Arfer effeithiol Archives - Page 3 of 67 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae dau blentyn yn plannu planhigion bach mewn gardd. Mae un plentyn yn defnyddio can dyfrio glas i ddyfrhau'r planhigion.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Agorwyd drysau Meithrinfa Canolfan Deulu y Bala yn 2022 ac mae wedi ei lleoli mewn hen ysgol yng nghanol tref y Bala. Mae’r ymarferwyr yn gofalu am 72 o blant rhwng 0 a 13 oed yn ddyddiol. Fel rhan o’r ddarpariaeth mae’r lleoliad yn cynnig sesiynau Addysg Gynnar, Clwb Brecwast, Clwb Cinio, Clwb Ar ôl Ysgol a Chlwb Gwyliau. Ers 2023, maent yn rhan o’r cynnig gofal plant 2 oed Dechrau’n Deg gyda llond llaw o blant yn derbyn eu hawliad yn y lleoliad. Ymhlith y staff mae Rheolwraig, Arweinwyr Ystafell, Ymarferwyr, Myfyrwyr Prentisiaeth a Gwirfoddolwyr. Blaenoriaeth Canolfan Deulu Y Bala yw hapusrwydd a lles pob plentyn – cynigir y gofal gorau posib mewn awyrgylch hapus a chartrefol, a chyfle i bob plentyn ddysgu trwy ei ddiddordebau a datblygu i’w lawn botensial. Mae naws Gymreig gref yn bodoli yn y lleoliad ac mae’r amrywiaeth o brofiadau gwerthfawr a gynigir i’r plant yn hyrwyddo eu hymwybyddiaeth o’u milltir sgwâr a thraddodiadau Cymru. Mae hyn yn ychwanegu at falchder yn y plant, yr ymarferwyr a’r gymuned ehangach ac yn creu ymdeimlad cryf o berthyn. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol  

Mae’r adeilad wedi ei leoli mewn safle hwylus ger yr ysgol gydol oes lleol, Ysgol Godre’r Berwyn. Testun balchder ydy gweld yr holl waith o drawsnewid yr adeilad presennol i fod yn Ganolfan Deulu er budd y gymuned. O’r cychwyn cyntaf, roedd gweledigaeth gref y pwyllgor rheoli wedi ei rhannu gyda’r ymarferwyr a thrigolion y dref. Roeddynt am greu darpariaeth y byddai’r gymuned gyfan yn gallu gwneud defnydd ohono. Mae’r berthynas rhwng y lleoliad a’r rhieni yn gryfder amlwg ac mae’r cyfathrebu cyson yn sicrhau bod gan rieni ddealltwriaeth gadarn o’r hyn sy’n digwydd yn y lleoliad trwy nosweithiau rieni, ap defnyddiol gyda gwybodaeth ddyddiol, tudalen rieni ar wefan gymdeithasol a thrafodaethau o dydd i ddydd wrth drosglwyddo plant. Mae’r berthynas gyda’r ysgol gyfagos yr un mor gryf wrth i’r plant dderbyn cyfleoedd cyson i ymweld â’r ysgol a chymryd rhan mewn digwyddiadau fel gwasanaeth diolchgarwch a diwrnod mabolgampau. Mae rhai myfyrwyr yn dilyn cyrsiau Cam Wrth Gam sy’n arwain at ennill cymwysterau ym maes datblygiad a gofal plant. Yn ogystal â derbyn myfyrwyr ar brofiad gwaith, mae’r lleoliad yn rhan o fentora myfyrwyr ar y cynllun ysgolion gyda rhai yn dewis dilyn lefel 3 Gofal Plant yn y chweched dosbarth gan gwblhau’r lefel 3 ymarferol yn y lleoliad a theori lefel 3 yn yr ysgol. Mae hwn yn gam arwyddocaol o gydweithio fydd yn galluogi myfyrwyr i ddilyn cwrs addysg yn y Brifysgol. 

Plentyn ifanc a pherson ifanc yn eistedd ac yn darllen llyfr gyda'i gilydd, yn gwenu ac yn cymryd rhan yn y gweithgaredd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd  

Mae’r lleoliad wedi datblygu cysylltiadau cryf a llwyddiannus gyda nifer o bartneriaethau o fewn y gymuned leol yn ardal y Bala. Enghraifft o hyn ydy’r ystafell aml-synhwyraidd sydd wedi ei chreu trwy haelioni busnesau lleol. Nid yn unig y plant sy’n mynychu’r lleoliad fydd yn elwa o’r adnodd gwerthfawr hwn ond mae’r ysgol leol yn ogystal â gwasanaeth cefnogi arbenigol yr Awdurdod Lleol hefyd yn cael gwahoddiad i ddefnyddio’r gofod pwrpasol yma. Ers sefydlu’r lleoliad, mae’r amgylchedd wedi cael ei ddatblygu’n helaeth gyda ystafell gyfarfod ar gael i’w llogi sy’n cael ei defnyddio gan grwpiau cymunedol. Cynhelir sesiynau Ti a Fi a Cymraeg i Blant yn wythnosol yma. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddarpar rieni ymweld â’r lleoliad a dod i adnabod ymarferwyr pan fo’u plant yn ifanc iawn, a hynny’n sicrhau bod arweinwyr ac ymarferwyr yn meithrin perthnasau da gyda rhieni cyn i’w plant ddechrau mynychu’r gwasanaeth.  

Elfen nodweddiadol o’n gwaith ydy’r cyfleoedd i blant i fod yn weithredol yn y gymuned. Maent yn weithgar iawn gan gefnogi prosiectau fel plannu bylbiau Cennin Pedr yn y dref i gofnodi digwyddiadau lleol. Mae’r plant wedi cael profiad o ymweld â’r ardd gymunedol er mwyn tyfu a gofalu am blanhigion a llysiau ac mae partneriaeth agos gyda chydlynydd y prosiect a’r lleoliad. Wrth weld y plant yn mwynhau ac yn meithrin chwilfrydedd, penderfynwyd bod angen datblygu’r sgiliau yma ymhellach.  

Erbyn hyn mae gan y lleoliad nifer o ardaloedd palu a phlannu gyda chymysgedd o blanhigion, llysiau a pherlysiau ac mae’r plant, ar draws yr ystod oed, yn gwbl gyfrifol amdanynt. Mae’r ymarferwyr yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r hyn sydd gan rhieni i’w gynnig er mwyn ymestyn profiadau’r plant ac maent yn manteisio ar arbenigeddau rhieni lle y bo’n bosibl. Bydd un rhiant yn cynnal gwersi Sbaeneg ar gyfer y plant yn ystod yn ystod gwyliau’r Haf. Bu sawl rhiant ynghlwm â phrosiect diweddar er mwyn trawsnewid yr ardal tu allan a chreu gofodau symbylus ar gyfer plant ym mhob ystafell o fewn y lleoliad. Crëwyd adnoddau chwaethus a chadarn wedi eu teilwra’n arbennig ar gyfer pob oedran gyda diddordebau’r plant yn ganolog iddynt. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?  

Wrth ddatblygu partneriaethau effeithiol mae’r lleoliad wedi llwyddo i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y plant o’u cymuned leol a’r byd ehangach. Wrth fod yn weithgar iawn yn y gymuned yn codi arian at nifer o achosion fel Ambiwlans Awyr Cymru a SANDS mae plant yn dod i ddeall pwysigrwydd  cynorthwyo eraill. Mae’r cysyniad o ofalu yn cael ei ddatblygu ymhellach wrth gefnogi’r gymuned drwy gasglu sbwriel a chanu mewn cartref henoed. Mae prosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau yn fodd o ddysgu sgiliau newydd, codi hyder a chreu cysylltiadau positif sy’n gwella lles aelodau ieuengaf a hynaf y gymdeithas. Mae’r ethos naturiol Gymreig ac ymdeimlad o falchder y plant at yr iaith a’u hardal yn cael effaith gadarnhaol trwy’r ystod gyfoethog o brofiadau sydd ar gael iddynt. Mae ymarferwyr yn hyderus y bydd y partneriaethau yma yn parhau i esblygu. Mae rhieni yn gefnogol iawn o waith y feithrinfa ac yn ymfalchïo yn y ffaith bod eu plant yn cael bod yn rhan o nifer o brosiectau cyffrous.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?  

