Arfer effeithiol Archives - Page 21 of 67 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Dynfant ar gyrion Abertawe. Mae’n gwasanaethu ardal nad yw naill ai’n ffyniannus na than anfantais yn economaidd. Mae tua 9.5% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae 11 o ddosbarthiadau prif ffrwd, gan gynnwys dosbarth meithrin a dau ddosbarth addysgu arbenigol ar gyfer plant ag ASA cymedrol. 

Daw tua 93% o ddisgyblion o gartrefi Saesneg ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Mae gweddill y disgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol (88% gwyn Prydeinig, 12% arall). Mae gan ryw 12% o ddisgyblion prif ffrwd anghenion dysgu ychwanegol, ac mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiadau.

Mae mwyafrif y plant yn dawel ac yn cydymffurfio, ac mae ganddynt foesau da pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol.

Mae llawer o blant yn cyflawni ar y lefel ddisgwyliedig pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol, ac mae tua hanner ohonynt yn cyflawni’r tu hwnt i hynny. 

Ceir perthnasoedd gweithio cadarnhaol iawn rhwng y disgyblion a’u hathrawon ac aelodau staff eraill. Ceir awyrgylch bywiog a chynhwysol yn yr ysgol, sy’n ymdrechu i sicrhau bod yr addysgu yn ddifyr ac wedi’i gynllunio’n dda, a bod gwersi’n hwyl ac yn diwallu anghenion disgyblion yn effeithiol.
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

O fewn Abertawe yn gyffredinol, mae symud weithiau rhwng ysgolion o ran arweinyddiaeth a dyrchafu. Trafodwyd y syniad gydag aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth, ac ar ôl trafod â’r gweithwyr proffesiynol AD priodol a thîm ymgynghorol gwella ysgolion Abertawe, datblygwyd y cynllun trwy lwybr cyllido arloesedd yr Academi Arweinyddiaeth. Gofynnwyd i ysgolion fynegi diddordeb, a chofrestrodd wyth ysgol â’r prosiect.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Syniad y prosiect oedd i ddarparu fframwaith lle gall athrawon o ysgolion wedi’u cymeradwyo wneud cais i gael eu secondio am flwyddyn mewn ysgol gynradd arall. 

Byddai’r secondiadau am flwyddyn (i osgoi tarfu ar y dosbarth), a byddai’n dilyn y protocolau secondio arferol fel y darperir gan ganllawiau adnoddau dynol. Fel rhan o’r secondiad, byddai angen i’r cyfranogwr:

  1. Edrych ar yr ymagweddau at y cwricwlwm newydd sy’n cael eu treialu / yn destun ymchwiliad yn yr ysgol bartner a rhannu syniadau o’u hysgol eu hunain 
  2. Cwblhau darn o ymchwil weithredu ar gyfer yr ysgol bartner ar faes yn eu cynllun datblygu ysgol
  3. Cymryd rhan mewn ‘seibiannau’ bob hanner tymor gydag ymgynghorwyr her yr awdurdod lleol a chyfranogwyr eraill i rannu eu dysgu a’u profiad; bydd y seibiannau hyn hefyd yn gyfleoedd i gyfranogwyr ymgysylltu ag ymgynghorwyr her ar agweddau allweddol ar uwch arweinyddiaeth 
     

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

O gael ei werthuso gan y penaethiaid sy’n cymryd rhan a’r secondeion, roedd yr adborth yn aruthrol o gadarnhaol, gan sôn am ddatblygiad cadarnhaol ym mhob maes arweinyddiaeth, gan gynnwys y cwricwlwm, arwain timau a datblygu gwybodaeth am wahanol leoliadau. 

Rydw i wedi cael cyfleoedd a fydd yn fuddiol i mi wrth ddatblygu fy arweinyddiaeth, hyfforddiant cyllid, cyflwyno mewn ymweliadau craidd gydag ymgynghorydd her, “Great Teaching Toolkit” i ymarferwyr arweiniol, sgyrsiau gonest a mewnweledol â phenaethiaid am yr hyn maen nhw’n chwilio amdano mewn dirprwy bennaeth.

Mae profiad y secondiad wedi bod yn werthfawr. Ces i fy secondio i ysgol wahanol iawn. Roedd hyn yn golygu fy mod i wedi cael profiad o ysgol sydd â llawer mwy o staff, mewn dalgylch gwahanol gyda llawer mwy o ddisgyblion. Rydw i wedi cael llawer o gyfleoedd trwy gydol y flwyddyn i arwain blaenoriaethau hunanddatblygu ysgol gyfan sy’n cysylltu â’r cwricwlwm newydd a darpariaeth gyffredinol trwy Gyfnod Allweddol 2.

Rydw i wedi cael amrywiaeth o gyfleoedd i wthio fy uchelgeisiau rheoli, sydd wedi cynnwys arwain Maes Dysgu newydd (Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu) a gwella proffil y Gymraeg trwy ennill y Wobr Siarter Iaith Efydd.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi cyflwyno i Ysgolion Abertawe trwy gyfarfodydd penaethiaid, i’r Gynhadledd Genedlaethol i Arweinwyr Canol, ac yn fwy diweddar, i’w chyswllt Partneriaeth.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y bartneriaeth

Mae Partneriaeth Caerdydd yn darparu tair rhaglen AGA, sef:

  • TAR Uwchradd (11-18), gyda llwybrau mewn cerddoriaeth, drama, celf a dylunio, addysg gorfforol, hanes, addysg grefyddol, daearyddiaeth, Cymraeg, Saesneg, ieithoedd tramor modern, mathemateg, bioleg gyda gwyddoniaeth, cemeg gyda gwyddoniaeth, ffiseg gyda gwyddoniaeth, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a chyfrifiadura, a dylunio a thechnoleg) 
  • TAR Cynradd (3-11) 
  • BA (Anrhydedd) Addysg Gynradd gyda SAC (3-11) 

Mae pob un o’r rhaglenni yn rhai amser llawn, a phob un ohonynt yn cael eu cynnig yn ddwyieithog. Mae’r rhaglen addysg gynradd BA (Anrhydedd) yn gwrs tair blynedd, mae’r rhaglenni TAR cynradd ac uwchradd yn gyrsiau blwyddyn. 

Yn 2021-2022, roedd 315 o fyfyrwyr yn dilyn y rhaglen BA Cynradd, a dilynodd 47 ohonynt y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 190 o fyfyrwyr yn dilyn y rhaglen TAR Cynradd, gyda 43 ohonynt yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 260 o fyfyrwyr yn dilyn y rhaglen TAR Uwchradd, gyda 45 ohonynt yn dilyn y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. 
Mae darpariaeth Pontio yn cynnwys dau grŵp pwrpasol o athrawon dan hyfforddiant sy’n siarad Cymraeg sy’n dewis peidio â hyfforddi yn y sector cyfrwng Cymraeg. Cynigir rhaglen Gymraeg deilwredig i’r myfyrwyr hyn, sy’n eu galluogi i ddatblygu eu medrau Cymraeg ar eu cyflymdra eu hunain, gan fagu cymhwysedd a hyder yn eu taith yn y Gymraeg tuag at ruglder gwell. ‘Grwpiau pontio’ yw’r grwpiau hyn, sy’n targedu siaradwyr Cymraeg sydd angen mwy o gymorth yn eu medrau iaith proffesiynol a phersonol.     
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Datblygu’r Gymraeg yn nodwedd allweddol o’r holl raglenni AGA TAR a BA ym Mhartneriaeth Caerdydd. Mae’r holl fyfyrwyr TAR yn derbyn 25 awr o gymorth Cymraeg, sy’n codi i 36 awr o amser cyswllt yn y BA Cynradd. Mae’r rhaglenni hyn wedi cael eu cynllunio ar y cyd â thiwtoriaid Prifysgol Cymru a staff sy’n siarad Cymraeg mewn ysgolion a Chydlynwyr y Gymraeg. Lleolir myfyrwyr mewn grwpiau iaith gwahaniaethol yn unol â lefelau hyfedredd yn y Gymraeg, o grwpiau Dechreuwyr i grwpiau Pontio a Gloywi. Mae sesiynau Datblygu’r Gymraeg yn cynnwys ymwybyddiaeth ddiwylliannol, y Cwricwlwm Cymreig, datblygiadau medrau Cymraeg a’r defnydd o addysgeg effeithiol i ddatblygu defnydd y disgyblion o’r Gymraeg. Mae pob un o’r myfyrwyr yn creu portffolio teilwredig Datblygu’r Gymraeg, dan arweiniad y tiwtor Cymraeg, gan olrhain cynnydd, datblygiad personol yn y Gymraeg a defnydd o’r Gymraeg mewn cyd-destun addysgegol.   

