Arfer effeithiol Archives - Page 6 of 67 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Sirol Cefn Mawr wedi’i lleoli yng nghymuned glos Cefn Mawr mewn ardal led-wledig yn Wrecsam. Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer 195 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae’n cynnig darpariaeth feithrin yn ystod sesiwn y bore, a chylch chwarae ar y safle yn y bore, o’r enw ‘Bright Stars’, a gofal cofleidiol ar gyfer yr holl ddisgyblion. Mae tua 23% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Nod yr ysgol yw helpu disgyblion i sylweddoli bod byd o gyfle ar gael iddynt, ac mae’n rhoi cynhwysiant yn ganolog iddi.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Fel rhan o ddatblygu cwricwlwm sy’n canolbwyntio’n fwy ar y plentyn i gefnogi pedwar diben Cwricwlwm i Gymru, bu staff yn ymchwilio’r defnydd o ddarnau rhydd, cythruddiadau a gwaith Carl Rogers. Bu’r athrawes dosbarth derbyn yn astudio ar gyfer cymhwyster lefel 4 mewn cwnsela yn canolbwyntio ar yr unigolyn, a dechreuodd anelu tuag at ddefnyddio’r damcaniaethau hyn yn ei hystafell ddosbarth. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi adolygu effeithiolrwydd yr ymagwedd ac wedi addasu’n gyson yn unol ag anghenion y plant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn dadlau yn erbyn cwricwlwm rhagnodedig a allai fod ag ychydig iawn o ystyr i blant o blaid dysgu sylweddol, trwy brofiad, sy’n symud ymlaen ar gyflymdra cyflym, sydd â graddau o ymglymiad personol, yn hunangychwynnol, yn gwneud gwahaniaeth i’r dysgwr ac yn cael ei werthuso ganddynt. Y nod yw helpu plant i wobrwyo’u hunain, magu eu hyder, eu hunan-barch a’u cyffro mewn darganfod wrth iddynt ddod yn ymwybodol fod hyn yn dod oddi mewn. Cyflawnir hyn trwy hinsawdd o ymddiriedaeth i hwyluso annibyniaeth plant, mae’n eu galluogi i greu nodau y mae arnynt eisiau eu cyflawni, yn eu gwneud yn rhydd i ddysgu’r hyn y maent yn dymuno’i ddysgu a bod pwy ydynt. Mae Rogers yn herio athrawon i ofyn, ‘Sut deimlad yw bod yn fyfyriwr yn f’ystafell ddosbarth i?’ Mae’n nodi mai’r rhinweddau sydd eu hangen gan athrawon yw bod yn naturiol, dealltwriaeth empathig ddofn a derbyn y plentyn fel y mae mewn ffordd wresog a chariadus. 

Mae cythruddiadau, a gyflwynir i ddal sylw’r plant, a darnau rhydd, wedi bod yn allweddol i’r ysgol wrth hwyluso’r ymagwedd hon, gan eu bod yn wahoddiad penagored i’r plant archwilio, mynegi, ymchwilio, dysgu, cynrychioli a chreu. Mae’r ysgol yn ystyried bod ei phlant yn fedrus a chreadigol, felly mae’r athro’n ymchwilio ochr yn ochr â nhw ac yn eu helpu i ddatgelu eu meddwl a gwneud y dysgu’n weladwy. Mae staff yn anelu tuag at bosibiliadau mwy agored yn hytrach na dewisiadau cyfyngedig neu dasgau penodol. Maent yn cydnabod bod proses ddatblygiadol ynghlwm wrth ddefnyddio darnau rhydd a bod plant yn defnyddio adnoddau ar eu lefel eu hunain. Roedd angen mwy o amser i blant gyrraedd chwarae dwfn, a chrëwyd adnoddau yn araf gyda ffiniau clir ynglŷn â’u defnyddio. Nod yr ysgol yw ymestyn yr ymagwedd hon ymhellach, gan alluogi plant i gael mwy o lais mewn datblygu cwricwlwm ystyrlon iddyn nhw eu hunain. 

Er enghraifft, ar ôl bore o ymchwil ar gestyll, rhoddwyd amrywiaeth o ddarnau rhydd i’r plant i ddangos beth roeddent wedi’i ddysgu a dyfnhau eu dealltwriaeth, o fewn meysydd dysgu ac ar eu traws, creu cysylltiadau, trosglwyddo’u dysgu i gyd-destun newydd a datblygu soffistigeiddrwydd eu geirfa. Dewisodd rhai ohonynt archwilio’u dysgu yn yr ardal chwarae rôl, a rhoddwyd amrywiaeth o flychau pecyn fflat iddynt greu eu strwythurau eu hunain. Defnyddiodd plant eraill wahanol gitiau adeiladu, tiwbiau, deunydd a thuniau. Roedd yn well gan rai ohonynt fod y tu allan, a rhannon nhw eu hunain yn ‘adeiladwyr’ ac ‘ymosodwyr’. Symudodd yr ‘adeiladwyr’ ein hambwrdd twff i’r man gorau i weld unrhyw ymosodiad yn dod, a threfnu eu hunain i symud mwd ar gyfer bryn, dŵr ar gyfer ffos a darnau rhydd ar gyfer y castell. Defnyddiodd yr ‘ymosodwyr’ ddarnau mawr rhydd i greu gwersylloedd a cheisio dod o hyd i unrhyw fannau gwan yn y cestyll. Wedyn, cafodd dyluniadau cestyll eu gwella ar ôl yr adborth, a chynigiwyd gwahanol ffyrdd iddynt gofnodi, fel clipfyrddau, sialc palmant, camerâu digidol ac ipad, er mwyn caniatáu ar gyfer annibyniaeth ac ystod o ddeilliannau. Defnyddiwyd y rhain fel ‘sut olwg sydd ar un da’ i ysbrydoli plant eraill.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r ymagwedd hunangyfeiriedig hon mewn awyrgylch sy’n ysgogol, yn hamddenol ac yn hapus, wedi gwella blaengaredd, hunangyfrifoldeb ac wedi annog cydweithredu. Mae creadigrwydd, gwydnwch a medrau cydweithredol wedi gwella’n fawr, ac mae perthnasoedd dwfn a chadarnhaol gyda chyfoedion ac oedolion wedi datblygu.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd arfer o fewn yr ysgol, a bu tiwtor o’r cwrs Cwnsela yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn gweithio ochr yn ochr â staff. Mae’r ysgol yn rhannu ei harfer â’i grŵp clwstwr o ysgolion yn rheolaidd ac wedi arwain sawl gweithdy ar hyd a lled Gogledd Cymru ar gyfer y consortiwm rhanbarthol lleol. Mae sawl gweithiwr proffesiynol wedi ymweld â’r ysgol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Meithrinfa Ddydd Corwen yn feithrinfa fach ddwyieithog mewn ardal wledig yng Ngogledd Cymru. Mae’n cyflwyno gofal o ansawdd uchel mewn amgylchedd sy’n galluogi plant i fod yn chwilfrydig a hyderus yn eu chwarae. Mae’n ysbrydoli plant i ymchwilio a gwneud darganfyddiadau yn ei lleoliad hapus, diogel, anogol ac iach. Mae ymarferwyr yn gofalu am ryw 58 o blant i gyd, a 30 o blant rhwng 6 mis a 4 oed bob dydd, ar gyfartaledd. Mae’r lleoliad yn darparu Addysg Gynnar i lond llaw o blant am ddau dymor, ac yn cyflwyno sesiynau rheolaidd ysgol goedwig yn y goedwig leol a ger afon gyfagos. Mae’n dod â chwilfrydedd i fywydau’r plant trwy ddarparu cyfleoedd iddynt chwarae ag adnoddau naturiol. Mae’n trefnu gwahoddiadau dyddiol i ddysgu a ‘symbyliadau’ sydd wedi’u cynllunio i gyffroi a symbylu chwilfrydedd plant i ddysgu am y byd o’u cwmpas. Mae ymarferwyr yn ymgymryd ag ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol, sy’n helpu datblygu eu hymagwedd.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae ymarferwyr yn credu’n gadarn fod chwarae yn yr awyr agored yn cynnig cyfleoedd dysgu newydd a chyffrous ar gyfer plant. Gall llawer o blant reoli eu hymddygiad a’u hemosiynau’n well yn yr awyr agored gan fod eu system imiwnedd hefyd yn cael hwb o fod yn yr awyr iach. Mae ymarferwyr yn annog y plant i herio’u hunain a phrofi’r byd o’u cwmpas. Maent yn caniatáu i’r plant fynd yn fwdlyd, a chymryd risgiau priodol wrth iddynt ddringo, datblygu creadigrwydd ac adeiladu ag ystod o adnoddau. Mae bod yn yr awyr agored yn galluogi’r plant i symud yn fwy rhydd. Maent yn datblygu ymwybyddiaeth o reoli risgiau a synnwyr gwell o ymwybyddiaeth ofodol, yn ogystal â hunanhyder, annibyniaeth a hunan-barch cynyddol. Mae’r plant yn meddu ar fedrau echddygol bras datblygedig yn sgil cael cyfleoedd i greu eu cyrsiau ymosod eu hunain lle mae angen iddynt ddringo a chynnal eu balans. Maent wrth eu bodd yn treulio cyfnodau hir yn chwarae ar y beiciau balans a’r treiciau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Dechreuodd ymarferwyr fuddsoddi yn yr ardaloedd awyr agored yn 2015 pan gafwyd cyngor gan gydweithiwr o sefydliad cymorth ynglŷn â sut gallent eu datblygu. Roedd hi o’r farn fod gofod awyr agored gwych yn y lleoliad ond nad oedd ymarferwyr yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol ohono. 

