Arfer effeithiol Archives - Page 26 of 67 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl yn feithrinfa cyfrwng Cymraeg nas gynhelir yng nghanol tref Pont-y-pŵl. Cynigir gofal sesiynol a gofal dydd ynghyd â chlwb brecwast a chlwb cinio mewn adeilad hynafol cofrestredig cyferbyn ȃ chyfleusterau Parc Pont-y-pŵl ers dros 40 mlynedd. Mae’r plant yn cychwyn yn ddwy a hanner oed ac yn aros gyda’r lleoliad hyd nes iddynt symud ymlaen i ddosbarth derbyn. Mae’r rhan fwyaf o blant yn dod o gartrefi lle nad yw’r rhieni yn siarad Cymraeg. Mae’r Arweinydd yn Gymraes ac mae gan bob un o’r staff brofiad helaeth o ofal plant.

Mae’r adeilad yn cynnwys neuadd fawr agored ar y llawr cyntaf sydd yn gartref i’r feithrinfa. Mae yna fynedfa eang, groesawgar, toiledau pwrpasol a chegin ymarferol ynghyd ȃ gofod storio. Tu allan, mae ardal chwarae agored, ddiogel ac amrywiol sydd yn cynnig profiadau i’r plant ddatblygu eu medrau corfforol, creadigol ac ymchwiliol. Ar y llawr gwaelod, mae ail neuadd lle mae’r Cylch Ti a Fi yn cyfarfod yn wythnosol. 

Mae gan Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl berthynas agos ag ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ardal Pont-y-pŵl – mae’n cydweithio’n agos i sicrhau caiff y plant pedair oed gyfleoedd i gyfarfod â’r athrawon ac ymweld ȃ’r ysgolion cyn trosglwyddo i’r dosbarthiadau derbyn. 

Mae’r lleoliad yn cynnig polisi drws agored i bob plentyn sydd â diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac yn credu’n gryf fod angen arfer cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Nod Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl yw sicrhau fod llais y plant wrth wraidd popeth mae’n ei wneud. Mae’r lleoliad yn annog y plant i ddweud eu barn, trafod pynciau’r dydd a chydnabod pwysigrwydd eu cynefin, eu hiaith, eu teuluoedd a’u cyfeillion. Mae’r plant yn rhan annatod o ddewis yr hyn sydd yn digwydd yn ddyddiol, gan roi offer ac adnoddau y tu mewn a’r tu allan a chynorthwyo i ddatblygu ardaloedd chwarae rôl. Y nod yw darparu cyfleoedd chwarae a dysgu cyffrous i’r plant gan adael iddynt arwain a datblygu i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol sydd yn gwerthfawrogi eu cynefin.

Mae’r staff wedi

Mae pob aelod o staff wedi cael copi o’r Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir ac wedi dilyn cyrsiau hyfforddi amrywiol. Mae’r feithrinfa’n cynllunio ei sesiynau i gyd-fynd ȃ’r llwybrau datblygu, yn arsylwi’r plant i ddeall eu sgemâu er mwyn llywio darpariaeth ac yn ymateb i ddiddordebau’r plant. Mae ymarferwyr yn ceisio bod yn ddelfryd ymddwyn da i’r plant gan eu hannog i fynegi barn, parchu eraill, cymryd diddordeb yn eu cymuned a dysgu bod yn annibynnol.

Mae’r staff yn mynd allan o’u ffordd i fagu perthynas agos gyda rhieni a theuluoedd y plant a’u hannog i deimlo’n rhan o deulu estynedig y lleoliad. Mae’r staff yn cadw mewn cysylltiad ȃ chyn rieni, yn dilyn datblygiad a hanes ein cyn ddisgyblion yn ofalus ac, erbyn hyn, mae nifer ohonynt yn rhieni gyda ni eu hunain ac yn siarad Cymraeg gyda’u plant hwythau.

Mae bod yn feithrinfa gymunedol yn hynod o bwysig. Mae gwahoddiad agored i bawb fynychu unrhyw gyngherddau, sioeau a digwyddiadau codi arian a threfnir ac mae sicrhau cyfleoedd i’r plant ddysgu am eu cymuned yn rhan bwysig o gynllunio. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer effeithiol neu arloesol

Gwna’r feithrinfa ddefnydd helaeth o’r parc lleol bendigedig i ddysgu am fyd natur a’r tymhorau. Caiff ymweliadau eu trefnu ȃ’r llyfrgell, y farchnad wythnosol a’r archfarchnad leol ac mae’r plant wrth eu boddau yn ymweld â chartref gofal i’r henoed lleol, gan fagu perthynas agos â’r preswylwyr yno a pharatoi gweithgareddau a dewis llyfrau i rannu gyda’u ffrindiau newydd. Yn ogystal ȃ bod yn rhan o’u cymuned leol, anogir y plant i fod yn chwilfrydig am Gymru, yr iaith Gymraeg a diwylliannau eraill. Mae’r plant wrth eu bodd yn dysgu dawnsfeydd gwerin Cymreig, caneuon a rhigymau Cymraeg, ac am Santes Dwynwen a’r Fari Lwyd. Ar yr un pryd, maent yn awyddus iawn i ddysgu am draddodiadau gwledydd eraill megis dathlu dyfodiad y flwyddyn newydd Tsieineaidd. Gyda chymorth y staff, daeth y plant o hyd i fideo yn dangos gorymdaith dathlu yn Tsieina ac, o ganlyniad, creasant benwisg draig 3D a threfnu gorymdaith o gwmpas y neuadd gyda rhai plant yn creu band offerynnol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth, lles a safonau plant?

Mae’r plant yn chwilfrydig am y cyfleoedd dysgu sydd o’u cwmpas ac maent yn ymestyn a datblygu eu syniadau eu hunain yn hyderus. Os yw’r plant yn penderfynu adeiladu cestyll yn yr ardal blociau, maent yn gwybod fod modd chwilio am syniadau mewn llyfr neu ar lechen gyfrifiadurol. Os ydynt yn gweld baner ar dŵr un o’r cestyll yn y llun, maent yn mynd draw i’r ardal gwaith coed i gynllunio a chreu eu baneri eu hunain a gweithio allan sut i’w gosod ar ben tyrau’r cestyll. Efallai byddan nhw’n penderfynu wedyn eu bod am ychwanegu ffos â dŵr o’r tap. Mae’r plant yn cydweithio’n dda fel tîm ac yn datblygu fel dysgwyr uchelgeisiol a galluog. Mae’r staff yno i annog y plant i ymestyn eu syniadau, eu perchnogi a’u symud ymlaen ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar hyder a lles y plant. Gwneir defnydd eang o offer a deunyddiau naturiol, er enghraifft cwpanau a phlatiau pren yn y gegin fwd, a nod y feithrinfa yw cynnig adnoddau go iawn ymhob ardal ddysgu, fel llysiau a ffrwythau o’r farchnad neu’r ardd yn y siop fferm, arian mân yn y til, gitâr maint llawn yn y gornel gerdd a morthwylion a llif yn yr ardal gwaith coed. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae’r lleoliad cyn-ysgol wedi’i leoli ym mhentref Benllech, yn awdurdod lleol Ynys Môn. Mae’r arweinwyr yn newydd i’w swyddi er mis Medi 2021. Mae’r lleoliad yn cyfrannu at grŵp peilota cwricwlwm newydd yr awdurdod lleol i rannu strategaethau ac arferion.
       
Mae arweinwyr ac ymarferwyr wedi sefydlu ethos cadarnhaol ar draws y lleoliad. Mae plant yn llwyddo ac yn ffynnu mewn amgylchedd cynhwysol, ac yn datblygu’r hyder i wneud penderfyniadau am eu chwarae o fewn meysydd dysgu wedi’u diffinio’n glir. Caiff eu dysgu ei werthfawrogi gan ymarferwyr. Mae llif agored i’r ddarpariaeth ac mae plant yn penderfynu ble hoffent chwarae a dysgu.  

Rhaid chwarae yn yr awyr agored gyda’r drws ar agor trwy gydol y sesiwn. Mae ystod eang o adnoddau i helpu plant i fod yn unigolion iach, hyderus a gwydn, o’r pwll tywod mawr y tu allan i’r ardal gloddio ble gallant adeiladu, symud, difrodi a chwarae rôl gwahanol senarios.