Rhannwyd arfer dda mewn cyfarfod rhwydwaith lleoliadau Blynyddoedd Cynnar yr Awdurdod Lleol. Mae’r lleoliad wedi bod yn cynnig cyfle i ymarferwyr eraill weld yr amgylchedd dysgu, y tu mewn a’r tu allan yn ogystal â’r ystafelloedd eraill sydd ar gael i’w llogi. Mae ymarferwyr wedi dod i ymweld  er mwyn sgwrsio a thrafod ein gwaith.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Dau athro yn cerdded ac yn gwenu mewn cyntedd ysgol, un yn dal llechen ac yn trafod, wedi'u hamgylchynu gan waith celf lliwgar i fyfyrwyr ar y waliau.

Gwybodaeth am yr ysgol/darparwr

Mae Rainbow Federation yn cynnwys ysgolion cynradd Bryn Hafod a Glan yr Afon. Mae’r ffederasiwn yn gwasanaethu cymuned yn nwyrain Caerdydd, gyda llawer o ddisgyblion yn dod o aelwydydd ag incwm isel. Roedd yr holl randdeiliaid wedi cymryd rhan mewn creu datganiadau gweledigaeth unigol i bob ysgol a gweledigaeth gyffredinol i’r ffederasiwn, ‘Dod â’r gorau allan o’i gilydd’. Ar hyn o bryd, mae 575 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 450 o ddisgyblion ym Mryn Hafod a 150 o ddisgyblion yng Nglan yr Afon. Mae tua 51% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ym Mryd Hafod a 73% yng Nglan yr Afon. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Fe wnaeth Bryn Hafod a Glan yr Afon ffedereiddio ym Mawrth 2020. Fe wnaeth creu’r ffederasiwn gynnwys sefydlu corff llywodraethol newydd a phenodi pennaeth gweithredol. I gefnogi gwaith y ffederasiwn, fe wnaeth llywodraethwyr ailstrwythuro’r staff, penodi rheolwr busnes y ffederasiwn a phenodi penaethiaid ysgol ar gyfer pob safle. Roedd arweinwyr yn ymroi i sicrhau bod pob disgybl, teulu a staff yn cael yr un cyfleoedd a darpariaeth ar draws y ffederasiwn.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Sail resymegol 

Roedd arweinwyr y ffederasiwn eisiau sicrhau cyfleoedd i ddisgyblion, teuluoedd, llywodraethwyr a staff gydweithredu ar draws y ffederasiwn. Roedd hyn yn cynnwys nod rhannu arbenigedd ac adnoddau, datblygu staff a chryfhau arweinyddiaeth, hunanwerthuso a gwella’r ysgol. 

Gwneud y mwyaf o arweinyddiaeth  

Fe wnaeth y pennaeth gweithredol a’r llywodraethwyr ailstrwythuro arweinyddiaeth i gryfhau medrau arwain uwch arweinwyr ac arweinwyr canol ac i wella effeithiolrwydd hunanwerthuso a gwella’r ysgol. Er enghraifft, datblygont system o arweinwyr ffederasiwn ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad, gydag arweinydd cysgodol yn yr ysgol bartner. Mae diwylliant datblygiad proffesiynol y ffederasiwn yn sicrhau bod arweinyddiaeth yn cael ei datblygu’n barhaus a bod olyniaeth yn cael ei chynllunio’n llwyddiannus. Mae strategaeth effeithiol y ffederasiwn ar gyfer arweinyddiaeth wasgaredig yn cefnogi pob aelod staff i arwain agweddau ar waith y ffederasiwn. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r ddwy ysgol wedi esblygu eu cynlluniau gwella yn un cynllun gwella’r ffederasiwn. Mae’r dull hwn yn effeithio’n gadarnhaol ar ddatblygiad proffesiynol a mwy o gyfleoedd i staff yn y ffederasiwn gydweithio i rannu arfer dda, arbenigedd ac adnoddau, gyda’r nod cyffredinol o sicrhau cynnydd i ddisgyblion. 

Gwella’r ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY)  

Mae cydlynwyr ADY yn y ffederasiwn yn cydweithio’n agos i rannu arbenigedd a phrofiad ac i ddatblygu ymateb strategol cyson i ystod eang anghenion disgyblion. Mae’r swyddogion ymgysylltu â theuluoedd ym mhob ysgol yn cyfarfod yn rheolaidd i nodi cyfleoedd i weithio gyda theuluoedd targedig a’u cynnwys yn y broses ddysgu. Maent yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng yr ysgol, rhieni, teuluoedd a’r gymuned ehangach i leihau effaith anabledd ac unrhyw rwystrau rhag dysgu ar ddeilliannau disgyblion. Maent yn darparu cyrsiau i rieni a gofalwyr sy’n eu helpu i gefnogi addysg eu plant, ysgol a gartref. 

Y cwricwlwm  

Mae arweinwyr yn manteisio ar gryfderau a medrau pob athro unigol ac yn eu defnyddio fel eu bod fwyaf effeithiol ar draws y ffederasiwn. Mae’r holl staff ar draws y ffederasiwn yn cymryd rhan mewn ‘sesiynau archwilio manwl’ bob hanner tymor. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar feysydd dysgu a phrofiad, anghenion dysgu ychwanegol (ADY), addysgu a dysgu, a blaenoriaethau cyffredinol y ffederasiwn. Mae staff yn cymryd rhan mewn teithiau dysgu, gan rannu arfer dda ac amlygu meysydd i’w gwella sy’n canolbwyntio ar y ddarpariaeth ac ar gynnydd disgyblion. Mae’r dull hwn yn galluogi’r ffederasiwn i sefydlu cwricwlwm wedi’i deilwra’n benodol i anghenion unigol disgyblion ac i gymuned y ffederasiwn.  

Cefnogi cydweithredu  

Mae’r holl staff addysgu’n cael amser cynllunio, paratoi ac asesu bob pythefnos i weithio gydag athrawon mewn dosbarthiadau cyfochrog yn yr ysgol bartner. Mae hyn yn helpu i sicrhau tegwch yn y ddarpariaeth a chyfle cyson i bob disgybl. Mae’n effeithio’n gadarnhaol ar les a llwyth gwaith staff, gan fod athrawon yn cydweithio’n effeithiol i gyfuno’u syniadau a’u harbenigedd wrth gynllunio gwersi a gweithgareddau a datblygu adnoddau. Hefyd, mae’n cynnal dulliau addysgu cyson ar draws y ffederasiwn a disgwyliadau uchel cyffredin am sylw a chynnydd disgyblion mewn dysgu. Mae’r cydweithredu cynyddol hwn wedi helpu i godi disgwyliadau ar draws y ffederasiwn.  

Gwella ymglymiad disgyblion  

Mae amrywiaeth o grwpiau arweinyddiaeth disgyblion, fel y Criw Cymraeg, Rights Rangers a Chyngor y Cwricwlwm, sy’n cydweithio ar draws y ffederasiwn. Mae gan y disgyblion ym mhob ysgol eu blaenoriaethau eu hunain, ond maent hefyd yn cyfarfod â’u grwpiau arweinyddiaeth disgyblion partner i rannu syniadau ac amlygu unrhyw flaenoriaethau’r ffederasiwn. Mae Tîm Arweinyddiaeth Disgyblion y Ffederasiwn yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 6 o bob grŵp arweinyddiaeth disgyblion ym mhob ysgol. Maen nhw’n cyfarfod i gynllunio digwyddiadau codi arian, rhannu unrhyw bryderon neu rannu problemau o bob ysgol.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar ddysgu a chynnydd disgyblion? 

Mae athrawon yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion gydweithio â’u cymheiriaid mewn ysgolion eraill. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar fedrau cymdeithasol disgyblion a’u hymdeimlad o les a’r profiad pontio i lawer o ddisgyblion wrth iddynt fynd o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.    

Mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd gwell mewn dysgu a lles na chyn creu’r ffederasiwn. Mae effeithlonrwydd gwell wedi galluogi’r ddwy ysgol i fanteisio ar adnoddau gwell ac arbenigedd ehangach. Mae hyn wedi arwain at gynnig cwricwlwm ehangach sy’n cael ei addysgu mewn ffordd fwy difyr.  

Mae’r holl ddisgyblion yn cael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ystod o brofiadau gan gynnwys ymweliadau a chroesawu ymwelwyr yn gysylltiedig â’u pynciau i ychwanegu at ddysgu. Mae hyn yn caniatáu iddynt ddysgu’r tu allan i’r ystafell ddosbarth gyda’i gilydd ac mae’n helpu i ddatblygu’u medrau cymdeithasol, cynyddu hyder ac annog datblygiad personol. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

 Mae’r pennaeth cydweithredol yn gweithio gyda phenaethiaid gweithredol eraill a’r awdurdod lleol ar Strategaeth Ffedereiddio a Chydweithredu Caerdydd. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Plentyn mewn ystafell ddosbarth yn pinio gwaith celf ar fwrdd arddangos.