Caiff cysylltiadau ag arferion yn yr ysgol eu cryfhau trwy ddyrannu wyth awr o Ymchwil ac Ymholi fesul Arfer Glinigol (profiad ysgol), lle mae myfyrwyr yn creu cofnodion myfyriol, gan ganolbwyntio ar agweddau ar y Gymraeg yn eu sefydliadau lleoli unigol. Mae Cydlynwyr y Gymraeg yn cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r Gymraeg yng nghyd-destun eu hysgol. 

Mae pob un o’r myfyrwyr yn cwblhau hunanasesiad cyn rhaglen o fedrau Cymraeg, gan alluogi tiwtoriaid i grwpio myfyrwyr yn unol â chymhwysedd a gallu. Mae tiwtoriaid Cymraeg yn mynd ati i dargedu siaradwyr Cymraeg ar gyfer grwpiau Gloywi a Phontio, sy’n anelu at uchafu niferoedd y myfyrwyr ar lwybrau cyfrwng Cymraeg. Bob blwyddyn, nodir carfan fach o fyfyrwyr TAR fel siaradwyr Cymraeg sy’n dewis llwybrau cyfrwng Saesneg, ac mae’r myfyrwyr hyn yn ffurfio grŵp  Pontio. Mae’r rhesymau pam mae siaradwyr Cymraeg yn dewis lleoliad addysgu cyfrwng Saesneg yn gymhleth a phersonol, a nod y grŵp pontio hwn yw cynnig cymorth personol i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael y cymorth Cymraeg priodol, yn ogystal â chymorth personol i ddatblygu hyder a chymhwysedd fel athrawon cyfrwng Cymraeg datblygol.   
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22, dewisodd naw o fyfyrwyr TAR Cynradd ac wyth o fyfyrwyr TAR Uwchradd ymuno â grŵp datblygu’r Gymraeg, Pontio. Yn 2022-23, mae 13 o fyfyrwyr TAR Cynradd a phump o fyfyrwyr TAR Uwchradd yn dilyn elfen datblygu’r Gymraeg, Pontio, eu rhaglen, sy’n dangos bod cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg sy’n dymuno pontio eu medrau iaith. 

Mae myfyrwyr Pontio yn meddu ar amgyffrediad da o’r Gymraeg yn draddodiadol, ond yn dymuno cwblhau eu hyfforddiant trwy gyfrwng y Saesneg. Mae nodi’r myfyrwyr hyn yn gynnar yn hollbwysig. Mae derbyniadau’n hysbysu tiwtoriaid Cymraeg am fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg sydd â phroffil Pontio cyn i’r rhaglen ddechrau, ac mae hyn yn galluogi tiwtoriaid i dargedu myfyrwyr yn unigol i drafod eu medrau Cymraeg, eu lefelau hyder a llwybrau posibl at y llwybr cyfrwng Cymraeg. Cefnogir grŵp Pontio mewn cyd-destun teilwredig fel bod y llwybr tuag at weithio yn y sector cyfrwng Cymraeg yn cael ei gadw’n agored. Nod yr ymyrraeth hon yw mynd i’r afael â’r prinder yn y gweithlu cyfrwng Cymraeg, fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru, CGA a phenaethiaid yn ein hysgolion partner.

Mae Datblygu’r Gymraeg yn digwydd mewn cyd-destun llyfn ac anffurfiol iawn yn y ddarpariaeth Pontio yn y brifysgol. Mae myfyrwyr a thiwtoriaid yn trafod anghenion a nodir trwy waith llafar ac ysgrifenedig. Mae pob sesiwn, yn enwedig ar gyfer myfyrwyr cynradd, yn canolbwyntio ar adnoddau iaith a methodoleg ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Hefyd, mae pob sesiwn yn cynnwys gwaith iaith ar lefel y myfyrwyr eu hunain yn yr holl fedrau. Caiff y myfyrwyr eu haddysgu mewn grwpiau bach i feithrin amgylchedd cefnogol lle mae’r tiwtor yn deall anghenion, cymhelliant a gallu iaith athrawon dan hyfforddiant yn dda. Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar hybu hyder a rhuglder llafar trwy gyfleoedd rheolaidd i sgwrsio â’r tiwtor ac â’i gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. I lawer o athrawon dan hyfforddiant, mae hyn yn gyfle i ailafael ar fedrau iaith a gollwyd.

Mae myfyrwyr yn olrhain eu cynnydd personol mewn medrau Cymraeg ac addysgeg ar dair adeg asesu allweddol bob blwyddyn, gan alluogi iddynt gofnodi safonau a gosod targedau. Mae hyn yn eu galluogi i ganolbwyntio ar agweddau craidd ar eu datblygiad iaith a chwarae rôl weithredol mewn gwella’u defnydd o Gymraeg llafar ac ysgrifenedig.
 
Mae siaradwyr gwadd yn cyfrannu at ddarpariaeth Pontio. Yn dilyn trafodaethau mewn cyfarfodydd recriwtio cyfrwng Cymraeg gyda phenaethiaid y bartneriaeth, cydnabyddir bod gan staff yn yr ysgol rôl allweddol mewn cefnogi’r grŵp pontio hwn, a chefnogi eu taith tuag at y sector cyfrwng Cymraeg. Gwahoddir pennaeth uwchradd i gyfarfod â’r grŵp i drafod y cyfleoedd sydd ar gael mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae cyflwyniadau hefyd yn cynnwys cyfweliadau â staff sydd wedi dysgu Cymraeg ac sydd bellach yn gweithio yn y sector cyfrwng Cymraeg. Mae pwysigrwydd modelau rôl fel pobl sy’n ysbrydoliaeth yn hanfodol wrth fagu hyder ac yn dangos bod athrawon eraill wedi dilyn y llwybr yn llwyddiannus o’r cyfrwng Saesneg i addysgu cyfrwng Cymraeg.  

Gwahoddir cyd-fyfyrwyr o’r sector cyfrwng Cymraeg i gyfrannu at sesiynau Pontio hefyd. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ennill dealltwriaeth o’r disgwyliadau ieithyddol yn y sector cyfrwng Cymraeg, ac ystod y cymorth a gynigir yn y sector hwn. 
 
Cynigir cyfle i holl fyfyrwyr Pontio fynychu lleoliad cyfrwng Cymraeg, ond maent yn tueddu i fod yn ddihyder i gymryd y cam hwn â’r Gymraeg. Fodd bynnag, mae’r rhaglen TAR yn cynnwys profiad cyfoethogi am dair wythnos ar ddiwedd y rhaglen. Caiff myfyrwyr Pontio eu hannog i fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg (cynradd neu uwchradd) i ennill profiad o addysgu a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, heb fod pwysau o ran asesu a chynllunio ffurfiol. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnig strwythur wrth symud ymlaen tuag at y sector cyfrwng Cymraeg, gan alluogi myfyrwyr i fagu hyder trwy gydol eu taith yn y Gymraeg. 
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Gyda hyder a chymhwysedd sy’n datblygu, mae rhai o fyfyrwyr Pontio yn dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi cyfrwng Cymraeg. Mae hwn yn gam clir ymlaen yn eu hyder a’u defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng hyfforddi. 

Mae myfyrwyr yn olrhain eu safonau fel rhan o system Fframwaith, sy’n dangos hyder datblygol myfyrwyr Pontio wrth ddatblygu eu medrau Cymraeg. Mae hyn yn bwydo i Safonau Fframwaith Cymru gyfan, gan arwain at ddatblygu medrau Cymraeg yn y dyfodol fel athrawon newydd gymhwyso. 