Mae plant yn gwneud cynnydd da iawn ac yn datblygu amrywiaeth o fedrau. Er enghraifft, gallant ganolbwyntio am gyfnodau estynedig tra’n chwarae. Mae medrau iaith a mathemategol yn datblygu’n naturiol trwy eu chwarae ar draws yr amgylchedd ysgogol, a thrwy ryngweithio ag ymarferwyr medrus. Mae diben i waith celf, ac mae’n dangos eu dysgu a’u datblygiad eu hunain, o’r sblashis paent y gwnaethant eu dewis a’u tywallt yn annibynnol, i’r toriadau danheddog o’u defnydd eu hunain o siswrn a sticeri y gwnaethant eu dewis a’u plicio’n ofalus eu hunain. Mae gweithio yn y modd hwn wedi meithrin medrau personol, cymdeithasol ac emosiynol y plant, fel cymryd eu tro, hunanreoleiddio ac annibyniaeth, sydd yn ei dro yn cefnogi meysydd dysgu eraill.

Mae’r plant yn wydn ac yn arwain eu chwarae eu hunain. Gosodir ‘gwahoddiadau i ddysgu’ yn y ddarpariaeth, wedi’u seilio ar wybodaeth a gasglwyd gan rieni a’r plant eu hunain. Caiff ffotograffau o’r plant gyda’u teuluoedd a’u hanifeiliaid anwes eu harddangos yn y lleoliad, sy’n cefnogi “perthyn” ac yn annog plant i ddatblygu hyder a theimlo’n dda amdanyn nhw eu hunain. Mae gan staff ymagwedd gyfeillgar a chynnes, ac maent yn ymfalchïo mewn dathlu cyflawniadau. Mae pob un o’r staff yn cydnabod anghenion unigol y plant, ac yn mynd ati i ymgysylltu â dysgu’r plant drwyddi draw. Mae’r staff yn aros i gael eu gwahodd i chwarae ochr yn ochr â’r plant, a byddant yn eistedd ar lawr i annog medrau cyfathrebu. O ganlyniad, mae plant yn dangos cydweithio da, er enghraifft wrth ysgrifennu cyfarwyddiadau am sut i ofalu am y gath, ac yn rhoi cyfarwyddiadau ar lafar tra’n tynnu llun. Mae plant yn gweithio gyda’i gilydd i ddatrys problemau, er enghraifft wrth godi adeiladau cymhleth, creu cyrsiau rhwystrau a chwarae yn yr ardal chwarae rôl. Mae ymarferwyr yn hwyluso eu dysgu trwy roi cyfarwyddyd pan fydd angen, a dal yn ôl pan fydd yn briodol. Mae plant yn parhau i ymgysylltu’n llawn ac yn chwilfrydig am gyfnodau hir, er enghraifft wrth ymchwilio ac ymgolli â phowlen o allweddi, cludo a phwyso.

Mae’r strategaeth “Plentyn Ffocws” yn sicrhau bod pob un o’r plant yn cael cyfleoedd cyfartal a bod y plant tawelach yn datblygu hyder trwy arweiniad cefnogol yn hytrach na chyfarwyddiadau uniongyrchol. Mae’r plant mwy bywiog yn fwy pwyllog ac yn dangos mwy o ddiddordeb gan eu bod yn gallu dilyn eu diddordebau eu hunain. Trwy wneud eu dewisiadau eu hunain, mae plant yn ymestyn eu dysgu ar eu cyflymdra eu hunain. Trwy nodi sgemâu, mae ymarferwyr wedi galluogi plant i fynegi eu hanghenion mewn amgylchedd meithringar a chefnogol. Er enghraifft, pan fydd plentyn yn dangos tystiolaeth o sgema trywydd, mae staff wedi sicrhau bod adnoddau ar gael i ddiwallu anghenion y plentyn.
    
Mae cynllunio ymatebol wedi chwyldroi’r ffordd y mae’r lleoliad yn gweithio, gan roi’r plentyn yn ganolog i’r dysgu. Mae ymarferwyr wedi ymgymryd â’r newid hwn yn gadarnhaol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Canolfan Addysg Tai yn uned cyfeirio disgyblion (UCD) ar gyfer hyd at 56 o ddisgyblion oedran cynradd y mae eu prif anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn ymwneud ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Yn fwy diweddar, bu nifer gynyddol o ddisgyblion sydd ag ADY hefyd o ganlyniad i anawsterau niwroddatblygiadol.  Mae gan ryw 52% o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, mae 40% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a  29% wedi eu cofrestru fel plant sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol.   

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn aml, mae disgyblion yn dechrau eu taith yn yr UCD wedi ymddieithrio o addysg ar ôl cael yr hyn y maent yn eu hamgyffred yn brofiadau negyddol mewn ysgolion blaenorol.  Pan fyddant yn dechrau yn yr uned, mae pob un o’r disgyblion yn elwa ar ddarpariaeth gyffredinol sy’n cwmpasu system ymddygiad cadarnhaol gyfannol ar draws yr ysgol. 

Yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf yn yr UCD, mae pob un o’r disgyblion yn cymryd rhan mewn asesiadau gwaelodlin ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ac yn cwblhau arolygon lles i archwilio graddau eu hanghenion cymdeithasol, emosiynol a lles.  Yn dilyn cyfnod o arsylwi, ac ar y cyd ag ysgolion partner, cytunir ar darged llythrennedd, rhifedd, lles ac ymddygiad gyda phob disgybl.  Mae’r targedau hyn yn ffurfio sylfaen eu cynllun datblygiad personol, sy’n cael ei fonitro a’i adolygu’n rheolaidd.  

Mae asesiad cychwynnol yr UCD yn dangos yn aml y bydd angen lefel ddwysach o ymyrraeth ar ddisgybl i gefnogi ei ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol.  Yn amlach na pheidio, mae hyn oherwydd bod y disgyblion hyn yn ei chael yn anodd cyfleu eu meddyliau a’u teimladau, gwneud ffrindiau, a’u cadw, a rheoleiddio eu hymddygiad yn annibynnol.  Er mwyn ymateb i’r angen hwn, hyfforddodd yr UCD ei staff ei hun i ddarparu rhaglen ymyrraeth deilwredig ar gyfer y disgyblion hyn i ddatblygu eu medrau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Mae’r rhaglen wedi’i seilio yn bennaf ar raglen fasnachol, sydd wedi ei chynllunio i weddu i gyd-destunau’r UCD a disgyblion unigol.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Fel arfer, yn rhaglen yr UCD, mae dau grŵp o chwe disgybl sy’n elwa ar sesiynau ymyrraeth dwy awr bob wythnos dros gyfnod o ugain wythnos.  Ar hyn o bryd, mae un grŵp yn cynnwys plant y cyfnod sylfaen a dechrau cyfnod allweddol 2, a’r grŵp arall yn cynnwys disgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6.  Cynhelir sesiynau mewn ystafell ar wahân sy’n darparu ar gyfer gweithgareddau fel dysgu ar sail fideo a defnyddio pypedau i fodelu a chwarae rôl medrau cymdeithasol ac emosiynol, yn cynnwys rheoli ‘teimladau mawr’, cymryd tro, rhannu, datrys problemau ac archwilio cyfeillgarwch. Mae pob sesiwn yn cynnig cyfleoedd strwythuredig i ddisgyblion ymarfer y medrau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn cynnwys amser byrbryd iach.  

Yn ystod pob sesiwn, mae disgyblion yn ennill ‘marblis’ yn wobrau am ymgysylltu cadarnhaol, sy’n cyfrannu tuag at gymhelliant gweithgaredd cymunedol wythnosol, fel chwarae yn y parc lleol neu ymweld â chaffi neu siop leol.  Wedyn, caiff y medrau cymdeithasol ac emosiynol y mae disgyblion yn eu datblygu yn ystod y rhaglen eu hymarfer ymhellach mewn cyd-destunau go iawn yn y gymuned.  

Fel arfer, mae disgyblion yn cael tasgau gwaith cartref syml sy’n rhoi cyfle i rieni gymryd rhan yng ngweithgareddau’r rhaglen hefyd.  Hefyd, mae’r UCD yn cynnig cymorth i rieni i helpu eu dealltwriaeth o’r modd y mae ymgysylltu cydweithredol â’r ymyrraeth yn cynyddu ei llwyddiant. Caiff gweithgareddau yn yr ysgol ac yn y cartref eu cynllunio i fod yn fywiog, yn rhyngweithiol ac yn hwyl. 

Ar ddiwedd rhaglen 20 wythnos yr UCD, cynhelir seremoni raddio ddathliadol lle caiff rhieni, gofalwyr, ysgolion partner ac asiantaethau partner eu gwahodd i rannu llwyddiant ‘graddedigion’ y rhaglen. 