Mae’r tair ystafell chwarae bellach yn cynnwys mynediad uniongyrchol i’w hardaloedd awyr agored eu hunain, ac mae plant yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored nag y maent dan do. Yn 2018, prynodd y lleoliad lecyn bach o dir drws nesaf i’r feithrinfa gan nad oedd glaswellt yn yr un o’r ardaloedd awyr agored, ac roedd ymarferwyr eisiau darparu profiad hollol wahanol ar gyfer y plant. Mae gan bob un o’r plant ddillad glaw un darn a welis ac fe gaiff y rhain eu golchi bob dydd. Trwy gael y dillad priodol, gall y lleoliad fanteisio ar yr awyr agored ym mhob tywydd. Mae staff yn ymwybodol y bydd y rhan fwyaf o’u diwrnod yn cael ei dreulio yn yr awyr agored, felly maent yn gwybod i wisgo’n briodol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Rhoddir cyfle i blant greu eu cyrsiau ymosod eu hunain ar y cae a defnyddir pibellau mawr plastig fel llithrennau. Mae canŵ go iawn yn galluogi’r plant i ddefnyddio’u dychymyg ac mae cegin fwd, a phabell wedi’i chreu â llaw, sy’n hynod effeithiol wrth ysgogi chwarae rôl. Mae digonedd o gyfleoedd i balu yn y mwd a chwarae â rhisgl a gwahanol gerrig. I gael mynediad i’r ardal benodol hon, rhaid i’r plant ddringo i fyny dros rwystrau y mae’n rhaid iddynt eu gosod mewn lleoliad i’w galluogi i ddringo’n ddiogel. Mae’r ffrâm ddringo yn boblogaidd hefyd, fel y mae’r gweithgaredd arllwys i’r hambwrdd twff.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae ymarferwyr yn addysgu staff newydd a rhieni ynglŷn â pham mae chwarae yn yr awyr agored mor bwysig, ac mae’r ddarpariaeth chwarae yn yr awyr agored yn cynnig cyfle i bob un o’r plant ryngweithio’n rhydd â’r canlynol, neu’u profi: 

  • Plant eraill 
  • Y byd naturiol – mwd, dŵr, chwilod, pryfed genwair 
  • Darnau rhydd – brigau, cerrig, blychau cardfwrdd, cretiau, riliau cebl, ac ati. 
  • Yr elfennau 
  • Heriau ac ansicrwydd 
  • Symud 
  • Chwarae gwyllt 
  • Y synhwyrau, gwrando ar yr adar a blasu’r glaw

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol Pont y Gof wedi’i lleoli ym Mhenrhyn Llŷn o dan awdurdod lleol Gwynedd. Mae hi’n ardal wledig lle mae cymuned cefn gwlad yn bwysig i holl randdeiliaid yr ysgol. 

Mae 83 o ddisgyblion ar y gofrestr gyda 12 o blant meithrin. Mae 77.5 % o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Cymraeg gartref, 1.5% yn siarad Cymraeg a Saesneg a 21% yn siarad Saesneg ar yr aelwyd.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Cychwynnodd y gwaith wrth ymateb i’r her o greu, cyflwyno a dylunio ein cwricwlwm newydd ar gyfer yr ysgol, sy’n ymateb i egwyddorion a gofynion Cwricwlwm i Gymru. Wrth greu gweledigaeth yr ysgol rhoddwyd cyfle i holl randdeiliaid yr ysgol fod yn rhan ohoni. 

Drwy gyflawni yn Ysgol Pont y Gof, daeth i’r amlwg bod darparu ystod gyfoethog o brofiadau sydd wedi seilio ar nodweddion yr ardal leol yn hynod o bwysig er mwyn datblygu pob plentyn yn gyflawn, a rhoi’r medrau iddynt i fod yn rhan werthfawr o’u cymuned ac i lwyddo’n lleol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Casglu Barn y rhanddeiliaid 

Er mwyn dylunio ein cwricwlwm a llunio ein hegwyddorion, roedd angen mewnbwn a barn yr holl rhandaliad sy’n adnabod yr ysgol, y gymuned a’r ardal yn dda, e.e.rhieni, disgyblion, llywodraethwyr, cyn-lywodraethwyr, staff ac aelodau o’r gymuned. Gofynwyd iddynt: 

Beth maent yn gredu sy’n bwysig i blant Ysgol Pont y Gof fod yn gwybod, ei ddysgu a chael profiad ohono? ’ 

Dadansoddi a defnyddio barn y rhanddeiliaidi bwrpas 

Ffurfwyd grŵp bychan o lywodraethwyr i ddadansoddi’r holiaduron a chrynhoi’r ymatebion oedd yn cael ei nodi’n bwysig i ni fel ysgol. 

  • Bod yr ysgol yn rhan o’r gymuned a’u bod yn cael eu dysgu i werthfawrogi eu milltir sgwâr
  • Bod y disgybloin yn cael eu dysgu i fod yn aelodau gwerthfawr o’u cymunedau lle bynnag maent yn byw. 
  • Bod y disgyblion yn dangos balchder tuag at yr ardal leol
  • Codi ymwybyddiaeth o ffermio a byd amaeth ymysg y disgyblion a bod yn rhan o gymuned cefn gwlad a pharhau i gadw hen draddodiadau cefn gwlad i fynd, e.e. ffermwyr ifanc a bod y disygblion yn ymwneud a hanesion lleol. 
  • Bod y disgyblion yn rhan annatod o’r gymuned Gymreig a dangos balchder tuag ar yr iaith a diwylliant Cymreig.
  • Mentergarwch a rhoi profiadau i’r disgyblion gyd-weithio gyda busnesau lleol a dangos llwybr iddynt yn ifanc ar sut i lwyddo’n lleol

Cynllunio ein Cwricwlwm 

Mae plethu’r egwyddorion a’r agweddau pwysig a godwyd gan y rhanddeiliaid sy’n rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol yn hanfodol. Er mwyn llwyddo i gyflawni hyn yn llwyddiannus, gofynnwyd i’r staff gyd-weithio’n agos i gynllunio gweithgareddau gan ddefnyddio’r egwyddorion sy’n bwysig i’r ysgol. Yn ogystal, roedd plethu hyn i ateb gofynion y pedwar diben a’r chwe maes dysgu a phrofiad yn bwysig, a hynny mewn modd diddorol a chyfoes er mwyn datblygu plentyn cyflawn.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Gan fod y gwaith hwn wedi gwreiddio yn llwyddiannus o fewn yr ysgol, mae’r cwricwlwm yr ysgol yn sicrhau bod… 