Caiff y safonau ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) eu holrhain fel rhan o’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Mae holl fyfyrwyr Pontio wedi creu portffolio llawn o dystiolaeth o fedrau (darllen / ysgrifennu / gwrando / siarad) a thystiolaeth o strategaethau effeithiol i ddatblygu medrau Cymraeg disgyblion.

Mae adborth gan fyfyrwyr Pontio yn nodi’r pwyntiau canlynol, gan bwysleisio effaith y grŵp hwn ar fedrau iaith personol ac ymdeimlad o berthyn: 

‘y cyfle i ddyrchafu fy Nghymraeg a’i defnyddio o fewn fy ystafell ddosbarth i helpu cenhedlaeth y dyfodol’

‘Rydw i wedi mwynhau’r sesiynau gyda’r tiwtor. Mae hi’n gwneud i’r grŵp deimlo fel teulu’.

‘Rydw i wedi mwynhau’r sesiynau yn fawr iawn. Mae’r tiwtor yn rhoi’r cyfle i ni loywi ein hiaith wrth greu awyrgylch cyfforddus a chyfeillgar’.

‘Mae’r tiwtor wedi helpu i mi ddatblygu fy sgiliau Cymraeg a gwella fy hyder yn siarad Cymraeg’.
‘Dw i wedi dysgu llawer o bethau newydd am fy mod i wedi gwrando ar bobl yn siarad Cymraeg yn rhugl’.
Mae’r dyfyniadau uchod yn dangos gwerth darpariaeth bersonol i’r siaradwyr Cymraeg hyn sy’n datblygu, a phwysigrwydd y ddarpariaeth hon o ran datblygu siaradwyr Cymraeg hyderus a chymwys ac athrawon y dyfodol.   
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Trwy waith Grŵp Recriwtio a Marchnata cyfrwng Cymraeg y bartneriaeth, rhennir yr arfer dda hon gyda phenaethiaid ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, a’r consortia rhanbarthol. 
Mae gwaith y bartneriaeth gyda Chonsortiwm Canolbarth y De yn cefnogi cysylltiadau gwell o SAC i Athro Newydd Gymhwyso (ANG) a datblygiad proffesiynol parhaus o ran Datblygu’r Gymraeg.  

Nodwyd y camau nesaf posibl i ddatblygu effaith darpariaeth Pontio ymhellach:

  • Cyfrannu at bodlediad ‘Tom and Emma’ y bartneriaeth fel rhan o gyfres Research Bites i hyrwyddo’r cyfleoedd a gynigir trwy ddarpariaeth Pontio.   
  • Cydweithio ymhellach ag ysgolion, o bosibl gan fynd â myfyrwyr Pontio i ysgol cyfrwng Cymraeg yn ystod cyfnod ymsefydlu AGA, fel bod myfyrwyr yn fwy gwybodus am y sector cyn ymrwymo i hyfforddiant trwy gyfrwng un iaith neu’r llall.
  • Darparu cyfleoedd i fyfyrwyr Pontio gymryd rhan mewn rhai agweddau ar y ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ochr yn ochr â myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys paratoi ar gyfer gwneud cais am swyddi addysgu.
     

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Fel rhan o’i phartneriaeth â Phrifysgol Rhydychen, defnyddiodd Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) egwyddorion ymarfer clinigol wedi’u llywio gan ymchwil Cynllun Interniaeth Rhydychen (Burn a Mutton, 2013), gan gynnwys yr ymrwymiad i weithio’n agosach ag ysgolion i ddylunio cynnwys, strwythur a strategaethau addysgegol y ddarpariaeth AGA gyda’i gilydd. Mae ymarfer clinigol, term sy’n deillio o’r proffesiwn meddygol, yn dibynnu ar gefnogaeth arloesol Hyrwyddwyr Ymchwil ochr yn ochr â threfniadau mwy traddodiadol AGA yn yr ysgol sy’n dibynnu ar fentoriaid ac uwch fentoriaid. Mae Hyrwyddwyr Ymchwil wedi cael eu penodi ym mhob un o Ysgolion/Cynghreiriaid Partneriaeth Arweiniol y bartneriaeth, gyda chylch gwaith i hyrwyddo a chefnogi ymgysylltiad ag ymchwil gan athrawon dan hyfforddiant o fewn yr Ysgolion/Cynghreiriaid Partneriaeth Arweiniol, yn enwedig ynghylch aseiniadau ymchwil yn yr ysgol. Maent yn fodel rôl cadarnhaol ac yn ffynhonnell gymorth ymarferol, gan fynd i’r afael a bwlch cydnabyddedig rhwng ymchwil ac ymarfer yn y proffesiwn addysgu ar yr un pryd (McIntyre, 2005). Un o uchelgeisiau ehangach cyflwyno Hyrwyddwyr Ymchwil yw cefnogi mwy o ymgysylltu ag ymchwil, o fewn ysgolion, ac ar draws y bartneriaeth. Mae sesiynau cyfnos a chyfarfodydd datblygu rheolaidd ar gyfer Hyrwyddwyr Ymchwil a chydweithwyr partneriaeth yn annog mwy o ddeialog a dealltwriaeth well o ymchwil rhwng partneriaid.

Mae cyflwyno Hyrwyddwyr Ymchwil o fewn Partneriaeth Caerdydd yn arwyddocaol mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, mae neilltuo dewis ffocws yr aseiniad ymchwil i ysgolion, ar sail eu hanghenion, yn nodi symud rhag AGA dan ddylanwad pennaf prifysgolion (Pugh et al., 2020). Mae staff a systemau prifysgol yn cymeradwyo ac yn asesu’r aseiniadau o hyd, ond mae lledaenu’r canfyddiadau yn yr ysgol yn golygu bod yr ymchwil yn berthnasol ar unwaith i gyd-destun ac anghenion penodol yr ysgol unigol.

Caiff Hyrwyddwyr Ymchwil eu cefnogi trwy ddysgu proffesiynol mewn cymuned arfer sy’n cael ei hwyluso gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’r ymgysylltu hwn yn cefnogi meithrin capasiti arferion ac ymddygiadau wedi’u llywio gan ymchwil yn systemig ar gyfer ysgolion, staff y bartneriaeth a myfyrwyr.
Mae dysgu proffesiynol Hyrwyddwyr Ymchwil yn elwa ar fentrau cenedlaethol eraill, ac ymchwil a wneir mewn prosiectau sy’n hyrwyddo ymchwil ac ymholi. Mae’r rhain yn cynnwys y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol (NSERE) a’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP) sy’n llywio ymagweddau at ddatblygu rôl yr Hyrwyddwr Ymchwil.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Gellir gweld gwaith yr Hyrwyddwyr Ymchwil mewn deilliannau myfyrwyr ac yng ngwaith ysgolion partneriaeth. Mae aseiniadau myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth well o ddatblygu addysgu, dysgu a lles mewn cyd-destun penodol. Mewn ysgolion partneriaeth, mae’r Hyrwyddwyr Ymchwil yn cefnogi datblygiad medrau ac arferion ymchwil ymhlith staff ysgolion yn ehangach.

Mewn rhai ysgolion, mae canfyddiadau o ymchwil myfyrwyr wedi dylanwadu ar wneud penderfyniadau strategol. Er enghraifft, mewn un ysgol gynradd, darparodd ymchwil y myfyrwyr ar les dystiolaeth i’r pennaeth ar gyfer dod o hyd i ddarpariaeth well ar gyfer dysgu yn yr awyr agored. 
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rôl Cydlynwyr Hyrwyddo Ymchwil yw meithrin perthnasoedd ac arwain y ddarpariaeth a’r dysgu proffesiynol ar gyfer hyrwyddwyr ymchwil ar draws y bartneriaeth. Mae’r cydlynwyr yn meithrin capasiti trwy fodelu’r defnydd o ymchwil mewn ysgolion. Maent yn ganolog i rannu a chefnogi arferion wedi’u llywio gan ymchwil ar draws y bartneriaeth.

Mae’r bartneriaeth yn rhannu deilliannau aseiniadau myfyrwyr, yn enwedig y crynodebau sy’n fwy eglur yn weledol, gyda rhanddeiliaid. Mae’r crynodebau hyn yn defnyddio ffeithluniau i gyfleu deilliannau ac effaith bosibl ymchwil yn glir ac yn gryno. Maent yn esbonio ac yn annog y defnydd o ymchwil i lywio datblygiad ysgol.

