mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Mae’r defnydd effeithiol o Ymddygiadau Llythrennedd a Rhifedd ar draws yr ysgol yn cael ei werthuso trwy gylch sicrhau ansawdd yr ysgol ac mae’n llywio datblygiad proffesiynol i’r staff.

Medrau Cymraeg

I wella safon Cymraeg llafar mewn gwersi Cymraeg ac ar draws yr ysgol, mae adran y Gymraeg wedi datblygu ymagwedd gyffredin at addysgu llafaredd: ‘pwyntio, rhoi sylw, ymhelaethu, cwestiynu’. Mae’r holl athrawon Cymraeg yn ei defnyddio ac mae wedi helpu i wella ansawdd Cymraeg llafar ac ysgrifenedig disgyblion. Mae datblygiad medrau dwyieithog disgyblion y tu hwnt i wersi Cymraeg yn flaenoriaeth ysgol gyfan ac mae arweinwyr wedi cynnal ffocws cyson ar yr agwedd hon ar eu gwaith trwy’r cylch sicrhau ansawdd. O ganlyniad, mae gan bob maes pwnc gynllun gweithredu clir ar gyfer sut y byddant yn datblygu dwyieithrwydd yn eu maes er mwyn annog Cymraeg llafar naturiol a digymell mewn ysgol lle mae ychydig bach iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. Mae’r Rheolwr Dwyieithrwydd, ochr yn ochr â phennaeth y Gymraeg, hefyd wedi datblygu ymadroddion defnyddiol sy’n cael eu harddangos ym mhob ystafell ddosbarth ac yn y ffreutur. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae disgyblion wedi defnyddio’r ymadroddion hyn mewn gwersi i gynyddu pa mor aml mae Cymraeg achlysurol yn cael ei defnyddio yn yr ystafell ddosbarth a’r tu hwnt. Mae defnyddio’r ymadroddion hyn yn rheolaidd yn gysylltiedig â phwyntiau Cymreictod a chaiff disgyblion eu gwobrwyo trwy bolisi gwobrau’r ysgol am ddefnyddio Cymraeg llafar cyffredin yn gyson. Mae’r strategaeth hon wedi helpu i wella hyder disgyblion wrth ddefnyddio’u Cymraeg, eu dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru ac mae wedi ysbrydoli disgyblion i fod yn frwdfrydig wrth ddysgu Cymraeg.

Gweithio trawsgwricwlaidd a thraws-sector

Mae Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn gweithio’n agos gyda’i hysgolion cynradd partner ar ymagwedd gyffredin at ddatblygu medrau trawsgwricwlaidd yn gynyddol. Yn ddiweddar, mae’r Rheolwr Llythrennedd wedi darparu hyfforddiant diweddaru, er enghraifft ar addysgu darllen i ysgolion cynradd y clwstwr. Yn ogystal, mae’r Rheolwr Rhifedd wedi datblygu polisi cyfrifiadau’r clwstwr i hybu cysondeb wrth addysgu mathemateg a rhifedd ar draws y clwstwr. At hynny, mae adran y Gymraeg wedi dechrau gwaith ar brosiect darllen clwstwr gyda dosbarthiadau Blwyddyn 6 a fydd yn llywio addysgu’r Gymraeg ym mlwyddyn 7 y flwyddyn academaidd nesaf. Mae hyn yn ychwanegol at y gwaith o ddatblygu ymagwedd gyson at addysgu llafaredd trwy’r dechneg ‘pwyntio, rhoi sylw, ymhelaethu, cwestiynu’ sy’n cael ei defnyddio’n llwyddiannus gan adran y Gymraeg.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r ddarpariaeth i gefnogi datblygiad cynyddol medrau disgyblion yn gryfder nodedig yn yr ysgol. Mae yno ymagwedd gydlynus, wedi’i chynllunio’n dda, sy’n sicrhau bod disgyblion yn adeiladu’n gynyddol ar eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth. Mae ffocws cyson a chadarn arweinwyr ar ddatblygiad medrau disgyblion wedi arwain at ddarpariaeth effeithiol sy’n galluogi disgyblion i wneud cynnydd cadarn.

Ar y cyfan, mae agweddau disgyblion at ddysgu, datblygu medrau ac, yn benodol, at ddysgu’r Gymraeg, yn gadarn. Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion symbyliad mewn gwersi, maent yn cymryd rhan yn gadarnhaol mewn trafodaethau ac maent yn arddangos medrau siarad a gwrando cadarn. Mae llawer ohonynt yn darllen ac yn ysgrifennu’n dda at amrywiaeth o ddibenion ac yn gweithio’n hyderus gyda chysyniadau rhif. Yn ogystal, mae disgyblion wedi’u symbylu i ddod i’r ysgol ac mae cyfraddau presenoldeb wedi gwella’n nodedig dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae llawer o ddisgyblion sy’n mynychu Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu’u medrau ar draws pob agwedd ar eu dysgu. Ar y cyfan, mae addysgu o ansawdd uchel yn cefnogi disgyblion yn dda i ddatblygu’u medrau siarad, ysgrifennu, rhifedd, meddwl a digidol.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer orau?

Yn ogystal â rhannu arfer gydag ysgolion cynradd partner, mae Cefn Hengoed hefyd yn rhan o rwydwaith ysgol i ysgol gyda thair ysgol uwchradd arall yn yr awdurdod lleol. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys system adolygu cymheiriaid sydd, eleni er enghraifft, yn cynnwys gwerthuso’r ddarpariaeth ar gyfer llythrennedd a’r ddarpariaeth ar gyfer medrau rhifedd ym mhob ysgol. At hynny, mae’r ysgol hefyd yn rhan o bartneriaeth ysgolion De Cymru gydag ysgolion uwchradd eraill.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Idris Davies 3 i 18 oed (IDS 3 i 18) yn ysgol 3 i 18 cyfrwng Saesneg a gynhelir gan awdurdod lleol Caerffili. Mae’n gwasanaethu ardaloedd Rhymni, Pontlotyn, Abertyswg, Tredegar Newydd, Fochriw a Phillipstown. Mae tua 900 o ddisgyblion ar y gofrestr, a thua 42 ohonynt yn y chweched dosbarth, a 36 ohonynt yn y dosbarth meithrin. Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf ac yn dod o gefndir gwyn Prydeinig.

Mae tua 34.1% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 8.9% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.

Penodwyd pennaeth yr ysgol ym mis Ionawr 2018, sef dyddiad agor yr ysgol. Mae’r UDA yn cynnwys pennaeth gweithredol, dau ddirprwy bennaeth, tri uwch bennaeth cynorthwyol, ynghyd â phump o arweinwyr medrau.

Caiff gweledigaeth yr ysgol ei chrynhoi yn yr arwyddair, sef ‘Pob Disgybl – Pob Cyfle – Pob Dydd’, sy’n treiddio trwy bob agwedd ar waith yr ysgol ar bob lefel.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymunedau lleol sydd â lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol, a diffinnir bod cyfran sylweddol o ddisgyblion dan anfantais ac yn fregus. Fel arfer, mae disgyblion sydd dan anfantais yn wynebu rhwystrau rhag llwyddo yn yr ysgol oherwydd amgylchiadau niweidiol y tu hwnt i’w rheolaeth nhw, a’r dysgwyr bregus yw’r rhai a allai fod yn fwy tebygol o brofi rhwystrau emosiynol, cymdeithasol a datblygiadol rhag dysgu.

Mae proffil y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi newid yn sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac yn 42.7% ar draws y ddau sector ar hyn o bryd. Mae 50% o ddysgwyr y sector cynradd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, o gymharu â 28.8% pan agorwyd yr ysgol ym mis Ionawr 2018. O’i gymharu, mae 40.3% o ddisgyblion y sector uwchradd yn yr ysgol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, o gymharu â 31.2% ym mis Ionawr 2018.

Mae effaith pandemig COVID-19 wedi cymhlethu’r rhwystrau rhag dysgu a brofir gan ddysgwyr dan anfantais a bregus yn yr ysgol, ac mae hyn wedi cael ei waethygu ymhellach gan effaith yr argyfwng costau byw. Er mwyn ymateb i’r rhwystrau a’r heriau hyn, mae wedi bod yn hanfodol i’r ysgol ddatblygu strwythur arweinyddiaeth hyblyg sy’n gallu ymateb yn gyflym ac yn fedrus i anghenion esblygol dysgwyr dan anfantais a bregus.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Wrth sefydlu’r ysgol newydd, ymgymerodd y pennaeth, ynghyd â’r corff llywodraethol, â phroses ymgynghori lawn i gynllunio a datblygu gweledigaeth yr ysgol. Roedd yn glir gan randdeiliaid fod angen i nodi a mynd i’r afael ag anghenion dysgwyr dan anfantais a bregus fod yn uchelgais ganolog i weledigaeth yr ysgol. Arweiniodd hyn at uchelgais i sicrhau’r gorau i’r holl ddisgyblion: ‘Pob Disgybl – Pob Cyfle – Pob Dydd’. Mae’r ysgol yn gobeithio cyflawni’r uchelgais hon ym mhob agwedd ar ei gwaith.