  • Profiadau dwfn o’r ansawdd uchel yn cael eu cyflwyno, sydd am arwain y disgyblion i dorri eu cwys eu hunain yn y dyfodol a rhoi cyfle iddynt lwyddo’n lleol. 
  • Y disgyblion yn datblygu’r wybodaeth a’r medrau y bydd eu hangen arnynt i symud drwy fywyd, ac i lwyddo i fod yn unigolion hapus, balch, hyderus ac annibynnol beth bynnag fydd eu llwybr mewn bywyd a hynny’n lleol. 
  • Bod yr athrawon yn angerddol dros annog y disgyblion i fod yn rhan o’r gymuned ac i ddysgu am economi’r gymuned wledig er mwyn datblygu medrau sydd angen i lwyddo’n lleol. 
  • Bod y disgyblion yn caffael medrau cadarn i fod yn greadigol ac yn barod i fentro, adnabod cyfleoedd i lwyddo yn lleol drwy’r gweithgareddau mentergarwch a’r prosiectau creadigol. Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd yn y ‘Cwt Seiri’r Gof’ i ddatblygu’r medrau gwaith pren sydd angen arnynt i ddefnyddio crefft er mwyn llwyddo’n lleol. 
  • Drwy’r prosiect ‘Gorau Glas’ sy’n dysgu medrau hanfodol er mwyn llwyddo a gwella, e.e. cyd-weithio, rhoi cynnig ar bethau newydd, dyfalbarhau, canolbwyntio, bod yn chwilfrydig, gwella eu gwaith, mwynhau dysgu, bod yn greadigol, ac ati. Mae’r disgyblion yn cael cyfle i gyfarfod pobl y gymuned sydd wedi llwyddo er mwyn codi ymwybyddiaeth y disgyblion o’r medrau sydd eu hangen arnynt i lwyddo’n lleol. 

Mae’r cyfleoedd gwerthfawr mae’r disgyblion yn ei gael i gyd-weithio’n agos gydag aelodau o fewn y gymuned er mwyn codi ymwybyddiaeth y disgyblion o’r gallu a’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol yn bwysig iawn. Gobeithio bydd hyn yn gwreiddio ynddynt ac yn eu dennu i fod eisiau aros yn lleol o fewn ein cymuned a gwneud hynny’n llwyddiannus. Trwy hyn gallwn sicrhau dyfodol ein cymuned a’r iaith Gymraeg.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

  • Rhannwyd yr arfer gyda’r corff llywodraethol trwy gyflwyniadau. 
  • Mae’r ysgol wedi rhannu’r model a’r strategaeth gyda’r consortia rhanbarthol. 
  • Rhannu’r gwaith mae’r digyblion wedi bod yn ei gyflawni gyda’r gymuned ac ar wefannau cymdeithasol. 
  • Rhannu’r arfer gyda ysgolion sy’n ymweld a’r ysgol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol Gynradd Gymraeg yng nghanol dinas Abertawe yw Ysgol Bryn y Môr. Mae’r ysgol wedi ei sefydlu ers 1976. Mae yna 293 o ddisgyblion ar y gofrestr – oed 3 i 11. 5.5% o ddisgyblion sydd yn derbyn prydiau bwyd am ddim a 3.4% o ddisgyblion sydd ar y gofrestr addysg dysgu ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

O ganlyniad i’r argyfwng Covid a’r newid mewn arweinyddiaeth, ychydig o ymgysylltu a pharatoi ar gyfer symud tuag at gwricwlwm i Gymru oedd wedi digwydd yn yr ysgol. Erbyn hyn, mae’r Pennaeth, trwy ei hymroddiad a’i hymgysylltiad, ei dulliau arweinyddiaeth hyfedr a chydweithredol, wedi gosod cyfeiriad bwriadol a sgaffaldio strategol i holl rhanddeiliaid yr ysgol. Mae wedi cefnogi yr athrawon i feithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o holl elfennau’r cwricwlwm, i oresgyn heriau ac wedi gyrru newidiadau arloesol yn nyluniad y cwricwlwm mewn byr amser.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Datblygu arweinyddiaeth ar draws yr ysgol fel rhan o’r broses ddylunio cwricwlwm. 

Wrth gychwyn y broses o symud i gwricwlwm newydd roedd angen sicrhau bod ethos ac ymagweddau staff ysgol gyfan yn barod i dderbyn newid. Roedd y rhan hon o’r broses yn un bwysig tu hwnt. Rhoddwyd hyfforddiant i bod aelod o staff i ddeall a datblygu ymagweddau cadarnhaol tuag at newid. Defnyddiwyd gwahanol fodelau o reoli newid, fel cromlin newid Kulber Ross. 

Rhoddwyd ffocws cryf ar ddatblygu medrau a gwybodaeth yr Uwch Dîm Arwain. Ddatblygwyd eu dealltwriaeth o beth a olygir wrth ‘arwain’ yn ogystal â gwybodaeth am Cwricwlwm i Gymru. Defnyddiwyd adnoddau/hyfforddiant o wahanol ffynonellau a chael siaradwyr gwadd i gyflwyno nodweddion a chyfrifoldebau arweinydd effeithiol. 

Fel rhan o reoli perfformiad ac wrth osod blaenoriaethau strategol yr ysgol, ail strwythurwyd cyfrifoldebau uwch arweinwyr ac arweinwyr canol i ffocysu ar ofynion blaenoriaethau cenedlaethol a chwricwlwm. Ffurfiwyd timoedd arweinwyr canol o fewn yr ysgol yn cynnwys tîm lles, addysg dysgu ychwanegol a chwricwlwm. 

Buddsoddwyd amser i sicrhau bod staff ar bob lefel yn deall gofynion Cwricwlwm i Gymru trwy waith darllen proffesiynol, ymchwilio a chydweithio gydag arbenigwyr. Ni ruthrwyd at, a cheisio rhoi strwythurau cwricwlwm yn eu lle yn rhy fuan ond yn hytrach fe ganolbwyntiwyd ar ddatblygu dealltwriaeth y staff o’r broses dylunio cwricwlwm a phwysigrwydd gofyn cwestiynau megis ‘Beth? Pam? Pa ddysgu’ a ‘Sut’ fel rhan annatod o’r broses. 

Erbyn hyn, mae staff yr ysgol, wrth ddechrau cynllunio uned ddysgu newydd, yn gosod rhesymeg glir i’r ‘pwrpas a’r pam’. Wrth werthuso unedau dysgu, mae staff yn aml yn hyderus yn siarad am beth weithiodd neu beth fyddent yn gallu gwella ac yn barod i ddysgu o gamgymeriadau, ail ymweld ag ail ddrafftio cynlluniau a hyd yn oed, yn barod i ddechrau o’r newydd. Ymddiriedwyd yn y staff a rhoi amser iddynt arbrofi yn dilyn gwaith ymchwilio. 

Defnyddiwyd gwybodaeth o’r gwaith ymchwilio hwn i osod datganiadau a thrywyddau dysgu ar gyfer ein hunedau dysgu. Mae’r staff wedi sefydlu ethos o ysgol sy’n dysgu’n gyson dros amser. 

Ffurfiwyd rhwydweithiau ar draws y clwstwr i arweinwyr meysydd dysgu a phrofiad i annog arweinwyr canol i gymryd cyfrifoldeb, i uwch sgilio a datblygu perchnogaeth dros gynnwys y cwricwlwm. Er enghraifft, bu arweinwyr yn adnabod hanfod y dysgu o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yna creu continwwm i’r dysgu hyn o 3 i 16 yn seiliedig ar yr egwyddorion cynnydd. 