Cynhelir digwyddiadau rheolaidd i rannu ymchwil ac ymholi hefyd, fel cynadleddau ymchwil y bartneriaeth a’i chyfres seminarau ymchwil. Gwahoddir yr holl randdeiliaid i fynychu a chyfrannu at y digwyddiadau hyn trwy ledaenu eu hymchwil eu hunain. Mae’r bartneriaeth wedi cydweithio â phartneriaethau AGA eraill i rannu arfer dda wrth gynorthwyo athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu eu medrau ymchwil.

Mae’r aseiniadau ymchwil wedi’u cefnogi gan waith yr Hyrwyddwyr Ymchwil wedi arwain at gynhyrchu podlediadau, fideos Youtube a chrynodebau sy’n fwy eglur yn weledol. Mae’r rhain wedi bod yn hynod effeithiol o ran lledaenu syniadau o arferion wedi’u llywio gan ymchwil ar draws y bartneriaeth a’r tu hwnt.

Cyfeiriadau:

Burn, K. a Mutton, T. (2015) ‘A review of “research-informed clinical practice” in Initial Teacher Education’, Oxford review of education, 41(2), tt. 217–233. Ar gael yn: https://doi.org/10.1080/03054985.2015.1020104.

McIntyre, D., 2005. Bridging the gap between research and practice. Cambridge journal of education, 35(3), tt.357-382.

Pugh, C., Thayer, E., Breeze, T., Beauchamp, G., Kneen, J., Watkins, S., & Rowlands, B. (2020). Perceptions of the new role of the research champion in developing a new ITE partnership: Challenges and opportunities for schools and universities. Cylchgrawn Addysg Cymru = Wales Journal of Education, 22(1),  tt. 185– 207. https://doi.org/10.16922/
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe wedi ei lleoli yn nhref Pontardawe yng Nghwm Tawe a gynhelir gan awdurdod Castell Nedd Port Talbot. Mae dalgylch yr ysgol yn un eang. Mae 340 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, yn cynnwys 65 o blant oed meithrin. 

Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 17.7% sydd yn debyg i gyfartaleddau cenedlaethol mewn ysgolion cynradd.  Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dod o gartrefi Saesneg eu hiaith, daw tua 42% o’r disgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg.
 
Mae 11% o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol. 
Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth a phedwar arweinwyr canol. 
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan yr ysgol weledigaeth glir am y Cwricwlwm i Gymru a bu’n un o ysgolion arloesi Llywodraeth Cymru i ail lunio’r cwricwlwm. Prif nod yr ysgol oedd sicrhau fod yr ardal leol yn rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol. Lluniwyd cwricwlwm unigryw ‘Trysorau Tawe’ sydd wedi ei sylfaenu ar hanes, daearyddiaeth a threftadaeth yr ardal ynghyd â meithrin cysylltiadau lleol i waith a bywyd pob disgybl. Trwy hynny, mae’r ysgol wedi cynllunio’r cwricwlwm yn fwriadus i gynnig profiadau dysgu gwerthfawr a chydlynus igyda’r nod o ddatblygu dysgwyr sy’n annibynnol, uchelgeisiol ac egwyddorol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Gweledigaeth Cwricwlwm – Sut dylai cwricwlwm yr ysgol edrych i ddisgyblion yr ysgol? 

Mae athrawon wedi creu cwricwlwm sy’n ystyried yr ardal leol yn llawn ac yn un sydd wedi ei wreiddio yn niwylliant a chynefin y cwm yn gelfydd. Un elfen o hyn yw’r ffordd maent wedi llwyddo i ddefnyddio’r ardal leol fel sylfaen i’r dysgu ar ddechrau pob thema. Mae gweledigaeth cwricwlwm newydd yr ysgol yn canolbwyntio ar wella medrau’r disgyblion wrth ymfalchïo yng nghynefin, treftadaeth a diwylliant cymunedol y disgyblion. Mae athrawon yn manylu ar yr elfennau lleol er mwyn llywio llais y disgybl ynghyd â’r gweithgareddau dysgu. Yn dilyn gwaith ymchwil gan staff a’r rhieni am yr ardal leol, mae dosbarthiadau wedi cael eu henwi yn ôl enwau copaon a mynyddoedd lleol. Cynhaliwyd prosiect clwstwr ‘Cynefin’ a darganfuwyd ffeithiau a gwybodaeth hanesyddol newydd am yr hardal leol. Mae hyn yn atgyfnerthu hunan barch a balchder y disgyblion tuag at eu cynefin. 

Gweithgareddau
Ffurfiwyd casgliad o themâu ar draws yr ysgol oedd yn dechrau gydag elfen leol – boed yn unigolion enwog, tirnod arbennig neu ganolfan ddysgu yn y dref. Enghraifft o hyn yw cylch cerrig Carn Llechart oedd yn fan dechrau i ysbrydoli thema Celtiaid I’r disgyblion oedd yn cynnwys taith gerdded a gweithgareddau o gwmpas y safle hanesyddol. Mae hyn yn sicrhau fod gan y disgyblion berchnogaeth gref o’u cwricwlwm. Mae ‘Cwm Cerddorol’, ‘Cariad@Gwm’, ‘Croesi’r Bont’ a ‘Trydanu Tawe’ fel enghreifftiau pellach o themâu sy’n plethu elfennau byw yn yr ardal leol i weithgareddau a phrofiadau’r disgyblion. Mae profiadau hyn yn cynnwys prosiectau celf uchelgeisiol sydd wedi ei sylfaenu ar dafodiaith leol a cherddi gwreiddiol gan y disgyblion. Mae ymweliadau gyda’r dref yn cynnwys gweithdai yn y ganolfan gelfyddydau leol, parc coed Glanyrafon, prosiect trydan ‘Mynydd y Gwrhyd’ a’r ganolfan Gymraeg leol ‘Tŷ’r Gwrhyd’. Mae cysondeb yr ymweliadau wythnosol hyn yn cryfhau ymwybyddiaeth y disgyblion o’u gwreiddiau lleol.   

Dysgu Proffesiynol
Cynhaliwyd ymchwil ar y meysydd dysgu a phrofiad gan arweinwyr yr ysgol er mwyn gosod gweledigaeth ‘Trysorau Tawe’ ar waith. Yn sgil hyn, cafwyd diwrnodau o hyfforddi ble cyflwynwyd gweledigaeth ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad i’r staff cyfan, er enghraifft wrth osod priodenwau unigryw lleol i bob dosbarth. Canfuwyd rhai ohonynt trwy edrych ar hen fapiau digidol, er enghraifft Ynys-gelynen, Nant y Gaseg a Mynydd Marchywel.

Mae’r ysgol hefyd yn rhan o brosiect clwstwr ‘Cynefin’ sy’n coladu themâu ac adnoddau ar-lein ar draws y clwstwr i gyfoethogi arlwy cwricwlwm ysgolion lleol. Mae swyddog y Gymraeg yn y sir hefyd wedi creu rhaglenni llafar cyfoethog (Drilio Disglair, Sgleinio ein Sgwrsio a Blociau Bendigedig) sy’n hybu medrau llythrennedd trwy gwricwlwm Trysorau Tawe.
  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae ymroddiad y staff yn y maes hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar ddysgu proffesiynol gan ei fod yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth yr holl feysydd dysgu a phrofiad, cydweithio â chydweithwyr o wahanol feysydd wrth rannu arfer dda a chyflwyno syniadau gyda chydweithwyr drwy hyfforddiant mewn swydd a chyfarfodydd eraill.  