Yn ystod y cyfnod dysgu o bell yng nghyfnod clo cenedlaethol cyntaf y pandemig, defnyddiodd arweinydd UCD y rhaglen ddull creadigol, hyblyg ac ymatebol i barhau i ddiwallu anghenion ymddygiadol, emosiynol ac anghenion dysgu penodol disgyblion ar ôl y rhaglen.  Er enghraifft, gwnaeth staff fideos byr gan ddefnyddio pypedau i ganolbwyntio ar faterion a dilemâu penodol y gallai disgyblion eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwn. Atgoffodd y pypedau’r disgyblion am yr ‘awgrymiadau gorau’, offer, technegau a’r medrau yr oeddent wedi eu dysgu tra’n mynychu’r UCD i fynd i’r afael â’r materion hyn.  Roedd gweithgareddau’n cynnwys cyfle i archwilio emosiynau, ac aeth staff i’r afael â’r rhain wedyn fel rhan o alwadau lles wythnosol bugeiliol yr UCD i ddisgyblion a’u teuluoedd. Anfonodd staff fideos ddwy neu deirgwaith yr wythnos. 

Dywed arweinwyr yn yr UCD fod parhau â’r rhaglen hon yn ystod y cyfnod clo yn hanfodol i gynnal a gwella ymddygiadau’r disgyblion hyn.  Pan gafodd yr UCD ei hailagor yn llawn, dathlodd pob grŵp y cyfle i gyfarfod gyda’i gilydd cyn parhau â’r rhaglen wyneb yn wyneb arferol, ac ymgysylltodd bron pob un o’r disgyblion yn dda mewn cyfnod byr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Ceir tystiolaeth o gynnydd cadarnhaol disgyblion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ymyrraeth trwy:

  • bresenoldeb cynyddol
  • ymgysylltiad a chynnydd gwell mewn gwersi ar draws y cwricwlwm
  • ‘pwyntiau dyddiol’ uwch ar gyfer ymgysylltiad ac ymddygiad
  • ennill mwy o dystysgrifau wythnosol

O ganlyniad i welliannau mewn ymddygiad ac agweddau at eu dysgu, mae’r disgyblion hyn wedi gwneud cynnydd mesuradwy yn eu medrau llythrennedd, rhifedd a’u medrau ehangach ar draws y cwricwlwm. Hefyd, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu medrau hunanreoleiddio gwell, a gwelir tystiolaeth o hyn trwy lai o ymweliadau ag ardaloedd tawel dynodedig yr UCD, a llawer llai o achosion o ymddygiad difrifol. Mae cofnodion yr UCD yn dangos y bu gostyngiad sylweddol mewn achosion o fwlio a gwaharddiadau cyfnod penodol o ganlyniad i roi’r ymyrraeth hon ar waith yn llwyddiannus. 

Yn ehangach, gwelir effaith gadarnhaol y rhaglen mewn perthnasoedd adeiladol a chydweithredol cynyddol rhwng cyfoedion, yn cynnwys medrau sy’n dod i’r amlwg o ran rheoli chwarae heb gefnogaeth gyda chyfoedion, yn ogystal â chyfathrebu mwy priodol gyda staff. Mae’r materion cyfunol hyn wedi cyfrannu at lwyddiant cynyddol wrth ailintegreiddio disgyblion yr UCD mewn lleoliadau ysgolion prif ffrwd.  Yn ychwanegol, bu cynnydd amlwg yn ymgysylltiad rhieni â’r UCD. 
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae arweinwyr a staff o’r UCD yn cyfathrebu’n amlach â rhieni a gofalwyr am strategaethau’r rhaglen ymyrraeth, sy’n eu helpu â chefnogi a gwella ymddygiad eu plentyn gartref.  

Hefyd, caiff y strategaethau a ddefnyddir yn y rhaglen ymyrraeth eu rhannu’n ffurfiol ac yn anffurfiol ag ysgolion prif ffrwd ac asiantaethau allanol.  Er enghraifft, caiff staff addysgu prif ffrwd eu gwahodd yn aml i ymuno â’r sesiynau yn yr UCD.  Yn aml, caiff ymweliadau eu gwneud gan staff o sefydliadau eraill, fel seicolegwyr addysg dan hyfforddiant a’r cydlynwyr addysg ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol.  Hefyd, mae staff o wasanaethau cymorth ymddygiad awdurdod lleol yr UCD a darpariaethau arbenigol mewn awdurdodau lleol cyfagos yn ymweld â’r UCD i arsylwi a thrafod y gwahanol agweddau ar y rhaglen ymyrraeth. 
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector a nodwyd yn ystod arolygiad, yn ymwneud â chwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd benodol:

Ar ddechrau cyfnod sefydlu’r Ganolfan gwnaethpwyd penderfyniad bwriadus i fuddsoddi mewn datblygu platfform digidol unigryw i’r sector. Mae’n blatfform aml-haenog sy’n cynnwys elfennau amrywiol sy’n darparu profiad ‘siop un stop’ i ddysgwyr. Mae’r platfform yn cynnwys 

  • Chwilotwr Cyrsiau: sy’n caniatáu dysgwyr i chwilio, gofrestru a thalu am gwrs
  • Llyfrgell adnoddau rhithiol: sy’n cynnwys dros 1,500 o adnoddau digidol i gefnogi dysgu’r dysgwyr
  • System Rheoli Data:, sy’n caniatáu i’r Ganolfan gasglu’r data mae’n gallu ei ryddhau fel Cyhoeddwr Ystadegau Swyddogol
  • System Rheoli Dysgu: sy’n cynnwys ardal ‘fy nysgu’ unigryw i bob dysgwr’ ble mae modd tracio cynnydd, adnabod adnoddau i gynorthwyo’r dysgu a chydnabod llwyddiannau
  • Adeiladwr Cwrs: sy’n caniatáu i’r Ganolfan ychwanegu at y dulliau dysgu a gynigir i ddysgwyr, gan gynnwys dulliau hunan-astudio a dysgu rhithiol.

Mae’r platfform hefyd yn llwyfan pwysig i rannu gwybodaeth a newyddion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:

Yn 2018 cyhoeddwyd Fframwaith Digidol ar gyfer y sector gan y Ganolfan, sy’n amlinellu’n fanwl y ddarpariaeth y bwriadwyd ei datblygu er mwyn datblygu a hyrwyddo’r dysgu a’r addysgu digidol. Ar sail y Fframwaith Digidol, a thrwy ymgynghoriad gyda’r sector, mae cynllun blynyddol yn cael ei gytuno i barhau i ddatblygu’r platfform. Mae’r cynlluniau ar gyfer 2021-22 yn cynnwys:

  • Gwasanaeth ‘dal i fyny’ i ddysgwr sy’n colli gwers, fydd yn cael ei dracio a’i gofnodi
  • Adran trydydd parti, fydd yn ganolbwynt i rai o’r partneriaethau sectorol ac yn caniatáu cyd-destunoli a theilwra adnoddau a chyrsiau i sectorau penodol.
  • Adran Academi fydd yn cynnwys ardal ‘fy nysgu’ i diwtoriaid, ble mae modd cynnig ystod o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fydd yn cael eu tracio a’u cofnodi yn unigryw i bob defnyddiwr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr:

Mae’r platfform digidol wedi dod yn rhan ganolog o’r gwasanaeth Dysgu Cymraeg, gyda darpar-ddysgwyr, dysgwyr, tiwtoriaid, staff cefnogi a staff y Ganolfan yn defnyddio elfennau ohono yn rheolaidd.

  • Mae dros 85,000 o unigolion â chyfrif ar y platfform digidol.
  • Mae dros 500,000 o ymwelwyr i’r platfform digidol mewn cyfnod o 12 mis.
  • Mae dros 2,000 o gyrsiau dysgu Cymraeg yn cael eu hysbysebu ar y platfform digidol. 
  • Mae pob un o ddysgwyr y Ganolfan (17,000+) yn cofrestru ar 30,000+ cwrs drwy’r Platfform digidol. Mae gan pob un gyfrif unigryw a mynediad at adran fy nysgu, sy’n darparu gwybodaeth bwysig am eu dysgu
  • Mae dros 1,000 o adnoddau digidol ar gael i gynorthwyo dysgwyr gyda’u dysgu.
  • Mae 300awr o gynnwys hunan-astudio ar y platfform, a’r oll yn cofnodi a thracio cynnydd y dysgwyr. 
  • Mae dros 130 o adnoddau digidol amrywiol ar gael i diwtoriaid i gynorthwyo gyda’r addysgu.
  • Mae dros 140 o adroddiadau data amrywiol o fewn system rheoli data y Platfform digidol. 

Bu’r platfform digidol yn ganolog i hwyluso symud y rhan fwyaf o ddarpariaeth y sector ar lein o fewn mater o wythnosau ar gychwyn y pandemig gyda chydweithrediad brwd a phroffesiynol y darparwyr Dysgu Cymraeg unigol. O ganlyniad, ac er gwaetha’r pandemig, mae’r Ganolfan wedi llwyddo i gynyddu nifer yr oedolion sy’n dysgu Cymraeg. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector a nodwyd yn ystod arolygiad, yn ymwneud â chwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd benodol:

Mae sefydlu corff cenedlaethol wedi darparu ffocws i’r sector ehangu ei ddarpariaeth ffurfiol ac anffurfiol drwy greu a chynnal partneriaethau strategol gydag amrywiaeth o gyrff. Mae’r cyfleoedd sydd wedi eu datblygu drwy gynnal y partneriaethau yn cynnig cyfleoedd amrywiol i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg mewn cyd-destunau ystyrlon, gan droi dysgwyr yn ddefnyddwyr y Gymraeg. 