Trefniadau cyfredol i ddyluniad cwricwlwm yr ysgol 

Trwy waith arweinwyr yr ysgol mae dyluniad y cwricwlwm yn cynnwys: 

  • unedau dysgu (sef cynlluniau tymor canolig) yn adlewyrchu’n gyfan gwbl gofynion Cwricwlwm i Gymru mewn fformat hollol newydd ac unigryw i’r ysgol. Maent yn cynnwys rhesymeg i’r uned ddysgu sy’n adlewyrchu disgwyliadau’r pedwar diben yn glir, trosolwg o ddysgu craidd, dysgu sy’n datblygu’r medrau cyfannol a chynnydd mewn dysgu ar gyfer y meysydd dysgu a phrofiad. 
  • dyluniad cynllun hir dymor sy’n sicrhau bod y cysyniad o sgema yn rhan ohono. Mae’r cynllun hwn yn sicrhau cynnydd trwy gysylltu unedau dysgu â’u gilydd a chyfleoedd i ddisgyblion adeiladau ar ddysgu a phrofiadau blaenorol. Mae’r cynllunio hir dymor hefyd yn sicrhau cydbwysedd rhwng y meysydd dysgu a phrofiad. 
  • symbolau gweledol ar gyfer y medrau cyfannol i ddisgyblion adnabod a deall y medrau a’u perthynas â’r pedwar diben. 
  • llais y disgybl yn rhan o bob uned ddysgu fel bod disgyblion hefyd yn teimlo perchnogaeth dros eu dysgu. 
  • proses o ddewis dulliau asesu a fydd yn ‘dal y dysgu’ cyn mynd ati i gynllunio profiadau a gweithgareddau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Mae’r cwricwlwm wedi ennyn chwilfrydedd, balchder a mwynhad y disgyblion ac maent yn ymgysylltu’n llawn â’u dysgu. 
  • Mae disgyblion hefyd yn lleisio eu barn am beth hoffent ddysgu a sut hoffent gyflwyno eu gwaith. Ymfalchïant yn eu mewnbwn i’r unedau dysgu ac maent yn siarad gyda dealltwriaeth gref am yr hyn maent wedi cyflawni a’r cynnydd maent wedi gwneud. 
  • O ganlyniad, mae safonau y rhan fwyaf o ddisgyblion yr ysgol yn dda iawn yn y rhan fwyaf o feysydd y cwricwlwm.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y bartneriaeth

Caiff Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned (DOG) Rhondda Cynon Taf (RhCT), a sefydlwyd yn 2010, ei harwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol RhCT. Mae’r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr ag Addysg Oedolion Cymru (AOC) i gyflwyno’r rhan fwyaf o’r ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned ar draws y sir. Mae gan y bartneriaeth gysylltiadau cryf â Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, sy’n cyflwyno ystod o raglenni dysgu oedolion trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Gwaith a Sgiliau RhCT (cymorth â chyflogaeth) yn rhan annatod o’r bartneriaeth hefyd, yn darparu atgyfeiriadau ac yn cefnogi dysgu. Mae darpariaeth Multiply yn ffurfio rhan o’r cynnig, hefyd.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae sesiynau Dydd Gwener Digidol yn rhoi cyfle i ddysgwyr ar bob lefel medrau, yn cynnwys dechreuwyr, drefnu apwyntiadau un i un gyda thiwtor i gael arweiniad ar ddefnyddio dyfeisiau TG amrywiol fel ffonau clyfar, cyfrifiaduron llechen a gliniaduron. Cynhelir y sesiynau hyn mewn llyfrgelloedd a lleoliadau cyhoeddus ar hyd a lled y fwrdeistref sirol, gan gynnig mynediad cyfleus. Mae sesiynau galw i mewn Dydd Gwener Digidol hefyd yn rhoi cyfle i staff asesu anghenion dysgu’r cyfranogwyr yn y dyfodol. Sefydlwyd llwybr dilyniant ar draws y bartneriaeth, gan alluogi dysgwyr i ymgymryd â hyfforddiant achrededig ac anachrededig, fel ei gilydd. Mae’r bartneriaeth wedi creu llwybr sy’n cefnogi dysgwyr o ddysgu anachrededig yr holl ffordd i addysg ar lefel gradd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae sesiynau Dydd Gwener Digidol wedi’u cynllunio ar gyfer dysgwyr sydd angen cymorth â materion digidol, yn ogystal ag ar gyfer y rhai y mae arnynt eisiau datblygu eu medrau presennol, neu elwa ar fwy o gyfleoedd dysgu perthnasol. P’un a yw dysgwr yn llywio’r rhyngrwyd am y tro cyntaf neu fod angen cymorth â’i gyfrifiadur, llechen neu ffôn, mae sesiynau Dydd Gwener Digidol ar gael ar gyfer cymorth galw i mewn. Mae’r sesiynau hyn yn helpu aelodau o’r gymuned i ddefnyddio platfformau fel Zoom neu Teams ac yn darparu arweiniad ar aros yn ddiogel ar-lein. Mae staff wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r holl ymholiadau digidol yn effeithiol. 

Nid yw’n ofynnol i gyfranogwyr ddod â’u dyfeisiau eu hunain, gan y bydd offer yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim yn y lleoliad. Fodd bynnag, caiff y rhai sydd â dyfeisiau personol eu hannog i ddod â nhw. Mae dysgu ar ddyfais bersonol yn aml yn haws, a bydd tiwtoriaid yn dangos i ddysgwyr sut i gysylltu â gwasanaeth Wi-Fi y lleoliad, sy’n rhad ac am ddim.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Cynlluniwyd sesiynau Dydd Gwener Digidol i ddechrau fel pwynt mynediad ar gyfer dysgwyr, ond mae wedi dod yn adnodd gwerthfawr yn gynyddol ar gyfer tiwtoriaid, hefyd. Yn aml, mae tiwtoriaid yn cyfeirio’u dysgwyr i’r sesiynau hyn i gael cymorth ychwanegol, yn enwedig ar gyfer materion technegol fel addasu gosodiadau neu adfer cyfrineiriau wedi’u hanghofio, oherwydd gall mynd i’r afael â’r materion hyn yn ystod dosbarthiadau rheolaidd fod yn llafurus a thrafferthus. 

Mae’r sesiynau hyn nid yn unig yn helpu datrys problemau ond hefyd yn magu hyder dysgwyr, ac yn eu hannog i gymryd mwy o berchnogaeth o’u dysgu. Wrth i ddysgwyr drafod eu materion â’u dyfeisiau gyda dysgwyr eraill, maent yn aml yn darganfod eu bod yn gwybod mwy nag oeddent yn ei feddwl i ddechrau, a gallant ddeall sgyrsiau technegol yn well. Yn sgil yr hyder newydd hwn, maent yn rhannu eu profiadau â’u cyfoedion, gan feithrin amgylchedd dysgu cydweithredol. Mae tiwtoriaid wedi sylwi bod dysgwyr yn fwy tueddol o arbrofi a datrys problemau yn annibynnol, yn hytrach na dibynnu’n gyfan gwbl ar gymorth athro. 

Mae sesiynau Dydd Gwener Digidol hefyd yn gam tuag at gyfleoedd hyfforddi a dysgu uwch, gan gynnwys rhaglenni dysgu oedolion yn y gymuned sy’n canolbwyntio ar fedrau digidol. Mae effaith gymdeithasol y rhaglenni hyn yn aruthrol o gadarnhaol, ac yn ymestyn ymgysylltiad a mwynhad dysgwyr. Sylwodd un tiwtor ar y cynnydd sylweddol yng nghyfranogiad dynion, sy’n amlygu sut mae’r dynion hyn yn cefnogi a rhyngweithio â’i gilydd, gan gyfoethogi’r profiad dysgu ar gyfer pawb dan sylw.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhennir arfer dda ar lefelau strategol a gweithredol ar draws y bartneriaeth. Yn ychwanegol, mae partneriaid yn hyrwyddo’r cynnig ar eu gwefannau a’i sianelau cyfryngau cymdeithasol. Gwneir aelodau o’r gymuned yn ymwybodol o’r gwasanaeth trwy ddeunydd hyrwyddo a thrwy fynychu digwyddiadau yn y fwrdeistref sirol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol Gynradd Llanrug yn darparu addysg ar gyfer ardal Llanrug, Ceunant, Pontrug a Chwm y Glo. Cymraeg yw prif gyfrwng ieithyddol yr ysgol â’r pentref. Mae 12.1% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim gyda 5.5% ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Gweithiwyd ar y cyd gyda holl rhanddeiliaid yr ysgol i ddatblygu gweledigaeth gytûn ar gyfer Cwricwlwm i Gymru. Penodwyd arweinwyr ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad a sefydlwyd cyfarfodydd rhwng ysgolion y clwstwr ac Ysgol Uwchradd Brynrefail er mwyn datblygu gwahanol agweddau o Gwricwlwm i Gymru. Datblygwyd blaenoriaethau dalgylchol er mwyn datblygu cysondeb o fewn y meysydd dysgu a phrofiad. Manteisiwyd ar arbenigeddau athrawon yr ysgol uwchradd a chynradd fel ei gilydd. Cafwyd cyd-weithio buddiol ar unedau pontio trawsgwricwlaidd Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu, Mathemateg a Rhifedd, a Chymhwysedd Digidol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Cytunwyd fel ysgolion clwstwr ar yr angen i ddatblygu blaenoriaeth dalgylchol a oedd yn canolbwyntio’n briodol ar ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o’r camau cynnydd. 