Mae gan ddysgwyr barch tuag at eu cynefin, eu hardal leol a’u treftadaeth. Erbyn hyn, mae disgyblion yn adnabod enwau a lleoedd priod o fewn eu cynefin yn hyderus.  
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn cyd weithio’n agos gyda’r clwstwr er mwyn rhannu arfer dda. Mae’r pennaeth ac aelodau o’r uwch dim rheoli wedi sefydlu rhwydwaith dysgu proffesiynol sy’n cyfrannu at wreiddio cwricwlwm yr ysgol yn ehangach. Mae hyn yn cynnwys cynnal digwyddiadau, ymweliadau a chynadleddau.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Cyfanswm poblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw tua 250,000. Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 77 o ysgolion cynradd, gan gynnwys 10 sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ychwanegol, mae 14 ysgol uwchradd, y mae dwy ohonynt yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae dwy ysgol arbennig ac un uned cyfeirio disgyblion. Mae Dinas a Sir Abertawe yn un o dri awdurdod lleol a ffurfiodd bartneriaeth newydd, sef ‘Partneriaeth’, yn disodli consortiwm ERW a ddaeth i ben yn 2021. 

  • Dros gyfartaledd tair blynedd, mae 22% o ddisgyblion rhwng 5 ac 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru, sef 20% 
  • Mae 16% o ddisgyblion sy’n 5 oed neu’n hŷn o leiafrifoedd ethnig, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru, sef 12% 
  • Mae gan 24% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig (AAA), sydd uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 20% 
  • Roedd 117 o blant ym mhob 10,000 yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn 2021, ac roedd yn y 12fed safle ymhlith yr awdurdodau lleol eraill. 

Mae cyfarwyddiaeth addysg yr awdurdod lleol wedi’i threfnu’n dri maes gwasanaeth –  Cynllunio Addysg ac Adnoddau, Cyflawniad a Phartneriaeth, Dysgwyr Bregus. Mae gweledigaeth yr awdurdod ar gyfer “addysg ragorol i bawb trwy gydweithio” yn nod corfforaethol sy’n gwneud defnydd da o’r holl dimau o fewn y tri maes gwasanaeth. Mae’r Tîm Gwella Ysgolion yn cyfuno ymgynghorwyr gwella ysgolion, arbenigwyr perfformiad a rheolwyr tîm o fewn y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth. Caiff y tîm gwella ysgolion ei arwain gan bennaeth profiadol, ac mae’n cyflogi ystod o swyddogion a gyflogir gan yr awdurdod lleol ac ymarferwyr wedi’u comisiynu sydd wedi’u lleoli mewn  ysgolion. Mae hyn yn darparu cydbwysedd sy’n galluogi golwg eang ar y gofynion cymorth presennol ar draws pob sector.
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae datblygu arweinwyr ysgolion y dyfodol wedi bod yn ffocws i waith y tîm gwella ysgolion am gyfnod cynaledig. Mae’r awdurdod lleol yn arddel golwg strategol ynglŷn â chynllunio olyniant ar gyfer arweinwyr ysgol a thrwy ddadansoddi, nododd ofyniad i gefnogi ysgolion â chynllunio olyniant. Roedd hyn yn cynnwys nodi prinderau penodol mewn rhai sectorau, e.e. Catholig Rufeinig. Mewn partneriaeth ag ysgolion, datblygodd y Tîm Gwella Ysgolion gynlluniau arloesol i gefnogi cydweithio, dysgu proffesiynol a recriwtio.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mewn cydweithrediad â Chyfarwyddwr yr Esgobaeth, nododd yr ymgynghorydd gwella ysgolion (YGY) ar gyfer ysgolion cynradd Catholig fod diffyg o ran recriwtio yng ngharfan arwain y sector Catholig.

Gan ddefnyddio gwybodaeth a deallusrwydd Cyfarwyddwr yr Esgobaeth o ymweliadau cymorth yr Awdurdod Lleol, cafodd ymarferwyr effeithiol eu nodi a’u targedu fel arweinwyr y dyfodol. Dyfeisiwyd rhaglenni dysgu proffesiynol penodol. Sicrhaodd hyn fod y rhai a nodwyd yn gallu dangos arfer effeithiol gynaledig. Caiff yr ymarferwyr hyn eu defnyddio’n effeithiol, ac maent yn cyfrannu fel modelau arfer orau ar draws yr Esgobaeth. O ganlyniad, mae rhwydwaith Cymru gyfan yn cefnogi’r dysgu proffesiynol trwy fodelu arfer orau.

Yn ychwanegol, defnyddir y garfan arweinyddiaeth hon i gynorthwyo ysgolion lle mae swyddi gwag arweinyddiaeth yn bodoli. Defnyddiwyd darpar benaethiaid mewn ysgolion lle mae’r pennaeth yn absennol. Yn yr enghreifftiau gorau, mae’r unigolion hyn wedi arwain ysgolion yn llwyddiannus trwy ymweliadau monitro Estyn a rhaglenni ymyrraeth / cymorth yr awdurdod lleol. Yn ychwanegol, defnyddir secondiadau arweinyddiaeth ar draws awdurdodau. Mae hyn yn galluogi arweinwyr i rannu arfer orau.

Mae effaith arweinyddiaeth yn flaenoriaeth uchel i ymgynghorwyr gwella ysgolion ac mae’n rhan amlwg o’r agenda gytûn ar gyfer ymweliadau ag ysgolion. O ganlyniad, gall y Tîm Gwella Ysgolion werthuso’r capasiti arwain ar gyfer pob ysgol. Mae pob ymgynghorydd gwella ysgolion yn cyfrannu at drafodaeth broffesiynol sy’n amlygu, trwy eithriad, ysgolion nad yw eu perfformiad yn bodloni disgwyliadau’r awdurdod lleol. 

Mae’r awdurdod lleol yn rhagweithiol o ran nodi ysgolion y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt, ac mae’n defnyddio system arloesol (School Profiler) i werthuso perfformiad ysgolion gyda chyfraniadau gan wasanaethau’r cyngor ar eu hyd. Mae llawer o randdeiliaid yn gweithredu’n gyflym trwy broses ddemocrataidd, gynlluniedig, gyda blaenoriaethau clir ar gyfer gwella, o dan gylch gorchwyl cytûn. Mae llywodraethwyr ysgolion yn arwain y grwpiau hyn sy’n teimlo eu bod wedi’u grymuso i wneud gwelliannau cyflym. Mae hyn yn helpu sicrhau bod yr awdurdod lleol yn osgoi prosesau ffurfiol ar gyfer ysgolion sy’n destun pryder, ble bynnag y bo modd. 

Mae’r awdurdod lleol yn comisiynu a chefnogi gwaith ychwanegol i ddatblygu darpar arweinwyr, arweinwyr newydd ac arweinwyr profiadol ar bob lefel. Er enghraifft, mae’r awdurdod wedi cefnogi prosiect sy’n galluogi darpar ddirprwy benaethiaid i gyfnewid ysgolion am flwyddyn ac ennill profiad gwerthfawr mewn ysgol mewn cyd-destun hynod wahanol. Defnyddir strategaethau mentora a hyfforddi cymheiriaid yn effeithiol gydag uwch arweinwyr newydd a phrofiadol mewn ysgolion.  
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

O ganlyniad, mae pob un o’r ysgolion prin iawn yn Abertawe sydd wedi peri pryder yn y pum mlynedd ddiwethaf wedi gwneud cynnydd cryf a chyflym.

Roedd perfformiad disgyblion ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 rhwng 2017 a 2019 uwchlaw neu ymhell uwchlaw safonau mewn ysgolion tebyg. 

Rhwng 2017 a 2019, roedd presenoldeb yn ysgolion uwchradd Abertawe uwchlaw neu ymhell uwchlaw cyfartaleddau cenedlaethol.
 