Gwybodaeth am yr Ysgol 

Mae Ysgol Gynradd Nefyn wedi ei lleoli yn nhref fechan Nefyn, ar arfordir gogleddol Pen Llŷn yng Ngwynedd. Mae’n gwasanaethu’r dref a’r ardaloedd gwledig cyfagos gan ddarparu addysg i ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae disgyblion o Ysgol Morfa Nefyn yn ymuno â’r ysgol ym Mlwyddyn 4. Mae 137 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, yn cynnwys 18 o blant oed meithrin. Mae 11% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ac mae 8.4% o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol. Mae tua 76% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol 

Mae Ysgol Gynradd Nefyn yn darparu cyfleoedd creadigol cyfoethog i’r disgyblion i ddatblygu’n bersonol ac yn addysgol, gan osod angor o ofal a lles i bob plentyn cyn iddynt hwylio’r don. Maent yn anelu i sicrhau addysg o’r ansawdd orau bosibl i bob disgybl yn unol â’u hoedran, eu gallu a’u diddordebau er mwyn iddynt dyfu yn bersonoliaethau llawn, datblygu ac ymarfer yr holl ddoniau a chymhwyso eu hunain i fod yn aelodau cyflawn o’u cymuned.  

Mae gan Ysgol Nefyn weledigaeth glir sy’n sicrhau bod y disgyblion yn datblygu’n unigolion mentrus, annibynnol, hyderus a chreadigol.  Mae dysgwyr yn cael eu hannog a’u grymuso i fod yn greadigol ac arloesol.  Mae cwricwlwm Ysgol Gynradd Nefyn yn eang a chytbwys ac yn ffocysu ar ddatblygu medrau creadigol y disgyblion boed yn gelfyddyd, drama, neu gerddoriaeth mewn gweithgareddau trawsgwricwlaidd er mwyn datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion ochr yn ochr a’u lles.  

Mae’r ysgol yn rhoi ffocws ar feithrin yn y disgyblion falchder at eu bro a’u gwlad a datblygu ynddynt barch at y byd maent yn byw ynddo, yn gyffredinol ac yn arbennig yng nghyd-destun eu bro a’u hamgylchedd. O ganlyniad, mae’r athrawon yn cynllunio profiadau creadigol a chyfoethog er mwyn dysgu am yr ardal leol a thu hwnt.  Trwy ymgysylltu â’r celfyddydau mynegiannol, caiff y disgyblion gyfleoedd niferus i archwilio eu diwylliant eu hunain, y gwahaniaethau o fewn eu bro, a hanes yr ardal leol yn hyderus.   

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Mae Ysgol Gynradd Nefyn yn sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd creadigol, amrywiol a diddorol trwy ddarparu ar eu cyfer gwricwlwm sy’n berthnasol, yn wahaniaethol, yn eang a chytbwys.  

Mae gweledigaeth cwricwlwm yr ysgol yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau’r disgyblion wrth iddynt ymfalchïo yn eu cynefin, treftadaeth a diwylliant cymunedol. Mae holl gymuned yr ysgol wedi bod yn rhan o greu’r weledigaeth sy’n ffocysu ar ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel, sy’n cyffroi ac yn ysgogi’r dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.   

Mae’r Pennaeth yn gwneud defnydd rheolaidd o grantiau amrywiol i drefnu ymweliadau a gweithdai hynod effeithiol sy’n ehangu gorwelion a dyfnhau medrau celf, drama a cherddoriaeth y disgyblion. Enghraifft o hyn yw cydweithio gydag artistiaid lleol a beirdd cenedlaethol i greu barddoniaeth a murlun sy’n adlewyrchu hanes y gymuned leol. Drwy ddarganfod ffeithiau a gwybodaeth hanesyddol am enwau lleol, atgyfnerthir hunan barch a balchder y disgyblion tuag at eu cynefin.  

Mae’r ymweliadau a’r gweithdai ysgogol yn plethu cyfleodd i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh yn effeithiol iawn. Er enghraifft, wrth ddarparu cyfleoedd bwriadus i ddisgyblion ysgrifennu stori a’i throsi i greu ffilm animeiddio am hanes pysgotwyr penwaig Nefyn. Trwy’r profiadau hyn, mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd cyfoethog i ddwysáu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth am fywydau trigolion ddoe a heddiw. Mae’r profiadau dysgu hefyd yn dyfnhau dealltwriaeth y disgyblion o’u hardal leol a’u hanes. Er enghraifft, maent yn deall manteision byw’n lleol a’r effaith y mae ail gartrefi yn ei gael ar yr ardal drwy greu a pherfformio rap ‘hawl i fyw adra.’ 

Mae’r athrawon yn trefnu ystod eang o ddigwyddiadau mewn partneriaeth a’r gymuned sy’n atgyfnerthu ymdeimlad y disgyblion o berthyn. Er enghraifft, wrth i ddisgyblion ddysgu am bysgotwyr lleol yn yr Amgueddfa forwrol, barddoni a gwneud gwaith celf ar y traeth ac ymweld yn rheolaidd â’r cartref henoed i gyfathrebu a pherfformio. 

Mae’r holl brofiadau dysgu hyn yn cael eu cynllunio’n ofalus ac mae lle amlwg i lais ac anghenion y disgyblion yn y cynlluniau dysgu.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr? 

Mae ffocws cyson yr athrawon ar gynllunio profiadau creadigol i ddwysáu dysgu’r disgyblion am hanes a diwylliant eu cymuned leol yn datblygu medrau llythrennedd, rhifedd, TGCh a chreadigol y disgyblion yn effeithiol. Mae medrau llafar y disgyblion wedi gloywi’n llwyddiannus, er enghraifft wrth defnyddio amrywiaeth addas o eirfa a phatrymau iaith i gyfansoddi a pherfformio cân sianti môr a chymryd rhan mewn gweithdai drama amrywiol. Bu’r prosiect mentergarwch ‘Creu Cadwyni Cymru’ yn gyfrwng addas i ddatblygu medrau rhifedd disgyblion wrth iddynt ddysgu am gostau ac elw. Drwy gydweithio gyda artistiaid a cherddorion enwog lleol, llwyddwyd i ddatblygu balchder y disgyblion at y Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae’r gwaith celf yn cael ei arddangos yn chwaethus ar furiau’r ysgol a’r gwaith rapio, cyfansoddi a barddoni wedi ei gadw ar gof a chadw yn ddigidol.  

Drwy’r profiadau creadigol ac ymarferol cyfoethog a gyflwynir yn yr ysgol mae’r disgyblion yn datblygu’n ddysgwyr mentrus a chreadigol. Cânt brofiadau addysgol o’r ansawdd orau mewn amgylchedd ac awyrgylch lle maent yn gallu tyfu, datblygu ac aeddfedu i ddod yn unigolion hyderus, yn ymwybodol o les eraill ac yn aelodau cyfrifol o’r gymdeithas. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda? 

Mae consortiwm y gogledd, GwE, wedi rhannu’r arfer dda a welir yn llyfrau gwaith y disgyblion gydag ysgolion eraill ar draws y rhanbarth ac mae athrawon o ysgolion eraill wedi dod i weld arfer dda yn yr ysgol.  Mae gwaith creadigol y disgyblion yn cael llwyfan o fewn y gymuned yn rheolaidd mewn arddangosfeydd yn ffenestri’r siopau.   

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Ymgasgliad o bedwar o blant mewn gwisgoedd ysgol o amgylch llechen, ymgysylltu a gwenu, mewn ystafell ddosbarth wedi'i goleuo'n llachar.