Mae dysgwyr yn cael eu hannog i fanteisio ar yr arlwy newydd gan eu tiwtoriaid a’u darparwyr. Gall y Ganolfan gyfathrebu’n uniongyrchol ac yn effeithiol gyda thiwtoriaid i sicrhau bod pob un tiwtor yn meddu ar wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr. Wrth i gyrff allanol ddod i weld bod eu gwasanaethau i ddysgwyr yn cael eu gwerthfawrogi, mae hyn yn arwain at barhau i gynllunio a datblygu’r gwasanaethau i’r dyfodol.

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:

Aeth y Ganolfan ati yn fwriadus i greu partneriaethau strategol gydag amrywiaeth o gyrff (cyhoeddus, gwirfoddol a diwylliannol) er mwyn creu cyfleoedd i’w dysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’w gwersi ac i hyrwyddo’r cyfleoedd a’r manteision allai godi o gynnwys dysgwyr fel rhan o gynlluniau gwaith y partneriaid. Drwy egluro mwy wrth bartneriaid am broffil, gallu ac awydd dysgwyr i ymwneud â phrofiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, llwyddwyd i gynnal trafodaethau buddiol ac adeiladol. Roedd y Ganolfan yn gallu rhannu gwybodaeth am niferoedd dysgwyr, proffil oed ac egluro’r lefelau dysgu gwahanol. Mae bodolaeth un corff cenedlaethol am y tro cyntaf (sef y Ganolfan) i gynnal sgyrsiau gyda chyrff cenedlaethol eraill, gan gynnwys Cyngor Llyfrau Cymru, Amgueddfa Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, BBC Radio Cymru, S4C, Meithrin, Mentrau Iaith Cymru, Merched y Wawr ac eraill, wedi esgor ar weithredu creadigol. Wrth gytuno ar gynlluniau, mae’r Ganolfan wedi gallu cefnogi’r partneriaethau yn ymarferol, er enghraifft drwy gynnig hyfforddiant neu gymorth wrth farchnata. O ganlyniad i’r gwaith partneriaethol, mae dysgwyr wedi gallu ymarfer eu Cymraeg, a magu hyder i fwynhau defnyddio’r iaith. Mae isadeiledd y Gymraeg hefyd wedi ei gefnogi a’i gryfhau drwy gynyddu gwerthiant siopau Cymraeg, er enghraifft.

Hefyd datblygwyd partneriaethau strategol effeithiol gyda chyrff cenedlaethol er mwyn gwireddu amcanion y cynllun ‘Cymraeg Gwaith’ sy’n dysgu’r Gymraeg i gyflogeion. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, er enghraifft y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Cwlwm, mae cyrsiau teilwredig wedi eu datblygu. Mae 1,329 o gyflogwyr unigryw wedi manteisio ar y cynllun ‘Cymraeg Gwaith’ ers ei gychwyn yn 2017. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:

Mae’r Ganolfan a’i phartneriaid yn dymuno croesawu dysgwyr i’r ‘byd Cymraeg’ ac wedi rhoi anogaeth mewn amgylchedd cynhwysol. Er enghraifft, mae’r Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg a ddarperir gan BBC Radio Cymru yn cyflwyno dysgwyr i raglenni a cherddoriaeth yr orsaf yn ogystal â rhoi llais i ddysgwyr a chodi proffil dysgwyr ymhlith siaradwyr Cymraeg.

Enghraifft arall o bartneriaeth ffrwythlon yw’r cydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru, sydd wedi esgor ar gyhoeddi cyfres o dros ugain o lyfrau i ddysgwyr, sydd wedi’u graddoli ar y gwahanol lefelau dysgu. Mae’r Ganolfan wedi cynorthwyo’n ymarferol drwy roi hyfforddiant i olygyddion, a thrwy rannu geirfa addas i ddysgwyr. Mae dysgwyr wedi elwa drwy gael mynediad at ddeunyddiau darllen sy’n addas i’w lefel, gyda’r gyfres o lyfrau yn agor cil y drws ar fyd o lyfrau Cymraeg o bob math. 

Mae’r bartneriaeth gyda Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi esgor ar weithgareddau drwy’r flwyddyn, nid yn unig yn ystod cyfnod yr Eisteddfod. Er enghraifft cynhaliwyd gŵyl ddarllen lwyddiannus i ddysgwyr gyda phartneriaid yn cynnwys Golwg 360, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, sydd wedi rhoi cyfle i ddysgwyr wrando ar, a darllen straeon newydd sbon gan awduron profiadol. Mae hyn yn arwain at wella sgiliau dysgwyr a’u cyflwyno i’r byd diwylliannol Cymraeg.

Mae’r Ganolfan wedi sefydlu perthynas weithio dda gyda’i phartneriaid gydag aelodau o uwch-dîm y Ganolfan yn cyfarfod gyda’r sefydliadau yn rheolaidd. Mewn rhai achosion mae Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth wedi ei sefydlu. Mae’r cyfarfodydd yn cynnwys cyfle i adolygu gweithgaredd ac i ailgynllunio i’r dyfodol.
 
Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnull cyfarfod yn dymhorol gyda’i holl bartneriaid cymunedol er mwyn rhannu arfer dda a chyd-gynllunio.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr:

Mae darparwyr y Ganolfan yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cyfleoedd buddiol i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg y tu allan i wersi ffurfiol. O ganlyniad, mae’r mwyafrif helaeth o’r dysgwyr yn cael cyfle i ymarfer a mwynhau’r iaith mewn awyrgylch anffurfiol, gan ddod i wybod mwy am ddiwylliant Cymraeg hefyd. Mae’r Cynllun ‘Siarad’ lle gofynnir i siaradwyr Gymraeg ‘baru’ gyda dysgwyr am 10 awr er mwyn sgwrsio yn enghraifft lwyddiannus o gydweithio gyda gwirfoddolwyr ar draws Cymru. Mae’r holl waith yn ganolog i weledigaeth y sector o greu siaradwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn hytrach na dysgwyr goddefol. O ganlyniad, mae’r Ganolfan yn cyfrannu’n effeithiol at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae oedran y bobl ifanc yn yr uned troseddwyr ifanc yng Ngharchar y Parc yn amrywio o 15 i 17 oed. Mae lle yn yr uned ar gyfer hyd at 60 o bobl ifanc a dyma’r unig un yng Nghymru. Daw’r bobl ifanc o Gymru yn bennaf, y de-ddwyrain a de-orllewin Lloegr. Mae hyd eu dedfrydau yn amrywio ond mae gan nifer sylweddol o bobl ifanc yn yr uned ddedfrydau hir, sy’n hwy na’u hoedran presennol, mewn ychydig achosion. Hefyd, mae pobl ifanc yn cael eu cadw yn y ddalfa yn yr uned, yn aros am ddedfryd. Mae llawer ohonynt wedi bod i mewn ac allan o ofal neu leoliadau troseddwyr ifanc am lawer o’u bywyd. Nid yw bron pob un o’r bobl ifanc wedi mynychu’r ysgol yn rheolaidd, os o gwbl, ers pan oeddent yn ifanc iawn, neu mae eu profiad o addysg ffurfiol wedi bod yn wael iawn.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Y weledigaeth ar gyfer y ganolfan dysgu a medrau yw ‘gwella dyfodol pob person ifanc a newid bywydau’. Mae arweinwyr a staff yn hybu cyfle cyfartal ac yn rhoi pwys ar amrywiaeth. Rhoddant bwyslais cryf ar helpu’r bobl ifanc i wella’u hunan-barch a’u parch tuag at eraill, ynghyd â datblygu’u hyder. Eu nod yw bod pobl ifanc yn gadael y carchar gyda medrau a fydd yn caniatáu iddynt roi eu hymddygiad troseddol y tu ôl iddynt ac ymgymryd â rolau defnyddiol mewn cymdeithas.

Mae’r ganolfan yn darparu addysg amser llawn (25 awr yr wythnos) i ddysgwyr mewn amgylchedd cynhwysol a chefnogol. Mae disgyblaeth gaeth y carchar ar waith yn holl ardaloedd cymunedol yr uned ac mae cosbau clir i’r rheini sy’n torri’r rheolau. Mae staff diogelwch, arweinwyr addysg ac athrawon yn cydweithio’n dda i sicrhau amgylchedd diogel. Mae athrawon a phobl ifanc yn cydweithio mewn ystafelloedd dosbarth dan glo ac maent yn cael eu harchwilio wrth fynd i mewn i’r ystafell ddosbarth ac wrth ei gadael. Er gofyniad y carchar am ddiogelwch, mae athrawon yn cynnal awyrgylch dymunol, cefnogol a phwrpasol yn yr ystafelloedd dosbarth. Mae waliau ac, weithiau, y nenfydau a’r lloriau, wedi’u haddurno â gwybodaeth a phosteri defnyddiol, sy’n benodol i’r pwnc.