I gyflawni’r uchelgais hon, cafodd strwythur staffio newydd ei gynllunio a’i roi ar waith o fis Medi 2018 gan bennu rolau a chyfrifoldebau arweinyddiaeth ganol ac uwch arweinyddiaeth clir i ddileu a mynd i’r afael â’r rhwystrau a brofir gan ddysgwyr dan anfantais a bregus. Yn ychwanegol, ailstrwythurwyd corff llywodraethol yr ysgol a dynodwyd uwch aelod yn ‘Arweinydd y Llywodraethwyr ar gyfer Dysgwyr Dan Anfantais a Bregus’. Mae holl gyfarfodydd y corff llywodraethol llawn a chyfarfodydd pwyllgor yn cynnwys gweithgareddau cynllunio strategol, monitro a gwerthuso sy’n gysylltiedig â dysgwyr dan anfantais a bregus.

Creodd yr ysgol rôl newydd, sef ‘Arweinydd Dysgwyr Dan Anfantais a Bregus’, sydd â chyfrifoldeb am hyrwyddo’r dysgwyr hyn ac am arwain datblygu’r ddarpariaeth, olrhain a monitro dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer dysgwyr dan anfantais a bregus.

Mae’r Arweinydd Dysgwyr Bregus yn coladu’r holl ddata monitro sy’n gysylltiedig ag ymgysylltiad a pherfformiad dysgwyr dan anfantais a bregus trwy ddangosfwrdd ‘Cau’r Bwlch’. Wedyn, rhennir hwn gyda phob haen o arweinwyr, gan gynnwys data monitro allweddol, er mwyn llywio’r defnydd o adnoddau a hwyluso monitro effaith strategaethau. Mae’r dangosfwrdd yn ddogfen fyw ac fe gaiff ei hadolygu bob wythnos mewn cyfarfodydd uwch arweinyddiaeth a chyfarfodydd y corff llywodraethol, a’i rhannu â’r holl aelodau staff mewn cyfarfodydd staff bob hanner tymor.

Mae’r dangosfwrdd yn dwyn data monitro ynghyd sy’n cwmpasu pob agwedd ar waith yr ysgol, gan gynnwys:

  • Data olrhain medrau (gan gynnwys effaith rhaglenni ymyrraeth)
  • Data olrhain pynciau
  • Presenoldeb
  • Gwobrau a chosbau
  • Ymgysylltu â’r cwricwlwm (gan gynnwys cyfle i fanteisio ar ddarpariaeth cyrsiau cyfnodau allweddol 4 a 5)
  • Ymgysylltiad cwricwlaidd estynedig (er enghraifft cyfle i fanteisio ar ddarpariaeth gwersi cerddoriaeth a chlwb chwaraeon)

Trwy ddefnyddio’r data monitro hwn, gwneir yr holl gynllunio gwelliant strategol gydag ‘edau euraidd’ gwella cyflawniad dysgwyr difreintiedig a bregus wedi’i gwau trwyddo. Mae’r holl flaenoriaethau strategol o fewn y Cynllun Gwella Ysgol yn mynd i’r afael yn benodol â’r agwedd hon ar waith yr ysgol ac yn nodi’n glir y meini prawf llwyddiant sy’n gysylltiedig â gwella cyflawniad dysgwyr bregus a dysgwyr dan anfantais.

Mae rhaglen dysgu proffesiynol gynhwysfawr wedi cael ei chynllunio a’i chyflwyno i’r holl aelodau staff i sicrhau bod yr holl fentrau cysylltiedig yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol. Mae staff yn meddu ar ddealltwriaeth glir o anghenion yr holl ddisgyblion dan anfantais a bregus, a’r rhwystrau unigol rhag dysgu y gallent eu hwynebu, yn ogystal â’u rôl i gynorthwyo disgyblion i’w goresgyn.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Erbyn hyn, caiff gwella cyflawniad dysgwyr dan anfantais a bregus ei ymgorffori’n llawn ar draws pob agwedd ar gynllunio gwelliant yr ysgol, sydd wedi cael ei lywio’n llawn trwy fonitro data wedi’i goladu o fewn y Dangosfwrdd Cau’r Bwlch. Mae’r ysgol wedi adolygu ac ailddefnyddio dyrannu’r Grant Datblygu Disgyblion i sicrhau ei fod yn cael ei dargedu i fynd i’r afael â’r meysydd i’w datblygu a nodwyd trwy’r Dangosfwrdd Cau’r Bwlch.

Mae polisïau, systemau a gweithdrefnau clir a chynhwysfawr ar waith ar draws yr ysgol i gynorthwyo staff i gael gwared â rhwystrau rhag dysgu a llwyddo. Nodwyd bod y ddarpariaeth ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad yn gryfder sylweddol ac mae’n darparu ar gyfer anghenion academaidd a bugeiliol y disgyblion. Mae’r ysgol yn cyflogi staff allweddol i gefnogi’r ddarpariaeth, fel y Swyddogion Presenoldeb a Lles a’r Swyddog Cyswllt Disgyblion a Theuluoedd, a ariennir trwy’r Grant Datblygu Disgyblion. Mae’r rolau hyn yn ganolog i gynorthwyo disgyblion i oresgyn rhwystrau rhag mynychu’r ysgol sy’n eu hwynebu. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag asiantaethau allanol i gefnogi anghenion emosiynol a lles dysgwyr.

Mae’r ysgol yn monitro’n agos y cyfleoedd a gaiff dysgwyr dan anfantais i fanteisio ar yr holl brofiadau dysgu ac yn sicrhau bod cynrychiolaeth gyfrannol, o leiaf, yn cael ei chyflawni yn holl feysydd y ddarpariaeth. Defnyddir grwpiau llais y disgybl i ddatblygu darpariaeth y cwricwlwm a nodi meysydd i’w datblygu, a chynghori ar strategaethau i leihau rhwystrau. Er enghraifft, yn sgil adborth gan y grwpiau hyn, gall pob un o’r disgyblion fanteisio ar ddarpariaeth gyffredinol o wersi cerddoriaeth, gyda chyllid ar gyfer dysgwyr dan anfantais yn cael ei ddarparu trwy’r Grant Datblygu Disgyblion. Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn dyrannu’r adnoddau angenrheidiol i bob adran i sicrhau bod disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn gallu cymryd rhan yn llawn mewn gweithgareddau. Er enghraifft, darperir cynhwysion coginio i ddisgyblion ar gyfer gwersi technoleg bwyd, a phrynwyd citiau addysg gorfforol i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

Ceir rhaglen glir a chynlluniedig o weithgareddau ar draws yr ysgol i godi dyheadau’r holl ddisgyblion a’u teuluoedd. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys darpariaeth cwricwlwm ffurfiol lle mae codi proffil gyrfaoedd ar draws yr ysgol yn rhan greiddiol o addysgu yn ôl cyfnod ac adran a phrofiadau dysgu. Yn ychwanegol, ymestynnir y cwricwlwm trwy fentrau gyda phrifysgolion sydd wedi’u cynllunio’n benodol i ymgysylltu â disgyblion o gefndiroedd difreintiedig, a’u teuluoedd, er mwyn gwella cyfraddau cyfranogi a chodi eu dyheadau o oedran cynnar.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd arfer gyda’r awdurdod lleol a’r consortiwm rhanbarthol trwy eu sianelau lledaenu. Mae’r ysgol hefyd wedi gwneud cyflwyniadau mewn cynadleddau ac wedi cynnal gweithdai ac ymweliadau arfer orau o ysgolion eraill.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Maes y Coed yn ysgol arbennig a gynhelir ar gyfer disgyblion 3-19 oed ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae ganddi 121 o ddisgyblion ar ei chofrestr, y mae ganddynt anghenion cymhleth sy’n teithio o bob cwr o awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Roedd Ysgol Maes Y Coed yn Ysgol Arloesi ar gyfer y celfyddydau mynegiannol, yn gyntaf fel rhan o glwstwr pedair ysgol, wedyn fel ysgol unigol yn ddiweddarach. Roedd yr athro sy’n gyfrifol hefyd yn Hyrwyddwr y Celfyddydau fel rhan o’r prosiect Ysgolion Creadigol Arweiniol. Roedd Hyrwyddwyr y Celfyddydau yn ymatebol i anghenion ysgolion unigol neu glystyrau unigol, ac wedyn yn cyflwyno hyfforddiant pwrpasol ar eu cyfer.