Gwybodaeth am yr ysgol neu’r darparwr 

Mae Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul yn ysgol amrywiol sydd wedi’i lleoli yng nghanol Grangetown. Mae’r ysgol o fewn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd yng Nghymru. Mae Saesneg yn ail iaith i ryw 48% o’r disgyblion, roedd gan 9% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol adeg yr arolygiad, ac roedd 34% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros gyfartaledd tair blynedd. Mae gan yr ysgol le i 24 yn y dosbarth meithrin.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol  

Mae’r ysgol yng nghanol y gymuned ac mae ganddi ethos twymgalon a chroesawgar iawn. Mae rhieni’n gwybod y bydd yr ysgol yn gweithio gyda theuluoedd i wneud yn siŵr fod pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Mae’r ysgol yn gweithio’n galed i fod yn amgylchedd cynhwysol ac yn parchu disgyblion a theuluoedd o bob cefndir, diwylliant a gallu. Mae cefndiroedd diwylliannol, ethnig a chrefyddol y disgyblion yn amrywiol, ac adlewyrchir hyn yn y weledigaeth ar gyfer yr ysgol a’r cwricwlwm, sef ‘teulu o ddysgwyr sy’n credu, yn perthyn ac yn llwyddo gyda’i gilydd.’ 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Wrth ddatblygu’r cwricwlwm i ddechrau, bu arweinwyr a staff yn gweithio gyda’i gilydd i ddeall y pedwar diben. Ystyriwyd treftadaeth ddiwylliannol y disgyblion hefyd ochr yn ochr â beth fyddai hynny’n ei olygu i’r plant sy’n tyfu i fyny mewn Cymru sy’n esblygu o hyd. Cafodd yr amser a roddwyd i’r pedwar diben ddylanwad sylweddol ar gyfeiriad y dysgu sy’n seiliedig ar ymholi a fyddai’n dilyn.  

Pennodd uwch arweinwyr beth ddylai addysgu uniongyrchol ei olygu. Er enghraifft, roedd ffoneg a meddwl cyfrifiadol yn rhai o’r meysydd a gafodd eu cynnwys. Mae saith elfen yn rhedeg trwy’r cwricwlwm, a’r rhain yw’r meysydd y credai pob un o’r rhanddeiliaid y byddent yn cael eu cynnig yn Ysgol Sant Paul, ni waeth am yr ymholiad a’r newid mewn ffocws. Mae llinynnau’r cwricwlwm wedi cael eu cynllunio’n raddol ar draws pob sector. Er enghraifft, un o’r elfennau yw dysgu yn yr awyr agored, ac mae hyn yn cwmpasu rhai o’r gofynion o’r MDPh Gwyddoniaeth a Thechnoleg. 

Wrth symud ymlaen i gynllunio tymor canolig, penderfynwyd cynllunio tri chyd-destun y flwyddyn fel y gellid rhoi mwy o amser i sicrhau ansawdd a manylder o fewn dysgu ac addysgu. Cafodd y rhain eu harwain gan y wybodaeth a’r medrau o’r tri MDPh: y dyniaethau, gwyddoniaeth a thechnoleg a’r celfyddydau mynegiannol. Penderfynodd yr ysgol y byddai’r meysydd dysgu a phrofiad iechyd a lles, iaith, llythrennedd a chyfathrebu, a mathemateg a rhifedd yn cael eu datblygu trwy gydol unrhyw ymholiad a oedd yn cael ei gynllunio. 

Roedd ffocws pob ymholiad ar ‘gwestiwn mawr’ wedi’i seilio ar ymholiad, wedi’i ategu gan gysyniadau allweddol. Er enghraifft, mae disgyblion ym Mlwyddyn 1 yn edrych ar arweinyddiaeth trwy gwestiwn eu hymholiad, ‘Ydym ni’n gallu cael cymuned heb ofal?’ Caiff y cysyniad ei ddatblygu ymhellach wrth iddynt symud trwy’r ysgol, gan edrych yn olaf ar y cysyniad eto yn ystod yr ymholiad gwyddoniaeth a thechnoleg ym Mlwyddyn 6, ‘Dim ond oherwydd bod ni’n gallu, ydy hyn yn golygu y dylem ni?’  

Bu’r ysgol yn gweithio ochr yn ochr â’r sefydliad Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) i ddatblygu ymagwedd wrth-hiliol at bob agwedd ar ddysgu ac addysgu. Mae lens wrth-hiliol i brofiadau erbyn hyn. Mae dysgu trwy brofiad wedi datblygu ochr yn ochr â’r ymagwedd hon. Mae ymwelwyr wedi ymuno â’r ysgol trwy Teams ac wyneb yn wyneb, ac mae ymweliadau wedi tyfu’n gyflymach ac yn gyflymach. Ar gyfer ymholiadau ym Mlynyddoedd 2, 5 a 6, bu tystion arbenigol, yn cynnwys dawnsiwr ac archwiliwr lleol, nid yn unig yn ateb cwestiynau am eu meysydd arbenigedd, ond gofynnwyd cwestiynau cysyniadol iddynt hefyd, fel ‘Beth mae perthyn yn ei olygu?’ Mae arweinwyr cymunedol yn siarad â’r disgyblion am gydlyniant cymunedol. Mae disgyblion yn cyfweld ag aelodau’r Senedd am eu plentyndod a sut mae ganddynt ymdeimlad o ‘gynefin’. 

Mae’r ysgol yn rhan o’r rhwydwaith ‘More in Common’ sy’n gweithio tuag at gydlyniant cymunedol. Mae tri digwyddiad mawr wedi cael eu cynnal, yn cynnwys picnic cymunedol.  

Caiff pob ymholiad ei gynllunio gyda’r cysyniadau allweddol yn ganolog iddo. Mae’r athrawon yn rhoi pwys ar brofiadau, llais y dysgwr, dangos dealltwriaeth, a gweithredu. Mae pob dosbarth yn dilyn saith cyfnod y cylch ymholi, sef: bod yn ymwybodol, darganfod, didoli, mynd ymhellach, creu cysylltiadau a gweithredu, gan gofnodi eu canfyddiadau a’u myfyrdodau yn gyson.  

Rhoddir llawer o bwysigrwydd ar hawliau’r plentyn ac mae’r ysgol yn gweithio tuag at ei gwobr aur fel Ysgol sy’n Parchu Hawliau. Mae’r plant yn ymwybodol o’u hawliau ac mae hyn yn rhan annatod o ethos a diwylliant yr ysgol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Mae adborth gan ymwelwyr ac o fonitro yn dangos bod manylder dealltwriaeth y disgyblion yn aruthrol. Mae disgyblion yn deall pwysigrwydd hunaniaeth. Maent yn gwybod am bwysigrwydd democratiaeth ac eirioli. Maent yn deall eu hawliau ac yn gallu siarad yn hyderus am degwch. Dywed rhieni fod y cwestiynau y mae plant yn eu gofyn gartref yn fwy penagored, ac ymddengys fod disgyblion yn ymgysylltu mwy â’u dysgu yn yr ysgol. 

Mae’r ysgol yn adolygu ei chwricwlwm yn barhaus gan mai ei nod yw adlewyrchu’r byd a’r gymuned sy’n newid. Mae effaith mapio cysyniadau allweddol yn raddol wedi golygu bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da ar draws pob maes o’r cwricwlwm.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda? 

Cynhaliwyd HMS clwstwr ar y cyd yn Ysgol Sant Paul yn canolbwyntio ar effaith lens wrth-hiliol ar gwricwlwm yn seiliedig ar ymholi. Rhannwyd yr HMS hwn â Llywodraeth Cymru hefyd, ac agorwyd yr HMS gan aelod o’r Senedd. Mae arweinwyr yr ysgol wedi creu grŵp llywio gwrth-hiliol ar gyfer ysgolion lleol Grangetown. Mae’r ysgol wedi cyfrannu at flog DARPL ac yn gweithio gyda DARPL i ddatblygu adnodd digidol yn seiliedig ar y cwricwlwm ar gyfer athrawon.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Tri chogydd mewn cegin fasnachol, un yn adolygu rysáit tra bod dau arall yn paratoi prydau bwyd.