Mae cyflenwad rheolaidd o ddŵr, ffrwythau a byrbrydau iach ar gael i’r dysgwyr yn ystod y dydd. Mae gan y ganolfan lyfrgell dda a llyfrgellydd preswyl. Mae ystafell gerddoriaeth a chanddi offer da, gyda thechnoleg electronig gyfredol. Hefyd, mae cegin hyfforddi a ffreutur. Mae dysgwyr yn symud i rannau eraill o’r carchar i ddefnyddio gweithdai crefft, lle maent yn dysgu medrau gwaith ymarferol. Hefyd, mae campfa ac ystafell ffitrwydd ar gael i ddysgwyr, lle y maent yn gwella’u ffitrwydd ac yn dysgu am ffyrdd iach o fyw.

Cynhelir asesiad o lefelau medrau sylfaenol pobl ifanc o fewn tridiau o gyrraedd yr uned a chânt eu neilltuo i ‘lwybr’ dysgu sy’n fwyaf addas i’w hanghenion a’u diddordebau, er enghraifft arlwyo gyda mathemateg, Saesneg a TGCh. Mae staff yn nodi’r bobl ifanc hynny ag anghenion dysgu ychwanegol a rhoddant raglenni dysgu a chymorth priodol ar waith. Mae staff yn rhoi cymorth ychwanegol i ddysgwyr ag ADY.

Mae’r cwricwlwm presennol yn adlewyrchu’r Cwricwlwm newydd i Gymru a pholisi Llywodraeth Cymru i bobl ifanc, sef Ymestyn Hawliau. Gall dysgwyr gael at raglenni ychwanegol y tu hwnt i’r amserlen arferol, i gynorthwyo ymhellach â’u hailintegreiddio i gymdeithas adeg eu rhyddhau.

Mae gan lawer o’r bobl ifanc anghenion cymhleth ac amrywiol. Mae athrawon yn defnyddio dull amlddisgyblaeth, dysgwr-ganolog, i weithio gyda nhw. Mae gan yr athrawon ymrwymiad cryf i gefnogi dysgwyr a gwneud y mwyaf o’u potensial yn ystod eu dedfryd a thuag at ailsefydlu. Mae athrawon yn hyrwyddo parch ac yn dangos amynedd diddiwedd. Gall y bobl ifanc yn yr uned fod yn heriol ac ymddwyn yn afreolus ac yn danllyd weithiau. Fodd bynnag, mae gan y rhan fwyaf o bobl ifanc barch gwirioneddol tuag at y staff addysgu ac maent yn gwerthfawrogi’r addysgu a’r cymorth a roddir iddynt. Mae staff yn modelu ymddygiad parchus trwy ysgwyd llaw â phob dysgwr a’i gyfarch gyda’i enw ar ddechrau ac ar ddiwedd pob gwers, beth bynnag sydd wedi digwydd yn ystod y sesiwn. Mae hyn yn hyrwyddo ymdeimlad o urddas a hunan-werth yn y dysgwyr ac mae’n pwysleisio y gall pob sesiwn fod yn ddechrau newydd. Er gwaethaf yr amgylchiadau, mae staff yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud yr amgylchedd dysgu yn ddymunol ac yn gefnogol. 

Gall galluoedd dysgwyr amrywio o lefel mynediad 3 i TGAU. Mae athrawon yn gyfarwydd â lefelau dysgwyr newydd ac maent yn defnyddio gweithgareddau wedi’u gwahaniaethu yn dda i sicrhau bod pawb yn gallu elwa o’r dysgu. Caiff addysgu ei gynllunio i ddarparu cymaint â phosibl ar gyfer anghenion unigol dysgwyr. Mae hyn yn aml yn heriol pan fydd hyd dedfrydau yn amrywio a chaiff dysgwyr eu symud o gwmpas y system carchardai ar fyr rybudd, weithiau. Fodd bynnag, mae athrawon yn paratoi gwersi sydd wedi’u cynllunio’n dda, gan ddefnyddio deunyddiau sy’n ysgogi ac yn diddori’r dysgwyr. Ni chaniateir mynediad i’r bobl ifanc at y rhyngrwyd felly mae llawer o’r deunydd yn cael ei ddylunio a’i gynhyrchu gan yr athrawon, ar sail eu gwybodaeth am anghenion ac arddulliau dysgu’r dysgwyr. Mae’r addysgu o safon uchel iawn ac mae’n ysbrydoledig yn aml.

Mae arweinwyr a staff yn dîm agos ac yn cefnogi’i gilydd yn dda. Maent yn cynnal cyfarfodydd wythnosol lle maent yn monitro cynnydd dysgwyr drwy gynlluniau dysgu unigol. Rhoddant waith unigol i ddysgwyr sydd wedi’u cyfyngu i’w celloedd. Anaml y mae troseddwyr yn gwrthod mynychu addysg.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn ennill medrau a gwybodaeth ddefnyddiol a fydd yn eu helpu yn eu bywyd a’u perthnasoedd yn y dyfodol, ac a fydd yn eu helpu i gael gwaith ac osgoi ymddygiad troseddol yn y dyfodol. Yn ystod eu cyfnod yn yr uned, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gwella ddau lefel cyflawniad neu fwy. Mae llawer o bobl ifanc yn llwyddo i ennill cymwysterau sy’n eu helpu i fynd ymlaen i ddysgu pellach neu i addysg ffurfiol y tu hwnt i ddrysau’r carchar. Mae llawer ohonynt yn cynhyrchu gwaith ymarferol, fel cypyrddau llyfrau neu gadeiriau i’w teulu a’u brodyr/chwiorydd, a hynny o safon uchel iawn. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddynt ac mae’n gwneud eu teuluoedd yn falch. Mae llawer o bobl ifanc yn cyrraedd y carchar gyda lefelau llythrennedd a rhifedd isel iawn. Mae llawer ohonynt yn gwella’u llythrennedd a’u rhifedd yn ystod eu cyfnod yn y carchar, sy’n cynyddu cyflogadwyedd pobl ifanc. Fodd bynnag, effaith bwysicaf yr addysgu yw’r gwelliant yn hunan-barch pobl ifanc, gan hybu ymdeimlad o urddas a gobaith am well cyfleoedd mewn bywyd y tu hwnt i ddrysau’r carchar.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae gan St David’s College raglen ragorol ar gyfer addysg a gweithgareddau awyr agored, sy’n ganolog i fywyd a chenhadaeth yr ysgol i feithrin lles ysbrydol, deallusol a chorfforol disgyblion. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys ystod o gyfleoedd diwylliannol, hamdden a chwaraeon cyfoethog, yn ogystal â phrosiectau ‘tosturi’ penodol i wella ac ymestyn profiadau dysgu disgyblion.  

Mae disgyblion yn cymryd rhan yn frwdfrydig yn y rhaglen addysg awyr agored a theithiau, sy’n ddifyr, yn heriol ac yn gyffrous, ac yn cynnwys gweithgarwch diwrnod llawn bob pythefnos ar gyfer pob disgybl i fyny i Flwyddyn 10, gyda dewis i ymestyn y rhaglen ymhellach i Flwyddyn 12 ac 13, gyda BTEC mewn Gweithgareddau Awyr Agored ac Anturus. Mae pob disgybl yn cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin, a llawer ohonynt yn datblygu medrau gwaith tîm ac arwain gwerthfawr, ac yn cyflawni cyfraddau llwyddiant uchel ar bob lefel.   

Hefyd, caiff disgyblion gyfleoedd gwerthfawr i gymryd rhan mewn teithiau a gweithgareddau rhyngwladol ysgogol fel mynd ar sled hysgi yn Sweden, syrffio yn Lanzarote a sgwba-blymio ym Môr y Canoldir.

At ei gilydd, mae’r rhaglen addysg a gweithgareddau awyr agored yn cyfrannu’n sylfaenol ac yn helaeth at fedrau, datblygiad personol, iechyd a lles disgyblion. Mae’n cefnogi disgyblion yn eithriadol o dda i ddangos parch a goddefgarwch, cymryd cyfrifoldeb amdanyn nhw eu hunain a phobl eraill, datblygu gwydnwch a chaffael hyder a hunan-barch; gellir rhoi pob un o’r rhain ar waith yn yr ystafell ddosbarth.   