  • Sicrhawyd fod ysgolion yn cyd-gynllunio dyddiau hyfforddiant mewn swydd er mwyn hwyluso trefniadau hyfforddi ar y cyd. 
  • Penderfynwyd blaenoriaethu rhai meysydd dysgu a phrofiad i gychwyn gan adeiladu at gyflwyno y chwe maes dysgu a phrofiad yn rhesymegol gan fod nifer o arweinwyr cynradd yn arwain ar mwy nag un maes dysgu a phrofiad. 
  • Penderfynwyd ar yr angen i arweinwyr meysydd dysgu a phrofiad gydweithio ar y blaenoriaethau hyn er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o’r camau cynnydd 1-5 ymhellach a chreu cynllun dalgylchol. 
  • Trefnwyd dau ddiwrnod hyfforddiant mewn swydd ar gyfer dalgylch Brynrefail gydag ymchwilydd addysgegol er mwyn craffu ar y camau cynnydd. 
  • Yn yr hyfforddiant cyntaf, datblygwyd cyd-ddealltwriaeth staff o gamau cynnydd Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu, a Mathemateg a Rhifedd. 
  • Trefnwyd ail ddiwrnod hyfforddiant dalgylchol a chanolbwyntiwyd ar y meysydd dysgu a phrofiad canlynol: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Celfyddydau Mynegiannol, Iechyd a Lles, a Dyniaethau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r weithgaredd

  • Yn dilyn hyfforddiant manwl a thrafodaethau ysgogol yn canolbwyntio ar ddisgwyliadau cytunedig o fewn y camau cynnydd, cafwyd deialog broffesiynol a buddiol o fewn y chwe maes dysgu a phrofiad. O ganlyniad, adeiladwyd cysondeb mewn disgwyliadau ar draws y dalgylch rhwng yr ysgolion cynradd a’r uwchradd. 
  • Mae’r trafodaethau rhwng yr ysgolion cynradd a’r uwchradd wedi bod yn fuddiol iawn ar gyfer cytuno ar gyrhaeddiad penodol disgyblion erbyn diwedd Blwyddyn 6 fel bod cysondeb gweithredu ar draws y dalgylch wrth drosglwyddo’r disgyblion i Ysgol Uwchradd Brynrefail. 
  • Aethpwyd ati i lunio trosolwg manylach a pherthnasol i’r dalgylch er mwyn datblygu dealltwriaeth gytunedig o gynnydd mewn meysydd penodol gan ganolbwyntio ar feysydd llythrennedd, rhifedd a lles. Blaenoriaethwyd yr elfennau oedd bwysicaf yn y dalgylch i’w datblygu yn gyntaf, fel datblygu gallu disgyblion i ddefnyddio atalnodi’n gywir wrth gofnodi. 
  • Mae’r staff wedi rhannu arferion a thrafod gweithgareddau sydd yn cyd-fynd â’r disgrifiadau dysgu i’w rhoi yn y blwch profiadau er mwyn anelu at y disgwyliadau cytunedig. Mae hyn wedi arwain at gefnogi staff i ddeall yn well y contiwwm dysgu o 3 i 16. 
  • Ym maes dysgu a phrofiad Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu, canolbwyntiwyd ar ddatblygu camau datblygu cytunedig o elfennau gramadeg ac atalnodi, a Chydweithredu a thrafod. Ym maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles, cwblhawyd cynllun o ddatblygiad corfforol gan sicrhau cysondeb ar draws y dalgylch. Sefydlwyd amserlen flynyddol o weithgareddau corfforol ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn systematig a sicrhau cysondeb ym mhrofiadau dysgu a lles disgyblion ar draws ysgolion yr ardal. 
  • Penderfynwyd llunio gwefan ddalgylchol ar gyfer y chwe maes dysgu a phrofiad fel dull o rannu arbenigedd a chynnig arweiniad i athrawon wrth iddynt gynllunio ar gyfer cwrdd â disgwyliadau Cwricwlwm i Gymru. Sicrhawyd fod gan bob athro/athrawes o fewn y dalgylch fynediad i’r wefan fel eu bod yn gallu cael arweiniad yn y chwe maes dysgu a phrofiad. 
  • Mae arweinwyr meysydd dysgu a phrofiad y dalgylch wedi cydweithio yn effeithiol i ddechrau y daith o ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o’r camau cynnydd. 
  • Byddwn yn parhau gyda’r gwaith gan ffocysu ar bob disgrifiad dysgu o fewn y meysydd yn eu tro. Byddwn hefyd yn ail ymweld yn barhaus er mwyn cynllunio, gweithredu, adolygu ac addasu.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Mae staff yr ysgol wedi elwa’n fawr o’r cydweithio effeithiol a chynhyrchiol yma. Maent yn trafod safonau, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion o fewn y camau cynnydd yn gynyddol hyderus sydd wedi arwain at gyd-ddealltwriaeth o ddisgwyliadau. Gwelwyd bod athrawon ac arweinwyr meysydd dysgu a phrofiad yn cyd-weithio’n effeithiol ac wedi datblygu hyder wrth asesu yn erbyn y camau cynnydd. Mae adnabyddiaeth staff o’r cynnwys wedi sicrhau cyfleoedd cynllunio pellach sy’n cyfateb â’r angen, ac yn gyrru safonau. Mae hyn wedi arwain at sicrhau cysondeb mewn safonau a darpariaeth yn yr ysgol. 
  • Mae’r cydweithio dalgylchol ar y camau cynnydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddealltwriaeth arweinwyr meysydd dysgu a phrofiad i arwain eu maes ar draws yr ysgol. 
  • Mae’r cyd-ddealltwriaeth o’r camau cynnydd ar lefel clwstwr wedi arwain at sicrhau cysondeb mewn disgwyliadau a chyflawniad dysgwyr ar draws y dalgylch. 
  • Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion ysgolion y dalgylch ac yn arwain at gysondeb trawsdalgylch wrth i’n dysgwyr drosglwyddo o Flwyddyn 6 i Ysgol Uwchradd Brynrefail. 
  • Mae mynediad rhwydd a hygyrch at y cynlluniau penodol yn cefnogi’r broses o drosglwyddo esmwyth ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6 ac yn sicrhau cysondeb mewn datblygu medrau’r dysgwyr yn hynod lwyddiannus.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol/darparwr

Agorwyd Ysgol Santes Tudful yn 1972 gyda 18 o blant. Bellach mae hi’n ysgol gyda dros bedwar cant o blant ar safle gymharol newydd yn Twynyrhodyn, Merthyr Tydful, gydag egin ysgol wedi ei sefydlu ar safle y Gurnos. Mae’r ysgol yn gweithio tuag at yr un amcan, sef i greu amgylchedd hapus, cefnogol a ffyniannus i bob disgybl. Mae disgwyliadau uchel o ran safonau ac ymdrech, ond mae’r un disgwyliad o dosturi, ystyriaeth, caredigrwydd, gonestrwydd a pharch yn greiddiol i’r ddarpariaeth hefyd. Mae pob disgybl yn cael mynediad at brofiadau cyfoethog mewn ffyrdd hwyliog ac ysbrydoledig gyda chyfleoedd yn cael eu trefnu ar gyfer arloesi, creadigrwydd a meddwl yn feirniadol. Rydym am i’r disgyblion ymgeisio ar gyfleoedd, bod yn uchelgeisiol a galluog, ac i fod yn barod i ddysgu a chyfrannu fel dinasyddion yr 21ain ganrif. Bellach mae dysgu yn yr awyr agored yn rhan annatod o addysg pob disgybl, lle cant y cyfle i feithrin medrau dysgu annibynnol, dycnwch, a phrofi eu medrau datrys problemau yn gyson, sydd yn ei dro yn cael effaith cadarnhaol iawn ar eu lles.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer

Er mewn ardal difreintiedig, mae’r ysgol yn ffodus ei bod wedi ei lleoli mewn ardal allanol lewyrchus sydd yn hafan i fywyd gwyllt a bywyd naturiol. Mae’r tirwedd yn cynnig opsiynau dysgu a chyfleodd ar gyfer darparu profiadau unigryw i ddisgyblion. Mae’r ysgol wedi datblygu’r tir dros y blynyddoedd ond yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae wedi esblygu i sicrhau cyfleoedd cyson ar gyfer y disgyblion. Erbyn hyn, mae diwrnod o addysg llawn yn cael ei ddarparu yn yr awyr agored ar gyfer pob disgybl fesul pythefnos. O ganlyniad, mae 60 o ddisgyblion yn dysgu yn yr awyr agored bob diwrnod, bob wythnos. Yn dilyn ymgyrch enfawr y ‘Welly Walk’ er mwyn codi arian ar gyfer darparu hyn, buddsoddwyd mewn siwtiau ac esgidiau gwrth-ddŵr i bob dysgwr a phrynwyd adnoddau allweddol ar gyfer adeiladu cuddfanau ac offer cynnau tân a choginio. Menter cymunedol sydd wedi darparu ac adeiladu y ddwy ystafell allanol, sied adnoddau a’r ardal natur er mwyn datblygu’r profiadau a’r addysg yn yr awyr agored i ddisgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer effeithiol neu arloesol

Chwilfrydedd byrlymus, cyffro ac antur annibynnol sydd yn gyrru’r profiadau. Mae ein defnydd dychmygus o’n cynefin yn sicrhau fod profiadau dilys a llais y disgybl yn arwain y dysgu, ac mae datblygiad medrau disgyblion wedi’i gysylltu â phedwar diben Cwricwlwm i Gymru. Mae’r dysgu yn yr ardal allanol yn cyfoethogi ac yn atgyfnerthu’r medrau sydd yn digwydd ar lawr y dosbarth. Yn yr ardal allanol, mae medrau cyfeiriannu, gwaith cwmpawd, datrys problemau, gwaith celf a chrefft gwyllt, plannu a thyfu, coginio ar y tân, cynnal arbrofion gwyddonol ac astudiaethau tywydd a thirwedd y disgyblion yn cael eu datblygu. Mae’r dysgu yn canolbwyntio ar themâu lleol a chenedlaethol, gyda disgyblion yn arwain y dysgu trwy, er enghraifft: 

  • ailgylchu a chreu ‘Tŷ Potel Plastig’ fel ymateb i gynhesu byd eang. 
  • cydweithio gyda phrosiect Gwenyn Castell Cyfarthfa i ddysgu am bwysigrwydd gwenyn a chreu mêl yr ysgol. 
  • plannu coed ffrwythau sydd wedi arwain at goginio phastai afalau. 
  • ymarfer eu medrau gwaith pren yn gyson i adeiladu gwestai trychfilod, bocsys bwydo adar, ceginau mwd ac adeiladu llyfrgell bach sydd yn darparu llyfrau am ddim i’r gymuned ysgol. 
  • coginio ar dȃn agored a chydweithio gyda’r Brigâd Dân ac Achub i ddysgu am bwysigrwydd diogelwch wrth weithio yn yr awyr agored. 
  • arwain prosiectau entrepreneuriaeth gan ddefnyddio cynefin ac adnoddau naturiol i greu adnoddau a’u gwerthu i gymuned yr ysgol. 
  • cydweithio gyda chomisiwn coedwigaeth i ddeall problemau tipio anghyfreithlon.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Darperir cyfleoedd cyson i ddisgyblion ddysgu, archwilio, creu a chymdeithasu yn yr awyr agored. Mae hyn yn sicr wedi cael effaith amhrisiadwy ar eu lles a’u dysgu. Mae’r disgyblion yn teimlo’n gyffrous i dreulio diwrnod cyfan yn yr awyr agored dan arweiniad ardderchog ein arbenigwyr. 

O’r dosbarth meithrin hyd at Flwyddyn 6, mae disgyblion yn derbyn cyfleoedd cyson i ddatrys problemau, cymryd risg a dyfalbarhau yn yr awyr agored, sy’n eu cefnogi i fod yn ddysgwyr annibynnol. Mae’r profiadau gwerthfawr hyn hefyd yn datblygu meddylfryd twf y disgyblion wrth iddynt wynebu sialensau newydd a datblygu eu gallu i gydweithio ag eraill i ddatrys problemau. 

Trwy ddefnyddio deunyddiau naturiol o’r cynefin yn ystod y sesiynau, mae disgyblion yn datblygu gwerthfawrogiad gadarn o’r byd o’n cwmpas a’r amgylchedd leol. Mae’r cyfleoedd dysgu hyn yn cael effaith gadarnhaol ar hyder y disgyblion gan fod y sesiynau yn cynnig profiadau newydd iddynt.

Ein hethos yn Ysgol Santes Tudful yw i gynnig profiadau cyfoethog i bob disgybl a’u bod yn gwerthfawrogi bod dysgu yn digwydd yn gyson yn y dosbarth ac yn yr awyr agored.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y darparwr/bartneriaeth

Sefydlwyd Dysgu Cymraeg Caerdydd yn 2016 o ganlyniad i ailstrwythuro sectorol a sefydlu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn un o 11 o ddarparwyr y Ganolfan ac yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau Cymraeg i oedolion yn Ninas a Sir Caerdydd. Lleolir Dysgu Cymraeg Caerdydd o fewn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd ac mae Cyfarwyddwr DCC yn atebol i Bennaeth Ysgol y Gymraeg. Cyflogir holl staff y ddarpariaeth gan y Brifysgol. 

Y Cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am lunio a gweithredu strategaeth a chynllun busnes y ddarpariaeth, a’r Cyfarwyddwr sy’n arwain ar ddiwylliant o hunanwerthuso parhaus er mwyn sicrhau rhagoriaeth.

Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector a nodwyd yn ystod arolygiad, yn ymwneud â chwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd benodol

Mae gweledigaeth ac uchelgais y tîm arwain yn greiddiol i holl weithgarwch a llwyddiant y ddarpariaeth. Mae yna ddisgwyliadau uchel o’r tîm cyfan a llunnir strategaeth feiddgar er mwyn cyrraedd nodau, cynnig cyfleoedd a sicrhau swyddi. Cyflwynir newid mewn modd cadarnhaol a rheolir y newid hwnnw yn effeithiol drwy asesu risg a chywain barn a gwybodaeth. O ganlyniad, sicrheir rhagoriaeth a gwelliant parhaus.

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Yn dilyn ailstrwythuro sylweddol i’r ddarpariaeth roedd angen sicrhau ansawdd ym mhob agwedd o’r gwaith. Rhoddwyd Fframwaith Rhagoriaeth yn ei le ar gyfer Rheoli a Monitro a oedd yn canolbwyntio ar godi safonau a newid meddylfryd. Mae’r fframwaith hwnnw bellach wedi gwreiddio a’r gwaith wedi dwyn ffrwyth. 

Yn hytrach na gwneud penderfyniadau mympwyol, defnyddir data yn bwrpasol. Dadansoddi’r adborth yn barhaus er mwyn datblygu a thyfu, a rhoddir gweithdrefnau mesur gwelliant a chynnydd yn eu lle. 