Mae rhwydweithiau ysgol amrywiol yn darparu ffynhonnell gymorth gyfoethog ar gyfer ymarferwyr i’w galluogi i rannu arfer arloesol ac effeithiol.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhennir arfer dda yn rheolaidd trwy’r canlynol:

  • gwaith y Tîm Gwella Ysgolion
  • anfon cylchlythyr wythnosol at holl aelodau staff ysgolion
  • ystod o rwydweithiau / gweithgorau
  • safleoedd SharePoint a grwpiau wedi’u sefydlu yn Hwb
  • cynadleddau / cyfarfodydd penaethiaid
     

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Pantysgallog yn ysgol cyfrwng Saesneg o faint canolig, gyda 324 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae’r ysgol yn gwasanaethu pentref Pantysgallog, sydd wedi’i leoli rhwng tref Merthyr Tudful i’r de a Bannau Brycheiniog i’r gogledd, a’r ardal o’i amgylch.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r defnydd o hyfforddwyr dosbarth wedi’i ddatblygu fel modd o gynyddu hyder dysgwyr ac annog annibyniaeth disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Wrth ddychwelyd i’r ysgol ar ôl cyfnodau clo COVID, sylwodd yr ysgol ar newid yn ymddygiad gwahanol garfanau disgyblion. Roedd disgyblion iau wedi mynd yn fwy dibynnol o lawer ar gymorth oedolion yn eu lleoliadau priodol. Yn ystod cyfnodau clo, roedd eu dysgu gartref wedi’i sgaffaldio’n drwm gyda chymorth oedolion gartref, tra bod disgyblion hŷn wedi datblygu’n llawer mwy annibynnol. Yn ystod y cyfnod clo, gadawyd iddynt weithio’n annibynnol, am resymau amrywiol.

Fel rhan o’i gwaith ymadfer ar ôl COVID, roedd yr ysgol eisiau cynorthwyo disgyblion iau i ddatblygu annibyniaeth, ac ar yr un pryd roedd eisiau defnyddio natur annibynnol y modd yr oedd disgyblion hŷn yn gweithio ar ôl iddynt ddychwelyd i’r ysgol. 

Fe wnaeth staff ym mhob dosbarth nodi unigolion allweddol sydd ag ‘arbenigedd’ penodol mewn rhyw agwedd ar y cwricwlwm. Roedd yr agweddau hyn yn benodol i’r grwpiau blwyddyn gwahanol, ac fe’u dewiswyd i fod yn berthnasol i’r disgyblion yn y carfanau gwahanol. Er enghraifft, o fewn y lleoliad meithrin, ceir pencampwr dosbarth clymu careiau esgidiau. Mae’r disgybl hwn yn rhywun y mae’r lleill yn mynd ato i gael cymorth gyda chlymu careiau eu hesgidiau. Gall y disgybl glymu’r careiau i’r disgybl, ond bydd hefyd yn ceisio egluro’r fethodoleg neu’r broses. Ar ben arall yr ysgol, ym Mlwyddyn 6, mae hyfforddwr mathemateg ganddynt. Os yw disgybl ym Mlwyddyn 6 yn cael rhyw agwedd ar fathemateg yn anodd, gall fynd at yr hyfforddwr mathemateg i gael cymorth. Byddai’r hyfforddwr hwn yn mynd drwy weithrediad mathemategol y cwestiwn sy’n achosi problemau. Maent yn defnyddio adnoddau dosbarth i gefnogi hyn, gan gynnwys ‘gwrthrychau’ neu ‘wal weithio’ y dosbarth. 

Caiff lluniau o’r hyfforddwyr dosbarth gwahanol eu harddangos yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyn yn rhoi pwynt cyfeirio gweledol sy’n dathlu llwyddiant hyfforddwyr ac yn darparu modd o gynyddu hunan-barch a lles disgyblion. Newidir y rolau bob tymor fel bod gwahanol ddisgyblion yn cael cyfle i arwain ar feysydd gwahanol.

Mae’r broses yn cynyddu annibyniaeth disgyblion mewn perthynas â’r oedolion yn y ddarpariaeth. Mae’n cryfhau perthnasoedd disgyblion, yn meithrin hyder yn yr hyfforddwyr ac yn cyfnerthu dealltwriaeth yr hyfforddwyr o agweddau gwahanol ar y cwricwlwm.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Wrth wrando ar ddysgwyr fel rhan o’r cylch Monitro, Gwerthuso ac Adolygu yn yr ysgol, mae’n amlwg bod disgyblion yn fwy llafar mewn perthynas â’u dysgu. Mae athrawon dosbarth a staff cymorth yn adrodd bod y lefelau annibyniaeth wedi cynyddu ymhlith disgyblion, a hefyd yr hyder yn yr hyfforddwyr dosbarth, sy’n ffynnu yn eu rolau. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Pantysgallog yn ysgol cyfrwng Saesneg o faint canolig, gyda 324 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae’r ysgol yn gwasanaethu pentref Pantysgallog, sydd wedi’i leoli rhwng tref Merthyr Tudful i’r de a Bannau Brycheiniog i’r gogledd, a’r ardal o’i amgylch.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Addysgeg, o’i ddisgrifio’n syml, yw’r dull a’r gweithgarwch addysgu. Mae addysgeg dda yn hanfodol i godi safonau a darparu’r cyfle i ddisgyblion gyflawni’u potensial.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Daeth yr ymagwedd strategol at ddatblygu addysgeg ar ffurf dau brif weithgaredd. 

Roedd y gweithgaredd cyntaf yn seiliedig ar staff yn gweithio mewn triawdau, gan ddatblygu perthnasoedd proffesiynol ac ymddiriedaeth gyda chydweithwyr. Edrychodd staff ar y 12 egwyddor addysgegol. Fe wnaeth pob aelod o’r staff ffilmio’u hunain yn addysgu gwers. Nododd staff ddwy egwyddor y gallent ddangos tystiolaeth ohonynt yn cael eu cyflawni i safon uchel yn eu haddysgu. Gofynnwyd iddynt hefyd wedyn ddewis un o’r 12 egwyddor y teimlent yr oedd angen iddynt ei datblygu. Rhannwyd y wybodaeth hon o fewn eu triawdau, a fu’n cydweithio i gynorthwyo’r athro dan ffocws gyda ffyrdd ymlaen. 

Roedd yr ail newid mewn arfer ym Mhantysgallog i ddatblygu addysgeg yn seiliedig ar y modd yr oedd uwch arweinwyr yn ymgymryd ag arsylwadau gwersi fel rhan o Gylch Monitro, Gwerthuso ac Adolygu’r ysgol. Cydnabu’r ysgol fod monitro wedi datblygu’n fecanwaith a oedd yn effeithio’n negyddol ar les staff wrth iddynt fynd yn orbryderus ynglŷn â’r broses, ac effeithiodd hyn yn ei dro ar y modd yr oedd athrawon yn perfformio o dan amodau craffu.

Drwy ymchwil, roedd yr uwch arweinwyr wedi gallu brocera hyfforddiant gan ddarparwr sydd wedi datblygu proses arsylwadol yn seiliedig ar ymagwedd golegol at y broses, sy’n ddibynnol ar ymddiriedaeth. Ymwelir â staff yn fwy cyson ar gyfer arsylwadau, a chânt wybod am yr wythnos pan ymgymerir â’r broses, ond nid yw union amser yr ymweliad yn cael ei gyhoeddi. Mae ymweliadau’n para 20 munud yn unig. Rhoddir adborth gan yr arsylwr yn lleoliad yr ystafell ddosbarth, ac am y tri chylch cyntaf o arsylwadau, mae’r holl farnau a rennir gan yr arsylwr yn canolbwyntio ar agweddau cadarnhaol ar yr hyn a welwyd yn y sesiwn. Mae staff a arsylwir yn cael cyfle i fwydo’u barnau i’r broses hefyd. Mae’r ffurflen adborth wedi’i rhannu’n agweddau gwahanol ar addysgeg, ac mae’r ffurflen yn cynnwys hyperddolenni at erthyglau sy’n seiliedig ar ymchwil a deunyddiau datblygiad proffesiynol a all fod yn bwynt cyfeirio i staff. 

Yn ystod y pedwerydd ymweliad, mae’r arsylwr yn gofyn am ganiatâd gan yr athro dosbarth wedyn i ddarparu barnau ar ba feysydd arfer y mae angen rhoi ffocws i’w datblygu, a thrafod sut gellir cyflawni’r datblygiad hwn. 