Gwybodaeth am yr ysgol/darparwr  

Mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian hanes hir o gyflwyno rhaglenni prentisiaeth dysgu yn y gwaith ar draws Cymru. Mae eu Pencadlys yn y Canolbarth a lleoliadau ar draws Cymru, ac maent yn gweithio gyda 10 is-gontractwr ac yn cefnogi tua 2,000 o ddysgwyr. Y darparwr sydd â’r nifer fwyaf o ddysgwyr mewn darpariaeth prentisiaethau lletygarwch a bwyd a diod yng Nghymru.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol  

Nod CTC yw gwella hyfforddiant galwedigaethol a pharodrwydd y gweithlu trwy greu dull teilwredig, penodol i ddiwydiant, ar gyfer cynllunio darpariaeth. Trwy brofiad galwedigaethol technegol helaeth y darparwr a’i bartneriaethau â chyrff allweddol y diwydiant, maent wedi datblygu rhaglenni hyfforddiant a luniwyd i fynd i’r afael â diffygion presennol o ran medrau a rhagweld anghenion y diwydiant yn y dyfodol. Maent yn cefnogi dysgwyr yn weithgar i gymryd rhan mewn cystadlaethau medrau ar draws Cymru i arddangos eu medrau ac ennill cydnabyddiaeth y diwydiant.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd  

Trwy gymryd rhan yn nhrafodaethau’r diwydiant, meithrin perthnasoedd â chyflogwyr ac addasu darpariaeth hyfforddiant yn barhaus, mae CTC yn mynd i’r afael ag anghenion medrau’r sectorau hyn yn effeithiol. Mae gweithgareddau’n cynnwys: 

  • Ymgysylltu’n rhagweithiol: Mynd i gyfarfodydd diwydiant yn rheolaidd gan ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i fod yn wybodus am anghenion a thueddiadau’r sector. 
  • Meithrin perthnasoedd: Sefydlu a chynnal perthnasoedd hirsefydlog gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr i feithrin cydweithredu ac ymddiriedaeth. 
  • Datblygu’r cwricwlwm: Gweithio’n agos gyda phartneriaid diwydiant i ddatblygu a mireinio rhaglenni hyfforddiant sy’n ymateb i anghenion presennol o ran medrau ac anghenion yn y dyfodol. 
  • Mynd i’r afael â bylchau penodol mewn medrau: Nodi a mynd i’r afael â bylchau penodol mewn medrau o fewn y sectorau a chyflogwyr unigol, gan sicrhau bod dysgwyr wedi paratoi’n dda ar gyfer cyflogaeth a dilyniant gyrfaol. 
  • Dylanwadu ar strategaethau sector cyfan: Ymgymryd â rolau arwain o fewn cyrff diwydiant i gyfrannu at drafodaethau strategol a dylanwadu ar bolisïau datblygu’r gweithlu. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr? 

Trwy gydweithredu â chyrff diwydiant, mae’r darparwr wedi galluogi dysgwyr i arddangos eu doniau, ennill cydnabyddiaeth a hybu eu hyder. Mae llawer o brentisiaid wedi sicrhau rolau uwch ac, mewn ambell achos, rolau blaengar yn y sector, gan gyfrannu’n effeithiol at eu gweithle. Ar y cyfan, mae’r ymdrech gyfunol yn y sector wedi meithrin gweithlu mwy medrus, gyda mwy o gymhelliant, sy’n gallu bodloni gofynion esblygol y diwydiant a chodi proffil y sector. Mae enghreifftiau allweddol yn cynnwys, mewn un cwmni, rhaglenni prentisiaeth sy’n annatod i ddatblygu ei weithlu o fwy na 1,000 o weithwyr ac, mewn cyflogwr arall, cadw a datblygu staff yn well ers lansio prentisiaethau yn 2017. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?  

Mae uwch arweinwyr yn y darparwr yn siarad yn rheolaidd mewn cynadleddau a gweithdai diwydiant, gan amlinellu strategaethau a deilliannau llwyddiannus. Maent yn cyhoeddi astudiaethau achos ac erthyglau mewmn cyfnodolion diwydiant a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron a’u gwefan, gan rannu’u dulliau a’u cyflawniadau.  

Fe wnaeth cadeirydd gweithredol Hyfforddiant Cambrian fentora Tîm Coginio Cenedlaethol Iau Cymru i ennill eu Medal Aur Olympaidd gyntaf. Arweiniodd raglen brentisiaeth grefft arloesol ar gyfer cogyddion yng Nghymru. Mae wedi chwarae rhan annatod wrth sicrhau cefnogaeth gan Lywyddion Gwlad World Chefs wrth sicrhau eu pleidlais dros gynnal Cyngres 2026 WorldChefs yng Nghymru, yn ICC Wales, ym Mai 2026. Dyma fydd y tro cyntaf i Gyngres WorldChefs gael ei chynnal mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig yn ei hanes 98 mlynedd.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Dau blentyn mewn stiwdio recordio gydag un offer sain gweithredol ac un arall yn gwisgo clustffonau, y ddau yn wynebu sgrin gyfrifiadur gyda meddalwedd cynhyrchu sain i'w weld.

Gwybodaeth am yr ysgol 

Mae Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae’r ysgol yn gymuned hapus, gynhwysol a gofalgar sy’n rhoi pwyslais cryf ar ddathlu Cymreictod. Mae’r Gymraeg yn ganolog i holl waith yr ysgol ac mae bron bob disgybl yn falch o’u gallu i ddefnyddio’r iaith tu fewn a thu hwnt i’r dosbarth. Ers sefydlu’r ysgol dros ddegawd yn ôl, mae’r pennaeth wedi llwyddo i sefydlu amgylchedd dysgu pwrpasol sy’n dathlu Cymreictod a chynnal safonau uchel o ran y Gymraeg.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol  

Mae canran isel o ddysgwyr (7%) yn dod o gartrefi Cymraeg ac felly mae sefydlu cymuned lle mae’r disgyblion yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg, yn hollbwysig. Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd buddiol i ymfalchïo a datblygu eu Cymreictod ar draws yr ysgol sy’n adeiladu at greu dysgwyr sy’n hyderus i siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, y tu fewn a thu allan i’r ysgol.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Mae’r ysgol yn strwythuro profiadau penodol i roi cyfleoedd i ddisgyblion ymfalchïo yn eu Cymreictod ar draws yr ysgol ac yn sicrhau bod y gymuned ehangach yn rhan o’r boddhad a’r balchder hwn. Mae disgyblion Blwyddyn 5 yn cael cyfle i berfformio sioe fel rhan o Brosiect Theatr Iolo er mwyn iddynt fagu hyder, datblygu gwytnwch ac i fwynhau defnyddio’r iaith Gymraeg tu allan i’r ysgol. Mae sioe clwstwr Trysor Gwent ar ddiwedd eu taith ysgol hefyd wedi sicrhau bod y disgyblion yn ymfalchïo yn eu cymuned leol wrth edrych ar ddigwyddiadau hanesyddol sydd wedi newid a chreu gwahaniaeth yn y gymuned. Mae hyn wedi cael effaith bositif ar hyder y disgyblion, fel nodwyd gan eu rhieni. 

Mae gorsaf radio’r ysgol wedi bod yn ffordd anffurfiol o gael y disgyblion i ddefnyddio’u Cymraeg tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Maent yn creu podlediad ac yn darlledu i’r ysgol gyfan yn y neuadd ginio ac ar yr iard yn ystod amseroedd cinio ac egwyl. Mae hyn wedi magu hyder y disgyblion wrth ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac yn sicrhau awyrgylch Cymreig ar draws yr ysgol.  

Mae’r disgyblion yn cael eu gwobrwyo am siarad Cymraeg trwy system tocynnau dathlu Cymreictod. Pob mis, maent yn cael cyfle i ennill llyfr Cymraeg i fynd adref sy’n sbarduno’r disgyblion i ddefnyddio eu Cymraeg yn yr ysgol ac adref gyda’u teulu. Mae’r llysgenhadon ieithoedd yn ymfalchïo yn eu Cymreictod ac yn sicrhau awyrgylch sy’n magu’r dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg mewn amryw o sefyllfaoedd. Yn ogystal, mae dysgwyr Blwyddyn 6 yn cael amser gyda’r disgyblion ieuengaf pob bore i ddefnyddio’u Cymraeg er mwyn magu hyder a chywirdeb y disgyblion.  

Ar lawr y dosbarth, mae’r ysgol wedi buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol staff i ddefnyddio amrywiaeth o gynlluniau a strategaethau er mwyn codi safonau llafar y disgyblion.  Mae hyn yn sicrhau bod disgyblion ar draws yr ysgol yn fwy hyderus i ddefnyddio eu medrau llafar ac ymadroddion Cymraeg gyda chywirdeb.  