Mae egwyddorion methodoleg penodol o weithio yn cael eu dilyn o fewn y ddarpariaeth, sef gweithredu mewn cylch parhaus o gynllunio, gwirio, gweithredu a dysgu. I ategu’r dull hwn, defnyddir dangosfyrddau methodoleg arall, sef gweithredu gweledol, rhagweithiol sy’n gofnod o’r holl weithgarwch ac yn benodol, cynnydd y gweithgarwch hwnnw. Trwy ddefnyddio’r dangosfryddau hyn, sicrheir llif gwaith ffwythiannol a gwaith tîm effeithiol, sydd yn eu tro yn arwain at lwyddiant a chynnydd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Er mwyn rhagori, roedd gweledigaeth o newid diwylliant ac arferion a oedd yn llesteirio cynnydd yn allweddol i’r strategaeth. Sefydlu diwylliant a oedd yn canolbwyntio ar berfformiad rhagorol parhaus oedd y flaenoriaeth. Roedd cynnig profiadau i ddysgwyr a oedd yn gwbl gadarnhaol ac yn arwain at foddhad a pharhad eu taith dysgu yn ganolog i’r cyfan. 

Dadansoddwyd gwraidd pob problem wrth ddilyn y dull ‘pum pam?’ gan weld heriau neu fethiannau fel cyfleoedd i wella. Cefnogwyd ac anogwyd datblygu a thyfu fel rhan arferol o’r gwaith. Hwyluswyd rhannu arfer gorau’n barhaus gan groesawu amrywiaeth barn a phrofiad. 

Blaenoriaethwyd meddylfryd o fentro ac ehangu’r ddarpariaeth. O’r herwydd, bu’n bosib cynnig cyfleoedd lu i staff ddatblygu’n broffesiynol ac ymgeisio am swyddi llawn-amser a swyddi uwch. Trwy gydol y cyfan ceisiwyd sicrhau arweinyddiaeth drawsnewidiol a blaengar yn ogystal â gweledigaeth gynaliadwy, hirdymor.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Pan sefydlwyd y darparwr newydd roedd heriau ynglŷn â chyfraddau cwblhau, diffyg incwm a diffyg llwybr gyrfa. 

Yn ddiweddarach yn 2022/23: 

Ymrestriadau uchel – 117% o’r targed 

Cyfraddau cwblhau uchel – 94% (50%+) / 76% (85%+) 

Dilyniant – 77% 

Cynnydd ystyrlon – 95% 

50% o gynnydd mewn incwm blynyddol 

O ganlyniad cynigir gwasanaeth cynhwysfawr sy’n ateb anghenion y gymuned yn ogystal â blaenoriaethau polisïau cenedlaethol megis Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn ysgol cyfrwng Cymraeg sy’n darparu addysg i 335 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae’r ysgol wedi ei lleoli yn y Porth yng Nghwm Rhondda. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 18% a chanran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw 2.1%. Mae 99.4% o’n disgyblion o gefndir gwyn Prydeinig. 

Penodwyd y pennaeth a’r dirprwy ym mis Medi, 2023. Caiff gweledigaeth yr ysgol ei chrynhoi yn yr arwyddair, ‘Acen. Atgofion. Cred’, ac mae hyn yn treiddio trwy bob agwedd ar waith yr ysgol ar bob lefel.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn trafodaethau gyda disgyblion Blwyddyn 6 ar y gwahanol ffiniau sy’n bodoli yn ein byd, codwyd cwestiynau ynghylch ffiniau sy’n gallu gwahanu grwpiau o bobl yn ein cymuned a thu hwnt. Daethpwyd i’r casgliad nad oedd ein disgyblion yn ddigon ymwybodol o fywyd mewn cymunedau y tu allan i’w milltir sgwâr. Roeddent yn frwd dros ddysgu am yr hyn oedd yn digwydd mewn gwahanol gymunedau yng Nghymru a sut yr oedd bywyd yn gallu amrywio o gymuned i gymuned. Roeddent o’r farn mai’r man cychwyn fyddai ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o hanes pobl a Chymunedau, o arferion a thraddodiadau, crefyddau a gwahanol ddiwylliannau. Ond yn bwysicaf oll, yr oeddent yn gryf o’r farn taw mynd allan i ymweld â chymunedau a chwrdd â phobl fyddai’r addysg orau. 

A dyna a wnaethom – treulio amser gyda thrigolion cymuned Trebiwt, Trelluest a Bae Caerdydd ymysg cymunedau eraill. Dyma gywaith a ehangodd orwelion, a heriodd ragfarnau a heb os, un a chwalodd ffiniau. 

Erbyn hyn, mae hanfod y cywaith hwn wedi treiddio drwy’r ysgol gyda phob dosbarth yn cynllunio’n fwriadus er mwyn hybu datblygiad aml ddiwylliannol a moesol ein disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Dysgu am bobl, cymunedau, crefyddau a thraddodiadau amrywiol oedd y man cychwyn. Roedd hyn yn golygu gadael yr ystafell ddosbarth a theithio y tu hwnt i’n cymuned i gymunedau eraill i gwrdd â phobl a phlant a wahanol gefndiroedd. 

I gychwyn ar y gwaith o ehangu gorwelion ac addysgu ein disgyblion am fywydau eraill, trefnwyd arddangosfa aml-synhwyrol yn neuadd yr ysgol ble’r oedd cyfle i’r plant ddarllen, gwrando, gwylio a dysgu am hanes a phrofiadau Cymry o gefndiroedd amrywiol. Darparwyd cyfleoedd iddynt drafod cwestiynau mawr fel ‘I bwy mae Cymru’n perthyn?’ ac ‘A ydych chi’n fwy o Gymry os ydych chi’n siarad Cymraeg?’ ac anfonwyd holiaduron at rieni i’w cynnwys nhw yn y trafodaethau hyn. 

Roedd gwahodd ymwelwyr i’n hysgol i siarad am eu profiadau a’u hunaniaeth nhw yn y Gymru sydd ohoni yn hollbwysig er mwyn i’n plant gael clywed am brofiadau a heriau ganddyn nhw yn uniongyrchol. Roedd cael teithio i wahanol gymunedau megis Trebiwt a Bae Caerdydd yn hynod werthfawr. Yma, cawsant flas ar fywyd y tu hwnt i’w milltir sgwâr a gweld a chlywed yr amrywiaeth ieithoedd, gwisgoedd a bwydydd yn ogystal â gwerthfawrogi celfyddyd gwahanol oedd i’w weld ar furiau adeiladau Bae Caerdydd. 

Cafodd y disgyblion gyfle i gwrdd a threulio sawl diwrnod yng nghwmni plant o ysgol gynradd ym Mae Caerdydd. Heb os, dyma oedd uchafbwynt y gwaith wrth i’n plant ni fwynhau a dod i ddeall a gwerthfawrogi’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau yn eu bywydau. Cawsant chwarae, canu a pherfformio dawns unigryw gyda choreograffydd proffesiynol oedd yn dathlu amrywiaeth, hunaniaeth a thraddodiadau pob un plentyn.

Yn dilyn llwyddiant y gwaith hwn, ysbrydolwyd athrawon eraill yr ysgol i gynllunio cyfleoedd tebyg er mwyn addysgu plant eu dosbarthiadau nhw am fywydau cymunedau eraill. O oedran ifanc, mae ein disgyblion yn dysgu am hawliau, am bwysigrwydd cydraddoldeb a bod yn ddinasyddion moesol. Mae cynlluniau athrawon yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o ddiwylliannau, credoau a chrefyddau eraill ac rydym yn achub ar bob cyfle i sicrhau bod lle blaenllaw yn ein cwricwlwm i ddysgu am gyfraniadau pobl nodedig o bob cymuned.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae effaith y profiadau hyn ar ein disgyblion yn bellgyrhaeddol. Hyderwn bod ein disgyblion yn datblygu i fod yn ddinasyddion gwybodus a deallus sy’n dangos empathi a pharch at eraill. Credwn yn gryf taw’r profiadau y mae ein plant yn eu derbyn y tu hwnt i furiau’r ysgol yw’r allwedd i hyn. Mae arweinwyr yr ysgol yn llwyr ymrwymedig i sicrhau bod yr ysgol a’i holl gymuned yn un sydd yn parchu pobl o bob cefndir fel rhan o’i thaith i fod yn ysgol wrth-hiliol. 