Mae Ysgol Maes y Coed wedi cael ffocws cryf erioed ar gwricwlwm y celfyddydau mynegiannol gan fod ei natur ddynamig yn ymgysylltu, yn cymell, ac yn annog disgyblion yr ysgol. Trwy ymgysylltu â’r celfyddydau mynegiannol, mae disgyblion wedi mynd ati i archwilio eu diwylliant eu hunain, y gwahaniaethau o fewn eu bro, a hanes yr ardal leol.

Mae’r celfyddydau mynegiannol yn hygyrch i’r holl ddisgyblion, ac yn gwbl gynhwysol o’r herwydd. Maent yn ennyn brwdfrydedd disgyblion ac yn ehangu eu gorwelion, gan ddatblygu eu medrau creadigol, dychmygus ac ymarferol tra’n datblygu eu gwydnwch a’u chwilfrydedd, hefyd.

Mae llais y disgybl yn rhan annatod o ethos Ysgol Maes y Coed. Ffurfiwyd y côr gan y disgyblion ar gyfer y disgyblion, ac mae gwyliau cerddoriaeth yr ysgol a’r tripiau i’r theatr hefyd yn deillio o lais y disgybl.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae athro arweiniol celfyddydau mynegiannol yr ysgol yn cynllunio ac yn cyflwyno hyfforddiant pwrpasol ar gyfer yr holl aelodau staff. Caiff hyfforddiant ei deilwra i gynrychioli anghenion unigol yr ysgol. Nod yr hyfforddiant yw herio amgyffrediadau staff a dileu rhwystrau rhag dysgu. Mae’r hyfforddiant a gyflwynir yn cynnwys creadigrwydd, medrau annatod, diwrnod celfyddydau cost isel effaith uchel, a defnyddio Garage Band. Caiff staff eu hannog i archwilio technegau celf amrywiol ac maent yn cymhwyso’r rhain i gynllunio gwersi difyr ar gyfer disgyblion.

Mae profiadau cerddorol ar gyfer disgyblion yn cynnwys gwyliau cerddoriaeth ysgol lle mae bandiau roc, cerddorion acwstig, cerddorfeydd ysgolion lleol, a chorau, yn cael gwahoddiad i berfformio ar wahanol lwyfannau; fersiwn yr ysgol ei hun o Glastonbury! Yn ychwanegol, mae disgyblion yn profi gweithdai samba, telynorion, bandiau, gitaryddion, bandiau pres, a pherfformiadau côr. Mae disgyblion wedi perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, wedi agor digwyddiad Comisiynydd Plant Cymru yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd, ac wedi perfformio gyda chast Les Misérables yn Queen`s Theatre, Llundain. Mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn sioeau cerdd, yn cynnwys ‘Pride Rock’, a ysgrifennwyd gan ddisgyblion. Yn ychwanegol, dewisodd y disgyblion y gerddoriaeth, creu’r gwisgoedd a’r setiau, a darparu animeiddiadau ar gyfer yr olygfa ruthro. Gyda chymorth gan staff a myfyriwr dawns o Brifysgol Bryste, bu disgyblion yn coreograffu’r dawnsiau. Bu holl ddisgyblion yr ysgol hŷn yn cymryd rhan fel perfformwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, fel rhan o’r criw cefn llwyfan.

Yn nhymor yr haf 2022, darparwyd offerynnau cerdd newydd gan Wasanaethau Cerdd Castell-nedd Port Talbot. Mae offerynnau wedi cael eu defnyddio’n dda yn y dosbarthiadau, ac mae gan bob dosbarth eu set eu hunain o ‘boomwhackers’ er mwyn i ddisgyblion allu dechrau edrych ar nodiant cerddorol (gan ddefnyddio’r lliwiau), clychau llaw lliw a chlychau taro. Yn ychwanegol, mae gan yr ysgol offerynnau taro heb eu tiwnio, set samba a Soundbeam a drefnwyd. Mae hyn wedi gwneud cyfansoddi cerddoriaeth yn hygyrch i’r holl ddisgyblion.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Mae disgyblion yn ymgysylltu’n dda ac yn cael eu cymell gan yr amrywiaeth o ymarferwyr sydd wedi ymweld â’r ysgol. Mae medrau cerddoriaeth penodol wedi cael eu haddysgu a’u defnyddio, ac mae disgyblion yn gwneud cynnydd da yn y maes hwn. Mae ychydig ohonynt yn gallu darllen nodiant cerddorol ac yn chwarae offerynnau cerddorol â hyder. Mae staff yn fwy hyderus yn addysgu cerddoriaeth ar draws yr ysgol, ac mae hyn wedi arwain at addysgu a defnyddio mwy o gerddoriaeth yn effeithiol mewn meysydd dysgu a phrofiad eraill.

Caiff medrau celf disgyblion eu datblygu’n gyson ac mae disgyblion yn penderfynu ar gyfeiriad eu dysgu. Mae’r addysgu yn ystyried artistiaid o Gymru yn fan cychwyn, yn ogystal â defnyddio gwahanol ffurfiau celf. Mae hyfforddiant yn y celfyddydau mynegiannol hefyd wedi helpu cyfrannu at les a morâl staff fel y dangoswyd yn adborth staff ar ôl digwyddiadau hyfforddi.

Mae’r ysgol wedi rhannu ei gwaith mewn fideo ar gyfer Llywodraeth Cymru i drafod effaith ei chwricwlwm creadigol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae arweinydd cwricwlwm yr ysgol wedi cyflwyno hyfforddiant ar gyfer ysgolion o fewn yr awdurdod lleol ar greadigrwydd a cherddoriaeth fel rhan o’i rôl fel hyrwyddwr y celfyddydau. Hefyd, gwahoddwyd arweinydd y cwricwlwm i siarad ar banel sy’n cynrychioli Cyngor Celfyddydau Cymru yn ystod cynhadledd Cymru gyfan. Mae arweinydd cwricwlwm yr ysgol hefyd wedi cyflwyno sesiynau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ynglŷn â’r celfyddydau mynegiannol ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae hi hefyd wedi cymryd rhan mewn podlediad ar addysg ac wedi cynnal sgyrsiau i Network Ed ar X (Twitter, gynt). Mae’r ysgol wedi creu cysylltiadau buddiol ag ysgolion arbennig eraill, unedau adnodd, ac ysgolion prif ffrwd o fewn y fro, ac yn genedlaethol.

Mae’r ysgol wedi rhannu ei phrosiectau treftadaeth gydag ysgolion lleol eraill. Mae Jeremy Miles AS wedi ymweld â’r ysgol fel rhan o’i rôl fel Gweinidog Addysg, i edrych ar y ddarpariaeth gerddoriaeth a sut caiff cerddoriaeth ei haddysgu yn Ysgol Maes y Coed.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Maes y Coed yn ysgol arbennig a gynhelir ar gyfer disgyblion 3-19 oed ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae ganddi 121 o ddisgyblion ar ei chofrestr, y mae ganddynt anghenion cymhleth, sy’n teithio o bob cwr o awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Maes y Coed yn ysgol anogol, hapus a gweithgar sy’n rhoi blaenoriaeth sylweddol i les ei staff a’i disgyblion. Mae arweinwyr wedi creu diwylliant cryf o gymorth ar y ddwy ochr wrth weithio gyda’i gilydd, ac yn annog parch a charedigrwydd rhwng staff, disgyblion a theuluoedd.

Mae arweinwyr yn cydnabod mai adnodd mwyaf yr ysgol yw ei staff. Maent yn cydnabod y pwysigrwydd y dylai’r holl aelodau staff deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel rhan bwysig ac annatod o’r ysgol. Mae’r pennaeth yn mynnu bod arweinyddiaeth yn broses ryngweithiol sy’n cynnwys sylwi, teimlo a gwneud synnwyr mewn sefyllfaoedd ac mewn ffyrdd sy’n cysylltu ag eraill. Mae’r dull arweinyddiaeth hwn yn arwain at wella perfformiad y sefydliad, ymgysylltu, deilliannau disgyblion, cadw, a lles y gweithlu.