Yn ogystal, mae arweinwyr yn darparu cyfleoedd da i’r staff dderbyn sesiynau gloywi iaith yn rheolaidd sy’n cryfhau eu medrau iaith. Mae gan yr ysgol  strwythur i gefnogi oedolion sydd ar eu taith gynnar i fagu hyder yn yr iaith Gymraeg. Mae oedolion yn y gymuned wedi cefnogi’r ysgol yn wirfoddol ac yna datblygu medrau a hyder i weithio fel cynorthwy-wyr, cynorthwy-wyr addysgu lefel uwch a datblygu i fod yn athrawon dosbarth. Yr ysgol sy’n esgor gobeithion yr holl gymuned. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Wrth ddarparu cyfleoedd i sicrhau ymdeimlad o berthyn, naws cefnogol ac ymfalchïo yn eu Cymreictod, rydym wedi datblygu a chynyddu medrau llafar ein disgyblion ar draws yr ysgol. Gan fod y disgyblion yn rhan o brofiadau cyffrous bythgofiadwy, maent o ganlyniad yn datblygu cysylltiad emosiynol gref mae hyn arwain at angerdd at yr iaith. Dengys holiaduron disgyblion yr effaith gadarnhaol mae’r profiadau wedi cael ar eu hunan hyder a gwytnwch. Cysylltiadau emosiynol i brofiadau sy’n gyrru eu defnydd o’r iaith a sicrhewn safonau uchel ar hyd y daith.  Rydyn ni’n fwriadol yn sicrhau cyfleoedd i’r gymuned ehangach chwarae rhan mewn gweithgarwch gyda’r disgyblion trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn bwysicaf, mae rhieni’n canmol cyfleoedd ardderchog mae eu  plant yn cael ar eu taith o ddysgu’r iaith gan gael boddhad a chreu atgofion sy’n ennyn balchder yn eu Cymreictod.  

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda? 

Mae’r ysgol wedi mynd ati i rannu ein arfer dda gydag ysgolion y clwstwr, cyfarfodydd rhwydweithio a chyfarfodydd cydlynwyr y consortia ac ysgolion eraill .  Byddant hefyd yn barod i drafod eu hastudiaeth achos ag arweinwyr eraill. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Tri phlentyn yn archwilio ac yn edrych ar graig fawr mewn coedwig drwchus gyda choed tal, gwyrdd.

Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd wedi lleoli ym mhentref gwledig Llanfair, dwy filltir i’r de o Rhuthun. Mae’r ysgol yn un reoledig dwyieithog lle mae rhieni yn dewis iaith ar gyfer dysgu eu plant, naill ai yn Gymraeg (tua 80%) neu’n Saesneg (20%), ond iaith pob dydd yr ysgol ydy’r Gymraeg. Mae gan yr ysgol 4 dosbarth o oedrannau cymysg: Meithrin a Derbyn, Blwyddyn 1 a 2, Blwyddyn 3 a 4, a Blwyddyn 5 a 6. Symudodd yr ysgol i’w chartref newydd o’r hen adeilad i’r adeilad newydd  ym mis Mawrth 2020. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Llanfair yn gwerthfawrogi’n fawr yr athroniaeth a’r addysgeg dysgu yn yr awyr agored, ac wedi buddsoddi ynddi dros y blynyddoedd. Mae’r staff wedi bod yn dysgu trwy ddefnyddio trefniadau Ysgol Goedwig yn yr awyr agored ers sawl blwyddyn. Ar ôl gweld yr effaith gadarnhaol mae hyn wedi ei gael ar ddysgu a lles y disgyblion, y bwriad oedd ehangu’r cyfleon ymhellach. Penderfynwyd dysgu gwyddoniaeth yn yr ardal tu allan er mwyn hybu chwilfrydedd, datrys problemau a gwaith tîm y disgyblion trwy brofiadau bywyd go-iawn. Mae’r disgyblion yn datblygu nid yn unig eu hannibyniaeth ond hefyd eu medrau cyd-weithio, yn cymryd cyfrifoldeb dros y math o weithgareddau ac ymchwiliadau yr hoffent wneud sydd yn datblygu ymgysylltad gyda’u dysgu a’u medrau bywyd ehangach. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ar gychwyn bob tymor, mae’r disgyblion yn dysgu am swyddi newydd fel peirianwyr, ecolegwyr neu ffermwyr. Yna maent yn mabwysiadu rôl y swydd ac yn dod i  adnabod y mathau o fedrau fydd angen eu datblygu er mwyn gweithredu’r rôl. Trwy lythyr, galwad ffôn, e-bost neu hysbyseb, mae’r disgyblion yn derbyn tasg neu broblem i’w datrys. Her y disgyblion yw ymateb i’r dasg a datrys y broblem, neu ymateb i’r sialens a roddwyd. Mae’n rhaid iddynt gasglu gwybodaeth berthnasol trwy fesur am y thema, creu holiaduron, pwyso, profi pridd, cofnodi’r tywydd, er  enghraifft. Weithiau, mae angen ymchwilio  i syniadau hanesyddol a chyfoes yr ardal er mwyn casglu syniadau.   

Ar ôl casglu’r wybodaeth  disgwylir i’r disgyblion greu prototeip: olwyn ddŵr neu gwch, er enghraifft. Yn ystod y broses hon, darperir digonedd o gyfleoedd i’r ddisgyblion roi tro, ymgeisio eto, gwella a mireinio eu gwaith, dyfalbarhau a myfyrio ar eu dysgu a’r broses wrth ddysgu o’u camgymeriadau. Ar adegau, mae’n rhaid datrys y broblem trwy gynnig ateb i gwestiwn fel: ‘Sut allwn wella draeniad y cae?’ neu ‘Sut allwn leihau sŵn gloch yr ysgol?’. Mae ganddynt gyfleoedd i ymchwilio cyn gwneud y penderfyniadau fel: ‘Pa ddefnydd sydd orau i atal sŵn y gloch?’ neu ‘Pa rannau o’r cae sydd fwyaf gwlyb?’.   

Y cam olaf yw cyflwyno eu prototeip neu syniad yn ôl i’r cwmni, pwyllgor neu’r gymuned. Maent yn gwneud hyn drwy e-bost neu gyflwyniad, poster i hyrwyddo eu syniad neu wrth chwarae rôl.   

Trwy gydol y broses, mae’r disgyblion yn cofnodi yn union fel pe baent yn y swydd go iawn trwy lunio mapiau, cynlluniau gyda graddfa, ffurflenni gwybodaeth, holiaduron, llythyrau ac e-byst. Mae’r broses gyfan yn chwarae rôl bwysig fel bod y disgyblion yn cael y cyfleoedd i ddysgu am swyddi gwahanol. Hefyd, mae’r disgyblion yn datblygu medrau wrth ddefnyddio amrywiaeth o offer fel ‘blwch data’, stribedi pH, thermomedrau ac olwynion mesur, ac yn rhesymu dros eu dewis er mwyn hybu eu hyder a’u profiad, ac i fyfyrio dros eu heffeithiolrwydd wrth ddysgu. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Trwy drafod gyda’r disgyblion ar rieni/gofalwyr, gwelwyd bod y disgyblion yn mwynhau ac yn edrych ymlaen at y gweithgareddau sy’n hybu eu lles a’u hagweddau at ddysgu. Trwy’r profiadau gwerthfawr hyn, mae’r disgyblion yn gweld cynnydd yn eu hyder i ddysgu’n annibynnol a dewis a defnyddio offer, yn ogystal â’u hyder i gydweithio mewn grŵp i  arwain neu dderbyn cyfarwyddiadau, er enghraifft. Mae’r disgyblion yn rheoli eu hamser a chyflawni eu tasgu yn dda wrth wneud y penderfyniadau i symud ymlaen i’r dasg nesa ar ôl gwerthuso a myfyrio ar lwyddiant eu dysgu.   

Trwy ddysgu’n ymarferol mae’r disgyblion yn trafod am yr hyn maent wedi’i ddysgu yn hyderus. Maent yn cofio ac adalw gwybodaeth am weithgareddau blaenorol yn dda wrth ragfynegi a dod i gasgliadau dilys wrth drafod am beth maent wedi arsylwi a phrofi.   

Gwelir hefyd dystiolaeth yng nghynnydd yn hyder y disgyblion, ac yn fwy nodedig yn y cyfleoedd i’r disgyblion sy’n cael trafferth cofnodi i ffynu yn y gweithgareddau, a datblygu hyder a llwyddiant. Mae staff yn rhoi gwerth yng nghyd-destun datblygu’r plentyn cyflawn ac wrth i’r disgyblion  dderbyn gwersi i feithrin eu chwilfrydedd gwyddonol, a diddordeb yn y byd natur yn yr awyr agored. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda? 

Mae’r pennaeth wedi gwneud cyflwyniad mewn cyfarfod clwstwr penaethiaid o’r hyn rydym yn ei wneud yn yr ysgol. Yn dilyn hyn, daeth athrawon o ysgolion eraill i arsylwi’r gweithgareddau a thrafod am beth rydym yn ei gyflawni. Yn ogystal â hyn, mae gwaith a datblygiadau’r ysgol wedi cael canmoliaeth gan Sefydliad Bevan, Young Future Thinkers, ac wedi derbyn gwobr gydnabyddedig.    

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Llythyrau sy'n sillafu 'cymraeg' sy'n golygu 'Cymraeg' yn yr iaith Gymraeg, yn hongian ar linell yn erbyn awyr las glir.