Mae amcanion allweddol a arweiniodd y newid hwn mewn arfer:

  • Aeth i’r afael â dymuniad ar y cyd ymhlith uwch arweinwyr a staff i sicrhau gwelliant a safonau uchel cynaledig mewn addysgu a dysgu.
  • Byddai’n datblygu proses na fyddai’n effeithio’n negyddol ar les staff, a byddai’r broses yn darparu portread cywir o arfer mewn ystafelloedd dosbarth.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Data meintiol cyfyngedig sydd gan yr ysgol i ddangos effaith, ond mae tystiolaeth amlwg o ffocws ar addysgeg, ac mae technegau wedi’u profi sy’n effeithio ar safonau yn cael eu defnyddio’n gyson mewn addysgu dosbarth ar draws yr ysgol erbyn hyn.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae agweddau allweddol ar yr egwyddorion sy’n gysylltiedig â’r hyfforddiant wedi’u rhannu gyda swyddogion yr awdurdod lleol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymunedol yr Eglwys yng Nghymru Trefonnen wedi’i lleoli yn Llandrindod, Powys. Mae 214 o ddysgwyr ar y gofrestr sydd wedi’u trefnu’n ddwy ffrwd iaith, gyda phedwar dosbarth cyfrwng Saesneg a thri dosbarth cyfrwng Cymraeg. Mae 43% o ddysgwyr yn y dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg, ond dim ond ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dod o gartrefi lle siaredir Cymraeg. Mae 30% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd tair blynedd cenedlaethol, sef 21.3%, ac mae 30% ar y gofrestr disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys un sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae hyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 20.6%

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Estyn 2022: Mae partneriaethau â rhieni ac asiantaethau arbenigol yn hynod effeithiol ac yn gwneud gwahaniaeth hollol gadarnhaol i gymuned yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi’i chydnabod yn gyson fel cymuned ofalgar ac anogol lle caiff dysgwyr eu cynorthwyo’n effeithiol i ffynnu, yn academaidd ac o ran eu lles. Mae 
Ysgol Trefonnen wedi meithrin perthnasoedd gweithio cryf blwyddyn ar ôl blwyddyn gyda’i dysgwyr, rhieni, gofalwyr ac asiantaethau cymorth. Mae’r rhain yn effeithio’n gadarnhaol ar agweddau plant at ddysgu a lles, ac yn sicrhau bod Ysgol Trefonnen yn ysgol effeithiol â ffocws cymunedol. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Estyn 2022: Mae staff yr ysgol a thîm o wirfoddolwyr yn cynnwys y disgyblion a’u teuluoedd mewn llawer o brosiectau cyffrous i wella iechyd a lles disgyblion.

Yn 2020, ceisiodd arweinwyr gyfleoedd grant i greu a darparu blychau crefft a bwyd cyfnod clo i dros 30 o deuluoedd yr wythnos am gyfnod o dri mis. Dechreuodd hyn gylch o brosiectau ysgol llwyddiannus, sydd bellach yn cael eu rhedeg gyda dysgwyr a’u teuluoedd. Mae Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd effeithiol iawn yr ysgol yn gweithio’n llwyddiannus gyda busnesau lleol, asiantaethau a sefydliadau cenedlaethol i roi’r cymorth i ddysgwyr a’u teuluoedd y mae ei angen arnynt. Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd wedi rhoi nifer o ddulliau cefnogol ar waith. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • darparu gwisg ysgol hanfodol, esgidiau, deunydd ysgrifennu, triniaethau llau pen a chynhyrchion mislif i ddysgwyr
  • cynhyrchu bagiau lles dysgwyr sy’n cynnwys llyfrau braslunio/ysgrifennu, gemau a gweithgareddau priodol i oedran
  • creu a dosbarthu hamperi bwyd Nadolig a sachau teganau 
  • gwneud atgyfeiriadau sylweddol at y banc bwyd lleol er mwyn helpu sicrhau nad yw teuluoedd yn llwgu 
  • cynhyrchu bagiau llysiau ‘tyfu eich hun’ i leddfu costau byw cynyddol teuluoedd 
  • gweithredu oergell cymunedol, sy’n lleddfu tlodi bwyd ac yn lleihau gwastraff bwyd yn lleol 
  • cyflwyno arddangosiadau coginio byw sy’n cydfynd â bagiau ryseitiau dysgwyr, gan ddod â mwynhad mawr i lawer o gartrefi
  • trefnu gweithgareddau cyfoethogi poblogaidd a chyffrous yn ystod gwyliau ysgol, a thrwyddynt mae disgyblion yn datblygu cyfeillgarwch, yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau ymarfer corff, yn dysgu am faeth, yn gwrando ar, ac yn chwarae, amrywiaeth o offerynnau cerdd fel drymiau Indiaidd a’r delyn, yn mwynhau teithiau ledled Cymru ac yn bwyta detholiad o brydau iach gyda’u teulu
  • cynnal Bws Cerdded difyr sy’n sicrhau gwell ffitrwydd ymhlith dysgwyr a lefelau presenoleb gwell 
  • arwain grŵp Cyngor Rhieni y mae gwybodaeth bwysig yn cael ei chyfleu a’i thrafod gydag ef

Estyn 2022: Mae’r ysgol yn adnabod ei disgyblion, eu cefndiroedd, a’r gymuned leol yn dda iawn. Mae pob un o’r staff yn rhoi blaenoriaeth uchel i les disgyblion. Mae’r ffocws cryf hwn ar wella lles disgyblion yn agwedd allweddol ar ddarpariaeth yr ysgol.

Mae staff ysgol ymroddedig a thra hyfforddedig yn darparu gofal pellach ar gyfer lles teuluoedd a dysgwyr yr ysgol drwy:

  • gyfarfod, cyfarch a gwirio, a bod ar gael yn emosiynol i bawb, sy’n sicrhau bod cydberthynas gryf yn cael ei meithrin gyda dysgwyr a’u teuluoedd
  • darparu ymyriadau yr ymchwiliwyd yn dda iddynt sy’n helpu’r ysgol i ddod i adnabod ei phlant yn well yn unigol
  • sicrhau bod cyfleoedd ar gael i ddisgyblion blannu, tyfu a chynaeafu eu cynnyrch eu hunain yn y potiau plannu a’r twnnel polythen, sy’n meithrin hoffter o natur, maeth a chynaliadwyedd
  • cynnig cyfleoedd dysgu awyr agored rheolaidd mewn ardal Coedwig Ysgol wedi’i gwella, sy’n cynnwys treial coetir, twnnel helyg, cuddfan adar a phwll bywiog, lle mae dysgwyr yn datblygu mwy o chwilfrydedd, hunanhyder a gwaith tîm
  • darparu achlysuron i ddysgwyr archwilio dylanwad lleddfol anifeiliaid drwy ymweld â fferm dros dro a theithiau cerdded gydag alpacaod oddi ar y safle
  • cynnal sesiynau darllen ‘Dydd Gwener y Teulu’ yn yr awyr agored, sy’n rhoi’r cyfle i deuluoedd fwynhau amser darllen o ansawdd gyda’i gilydd mewn amgylchedd tawel ar y safle
  • mynd â grŵp o ddysgwyr dynodedig ar arhosiad preswyl sy’n cynnwys llawer o weithgareddau hwyl, heriau a datrys problemau
  • annog dysgwyr i fabwysiadu agwedd ‘rhoi cynnig arni’, sy’n meithrin eu gwydnwch a’u dyfalbarhad
  • cyfeirio teuluoedd neu unigolion at asiantaethau ar y safle, fel yr ymwelydd iechyd, timau therapyddion, Action4Children, cwnselwyr Calan DVS neu Kooth sy’n cynnig cymorth wedi’i deilwra fel bo’r angen 
     

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Estyn 2022: Mae arweinwyr yr ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i gynorthwyo disgyblion a theuluoedd i ffynnu

Trwy ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda theuluoedd a chefnogi lles dygwyr yn effeithiol, mae’r ysgol yn gallu ymyrryd yn gynnar os ydynt yn nodi bod anawsterau, er enghraifft rhianta trwy gyfnodau anodd, iechyd meddwl, presenoldeb neu ymddygiad dysgwyr. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu eu bod yn gallu cynorthwyo teuluoedd a dysgwyr cyn i bethau fynd yn fwy o broblem, ac mae hyn wedi arwain at bresenoldeb a phrydlondeb gwell, lefelau lles uwch ac ymddygiad da ar draws yr ysgol.