Mae gweledigaeth yr ysgol ar gyfer arweinyddiaeth dosturiol yn ymwneud ag arferion bach, bob dydd; y ffordd rydych yn trin pobl a’ch agwedd at yr ysgol bob dydd. Mae arweinwyr yn credu y dylent fod yn garedig at bobl, ystyried teimladau, a gwrando ar yr hyn sy’n digwydd ym mywydau eich tîm. Mae gofyn cael empathi, amynedd a charedigrwydd i weithio fel arweinydd ysgol. Mae arweinwyr yn yr ysgol yn ymdrechu i sicrhau bod holl aelodau’r tîm yn rhannu’r un gwerthoedd ynghylch sut caiff pobl eraill eu trin.

Yn ychwanegol, mae arweinwyr yn yr ysgol yn cydnabod effaith sylweddol bod yn rhiant i blentyn ag anghenion ychwanegol a’r ynysu a’r diffyg cyfleoedd cynhwysol y gallai teuluoedd eu profi. Cafodd hyn ei effeithio ymhellach gan COVID-19, a ynysodd lawer o deuluoedd a lleihau eu cyfleoedd i elwa ar gymorth hanfodol ychwanegol.

Mae’r pennaeth yn haeru nad yw arweinyddiaeth dosturiol yn opsiwn ‘meddal’. Nid yw arweinwyr tosturiol yn bobl sy’n cael eu perswadio’n hawdd. Maent yn ystyried teimladau ac anghenion pobl eraill, ond rhaid iddynt wneud y penderfyniadau gorau i’w hysgol, yn y pen draw. Mae’n rhoi’r pwyslais ar bobl a deilliannau, gan annog perfformiad uchel trwy empathi, dealltwriaeth a chymorth.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r arbenigedd, y tosturi a’r gofal a ddangosir gan yr holl aelodau staff yn yr ysgol yn parhau. Yn Ysgol Maes y Coed, mae arweinyddiaeth dosturiol yn golygu poeni’n ddwys am bawb o fewn teulu estynedig yr ysgol.

Mae arweinwyr yr ysgol yn ystyried bod ymdeimlad cryf o hunaniaeth a pherthyn yn yr ysgol yn hanfodol. Caiff yr amodau hyn eu creu gan yr ysgol trwy fuddsoddi mewn ymgysylltu â’r gymuned, meithrin ymddiriedaeth, a chreu cysylltiadau. Caiff y rhwydweithiau hyn eu ffurfio gan arweinwyr yr ysgol sy’n modelu tosturi, empathi, a pharch at bobl eraill.

Mae arweinwyr yn cydnabod yr effaith hanfodol a gaiff rhieni a gofalwyr ar eu plant ac ar fywyd yn yr ysgol. Mae staff yn gweithio’n eithriadol o agos gyda rhieni i greu tîm cefnogol cryf a chefnogol o amgylch y plentyn. Mae’r ysgol yn galluogi rhieni a staff i gyfarfod a siarad am unrhyw faterion a phryderon. Mae staff yn cyfathrebu â rhieni bob dydd trwy blatfform electronig gan nad yw llawer o’r disgyblion yn gallu mynd adref a siarad am eu hysgol oherwydd natur eu hanghenion.

Mae gwaith yr ysgol gydag asiantaethau eraill yn hollbwysig wrth gynorthwyo disgyblion. O ganlyniad i waith amlasiantaethol effeithiol, ystyrir anghenion cyfannol, cymdeithasol, meddygol a seicolegol disgybl wrth ffurfio unrhyw gynlluniau.

Pan fo modd, mae’r ysgol yn cynnal clinigau, apwyntiadau, a chyfarfodydd amlasiantaethol o fewn yr ysgol. Enghreifftiau o’r rhain yw apwyntiadau pediatregydd, apwyntiadau niwroleg gyda’r niwrolegydd ymgynghorol, clinigau gofal lliniarol, ymweliadau deintyddol ddwywaith y flwyddyn ac ymweliadau gan driniwr gwallt bob wythnos. Mae’r dull hwn yn osgoi tarfu ar gyfer disgyblion ac yn cynorthwyo teuluoedd yn effeithiol.

Dydy cymorth ar gyfer teuluoedd ddim yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Mae’r ysgol yn cynnig ystod o ddigwyddiadau ar ôl yr ysgol sy’n cynnwys teuluoedd cyfan, ac mae pwyslais bob amser i gynnwys brodyr a chwiorydd a’r teulu ehangach. Mae’r ysgol yn trefnu digwyddiadau arbennig ar gyfer teuluoedd, fel llwybr goleuadau Siôn Corn, Calan Gaeaf a disgos San Ffolant, tripiau i’r sinema a bowlio.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae staff yn yr ysgol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi, ac yn derbyn gofal. O ganlyniad, maent yn gwneud ymdrech arbennig dros eu disgyblion. Mae rhai ffyrdd i annog caredigrwydd a dangos i staff eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn cynnwys: 

  • ‘Dydd Llun Gwych’ (‘Marvellous – Mondays’), lle mae amrywiaeth o staff yn ennill cinio am ddim, egwyl 10 munud ychwanegol, a lle gwerthfawr iawn i barcio car bob wythnos!
  • Caniatáu i staff fynychu cyngerdd Nadolig neu ddiwrnod chwaraeon cyntaf eu plentyn. Mae hyn yn golygu mwy nag y byddech yn ei ddychmygu!
  • Gwobrau staff ar ddiwedd y flwyddyn i gydnabod presenoldeb rhagorol.
  • Cynorthwyo staff, darparu nwyddau ymolchi yn holl ardaloedd toiledau’r staff.
  • Digwyddiadau adeiladu tîm i’r staff.
  • Ŵy siocled i bawb sy’n llenwi’r holiadur lles ar ddiwedd pob tymor gwanwyn.

Ar ôl pandemig COVID-19, sicrhaodd yr ysgol gyllid grant sylweddol i brynu ffwrn araf ac offer cegin arall ar gyfer yr holl deuluoedd. Talodd y grant hefyd am dalebau bwyd i brynu cynhwysion fel y gallai teuluoedd gymryd rhan mewn sesiwn ‘Coginio a Phaned’. Nod y prosiect oedd dangos sut i fwydo teulu am gost is trwy goginio sypiau.

Mae sesiynau gyda swyddogion ymgysylltu â theuluoedd wedi gwella presenoldeb ac ymgysylltiad rhieni mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a ddarperir gan yr ysgol. O ganlyniad, mae rhieni’n teimlo eu bod wedi’u harfogi’n dda i ddiwallu anghenion amrywiol eu plant ac yn teimlo’u bod yn gallu rhoi strategaethau ar waith ar yr aelwyd y mae disgyblion yn eu defnyddio yn yr ysgol. Mae’r cysondeb a’r cydweithio gwell hwn wedi arwain at leihau ymddygiadau heriol ar yr aelwyd. Casglwyd y dystiolaeth hon trwy gyfarfodydd gofal a chymorth, cyfarfodydd adolygu yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac o ymatebion i holiaduron. Dywed rhieni hefyd eu bod yn teimlo wedi’u grymuso i ymgymryd â gweithgareddau sy’n canolbwyntio arnyn nhw eu hunain.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn dathlu llwyddiannau staff, teuluoedd, a disgyblion yng nghylchlythyrau rheolaidd yr ysgol, trwy ei phlatfformau digidol, postiadau cyfryngau cymdeithasol, ac mewn cyfarfodydd llywodraethol yn ogystal.

Mae’r ysgol wedi rhannu ei hethos arweinyddiaeth o fewn yr awdurdod lleol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Agorodd Ysgol Gyfun Pontarddulais ym 1982, ac ychwanegwyd Cyfleuster Addysgu Arbenigol yn yn 2007 ar gyfer hyd at 10 o ddisgyblion ag anableddau dysgu dwys a lluosog. Mewn cymuned sydd â chefndiroedd economaidd gymdeithasol amrywiol, daw disgyblion o ddalgylch gwasgaredig iawn, gan gynnwys ardaloedd trefol, pentrefi bach a ffermydd mynydd. Ar hyn o bryd, mae 866 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda thuag 16% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan oddeutu 20% ohonynt angen dysgu ychwanegol. Mae gweledigaeth yr ysgol, sef ‘Trwy gynhwysiant, parch a gwydnwch y down yn bobl well ac yn ddysgwyr gydol oes llwyddiannus,’ yn ategu arwyddair yr ysgol, sef ‘Byw i ddysgu…dysgu byw’.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer effeithiol neu arloesol

Nodwedd nodedig o gylch gwella’r ysgol yw’r sesiwn flynyddol, ‘Lansio Gwella’r Ysgol’, sef sesiwn gydweithredol sy’n cynnwys staff, llywodraethwyr a chynrychiolwyr disgyblion. Mae’r broses gynhwysol hon yn sicrhau bod safbwyntiau amrywiol yn cael eu hystyried, gan feithrin perchnogaeth ar y cyd dros flaenoriaethau strategol. Mae’r sesiwn hon yn llywio Cynllun Datblygu’r Ysgol (CDY), sef adnodd dynamig sy’n arwain cymuned gyfan yr ysgol at nodau cyffredin.