Gwybodaeth am yr ysgol 

Mae Ysgol Gymunedol Peniel wedi ei lleoli mewn pentref bach gerllaw Caerfyrddin, sy’n rhan o  awdurdod addysg Sir Gaerfyrddin. 

Darpara’r ysgol addysg i 123 o ddisgyblion 4-11 oed. Mae 5 dosbarth, gan gynnwys 3 dosbarth o ddisgyblion oedran cymysg a dau ddosbarth oedran unigol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol ac mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg gartref. 

Mae’r cyfartaledd tair blynedd o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim tua 3%. Mae oddeutu 6% o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol  

Mae arwyddair yr ysgol ‘Un tîm, un teulu – llwyddo gyda’n gilydd’ ar waith yn llwyddiannus. Mae gan yr ysgol uchelgais strategol i wella a chodi safonau’n barhaus gan roi ffocws cryf ar y Gymraeg. Mae meithrin Cymry sy’n falch o’u hiaith a’u hunaniaeth yn nodwedd y mae cymuned yr ysgol yn angerddol amdano. Roedd codi a chynnal safonau’r Gymraeg yn flaenoriaeth ysgol gyfan ar gyfer 2021 – 2022.  

I ddechrau, er mwyn adnabod anghenion yr ysgol a meysydd i’w gwella, gwerthuswyd y ddarpariaeth bresennol er mwyn gweld defnydd y disgyblion o ferfau wrth gyfathrebu, cywirdeb treigladau a chystrawen brawddegau yn gyffredinol, ynghyd ag addysgeg staff o iaith a’u parodrwydd i herio’r disgyblion. Gwelwyd tystiolaeth o ddiffyg cysondeb yn y ddarpariaeth wrth gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu Cymraeg ac ymarfer eu medrau llafar. 

Yn sgil hyn, sicrhawyd digon o gyfleoedd i uwch sgilio staff gan ymweld ag arferion da a mynychu hyfforddiant yn seiliedig ar ddatblygu iaith disgyblion. Penderfynwyd ar gamau gweithredu fel tîm gyda ffocws clir ar gysondeb, disgwyliadau uchel, drilio iaith a chynllunio cyfleoedd penodol i’r disgyblion ymarfer medr llafar penodol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Er mwyn datblygu medrau llafar Cymraeg y disgyblion yn naturiol, mae gan yr ysgol strategaethau effeithiol iawn, megis cynllunio drilio iaith clir, er mwyn datblygu eu hiaith llafar ymestynnol. Mae’r cynllun yn hyrwyddo’u dealltwriaeth a’u defnydd o elfennau ieithyddol fel treigladau a berfau ac mae wedi cael ei wreiddio ac ar waith ar draws yr ysgol. Mae’r tîm addysgu’n fodelau rôl ieithyddol cryf ac effeithiol ac mae pob un yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau llafaredd y disgyblion am gyfnod penodol bob dydd. Mae’r staff ategol yn ogystal yn fodelau rôl ieithyddol gadarn iawn, maent yn atgyfnerthu’r patrymau a ffocws ieithyddol lafar sy’n cael eu drilio ar lawr y dosbarthiadau o ddydd i ddydd.  

Mae sesiynau drilio iaith yn adeiladu’n gydlynol ar wybodaeth, dealltwriaeth a medrau cyfredol y disgyblion i sicrhau dilyniant wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Gyda’r lleiafrif yn dechrau’r ysgol o gartrefi di-Gymraeg mae’r defnydd o ganu ac ail-adrodd rhigymau wedi bod yn hanfodol i ddysgu patrymau ieithyddol. Wedi hyn, mae’r ddarpariaeth wedi cael ei datblygu’n bwrpasol ac yn adeiladol ar gyfer ystod oedran gwahanol. 

Trwy gynnig y ddarpariaeth gyson yma, rydym yn datblygu disgyblion sy’n gyfathrebwyr hyderus sydd â medrau llafar Cymraeg cadarn erbyn diwedd eu taith yn yr ysgol.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr? 

Mae ymrwymiad ac ymroddiad cymuned yr ysgol i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu wedi cael effaith sylweddol ar fedrau llafar a pharodrwydd disgyblion i ddefnyddio’r iaith Gymraeg yn naturiol ac yn rhugl. Mae’r cynllunio bwriadus yn sicrhau continwwm ar draws yr ysgol sydd yn adeiladu ar ddyfnder ieithyddol, ehangder ieithyddol a dealltwriaeth o iaith. Mae disgyblion erbyn hyn yn llawer mwy parod i sgwrsio yn y Gymraeg, gan wneud hynny’n raenus mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Heb os, mae’r cyfleoedd a’r cynllunio bwriadus wrth wraidd y cynnydd a’r datblygiad mewn medrau llafar Cymraeg. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda gyda staff yr awdurdod lleol ac ysgolion yr awdurdod. Mae arweinwyr a staff wedi croesawu cynnal ymweliadau gan ysgolion eraill.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Golygfa ystafell ddosbarth gydag athro yn esbonio gwers yn y bwrdd du a myfyriwr yn codi eu llaw i gymryd rhan.

Gwybodaeth am yr ysgol 

Mae Ysgol Gymunedol Peniel wedi ei lleoli mewn pentref bach gerllaw Caerfyrddin, sy’n rhan o  awdurdod addysg Sir Gaerfyrddin. 

Darpara’r ysgol addysg i 123 o ddisgyblion 4-11 oed. Mae 5 dosbarth, gan gynnwys 3 dosbarth o ddisgyblion oedran cymysg a dau ddosbarth oedran unigol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol ac mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg gartref. 

Mae’r cyfartaledd tair blynedd o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim tua 3%. Mae oddeutu 6% o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol 

Mae Ysgol Gymunedol Peniel yn gymuned gefnogol a chynhwysol. Ategir hyn yn ei harwyddair sydd ar waith yn llwyddiannus;  ‘Un tîm, un teulu – llwyddo gyda’n gilydd’. Mae gan yr ysgol ddiwylliant o welliant parhaus sydd yn rhoi’r disgyblion yn ganolbwynt i holl weithgareddau’r ysgol gan sicrhau bod y profiadau dysgu yn safonol, cyffrous, diddorol a chyfoethog. 

Wrth wraidd yr arfer hwn y mae gweithdrefnau hunanwerthuso manwl a llwyddiannus ar gyfer yr holl dîm, sy’n cynnwys llais rheolaidd y llywodraethwyr, y disgylion a’r rhieni – mae hyn yn rhoi darlun manwl a chywir o sefyllfa gyfredol yr ysgol ac yn caniatau i’r tîm addysgu addasu’r ddarpariaeth i fod yn flaengar, amserol a’r gorau posibl ar gyfer pob disgybl. 

Y cam cyntaf, er mwyn adnabod anghenion yr ysgol a meysydd i’w gwella, oedd gwerthuso’r ddarpariaeth bresennol er mwyn gweld a oedd y disgyblion yn perchnogi eu dysgu, yn cael llais cadarn fel rhan o’r broses gynllunio, ac yn cael eu hannog i fod yn ddysgwyr annibynnol. Gan ofyn yn syml a oedd yr ysgol yn cynnig y profiadau gorau posibl i’r disgyblion, gwelwyd tystiolaeth fod y disgyblion yn cael profiadau gwerthfawr a bwriadus ond fod lle i gyfoethogi’r rhain ymhellach. Er bod y disgyblion yn cael llais fel rhan o’r broses gynllunio, nid oeddynt yn cael lais yn y dull yr oeddent yn dewis dysgu na chyfleoedd i fod yn ddysgwyr annibynnol. Nodir sut yr aeth ati i ateb hyn isod. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd 

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn sgil COVID, mae’r ysgol wedi canolbwyntio ar wella ei gweithdrefnau hunanwerthuso gan sicrhau fod yr holl randdeiliaid yn ail gydio’n eu rôlau’n llawn ac effeithiol. 

Mae’r ysgol wedi gweithio’n galed i sicrhau fod calendr sicrhau ansawdd yn ei le, yn weithredol ac yn esblygol. Mae’r calendr a’r prosesau hunanwerthuso yn cynnwys holiaduron rhanddeiliad, ymweliadau gan lywodraethwyr, teithiau dysgu cyson, craffu ar waith a sgwrsio gyda’r disgyblion. Mae popeth yn cael ei driongli er mwyn gwneud yn siŵr bod staff yn rhoi darlun manwl a chywir o sefyllfa gyfredol yr ysgol. Mae’r prosesau hyn yn cael eu perchenogi gan yr holl randdeiliaid. Serch hynny, un agwedd sy’n bwysig wrth gynnal momentwm yw hyblygrwydd – hyblygrwydd yr uwch-dîm i ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol, blaenoriaethau lleol a’r hyn sy’n digwydd o fewn cymuned yr ysgol ei hun, a hyblygrwydd y staff addysgu i sicrhau’r gorau i’r disgyblion. 