Mae ethos yr ysgol yn annog pob aelod o’r gymuned i ddatblygu tosturi, parch a goddefgarwch at bobl eraill. Er enghraifft, mae’r ysgol wedi sefydlu partneriaeth werthfawr gyda banc bwyd lleol y mae disgyblion yn cyfrannu bwyd iddo yn rheolaidd, ac yn darparu anrhegion Nadolig ar gyfer plant yn y gymuned.  Rhoddir cyfleoedd gwerthfawr a rheolaidd i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o’r byd ehangach, a myfyrio ar faterion pwysig sy’n effeithio ar eu bywydau nhw, a bywydau pobl eraill. Mae taith flynyddol i Wganda a chysylltiadau agos ag ysgolion yn y wlad honno yn helpu disgyblion i ddysgu am yr heriau a brofir gan blant sy’n byw mewn rhannau anghysbell o Affrica. Mae’r gweithgareddau hyn yn annog disgyblion i ddatblygu agweddau parchus a gwerthoedd a chredoau cadarn. 
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae St David’s College yn ysgol ddydd a phreswyl annibynnol sy’n addysgu bechgyn a merched rhwng 9 ac 19 mlwydd oed.  Mae 250 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, y mae 95 ohonynt yn ddisgyblion preswyl.  Mae’r ysgol wedi’i lleoli i’r de o Landudno yng Ngogledd Cymru.  Cenhadaeth yr ysgol yw ‘datblygu’r unigolyn cyfan trwy addysg eang sydd wedi’i seilio ar egwyddorion Cristnogol, dewis eang o ddiddordebau a gweithgareddau, a rhaglen bersonol gyflawnadwy ar gyfer pob disgybl’.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae St David’s College yn arbenigo mewn addysgu disgyblion ag anawsterau dysgu penodol, gan gynnwys dyslecsia, dyspracsia, dyscalcwlia, cyflyrau’r sbectrwm awtistig ac anhwylder diffyg canolbwyntio. Mae bron i 70% o ddisgyblion ar gofrestr anghenion addysgol arbennig yr ysgol. Mae dosbarthiadau’n fach o ran eu maint, ac yn amrywio o 6-14 disgybl. Ers ei sefydlu, mae St David’s College wedi arloesi mewn addysgu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn cyfan, gan alluogi pob un o’r disgyblion, p’un a oes ganddynt anghenion dysgu penodol ai peidio, i ffynnu a rhagori. Ochr yn ochr â hyn, nod yr ysgol yw datblygu cymeriad pob unigolyn, gan alluogi pob disgybl i ennill ystod eithriadol o fedrau bywyd trosglwyddadwy, a darganfod hunanhyder go iawn trwy raglen wedi’i theilwra’n unigol sy’n golygu bod disgyblion yn rhagori i raddau helaeth ar eu disgwyliadau.  

Yn St David’s College, mae disgyblion o Flwyddyn 5 i Flwyddyn 13 yn dysgu gyda’i gilydd ar un campws. Mae’r ysgol yn credu bod hyn yn galluogi disgyblion ar draws y grwpiau blwyddyn i ffynnu a dysgu gwerthoedd teulu ysgol gyfan, sef parch, medrau cyfathrebu cryf, uniondeb a meithrin perthynas, sy’n fedrau bywyd hanfodol. Mae’r ysgol yn darparu addysg lawn yn y brif ffrwd, sy’n arwain disgyblion tuag at gymwysterau TGAU, cymwysterau Safon Uwch a chymwysterau BTEC Lefel 2 a 3. Mae’r cyfle i gyfuno cyrsiau Safon Uwch a BTEC yn galluogi disgyblion i ddysgu’n briodol a mynd ymlaen i brifysgol, cyrsiau addysg bellach, prentisiaethau, neu fynd yn syth i’r gweithle.
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Sefydlwyd Canolfan Cadogan, sef adran cymorth dysgu’r ysgol, dros 50 mlynedd yn ôl, ac mae’n darparu’r hyb ar gyfer dull addysgol a chymorth un-i-un arbenigol yr ysgol. Nid yw’r ysgol yn cyflogi cynorthwywyr addysgu, ond yn hytrach, ceir dosbarthiadau sy’n fach o ran maint, a staff sy’n addysgu yn y brif ffrwd sy’n meddu ar gymwysterau ôl-radd mewn ‘Addysgu a Dysgu Disgyblion ag Anawsterau Dysgu Penodol’. Mae 20 o athrawon cymorth arbenigol yn gweithio ar y cyd ag athrawon y cwricwlwm i gyflwyno tua 550 o wersi cymorth arbenigol un-i-un bob wythnos. Mae athrawon yn monitro dysgu academaidd disgyblion ac yn darparu lefel sylweddol o gymorth ac arweiniad bugeiliol i ddisgyblion a rhieni, yn ogystal. Mae technoleg gynorthwyol yn galluogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol am oes. Cyflwynir holl wersi’r cwricwlwm a’r gwersi un-i-un gan ddefnyddio platfformau ar-lein sy’n galluogi disgyblion ac athrawon i rannu cynnwys cyrsiau, a chydweithio. 

Mae’r ysgol yn darparu gwersi unigol ar gyfer disgyblion sy’n wynebu rhwystrau penodol rhag dysgu. Gallai’r rhwystrau hyn olygu atal plant rhag cyrraedd eu potensial academaidd a phersonol llawn, a allai gael effaith negyddol ar eu lles cymdeithasol ac emosiynol, a’u cyfleoedd yn y dyfodol. Mae gan St David’s brofiad helaeth o addysgu disgyblion: 

•    sy’n wynebu heriau yn gysylltiedig â llythrennedd

•    sydd angen cymorth ychwanegol â mathemateg 

•    sydd ag anawsterau â chofio a galw i gof 

•    sydd â medrau prosesu arafach 

•    sydd â heriau o ran canolbwyntio a thalu sylw 

•    sydd ag anghenion cymorth o ran iaith a chyfathrebu. 

Mae ethos yr ysgol yn dathlu cryfderau disgyblion ochr yn ochr ag addysgu a dysgu o ansawdd uchel, lle caiff disgyblion eu hannog i gyrraedd eu llawn botensial, a rhagori arno, trwy ymyrraeth dargedig unigol. Mae’r ysgol yn monitro ac yn addasu’r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod addysgu a dysgu yn gweddu i ddoniau a galluoedd pob disgybl. Mae pasbort y disgybl, sy’n cael ei lenwi gan athrawon prif ffrwd a therapyddion, yn rhannu gwybodaeth ag athrawon prif ffrwd ynghylch anghenion a chryfderau disgyblion unigol. Mae disgyblion yn dysgu gwydnwch, medrau cyfathrebu, hunanreolaeth, a defnydd o dechnoleg gynorthwyol a strategaethau cysylltiedig mewn ffordd amlsynhwyraidd. Mae’r rhain yn rhan hanfodol o ddull yr ysgol o ran ymyrraeth, ac yn helpu disgyblion i fod yn ddysgwyr hunangyfeiriedig, annibynnol ac ymgysylltiedig, sy’n gallu mynd allan i’r byd a ffynnu. 

Mae olrhain yr holl ddisgyblion bob blwyddyn gan aseswyr arbenigol mewn dyslecsia, ar sail tystiolaeth, yn golygu y gellir defnyddio data cyfoes i adlewyrchu dilyniant disgyblion, ac addasu darpariaeth pan fydd angen, a nodi a rhannu arfer orau yng nghyfarfodydd wythnosol y tîm amlddisgyblaethol. Caiff y dull hwn effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgwyr o ran medrau llythrennedd a rhifedd gwaelodlin, yn ogystal â’u ffordd o weithredu, eu cyfathrebu a’u lles emosiynol.  