Mae’r CDY yn ysgogi cam cynllunio cylch gwella’r ysgol, sy’n cynnwys Cynlluniau Datblygu Maes (CDM) sy’n debyg mewn arddull a chynnwys i’r CDY, er eu bod wedi’u llunio hefyd i wasanaethu eu cyd-destun ar lefel maes/pwnc. Yn eu tro, mae amcanion rheoli perfformiad yn ddeilliannau naturiol i’r CDY a’r CDM. Mae cysoni’r prosesau hyn yn sicrhau synergedd a chyfrifoldeb colegol am wella’r ysgol. Mae’r Tîm Prifathrawiaeth Estynedig yn sgorio’r CDY yn ôl Coch/Melyn/Gwyrdd ac mae’r llywodraethwyr yn craffu arno’n rheolaidd, gan sicrhau dealltwriaeth glir o gynnydd a meysydd sydd angen sylw ychwanegol. Mae aelodau’r Tîm Prifathrawiaeth Estynedig yn arwain strategaethau unigol, gan gynnig dolen adborth barhaus o fewn cyfarfodydd cyswllt bob pythefnos.

Mae arweinyddiaeth wasgaredig yn chwarae rhan ganolog yn llwyddiant yr ysgol. Mae holl ddeiliaid cyfrifoldebau addysgu a dysgu yn cydweithredu i ysgrifennu adrannau o’r CDY. Mae cymryd rhan yn weithgar fel hyn yn cynnwys arweinwyr canol yn y broses ac yn rhoi’r grym iddynt lywio gwelliant yr ysgol. Mae cynnwys arweinwyr canol yn sicrhau dealltwriaeth fwy cynnil a chyd-destunol o flaenoriaethau gwella ar lefel maes ac adran.

Mae arweinwyr canol yn defnyddio adnodd gwerthusol ‘Pwnc ar Dudalen’ bob tymor, gan gynnig trosolwg cryno a chyfredol o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella ar lefel pwnc. Yn yr un modd, mae rhaglen Adolygiad Safonau’r Hydref yn galluogi arweinwyr pwnc i gyflwyno deilliannau disgyblion i’r Tîm Prifathrawiaeth i’w trafod. Mae’r sesiynau gwerthusol hyn yn cynnwys sut mae dadansoddiad lefel eitem yn cael ei defnyddio i lywio addysgu a dysgu. Mae cynlluniau datblygu at y dyfodol yn cyd-fynd yn agos â deilliannau’r prosesau hyn, gydag amrywiaeth o brosesau hunanwerthuso wedi’u hamserlennu ac wedi’u gwreiddio’n dda yn eu hategu.

Caiff safbwyntiau allanol eu cofleidio trwy waith cydweithredol â thair ysgol uwchradd leol, gan gynnig safbwyntiau gwerthfawr a meithrin rhannu arferion gorau. Mae’r ymgysylltu hwn yn cynnig safbwynt allanol gwerthfawr ac yn hwyluso rhannu arfer gorau. Yn ogystal, mae’r adolygiad ysgol gyfan blynyddol, dan arweiniad arweinwyr canol sy’n dilyn Rhaglen Darpar Uwch Arweinwyr yr Ysgol, yn nodi cryfderau ac argymhellion am agweddau penodol i lywio’r CDY canlynol.

Yr effaith ar ddarpariaeth a safonau disgyblion

  • Anelu at welliant parhaus: Mae arweinwyr yr ysgol yn defnyddio gweithgareddau hunanwerthuso cadarn a rheolaidd yn bwrpasol i annog gwelliant parhaus. Mae prosesau hunanwerthuso cylchol a thrylwyr wedi dod yn gryfder nodedig, gan annog ymglymiad gweithgar gan yr holl staff a llywodraethwyr.
  • Cyfrifoldeb cyfunol: Mae ymglymiad gweithgar staff a llywodraethwyr wrth lywio blaenoriaethau a strategaethau gwella wedi meithrin ymdeimlad cadarn o gyfrifoldeb cyfunol. Mae’r cydlyniad hwn yn ganolog i effaith gadarnhaol gyson arweinyddiaeth.
  • Defnydd effeithiol o ddata: Mae arweinwyr yn hyderus yn eu dadansoddiad o amrywiaeth eang o ddata, gan ei ddefnyddio’n ddoeth i nodi agweddau y mae angen eu gwella. Mae triongli canfyddiadau o ffynonellau tystiolaeth amrywiol a defnyddio safbwyntiau disgyblion a rhieni yn cyfrannu at wneud penderfyniadau yn wybodus.
  • Cyfleoedd dysgu proffesiynol: Mae gwaith cydweithredol ag ysgolion uwchradd lleol ac adolygiadau ysgol gyfan mewnol yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol gwerthfawr i staff, yn enwedig ar lefel arweinwyr canol. Mae’r ymagwedd hon yn sicrhau bod medrau arwain yn cael eu datblygu a’u mireinio’n barhaus.
  • Safonau a deilliannau disgyblion: Mae safonau disgyblion yn gadarn, fel y mae cyfraddau presenoldeb.

Mae ymagwedd strategol a chynhwysol Ysgol Gyfun Pontarddulais at wella’r ysgol nid yn unig yn cyfrannu at welliannau mesuradwy, ond mae hefyd yn gwella’r gallu i arwain. Yn ei dro, mae hyn yn datblygu strategaeth olyniaeth gynaliadwy a model hunanbarhaol o wella’r ysgol yn barhaus.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol neu’r darparwr

Mae Ysgolion Cynradd Gilfach Fargod a’r Parc wedi bod mewn ffederasiwn ers Medi 2019. Mae’r ddwy ysgol yn gwasanaethu cymuned Bargoed ac mae gan y ddwy ohonynt lefelau cymharol uchel o ddifreintedd. Mae dros 55% o’r plant yn Ysgol y Parc a thros 30% yn Ysgol Gilfach Fargod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ffederasiwn yn gwasanaethu 307 o blant rhwng y ddwy ysgol, gyda 3% o’r plant yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae gan y ddwy ysgol ddosbarthiadau meithrin amser llawn a dosbarthiadau grŵp blwyddyn cymysg.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae cydweithredu eithriadol o gryf rhwng staff ar draws dwy ysgol y ffederasiwn, gyda phawb yn deall y weledigaeth, sef “dwy ysgol, un tîm”. Mae gweithgareddau annog a mentora, ynghyd â strategaethau eraill i ddatblygu arferion addysgegol, yn gwneud y mwyaf o botensial y ffederasiwn i ganiatáu i arfer gorau gael ei rhannu a’i dat

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol neu’r darparwr

Mae Ysgolion Cynradd Gilfach Fargod a’r Parc wedi bod mewn ffederasiwn ers Medi 2019. Mae’r ddwy ysgol yn gwasanaethu cymuned Bargoed ac mae gan y ddwy ohonynt lefelau cymharol uchel o ddifreintedd. Mae dros 55% o’r plant yn Ysgol y Parc a thros 30% yn Ysgol Gilfach Fargod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ffederasiwn yn gwasanaethu 307 o blant rhwng y ddwy ysgol, gyda 3% o’r plant yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Mae gan y ddwy ysgol ddosbarthiadau meithrin amser llawn a dosbarthiadau grŵp blwyddyn cymysg.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae cydweithredu eithriadol o gryf rhwng staff ar draws dwy ysgol y ffederasiwn, gyda phawb yn deall y weledigaeth, sef “dwy ysgol, un tîm”. Mae gweithgareddau annog a mentora, ynghyd â strategaethau eraill i ddatblygu arferion addysgegol, yn gwneud y mwyaf o botensial y ffederasiwn i ganiatáu i arfer gorau gael ei rhannu a’i datblygu’n eang. Mae strategaethau effeithiol ar waith i’r holl staff ddatblygu’u medrau arweinyddiaeth, yn aml ar draws y ffederasiwn. Nid yn unig y mae hyn yn meithrin gallu, ond mae o fudd i’r staff o ran eu dysgu proffesiynol a’u defnyddio’n effeithiol. Yn bwysicaf oll mae disgyblion yn elwa o’r addysgu effeithiol sy’n deillio ohono, gan wneud cynnydd gwell na’r disgwyl o’u mannau cychwyn unigol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