Ceir cyfleoedd cyson i arweinwyr a holl staff yr ysgol fynychu cyrsiau a hyfforddiant er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth ymhellach o bwysigrwydd hybu datblygiad aml ddiwylliannol a moesol ein plant.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol bellach yn cael ei chydnabod fel un sydd yn arwain ar hybu datblygiad aml ddiwylliannol a moesol ein plant. Mae arweinwyr wedi cyfrannu at gynadleddau ar draws y consortiwm rhanbarthol ac wedi cynnal gweithdai ac ymweliadau gan ysgolion eraill. Mae’r ysgol hefyd wedi datblygu partneriaethau gydag ysgolion ar hyd a lled Cymru er mwyn datblygu’r maes hwn ymhellach.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn ysgol cyfrwng Cymraeg sy’n darparu addysg i 335 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae’r ysgol wedi ei lleoli yn y Porth yng Nghwm Rhondda. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 18% a chanran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw 2.1%. 

Penodwyd y pennaeth a’r dirprwy ym mis Medi, 2023. Caiff gweledigaeth yr ysgol, ‘Acen. Atgofion. Cred.’ ei hymgorffori ym mywyd beunyddiol yr ysgol wrth i’r dysgwyr ymfalchïo yn eu hunaniaeth, eu Cymreictod a’u hardal leol tra’n mwynhau’r ystod eang a chyffrous o brofiadau dysgu ysgogol sy’n ehangu eu gorwelion y tu hwnt i’w milltir sgwâr.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ymdeimlad cryf o Gymreictod a dealltwriaeth y disgyblion o dreftadaeth a diwylliant Cymru yn nodwedd gref o fywyd yr ysgol. Mae meithrin Cymry balch o’u hiaith, eu hanes a’u diwylliant yn rhywbeth y mae holl gymuned yr ysgol yn angerddol yn ei gylch. 

Ers sefydlu’r ysgol, mae’r weledigaeth hon wedi llywio’r ymdrechion addysgol ac mae’n parhau i fod yn ganolog wrth i’r ysgol ddatblygu a thyfu. Caiff y disgyblion eu trwytho yn y Gymraeg ac yn niwylliant eu gwlad wrth i staff gynllunio a chydweithio i gynnig ystod eang o brofiadau gwerthfawr sy’n meithrin yr ymdeimlad o falchder yn eu gwlad a’u Cymreictod ymysg ein disgyblion o fewn y dosbarth a thu hwnt. 

Rydym yn grediniol mai balchder, ynghyd â chyfleoedd amrywiol i ddefnyddio eu Cymraeg, sydd wrth wraidd y datblygiad cadarnhaol o ran medrau llafar ein disgyblion. Mae ein plant yn siarad Cymraeg yn hollol naturiol o ddydd i ddydd a hynny â balchder a mwynhad. Yn ogystal, mae ein cynllun drilio iaith yn sicrhau bod datblygiad pwrpasol yng nghystrawennau a geirfa’r disgyblion wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Mae hyn oll yn cyfrannu at sicrhau siaradwyr Cymraeg hyderus a medrus.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Cynllunio ac Addysgu 

Er mwyn datblygu medrau llafar Cymraeg ein disgyblion yn gelfydd, mae cynllun drilio iaith clir wedi ei ymgorffori ac ar waith ar draws yr ysgol. Ar y cyd, mae cymuned yr ysgol wedi cytuno ar yr elfennau di-amod o ran cystrawennau a geirfa y dylid eu cyflwyno a’u drilio ym mhob dosbarth yn ddyddiol er mwyn sicrhau dilyniant a datblygiad clir wrth i’n disgyblion symud drwy’r ysgol. Caiff y rhain eu harddangos yn y dosbarthiadau, yn y coridorau ac mewn mannau cyhoeddus er mwyn atgyfnerthu’r hyn a ddysgir yn y dosbarthiadau. Mae’r athrawon yn fodelau iaith arbennig ac yn achub ar bob cyfle i gywiro gwallau ieithyddol y disgyblion mewn modd sensitif a hwyliog. 

Yn greiddiol i’n cwricwlwm, mae dysgu am hanes Cymru, ei phobl, ei chwedlau a’i thraddodiadau yn greiddiol. Mae hyn yn datblygu ymwybyddiaeth gadarn ein plant o ddiwylliant eu gwlad ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o’u hunaniaeth. 

Profiadau 

Rydym yn cynnig arlwy gyfoethog o brofiadau allgyrsiol i’n disgyblion ac rydym yn llwyr grediniol bod y profiadau hyn yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad eu medrau llafar ac yn dylanwadu’n gadarnhaol ar gymhelliant y di i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol a hyderus. 

Caiff y disgyblion gyfleoedd niferus i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau a lleoliadau amrywiol yn yr ysgol a thu hwnt. Yn flynyddol, cânt deithio i wahanol ardaloedd o Gymru a chwrdd â phobl a phlant mewn gwyliau a digwyddiadau ledled y wlad. Yn ganolbwynt i galendr blynyddol yr ysgol y mae’r Ŵyl Gerdd Dant, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, Gŵyl Lenyddol y Gelli a chyfleoedd i berfformio a chystadlu mewn digwyddiadau cerddorol, chwaraeon a llenyddol sy’n hyrwyddo’r Gymraeg. 

Mae dathlu ein Cymreictod wrth i ni deithio y tu hwnt i Gymru hefyd yn destun balchder mawr i ni a’n disgyblion. Wrth i ddisgyblion Blwyddyn 6 deithio i Amsterdam, er enghraifft, mae clywed ein disgyblion yn siarad Cymraeg mor naturiol wrth gymdeithasu a mwynhau, yn rhoi pleser pur i staff yr ysgol a’r trigolion lleol. Maent bob tro yn awyddus i ddysgu ychydig o Gymraeg i unrhyw un na fedrant siarad yr iaith a’r balchder yn glir wrth gyflawni hynny. 

Rydym yn achub ar bob cyfle i gydweithio â phartneriaethau megis Menter Iaith Rhondda Cynon Taf er mwyn hybu dysgwyr newydd a magu hyder aelodau’r gymuned leol sydd am siarad Cymraeg. Gyda chynifer o gyfleoedd i’r disgyblion ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i furiau’r ysgol, mae medrau llafar ein disgyblion yn datblygu’n naturiol wrth iddyn nhw fagu hyder drwy siarad mewn gwahanol sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, yn gymdeithasol ac yn gyhoeddus. 

Trwy gynnig cyfleoedd amrywiol ac eang fel hyn, rydym yn datblygu disgyblion sydd yn gyfathrebwyr hyderus sydd â medrau llafar Cymraeg cryf erbyn diwedd eu hamser yn yr ysgol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae ymrwymiad holl gymuned yr ysgol i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw a pherthnasol i’n disgyblion yn cael effaith sylweddol ar eu medrau llafar a’u hawydd a’u brwdfrydedd i ddefnyddio’r iaith yn gwbl naturiol ym mhob agwedd o’u bywydau bob dydd. Heb os, profiadau, cyfleoedd a chynllunio gofalus a bwriadus sydd wrth wraidd y datblygiad cadarnhaol ym medrau llafar ein disgyblion ynghyd ag argyhoeddiad y pennaeth a’r staff taw dyma un o brif hanfodion yr ysgol. 

Trwy gydweithio’n agos er mwyn sicrhau profiadau a chyfleoedd i’n disgyblion, mae’r berthynas rhwng y gymuned, y rhieni a theuluoedd yr ysgol yn un cryf gan eu bod yn rhannu’r un weledigaeth. Erbyn hyn, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer ein rhieni sydd yn defnyddio’r Gymraeg gyda’u plant, gyda nifer yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg lleol eu hunain er mwyn cefnogi eu plant ar eu taith drwy addysg Gymraeg.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol bellach yn cael ei chydnabod fel un sydd yn arwain ar hybu datblygiad medrau llafar Cymraeg disgyblion. Mae’r ysgol yn gweithredu fel ysgol arweiniol sy’n cynorthwyo ysgolion eraill ar eu taith i dderbyn gwobr aur y Siarter Iaith. 

Mae arweinwyr wedi cynnal gweithdai ac ymweliadau gan ysgolion eraill. Mae’r ysgol hefyd wedi datblygu partneriaethau gydag ysgolion ar hyd a lled Cymru er mwyn datblygu’r maes hwn ymhellach.