Yn y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi cyflogi therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol a chwnselwyr fel aelodau o staff Cadogan. Maent yn gweithio gyda disgyblion, athrawon a rhieni i ddarparu dull therapiwtig integredig. Yn ychwanegol, mae Rhaglen Defnydd Cymdeithasol o Iaith yr ysgol, dan oruchwyliaeth y therapydd lleferydd ac iaith, yn cefnogi disgyblion sy’n agored i niwed sy’n cael trafferth â rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu. Mae’r therapïau a’r rhaglenni hyn yn defnyddio’r un cynlluniau dysgu unigol (CDUau) ar gyfer gosod targedau disgyblion ac adolygiadau.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae disgyblion o bob oedran yn gwneud cynnydd cryf yn datblygu eu medrau cymdeithasol a chyfathrebu, ac yn cyflawni safonau uchel mewn perthynas â’u hanghenion a’u galluoedd dysgu. Yn benodol, mae darpariaeth cymorth dysgu’r ysgol, sydd o ansawdd da, yn helpu disgyblion i ddatblygu strategaethau dysgu effeithiol i oresgyn eu hanawsterau, gwella eu hunanhyder a gwneud cynnydd cadarn yn unol â’u galluoedd. Mae’r deilliannau hyn yn paratoi disgyblion o bob gallu yn dda ar gyfer profiadau addysgol perthnasol pellach a chyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Mae Cyngor Sir Fynwy yn nwyrain Cymru, a chyfanswm y boblogaeth yw ychydig dros 94,000 o bobl.  Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 4 ysgol uwchradd, 30 ysgol gynradd, ac uned cyfeirio disgyblion.  Mae 12 o feithrinfeydd a gynhelir a 25 o feithrinfeydd nas cynhelir yn yr awdurdod.  Ar hyn o bryd, canran gyfartalog tair blynedd y disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yw 10.9%, sydd islaw cyfartaledd Cymru. 
Mae arweinydd y Cyngor wedi bod yn ei swydd er 2008, a phenodwyd y Prif Weithredwr yn 2009. Yn 2017, penododd yr awdurdod lleol Aelod Cabinet newydd dros Addysg, a’r Prif Swyddog ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.

Cyd-destun a chefndir

Yn yr arolygiad blaenorol ym mis Tachwedd 2012, nododd Estyn nifer o ddiffygion mewn trefniadau diogelu ar draws yr awdurdod lleol.  Roedd y rhain yn cynnwys diffyg polisi diogelu clir a gwendidau gweithredol sylweddol.

Mae’r astudiaeth achos hon yn disgrifio’r camau a gymerodd yr awdurdod i wella arfer weithredol a sefydlu diwylliant lle cydnabyddir mai ‘cyfrifoldeb pawb’ yw diogelu.  O ganlyniad i’r gwaith hwn, nododd Estyn nifer o arferion a gweithdrefnau y mae’n werth eu rhannu yn arfer effeithiol, yn dilyn arolygiad o wasanaethau addysg llywodraeth leol Sir Fynwy ym mis Chwefror 2020.  

Dechreuodd yr awdurdod ei waith i wella’i drefniadau diogelu gyda ffocws craff ar ysgolion a lleoliadau addysgol, wedi’i ddilyn gan ymestyn y dull ar draws pob agwedd ar waith y Cyngor.

Mae datblygu cwadrant diogelu, wedi’i danategu gan arweinyddiaeth a llywodraethu cryf, wedi galluogi’r awdurdod lleol i strwythuro ffordd strategol o feddwl, trefnu mecanweithiau gwerthuso effeithiol a datblygu dull cyfannol o sicrhau bod y gwahanol agweddau ar ddiogelu yn ategu ei gilydd yn effeithiol.  Dros gyfnod, sefydlodd swyddogion ddarlun clir a dealladwy o ‘sut beth yw da’ o fewn pob agwedd ar y cwadrant.

Disgrifiad o’r strategaeth

Mae arweinyddiaeth gref a ffocws parhaus ar ymgorffori diogelu yn ddiwylliannol ar draws pob rhan o’r Cyngor ar lefel “calonnau a meddyliau” wedi sicrhau bod diogelu ar gyfer plant ac oedolion mewn perygl yn cael ei ddeall a’i dderbyn fel “cyfrifoldeb pawb”.  Mae datblygu polisïau diogelu a gweithdrefnau gweithredu cadarn yn cefnogi ysgolion, lleoliadau a gwasanaethau ehangach yn effeithiol i ymateb yn briodol i bryderon fel maent yn codi. 

Yn sgil datblygu Grŵp Diogelu Awdurdod Cyfan, adeiladwyd perchnogaeth, ymrwymiad ac atebolrwydd ar gyfer diogelu i uwch arweinwyr ar draws holl gyfarwyddiaethau’r awdurdod.  Mae’r pwyslais ar welliant parhaus o fewn y grŵp hwn wedi sicrhau bod dysgu penodol o achosion diogelu yn cael ei drafod yn rheolaidd, a’i fod yn llywio arfer ac yn cael ei adlewyrchu mewn diweddariadau rheolaidd i’r Polisi Diogelu Corfforaethol.  

Datblygwyd Fframwaith Archwilio Diogelu ar gyfer Gwerthuso i amlinellu’r safonau diogelu’n glir o fewn y polisi.  Erbyn hyn, y Fframwaith Archwilio Diogelu ar gyfer Gwerthuso yw’r rhan bwysicaf o ran sut mae’r awdurdod yn datblygu dealltwriaeth, cydymffurfiaeth a datblygu systemau diogelu ar draws pob cyfarwyddiaeth yn y Cyngor.  Caiff cwblhau hyn ei gefnogi gan yr Uned Diogelu a Sicrhau Ansawdd i gynnig cysondeb ar draws safonau, a chynnal lefel iach a chadarn o her.  Mae trefniadau monitro cadarn ar waith i sicrhau y glynir at brosesau a gweithdrefnau statudol, ac yr adroddir amdanynt o fewn y fframwaith gwerthuso diogelu cyffredinol.

Caiff y wybodaeth o’r Fframwaith Archwilio Diogelu ar gyfer Gwerthuso ei choladu i nodi themâu a safonau diogelu allweddol lle mae angen cymorth a gwelliant.  Caiff y broses hon ei goruchwylio gan y Grŵp Diogelu Awdurdod Cyfan, ac mae’n darparu cymorth a her ychwanegol ar lefel uwch.
Mae proses gref ar gyfer recriwtio diogel yn ddatblygiad allweddol, sy’n rhoi pwyslais ar bolisi a chydymffurfio, wedi’i gefnogi gan hyfforddiant recriwtio diogel ar gyfer yr holl reolwyr.  Sefydlwyd trefniadau clir i sicrhau bod y broses ar gyfer ardystio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael ei chymhwyso’n gyson ac yn gadarn ar gyfer y gweithlu cyfan, ac ar gyfer darparwyr allanol.

 Arweiniodd heriau penodol mewn recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr yn ddiogel at adolygiad trylwyr a thynhau dull yr awdurdod ymhellach.  O ganlyniad, cyflwynwyd cronfa ddata i gefnogi recriwtio a hyfforddi’r holl weithwyr di-dâl a’r gwirfoddolwyr ar draws y Cyngor yn ddiogel.

Datblygwyd strategaeth hyfforddiant diogelu i nodi pwy oedd angen hyfforddiant, ac ar ba lefel.  Datblygwyd ystod o offer a rhaglenni hyfforddi i sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei hyfforddi’n briodol o ran diogelu.  Mae fforwm ar waith i gynorthwyo hyfforddwyr i gyflwyno rhaglen Lefel 1 a dull ‘Hyfforddiant ar gyfer Hyfforddwyr’ i sicrhau cynaliadwyedd.  O ganlyniad, caiff rolau, perthnasoedd a chyfrifoldeb o fewn y broses ddiogelu eu deall yn glir gan staff, a’u cefnogi’n gorfforaethol.  Ceir cyfleoedd i drafod unrhyw bryderon, a darperir cymorth ac arweiniad yn y cam cyfeirio trwy’r Uned Diogelu a Sicrhau Ansawdd.

Disgwylir i wasanaethau sy’n gweithredu yn Sir Fynwy, gan gynnwys gwasanaethau wedi’u comisiynu a’r rhai y tu allan i reolaeth uniongyrchol y Cyngor, weithredu mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo lles a diogelwch plant ac oedolion sydd mewn perygl.  Datblygwyd fframwaith haenog ar gyfer comisiynu diogel gan ddefnyddio safonau gofynnol cytûn ar gyfer diogelu’r gwasanaethau hyn.  Mae hyn yn golygu y gall diogelu fod yn ystyriaeth allweddol mewn trefniadau monitro contractau a threfniadau llogi a gosod y cyngor.  Darperir cefnogaeth, cyngor a chymorth ymarferol helaeth i leoliadau cymunedol a gweithgarwch gwirfoddolwyr i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth dda o arfer a pholisi diogelu.

Mae dull systemau cyfan ar gyfer diogelu ar waith ar draws y cyngor, a chafodd ei ddatblygu trwy’r bartneriaeth strategol Plant a Phobl Ifanc, dulliau yn seiliedig ar leoedd mewn gwasanaethau oedolion a’r Panel Cymorth Cynnar o fewn Gwasanaethau Plant.  Mae’r rhwydweithiau hyn yn meithrin rhannu gwybodaeth ynghylch themâu a materion sy’n helpu meithrin dealltwriaeth well o’n cymunedau.  Mae’r berthynas waith agos rhwng yr Uned Diogelu a Sicrhau Ansawdd a rhannau allweddol o’r awdurdod o ran diogelwch cymunedol yn ymestyn y gwaith hwn ymhellach, er enghraifft gydag Uned Diogelu’r Cyhoedd, Swyddogion Trwyddedu a Phartneriaeth.