  • I ddechrau, datblygodd arweinwyr ddiwylliant cefnogol, agored a gonest ar draws y ddwy ysgol, gan sefydlu disgwyliadau ar gyfer addysgu a dysgu’r disgyblion. Trwy sicrhau dealltwriaeth gyffredin o’r agweddau ar addysgu a dysgu nad ydynt yn agored i drafodaeth, blaenoriaethodd yr ysgol eu “Deg Gorchymyn”, sy’n cysylltu ag egwyddorion addysgegol. I hwyluso’r datblygiad hwn, fe wnaeth staff gysgodi eraill mewn amrywiaeth o rolau i rannu arfer gorau a chymeront ran mewn dysgu proffesiynol i ledaenu rhagoriaeth.
  • Cafodd yr uwch dîm arwain ei ehangu i gynnwys athrawon o’r ddwy ysgol. Adolygodd arweinwyr rolau staff i ganolbwyntio ar ddeiliannau i ddysgwyr ac i gryfhau arweinyddiaeth. Datblygwyd rolau arweinyddiaeth ganol, gyda chydweithwyr yn cefnogi cymheiriaid eraill mewn rolau ar draws yr ysgolion, a mabwysiadwyd ymagwedd gydweithredol at hyfforddiant arweinyddiaeth ganol priodol.
  • Fe wnaeth diwrnodau HMS a digwyddiadau hyfforddiant cyffredin alluogi staff i weithio fel tîm a hwyluso perthnasoedd ar draws yr ysgolion. Er enghraifft, gweithiodd staff o’r ddwy ysgol gyda’i gilydd i ddatblygu arbenigedd mewn Maes Dysgu a Phrofiad penodol fel tîm, gan fynd i hyfforddiant gyda’i gilydd a’i ledaenu i’r holl staff.
  • Fe wnaeth cynnwys llywodraethwyr yn rhagweithiol, mewn ymweliadau ysgol ar y cyd i gefnogi gweithgareddau hunanwerthuso, eu hannog i gofleidio ethos “dwy ysgol, un tîm” a lleihau effaith ymlyniadau blaenorol.
  • Cafodd y cylch presennol o arferion hunanwerthuso ei weddnewid fel bod arfer yn gyson.
  • Sefydlodd staff galendr cyffredin o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r holl ddisgyblion.
  • Gweithiodd timau anogaeth a mentora ar draws y ddwy ysgol, fel y gwnaeth systemau triawd a rolau pâr fel Cydlynydd ADY ac Arweinydd Lles. Fe wnaeth hyn alluogi staff i ddatblygu diwylliant cefnogol o wella, gan ddatblygu arferion addysgegol, er enghraifft.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Cyn dod yn ffederasiwn, roedd disgwyliadau ar gyfer disgyblion yn Ysgol Gynradd y Parc yn isel, diwylliant a oedd wedi’i achosi gan lefelau’r difreintedd yn y gymuned. Roedd ansawdd yr addysgu yn anghyson ac nid oedd mwyafrif y disgyblion yn gwneud y cynnydd disgwyliedig. Roedd bach iawn o dystiolaeth bod disgyblion yn cymryd rhan yn eu dysgu. Ni wnaeth ymweliad monitro gan Estyn ddarganfod tystiolaeth o gynllunio cydweithredol yn yr ysgol ac roedd “dim digon o ffocws ar gysondeb a dilyniant”.

Yn sgil dod yn ffederasiwn, gyda chadarnhad gan arolygiad Estyn yn 2023:

  • Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn Ysgol Gynradd y Parc nawr yn gwneud “cynnydd cryf o waelodlinau isel iawn”. Mae’r cydweithredu cryf ar y Cwricwlwm i Gymru yn sicrhau bod “bron bob un o’r plant yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol”.
  • Diolch i ddatblygiad effeithiol addysgeg a chysondeb disgwyliadau, mae athrawon yn Ysgol Gynradd y Parc yn symbylu disgyblion yn llwyddiannus i ddyfalbarhau a llwyddo yn eu dysgu.
  • Mae gweithio llwyddiannus iawn mewn partneriaeth ar les, gan gynnwys ymagwedd flaengar at ymyriadau, wedi sicrhau bod safonau lles yn uchel yn yr ysgol. Mae Estyn yn disgrifio bod hyn yn “gryfder nodedig ac yn ffocws gwerthfawr o waith yr ysgol.”
  • Erbyn hyn, mae disgyblion yn chwarae rhan hanfodol mewn gwella’r ysgol, gyda llawer ohonynt yn ymgymryd â rolau arwain defnyddiol ac effeithiol trwy amrywiaeth o grwpiau disgyblion cynhwysol.

Mae Ysgol Gynradd Gilfach Fargod, hefyd, wedi elwa’n enfawr o’r bartneriaeth, gyda chyfleoedd gwell am rolau arwain, a gweithio ehangach mewn tîm, sy’n arwain at ddeilliannau gwell i ddysgwyr. Yn 2023, darganfu Estyn:

  • Mae defnydd effeithiol o arweinyddiaeth wasgaredig ar draws y ffederasiwn, sy’n gweithio er budd y ddwy ysgol, gyda’r ddwy ohonynt yn gryfach o ganlyniad.
  • Mae’r ffocws ar addysgu effeithiol a datblygu arweinwyr wedi tanio angerdd tuag at ddysgu ymhlith staff yr ysgol.

Mae cynllunio a hyfforddiant cydweithredol, ynghyd â chyfleoedd ymchwil cyffredin, wedi datblygu arbenigedd, sicrhau diwylliant o ymholi ac arloesi, ac wedi arwain at weithlu myfyriol, mwy gwybodus, sy’n dangos lefelau uchel o arfer broffesiynol barhaus yn gyson.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Gilfach Fargod a’r Parc yn rhannu ei arfer dda gydag ysgolion eraill o fewn ei glwstwr yn rheolaidd, yn ogystal ag yn ehangach yn ei rôl fel Ysgol Bartner i EAS, gan ganolbwyntio ar les a rhifedd. Mae llwyddiant rôl yr Ysgol Bartner yn dibynnu ar y bartneriaeth ffyniannus rhwng y ddwy ysgol yn y ffederasiwn.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog yn ysgol gyfun Gatholig cyfrwng Saesneg i ddisgyblion 11-16 oed yng ngorllewin Caerdydd. Mae tua 786 o ddisgyblion ar y gofrestr ac mae’r ysgol yn derbyn disgyblion o ardal ddaearyddol eang. Mae tua 40% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae gan oddeutu 11% o ddisgyblion angen dysgu ychwanegol ac mae gan ychydig bach ohonynt ddatganiad neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU). Daw mwyafrif o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig ac mae llawer ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf. Nid oes unrhyw ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg. Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd ers Medi 2014.

Diwylliant o ddisgwyliadau uchel

Mae arweinwyr yn defnyddio’u cenhadaeth Gatholig i fabwysiadu ymagwedd strategol a chynhwysfawr at leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad disgyblion, gan ddileu rhwystrau rhag dysgu a datblygu gwydnwch ac uchelgais yn eu dysgwyr. Nod yr ysgol yw datblygu diwylliant nad yw fyth yn gostwng ei safonau ond sy’n sicrhau bod disgyblion yn cyrraedd y safonau hynny gyda chymorth. Mae arweinwyr yn ymdrechu i sicrhau bod yr ethos hwn yn rhan o bopeth maen nhw’n ei wneud.

Mae dros 70% o ddisgyblion wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar ryw adeg. O ystyried hynny, mae’r hyn mae’r ysgol yn ei gynnig ac yn ei wneud ar gael i bawb. Maent yn olrhain disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond yn deall bod difreintedd yn effeithio ar lawer o ddisgyblion eraill a theuluoedd, felly mae’r cymorth a’r her i bawb, ac nid yw’n canolbwyntio ar un grŵp penodol. Mae arweinwyr yn defnyddio data profion i osod targedau academaidd uchelgeisiol iawn i bawb, ond mae disgwyliadau uchel yn llinyn drwy bopeth – gan gynnwys ymddygiad, perthnasoedd a gwisg (y mae’r ysgol yn ei darparu i ddisgyblion os bydd angen).