Agwedd arall sydd wedi arwain at gynllunio ar gyfer gwelliant er mwyn sicrhau’r profiadau gorau ar gyfer y disgyblion yw ymagwedd ac ymdriniaeth yr ysgol tuag at bersonoleiddio’r ddarpariaeth ar gyfer pob disgybl, gan sicrhau eu bod yn cael tegwch a chydraddoldeb ar lawr y dosbarth a thu hwnt. 

Mae hyn wedi arwain at newid addysgeg ac ymdriniaeth yr holl staff addysgu ar draws yr ysgol tuag at y ffordd maent yn dysgu, ac yn rhoi’r dewis i’r disgyblion ynglŷn â’r ffordd maent yn dysgu. Yn ystod gweithgareddau thematig, y disgyblion sy’n dewis beth mae’n nhw’n ei ddysgu, pryd maent yn ei ddysgu a sut maent yn cyflwyno’u dysgu gan ddilyn meini prawf sydd wedi eu gwahaniaethu. Mae hyn wedi arwain at godi hyder y disgyblion yn eu dysgu ac i fod yn fwy annibynnol. Trwy hyn, mae’r disgyblion yn perchnogi eu dysgu yn well ac yn cyflawni’n gynyddol dda.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr? 

Mae ffocws cadarn cymuned yr ysgol tuag at welliant parhaus wedi sicrhau bod bron pob un disgybl yn gwneud cynnydd cadarn o’u man cychwyn. Mae’r gymuned yn darparu cwricwlwm eang, cytbwys a chyfoethog, sy’n seiliedig ar waith thematig ac yn herio bron bob disgybl i wneud y cynnydd gorau. Mae’r disgyblion wedi datblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol sy’n anelu at gyflawni safonau uchel gan ddangos perchnogaeth, mwynhad a balchder tuag at eu dysgu.   

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda? 

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda gydag staff yr awdrudod lleol a chynghorwyr yr awdurdod mewn cyfarfodydd. Mae’r uwch-dîm a’r staff yn fwy na pharod i groesawu ysgolion eraill i ymweld â thrafod y prosesau sydd ar waith. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cardiau lliwgar sillafu allan "CYMRAEG" ar gefndir pren.

Gwybodaeth am y bartneriaeth  

Sefydlwyd partneriaeth dysgu oedolion yn y gymuned Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn 2010, ond mae wedi bod trwy newidiadau sylweddol yn y 12 mis diwethaf. Mae’r prif bartner, Cyngor Bwrdeistref Sirol RhCT, yn gweithio ochr yn ochr ag Addysg Oedolion Cymru (AOC), i gyflwyno’r rhan fwyaf o’r ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned ar draws y sir. Mae gan y bartneriaeth gysylltiadau cryf â Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, sy’n cyflwyno amrywiaeth o raglenni dysgu oedolion trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae darpariaeth Multiply hefyd yn rhan o gynnig y bartneriaeth.  

Cyd-destun a chefndir yr ymarfer effeithiol neu arloesol  

Pan gynhaliodd y bartneriaeth adolygiad cyflawn o’u diben a’u gweithgarwch, daeth i’r amlwg fod angen deall y cynnig i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr y Gymraeg a’r gymuned ehangach.  

Cytunodd pob partner fod gwreiddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar ddysgu oedolion yn fan  cychwyn effeithiol. Penderfynwyd cynnwys darpariaeth Gymraeg yn eitem sefydlog ar agendâu’r bwrdd strategol a’r bwrdd gweithredol. Yn rhan o adolygiad y grŵp gweithredol, penderfynwyd hefyd cyflwyno is-grŵp y Gymraeg i gymryd cyfrifoldeb am bob agwedd ar ddysgu yn Gymraeg ar draws y bartneriaeth. 

Roedd recriwtio tiwtoriaid i ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg yn her ac, felly, penderfynodd y bartneriaeth gomisiynu Menter Iaith RhCT i gyflwyno rhaglen beilot o weithgarwch a chynnal arolwg i fesur dealltwriaeth o anghenion dysgwyr. 

Mae gan fwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf boblogaeth amrywiol ac mae gwasgariad daearyddol siaradwyr Cymraeg yn golygu bod gallu cynnig darpariaeth ar draws ardal eang yn heriol. I helpu goresgyn hyn, mae cyfran o ddysgu’n cael ei gynnig ar-lein. Mae hyn wedi llwyddo i ddwyn dysgwyr ynghyd.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd  

Yn rhan o wreiddio’r Gymraeg ar draws y cynnig dysgu oedolion yn y gymuned, mae pob tiwtor yn cyflwyno gair neu ymadrodd yr wythnos yn eu dosbarthiadau. Y bwriad yw y bydd pob dosbarth yn cael cyfle i ddefnyddio Cymraeg sgyrsiol ar ba lefel bynnag y mae dysgwr. Mae dysgwyr yn cael eu hannog i ‘roi cynnig arni’ a pheidio â bod ofn defnyddio cymysgedd o Gymraeg a Saesneg.  

Yn ein darpariaeth Camau Dysgu (dysgwyr ag anghenion ychwanegol), mae dysgwyr yn mwynhau defnyddio llythrennedd triphlyg yn eu dosbarth, Cymraeg, Saesneg ac iaith arwyddion. 

Mae cynnig Menter Iaith yn caniatáu i ddysgwyr ddewis eu hiaith wrth ymgymryd â’u cyrsiau dethol, fel ioga i rieni a sesiynau iwcalili. Yn dilyn y peilot hwn, mae’r bartneriaeth wrthi’n gweithio gyda Menter Iaith RhCT i ddatblygu’r cynnig ymhellach ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Yn ogystal â hyn, mae Menter Iaith RhCT yn manteisio ar gyllid Multiply i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau gyda’r nod o godi lefelau rhifedd trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Mae cynlluniau yn y dyfodol yn cynnwys gweithio gyda thîm Gwaith a Sgiliau RhCT i nodi cyfleoedd cyflogaeth Cymraeg. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr? 

Mae lefelau Cymraeg sgyrsiol wedi cynyddu ar draws dosbarthiadau a chaiff siaradwyr rhugl gyfleoedd i gymryd rhan mewn dysgu trwy eu dewis iaith. 

Dywedodd un dysgwr eu bod wedi bod trwy addysg ffurfiol mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ond nad oedd wedi defnyddio’r iaith mewn amgylchedd gwaith. Fodd bynnag, yn dilyn damwain car difrifol ac anaf sylweddol i’r pen, aeth yn ôl i siarad a dysgu yn Gymraeg yn hytrach na Saesneg. 

Mae dysgwyr ag anghenion ychwanegol wedi dweud cymaint y maent yn mwynhau defnyddio’u Cymraeg ac, yn ddiweddar, cyflawnont gyfres o sesiynau’n astudio’r Mabinogion, sef casgliad straeon Cymraeg seiliedig ar hen chwedlau a mytholeg Geltaidd y mae hud a’r goruwchnaturiol yn chwarae rhan fawr ynddynt. Yn rhan o’r dysgu hwn, fe wnaethant recordio fideo i arddangos eu dysgu. Mae copi o hwn ar gael trwy gysylltu â’r cyswllt yn y bartneriaeth. Yn rhan o’n cynllunio olyniaeth ar gyfer tiwtoriaid, mae tiwtor Cymraeg newydd gymhwyso yn cysgodi’r tiwtor presennol ac yn cefnogi’r ddarpariaeth Gymraeg i ddysgwyr.  

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda? 

Caiff arfer dda ei rhannu ar lefelau strategol a gweithredol ar draws y bartneriaeth. Yn ogystal, mae partneriaid yn hyrwyddo’r cynnig ar eu gwefannau a’u sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae aelodau’r gymuned yn cael gwybod am y gwasanaeth trwy ddeunydd hyrwyddo a phresenoldeb mewn digwyddiadau yn y fwrdeistref sirol. 

Ar hyn o bryd, mae’r bartneriaeth yn datblygu gwefan newydd ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned a fydd yn cynnwys newyddion da/hanesion ymarfer a phrofiadau dysgwyr.