Mae dull rhagweithiol ar waith ar gyfer hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ATAL a VAWDASV gyda ffocws penodol ar faterion sy’n benodol i Sir Fynwy, cydnabyddiaeth gynnar a chyfeirio pryderon.  Mae’r awdurdod wedi arwain gwaith amlasiantaethol yn ymwneud â cham-fanteisio a chaethwasiaeth fodern i godi ymwybyddiaeth, a sicrhau bod arwyddion yn cael eu hadnabod a’u cyfeirio’n briodol.
 

Pa effaith mae hyn wedi’i chael ar wella arfer diogelu mewn proses amddiffynnol ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl?

Mae’r ffocws parhaus ar ymgorffori diogelu yn ddiwylliannol ar draws pob rhan o’r Cyngor wedi sefydlu ac ymgorffori diwylliant lle caiff diogelu yn yr awdurdod lleol ei gydnabod yn ‘gyfrifoldeb pawb’.  

Mae ymgysylltu cynaledig â gwasanaethau o fewn y Cyngor a phartneriaid allanol wedi ymgorffori dealltwriaeth gyffredin o brosesau a safonau diogelu a osodwyd gan yr awdurdod.  O ganlyniad, mae cyflwyno diogelu yn effeithiol o ran cefnogi plant ac oedolion sydd mewn perygl ar draws y system.

Mae datblygu grŵp diogelu’r awdurdod cyfan yn darparu fforwm effeithiol y caiff diogelu ei fonitro a’i werthuso oddi mewn iddo, er mwyn rheoli gwelliannau parhaus mewn arferion diogelu. 

Mae sefydlu perthnasoedd gwaith cryf ar draws yr awdurdod lleol ar gyfer cyflwyno diogelu yn effeithiol yn golygu bod gwasanaethau addysg ac ysgolion yn cael eu cefnogi’n dda.
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Bryn Tirion Hall wedi’i lleoli ar ddau safle y tu allan i Wrecsam. Mae’r ysgol yn cynnig darpariaeth ddydd a darpariaeth breswyl am 52 wythnos y flwyddyn i ddisgyblion ag ystod o anghenion, yn cynnwys anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, ac anhwylder y sbectrwm awtistig. Mae 54 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, a’r ystod oedran rhwng 7 ac 19 oed. Mae gan bron bob un o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig neu gynllun addysg, iechyd a gofal. Mae gan leiafrif o ddisgyblion statws derbyn gofal, ac mae llawer o’r disgyblion hyn yn byw yng nghartrefi plant y cwmni.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Cydnabu’r ysgol fod angen newid diwylliant yr ysgol gyfan, lle rhoddir y flaenoriaeth uchaf i les pawb (gan gynnwys staff), i wella iechyd emosiynol rhai o’r plant a’r bobl ifanc fwyaf sydd fwyaf agored i niwed yn y DU, a’u gallu i ddysgu.  

Mae llawer o ddysgwyr yr ysgol wedi dioddef profiadau lluosog niweidiol yn ystod plentyndod, ac o ganlyniad, nid oes ganddynt fan diogel i fynegi emosiynau pwerus a dwys. Gall yr amddifadedd hwn naill ai achosi iddynt guddio’u teimladau, y profwyd bod hyn yn niweidiol yn seicolegol ac yn gorfforol, neu’n mynegi’r teimladau mewn ffyrdd sy’n ddinistriol iddyn nhw eu hunain neu bobl eraill. Mae’r ymchwil yn dangos bod ymdeimlad o gysylltioldeb â dim ond un oedolyn gofalgar a chyson yn eu bywydau yn ddigon i lawer o blant a phobl ifanc o’r fath er mwyn rhoi diwedd ar eu hymdeimlad o unigrwydd, dicter a theimladau o gael eu camddeall, ac yn eu hatal rhag gwneud i bobl eraill yr hyn a wnaed iddyn nhw. Hynny yw, yr iachäwr gorau i’r plant a’r bobl ifanc hyn yw perthynas ddynol o ansawdd da: profiad emosiynol atgyweiriol sy’n debyg i ail-rianta. Fodd bynnag, yn sgil effaith ddifrifol trawma ar ddiogelwch ymlyniad a gweithredu emosiynol, roedd yr ysgol o’r farn nad oedd darparu un sesiwn therapi yr wythnos yn unig ar gyfer yr holl ddysgwyr sy’n agored i niwed yn yr ysgol yn fodel digon da. Yn hytrach, dewisodd arweinwyr fodel cymorth therapiwtig a oedd yn cael ei integreiddio yn yr holl ryngweithio â dysgwyr trwy gydol y diwrnod ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Er mwyn darparu amgylchedd diogel a therapiwtig ar gyfer yr holl ddysgwyr, mae pob un o’r staff (rheolwyr, athrawon, cynorthwywyr cymorth dysgu, gofalwyr) yn cael safon uchel o hyfforddiant ar weithio’n therapiwtig ac yn greadigol gyda phlant a phobl ifanc sy’n agored i niwed. Fel rhan o hyn, mae dysgwyr yn cydnabod ei bod yn bwysig sicrhau bod hyfforddiant yn arfogi pob aelod o staff yn yr ysgol i allu ymateb yn dosturiol i ddysgwyr pan fyddant yn arddangos ymddygiadau sy’n herio. Ar yr un pryd, maent yn cydnabod bod ganddynt gyfrifoldeb i sicrhau bod hyfforddiant yn hyrwyddo datblygiad lles a gwydnwch emosiynol y staff eu hunain.

I fynd i’r afael â’r anghenion hyn, yn ddiweddar, mae’r ysgol wedi cyflwyno cwrs yn dwyn y teitl Cwnsela Therapiwtig mewn Addysg (TCiE): Addysgu’r Meddwl a’r Galon. Mae’r cwrs wedi’i deilwra i’r ysgol, ac fe’i cynlluniwyd gan gwnselydd seicotherapiwtig yr ysgol trwy ymgynghori ag uwch arweinwyr. Mae staff yn cwblhau’r cwrs dros gyfnod estynedig o 12 wythnos, am ddiwrnod bob wythnos. Yn ystod y cwrs, mae staff yn archwilio ystod o themâu ac maent wedi eu hyfforddi i ddefnyddio’r celfyddydau a ffurfiau ar gyfathrebu di-eiriau i helpu dysgwyr i allanoli, archwilio a phrosesu eu profiadau yn ddiogel. Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn darparu cwrs 10 sesiwn ar gymorth lleferydd ac iaith yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hyfforddiant teilwredig ar ddiwrnodau HMS a sesiynau cyfnos ar ystod eang iawn o destunau cysylltiedig, gan gynnwys datblygiad plant, theori ymlyniad, ail-rianta therapiwtig, chwarae, iaith a datblygiad gwybyddol, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, deall a chefnogi prosesu synhwyraidd, gwybyddiaeth a dysgu, swyddogaeth weithredol, hyfforddiant emosiynau, lles ar gyfer staff a dysgwyr, a chymorth cyntaf iechyd meddwl.

Mae fframwaith cymorth wedi’i hwyluso gan dîm therapiwtig amlddisgyblaethol yr ysgol yn ategu’r model hyfforddiant. Mae’r tîm, sy’n cynnwys y cwnselydd seicotherapiwtig, seicolegydd addysg, therapydd galwedigaethol, a therapydd lleferydd ac iaith, yn darparu rhaglen strwythuredig o oruchwyliaeth glinigol, cyfarfodydd tîm yn canolbwyntio ar atebion, sesiynau ‘dal i fyny’ a sesiynau adolygu rheolaidd ar gyfer staff i sicrhau bod cymorth a dysgu staff yn gyfredol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r rhaglen datblygiad staff eang a chydlynus hon, mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu gwaith, a gallant fyfyrio ar eu dulliau eu hunain mewn perthynas â gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi dioddef trawma. Gallant ddeall sut gallai eu rhwystrau, eu profiadau heb eu prosesu a’u hanes ymlyniad poenus eu hunain ddylanwadu ar y ffordd maent yn rhyngweithio â dysgwyr. Maent yn datblygu dirnadaeth gadarn o effaith trawma ar ddatblygiad emosiynol a niwrobiolegol, a gwella eu galluoedd i ffurfio perthnasoedd therapiwtig gyda dysgwyr, sydd yn ei dro yn eu galluogi i ymgysylltu â dysgu a chymryd rhan mewn dysgu yn fwy llwyddiannus.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi hwyluso gweithdai ar gyfer Coleg Cambria ac wedi rhoi cyflwyniadau ar yr agwedd hon ar ei gwaith mewn cynadleddau ar gyfer ysgolion, gweithwyr ieuenctid a phenaethiaid ysgolion arbennig, ac yng Nghyngor Ysgolion Annibynnol Cymru.