Y Cwricwlwm a Dysgu

Mae’r ysgol yn gosod pwyslais cryf ar ddarparu cwricwlwm eang iawn a chyfoeth o brofiadau cyfoethogi sy’n ehangu gorwelion disgyblion ac sy’n rhoi mynediad iddynt i gyfleoedd na fyddant efallai ar gael iddynt, fel arall. Mae’r ysgol yn cynnal cwricwlwm cyfoethogi wedi’i amserlennu i Flynyddoedd 9-11 i gefnogi datblygiad medrau estynedig. Mae hyn bob amser yn cynnwys cyrsiau heb arholiadau sy’n gwella lles disgyblion ac sy’n cynnwys gweithgareddau fel iaith arwyddion, garddio, cymorth cyntaf, tecstilau neu addurno cacennau. Yn ogystal, mae sesiynau ‘Adolygiad Academaidd’ yn digwydd yn ystod amser tiwtor. Mae’r rhain yn cynnwys cwrs ar adeiladu ‘cyfalaf diwylliannol’ trwy roi gwybodaeth hanesyddol a moesegol eang i ddisgyblion sy’n ymestyn eu cymeriad ac ehangder eu dealltwriaeth o’r byd. Mae disgyblion hefyd yn elwa o amrywiaeth eang o deithiau a gweithgareddau allgyrsiol sy’n cefnogi dysgu ac yn rhoi cyfleoedd i ehangu eu profiadau a datblygu medrau pellach. Mae’r cynnig hwn yn cynnwys clybiau chwaraeon, celf a chrefft, teithiau i fusnesau neu encilio i ardaloedd lleol am weithgareddau awyr agored. Gall disgyblion ddefnyddio gwasanaeth bws ar ôl ysgol sy’n eu cynorthwyo i fynd i weithgareddau allgyrsiol.

Mae’r ysgol yn dal yr holl brofiadau y mae disgyblion wedi manteisio arnynt trwy ei ‘Rhaglen Gorwelion’. Mae hyn yn olrhain y digwyddiadau diwylliannol, uchelgeisiol, pontio a gyrfaoedd i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gallu manteisio’n gynhwysfawr ar brofiadau sy’n gwella’u huchelgais. Mae’r wythnos diwylliant blynyddol yn adeiladu ar hyn, gyda dathliad o natur amrywiol cymuned yr ysgol.

Dileu’r rhwystrau rhag dysgu

Mae pwyslais yr ysgol ar feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion a’u teuluoedd a’r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi lles disgyblion yn ganolog i’w hymagwedd ar gyfer lliniaru effaith tlodi. Mae cyfleuster ‘Pont’ yr ysgol i ddisgyblion agored i niwed yn cynnig cymorth pwrpasol i ddisgyblion oresgyn unrhyw rwystrau rhag dysgu, gan eu meithrin yn barod ar gyfer y byd go iawn, gyda’r nod o wella’u lles emosiynol a meddyliol. Mae’r ‘Bont’ yn cynnig lloches, ynghyd ag ymyriadau pwrpasol sy’n cynnwys ymyriadau profedigaeth a rheoleiddio emosiynol. Mae’r tîm yn y cyfleuster yn cynnwys nifer o Gynorthwywyr Cyntaf Iechyd Meddwl sy’n cefnogi unigolion mewn rôl fentora. Mae staff lles yn gweithio’n agos ac yn llwyddiannus gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol, fel Timau Arbenigol Awdurdodau Lleol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cynradd, Nyrs yr Ysgol, Cynghorydd allanol yr Ysgol, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Therapydd Cerdd. Gyda nifer fawr yn aml o ddisgyblion yng ngofal yr awdurdod lleol, mae’r ysgol wedi penodi hyrwyddwr disgyblion yng ngofal yr awdurdod lleol i gefnogi eu hanghenion yn benodol, ynghyd â chymorth penodol i’r gofalwyr ifanc niferus yng nghymuned yr ysgol.

Mae ymagwedd tîm yr ysgol at ddiogelu yn golygu bod amrywiaeth o staff wedi cael hyfforddiant i lefel uchel mewn prosesau diogelu. Mae hyn yn golygu bod dealltwriaeth gyffredin gadarn o bwysigrwydd canolog diogelu.

Mae’r ysgol yn rhedeg ei ffreutur ei hun. Mae staff yn y ffreutur yn adnabod y disgyblion yn dda. Maent yn sicrhau eu bod yn cael diet da yn yr ysgol a chaiff cymorth ei dargedu at ddisgyblion a all wynebu difreintedd.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Hiraddug yn ysgol gymunedol ym mhentref Dyserth, sydd ym mhen gogledd-orllewin Dyffryn Clwyd. Agorwyd yn ysgol ym 1951 yn lle’r hen Ysgol Genedlaethol, a sefydlwyd mor bell yn ôl â 1863.

Mae 189 o ddisgyblion amser llawn ar y gofrestr a 25 o blant arall sy’n mynd i’r dosbarth meithrin yn rhan-amser, 5 bore’r wythnos.

Mae tua 22% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn nodi bod gan 21% o ddisgyblion ADY.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae arweinwyr yr ysgol yn cydnabod pwysigrwydd rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu medrau bywyd. Nod cwricwlwm yr ysgol yw adlewyrchu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru; yn benodol, galluogi disgyblion i ddod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. Mae profiadau dysgu yn ymgorffori cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth trwy fenter.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae disgyblion ym Mlwyddyn 6 yn creu busnesau gyda’r nod o wneud elw. Mae pob prosiect yn gofyn bod disgyblion yn cwblhau cynllun busnes pum pwynt, gan gynnwys creu enw, logo ac ethos, cynnal ymchwil marchnata, dadansoddi tueddiadau, ymchwilio i gynnyrch a’i ddatblygu. Mae disgyblion yn creu e-bost i’r cwmni ac yn gwneud cais am fenthyciad bach gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol. Maent yn gweithio gyda swyddog cyllid yr ysgol i greu cyfrif banc. Ar gyfer pob prosiect, mae disgyblion yn gweithio fel timau o fewn y cwmni. Mae’r timau hyn yn caniatáu i ddisgyblion adnabod a gwella’u medrau, er enghraifft wrth reoli cyllid, marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol, dylunio a gwerthiannau. Mae pob penderfyniad a wneir yn ystod y prosiect yn cael ei arwain gan y disgyblion yn unig. Mae hyn yn gwella hyder dysgwyr, yn eu cynorthwyo i gymryd risgiau ac i fod yn rhagweithiol. Y busnes cyntaf a greodd disgyblion oedd brand dillad o’r enw ‘Life’s Not a Rehearsal’ (LNR), gyda’r arwyddair yn adlewyrchu cwmni sy’n dysgu’n barhaus. Gwerthodd y cwmni hwdis a chrysau T yn yr ysgol a thrwy blatfform ar-lein, gyda’u cynnych yn cael eu gwerthu mor bell i ffwrdd â Chaeredin a Llundain. Mewn prosiect arall, crëwyd ‘Shake Shack Hiraddug’ (SSH), a werthodd amrywiaeth o ysgytlaethau o fewn yr ysgol. Gwnaeth y ddau fusnes elw sylweddol. Rhannodd y disgyblion yr elw rhwng buddsoddi yn yr ysgol a rhoi i elusennau lleol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r prosiectau menter yn galluogi disgyblion i ddatblygu amrywiaeth o fedrau yn effeithiol, fel cydweithredu, cyfathrebu ac annibyniaeth. Mae effaith uniongyrchol ar safonau yn yr ystafell ddosbarth, wrth i ddisgyblion drosglwyddo eu medrau llythrennedd ariannol a’u medrau digidol. Mae disgyblion yn gwella’u medrau cyllidebu a’u dealltwriaeth o golled ac elw, ynghyd â dysgu bod yn atebol. Maent yn gwella’u medrau digidol a chreadigol trwy ddylunio logos, gwefannau a thudalennau’r cyfryngau cymdeithasol. Mae disgyblion yn elwa o gyfleoedd i fyfyrio ar eu dysgu a’u cynnydd yn ystod ‘cyfarfodydd bwrdd’ wythnosol lle maent yn cyflwyno data’r cwmni ac yn trafod sut y gallent wella’u cynnyrch, eu heffeithlonrwydd, eu gwasanaeth i gwsmeriaid a’u helw. Mae’r ysgol yn defnyddio’r prosiectau hyn i ddatblygu ymwybyddiaeth foesegol dysgwyr, er enghraifft trwy drafod a phenderfynu sut i wario’r elw. Mae dysgwyr yn cynhyrchu dadleuon argyhoeddiadol dros wario arian arnyn nhw’u hunain neu ar yr ysgol neu roi i elusen neu achos teilwng  arall. Er enghraifft, maent yn penderfynu neilltuo’u helw i ariannu tripiau ysgol neu brynu adnoddau dysgu i ddosbarthiadau. 

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae arfer entrepreneuraidd yr ysgol wedi cael ei rannu gydag ysgolion clwstwr, sydd wedi ymweld ag Ysgol Hiraddug i weld yn uniongyrchol sut yr aeth ati i gynnal y prosiectau. Wrth weithio fel rhan o raglen partneriaeth ysgol clwstwr, nodwyd bod y gweithgareddau menter yn gryfder a bod yr ysgol yn gallu cefnogi ysgolion eraill yn yr ardal.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y darparwr

Cyrsiau preswyl yw arbenigedd y Nant ac mae’r cyrsiau rheiny yn digwydd am gyfnodau o 3 neu 5 diwrnod ar y tro. Mae’r Nant hefyd yn darparu ychydig o gyrsiau rhithiol 3 neu 5 diwrnod. Mae gan y Nant gyrsiau unigryw sydd wedi eu creu ar gyfer y profiad dwys o ddysgu o lefel Blasu hyd at Gloywi. Yn ystod 2022-23, darparodd prif ffrwd y Nant 452 o brofiadau dysgu unigol i 411 o ddysgwyr unigol. Mae’r Ganolfan hefyd yn rhedeg cynllun Defnyddio Cymraeg Gwaith. Yn ystod blwyddyn ddiweddaraf y cynllun, gwelwyd 334 o brofiadau dysgu unigol ar 35 o gyrsiau.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ganolfan a welir heddiw ar safle’r hen chwareli ithfaen yn ganlyniad i freuddwyd Dr Clowes yn y 1970au i greu cyflogaeth yn lleol a chefnogi’r ymgyrch genedlaethol i adfer y niferoedd o siaradwyr Cymraeg. Penderfynwyd sefydlu canolfan bwrpasol yn y Nant a fyddai’n adfer pentref a oedd yn adfeilion, yn creu gwaith ar gyfer pobl leol ac yn rhoi hwb angenrheidiol i’r iaith Gymraeg.

Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn ar bob lefel yn cyfuno dysgu iaith gyda chyfleoedd i brofi a gwerthfawrogi hanes a diwylliant Cymru yn cynnwys yr ymgyrch genedlaethol fawr a fu i godi arian i ddatblygu safle’r Nant.

Mae sicrhau bod ein dysgwyr yn deall hanes y Gymraeg a’r diwylliant arbennig sy’n unigryw iddi, yn ffordd o gefnogi eu perthynas gyda’r Gymraeg ac yn gyfle i agor y drafodaeth am berchnogaeth.

Mae’r cyfuniad o glywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio, dysgu geirfa a phatrymau newydd yn y dosbarth, hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith, a thrafodaeth am gadernid iaith yn golygu bod dysgwyr yn caffael iaith, yn rhoi’r medrau newydd ar waith yn syth ac yn gwneud cynllun ymarferol ar lle a sut i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl gadael y safle.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r profiad dysgu yma yn y Nant yn dechrau ar fore dydd Llun wrth i ddysgwyr gyrraedd y safle. Cynhelir cyfarfod Croeso i egluro trefn yr wythnos. Rhan bwysig o’r Cyfarfod Croeso yw gosod disgwyliadau’r staff o’r dysgwyr. Rydym yn eu hannog i berchnogi’r safle fel man diogel i hawlio’r iaith gan wneud defnydd cynyddol ohoni wrthi i’r wythnos fynd yn ei blaen.

Mae pob aelod o staff Nant Gwrtheyrn yn siarad Cymraeg ac wedi eu hyfforddi ar sut i gefnogi dysgwyr. Maent yn ymwybodol o’r lefelau a phatrymau addas i’w defnyddio ac yn annog y dysgwyr i gyfathrebu yn Gymraeg ar bob cyfle. Mae hyn yn cynnwys staff Caffi Meinir, gofalwyr y safle, staff y dderbynfa, swyddogion llety ac uwch swyddogion. Maent yn modelu ymddygiad cadarn yn ieithyddol.

Yn y dosbarth mae’r dysgu yn canolbwyntio ar iaith darged sy’n annog defnydd iaith yn ystod wythnos yr ymweliad. Golyga hyn fod y dysgwyr wedi eu harfogi i ymdopi gyda’r sefyllfaoedd y maent yn debygol o’u profi. Mae hyn yn bwysig iawn o ran gosod y Gymraeg mewn cyd-destun, perchnogi’r iaith, codi hyder a chreu defnydd iaith.

Yn ogystal, mae tiwtoriaid profiadol yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith mewn ffordd gynnil a sensitif. Dyma gyfle pwysig i’r dysgwyr archwilio eu perthynas gyda’r iaith, cael y cyfle i drafod heriau personol a chefnogi ei gilydd o safbwynt yr heriau rheiny. Mae pob wythnos yn gorffen gyda sesiwn ‘Beth Nesa’ gyda’r dysgwyr yn derbyn gwybodaeth am bosibiliadau dysgu pellach, ond hefyd yn llunio cynllun gweithredu personol. Mae’r dysgwyr felly yn gadael y safle gyda’r bwriad o wneud defnydd ymarferol, cadarn a defnyddiol o’r Gymraeg. Mae cyfuno’r elfennau ymwybyddiaeth a chadernid yma yn arwain at newid ymddygiad ac yn y cyd-destun hwn, i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.

Mae’r adnoddau ar safle’r Nant yn bwysig o ran y profiad trochi hefyd. Mae’r Capel, Y Syrjeri a’r Tŷ Cyfnod yn cynnwys arddangosfeydd treftadaeth i gyfoethogi profiad y dysgwyr. Maent yn rhannu gwybodaeth am hanes y safle a’r ardal ond hefyd am hanes y Gymraeg. Gwneir defnydd llawn o’r adnoddau hyn gan y tiwtoriaid drwy holiaduron, helfeydd trysor, cyfle i’r dysgwyr ymateb yn ysgrifenedig, cyflwyniadau ac ati.

Y tu hwnt i’r dysgu mwy ffurfiol, mae pob elfen o ddysgu anffurfiol wedi ei deilwra yn ofalus i sicrhau fod y dysgwyr yn parhau i gael eu trochi, nid yn unig yn yr iaith ond mewn negeseuon cadarnhaol am ddefnydd iaith. Enghraifft o hyn yw ymweld â Thafarn y Fic a chael clywed côr o fechgyn ifanc lleol yn ymarfer – profiad hollol Gymraeg a Chymreig.

Yn yr un modd, dewisir unigolion neu grwpiau sy’n darparu adloniant i’r dysgwyr yn ofalus. Y bwriad yw agor y drws i fyd a diwylliant y Gymraeg mewn amgylchedd ddiogel. Gall hyn olygu taith gerdded gydag unigolyn sydd wedi dysgu Cymraeg er mwyn casglu geirfa byd natur sydd wedi ei wreiddio yn ardal y Nant, gwrando ar unigolyn yn canu caneuon poblogaidd Cymraeg a chael y cyfle i gyd-ganu, neu gael sgwrs gan unigolion a fu’n rhan o sefydlu’r Nant er mwyn dysgu mwy am daith y Gymraeg.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Canlyniad y profiad trochi a’r ymyraethau hyn yw bod y dysgwyr sydd yn dod i’r Nant yn ymroi yn llwyr i’w taith iaith. Maent yn awyddus i ddysgu ac yn medru gweld eu hunain yn rhan o fywyd y Gymraeg a Chymru a thrwy hynny yn medru ei pherchnogi. Mae ganddynt yr hyder i fod yn rhan o ddigwyddiadau lle mae’r Gymraeg yn amlwg a thrwy hynny, yn dewis mynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg ar lefel gymunedol. Mae’r hyder yma yn golygu cynnydd mewn defnydd sydd yn ei dro yn golygu cynnydd mewn medrau. Mae’r cylch cadarnhaol hwn yn golygu bod dysgwyr yn medru gwneud cynnydd cyflym mewn amser byr.

Mae’r amrywiaeth o ddulliau dysgu ffurfiol ac anffurfiol, y gofodau amrywiol ar y safle, y cyfle i ddarparu adloniant a theithiau yn golygu bod dysgwyr yn cael y cyfle i ymlacio a mwynhau’r profiad dysgu hwn. Mae’r wythnos o ddysgu hefyd yn wythnos i archwilio eu perthynas gyda’r iaith. Mae hyn yn golygu bod gennym ddysgwyr bodlon sy’n dewis ymweld dro ar ôl tro ar eu taith iaith.