Mae holiaduron disgyblion yn dangos bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn mwynhau mynychu Ysgol Trefonnen ac y byddent yn argymell yr ysgol i blentyn arall. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn teimlo’n ddiogel ac maent yn gwybod bod rhywun yma i’w helpu os oes angen cymorth arnyn nhw. Daw asesiadau o les dysgwyr i’r casgliad bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn dangos sgorau asesu lles sy’n gwella.

Mae’r holl rieni, drwy holiaduron, yn nodi y byddent yn argymell yr ysgol hon i riant/gofalwr arall. Maent i gyd yn teimlo bod yr ysgol yn helpu pob plentyn i ymgartrefu’n dda pan fyddant yn dechrau, ac mae bron pawb o’r farn fod eu plentyn yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harfer dda gyda rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned leol drwy bapur newydd yr ysgol, gwefan yr ysgol, llwyfan cyfryngau cymdeithasol, ac adroddiadau’r pennaeth bob tymor i’r corff llywodraethol.

Mae’r pennaeth yn rhannu arfer dda trwy waith rheolaidd rhwng ysgolion o fewn y  clwstwr, a thrwy grŵp gwella Tîm o Amgylch y Teulu yr awdurdod lleol.
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Waun Wen yn ysgol canol dinas yn Abertawe.

  • 202 o ddisgyblion ar y gofrestr
  • 93% o ddisgyblion o’r 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru
  • 47.5% yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (cyfartaledd Cymru 21%)
  • 42.8% yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY)
  • 25 o ieithoedd cartref yn yr ysgol 
  • 44.1% o ddisgyblion ar y gofrestr ADY
  • Symudedd disgyblion -19.3% (Bl1-6) yn 21/22 (5ed uchaf yn Abertawe)

  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn wynebu heriau lu ac mae disgyblion yn cyrraedd y feithrinfa gyda medrau sydd ymhell islaw’r rheiny a ddisgwylir am eu hoedran. Mae cryn symudedd disgyblion yn digwydd, gyda disgyblion yn ymuno rhan o’r ffordd trwy gydol y flwyddyn ysgol a’u haddysg gynradd. Mae staff yn nodi materion sylweddol gydag iaith a geirfa disgyblion, gyda llawer yn dechrau’r ysgol heb allu cyfathrebu’n effeithiol, a heb y gallu i ganolbwyntio ac ymgysylltu. Yn aml, mae disgyblion yn dod i’r ysgol gydag anghenion emosiynol sy’n rhwystro’u gallu i gynnal ffocws a dysgu yn eu dosbarthiadau. Roedd arweinwyr yn cydnabod yr heriau hyn a’r angen i ddeall y materion penodol a oedd yn cael effaith negyddol ar gynnydd disgyblion. Er mwyn mynd i’r afael â’r rhain, datblygodd arweinwyr ddull ysgol gyfan i wella medrau cyfathrebu a geirfa, ynghyd â rhaglen i wella gallu disgyblion i adnabod eu hemosiynau a hunanreoli. 

Mae staff yn cydnabod, os yw disgyblion yn teimlo’n ddiogel, bod cefnogaeth iddynt a’u bod yn gallu cyfathrebu, ac os yw lles yn cael ei roi wrth wraidd eu dysgu, yna byddant yn gallu canolbwyntio, dysgu a chael cyfle i lwyddo. Fe wnaeth Estyn gydnabod y cynnydd cryf y mae disgyblion yn ei wneud o’u mannau cychwyn.
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Er mwyn gwella medrau cyfathrebu disgyblion, cynhaliwyd hyfforddiant ar gyfer staff er mwyn gwella’u gwybodaeth am haenau wrth gaffael geirfa. Yn ystod yr hyfforddiant, fodd bynnag, daeth yn amlwg nad oedd geirfa sylfaenol haen 1 gan y disgyblion. O ganlyniad, penderfynodd yr ysgol fynd i’r afael â’r mater hwn gyda dull ysgol gyfan. Fe wnaeth staff wella’u dealltwriaeth o’r ‘gadwyn gyfathrebu’ a sut i gyflwyno strategaethau a gweithgareddau i gefnogi caffael iaith a geirfa. Ar ddechrau unrhyw destun newydd mewn unrhyw bwnc, mae athrawon yn cynllunio gwers eirfa i addysgu’r geiriau y bydd eu hangen ar y disgyblion er mwyn deall y gweithgaredd. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn deall yn union beth sy’n cael ei addysgu.

Mae staff yn cynnal asesiadau cychwynnol o eirfa disgyblion yn y dosbarthiadau ieuengaf bob tymor yr hydref er mwyn sicrhau bod anghenion disgyblion yn cael eu hadnabod a’u bod yn darparu’r cymorth cywir, a phwrpasol weithiau.

Ceir llawer o ieithoedd a diwylliannau yn yr ysgol, ac felly caiff disgyblion newydd sy’n dysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) eu hasesu, a gwneir staff yn ymwybodol o gefndir ieithyddol, addysgol a diwylliannol y disgyblion. Rhoddir blaenoriaeth i eirfa sylfaenol, medrau llafar a medrau llythrennedd cynnar gyda phwyslais ar ddysgu gweledol. Mae’r angen i bob disgybl ddatblygu ymdeimlad o berthyn o fewn yr ysgol yn flaenoriaeth hefyd, a chefnogir hyn gan ddisgyblion eraill a fydd yn dehongli, pan fo angen. Caiff ieithoedd gwahanol eu dathlu bob mis ar draws yr ysgol, ac anogir disgyblion i ddefnyddio’u hiaith gyntaf, pa bryd bynnag y bo modd.

Mae’r staff yn canolbwyntio hefyd ar gaffael iaith mewn gwersi mathemateg. Ar ddechrau cysyniad newydd, maent yn addysgu’r eirfa i’r disgyblion ar gyfer yr amcan hwnnw gyntaf. Defnyddir offer diriaethol a ‘modelu bar’ ar draws yr ysgol ym mhob grŵp oedran. Nid yw staff yn gweld y defnydd o offer fel cymorth i ddisgyblion sy’n cael anhawster gyda mathemateg, ond yn hytrach fel rhan o’r broses o ddatblygu’u dealltwriaeth o gysyniad mathemateg haniaethol a chefnogi gallu disgyblion i egluro’u gwaith a’u dysgu. Mae’r defnydd o offer diriaethol a gwersi geirfa yn galluogi’r holl grwpiau disgyblion, gan gynnwys y rheiny sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, i gael mynediad llawn i’r gwersi.

Mae system gwiriadau dyddiol ysgol gyfan yn cael ei defnyddio i nodi teimladau ac ymestyn geirfa fynegiannol disgyblion. Yn ogystal, mae pob dosbarth yn cael gwers empathi bob wythnos i wella gallu disgyblion i adnabod emosiynau, i allu eu disgrifio iddyn nhw’u hunain ac i rai eraill, ac i ddatblygu gweithredu cymdeithasol. Mae prosiectau drama llythrennedd creadigol yn datblygu hunanbarch a chyfathrebu disgyblion ymhellach. Mae’r ysgol yn cydnabod bod creadigrwydd yn rhan hanfodol o’r cwricwlwm o ran galluogi disgyblion sydd ag anawsterau cyfathrebu i fynegi’u hunain a theimo eu bod yn cael eu cynnwys.

Mae’r ysgol yn dynodi aelodau staff penodol i weithio gyda disgyblion y mae angen cymorth emosiynol ychwanegol arnynt Mae hyn yn arwain at berthynas weithio gryf rhwng staff a disgyblion, ac mae’n annog ymdeimlad o ymddiriedaeth a diogelwch. Mae rhai disgyblion yn derbyn cymorth emosiynol ychwanegol trwy raglenni personoledig.

Hefyd, fe wnaeth yr ysgol hyfforddi staff i gyflwyno rhaglen sy’n addysgu strategaethau i ddisgyblion er mwyn gallu hunanreoli. Maent wedi sefydlu ardaloedd ym mhob ystafell ddosbarth gydag adnoddau i ddisgyblion eu defnyddio i’w helpu i reoli’u hemosiynau trwy gydol y dydd i gynorthwyo’u parodrwydd i ddysgu. Fe wnaeth staff addysgu’r rhaglen lawn i ddisgyblion o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 mewn grwpiau bach, gan ddefnyddio llyfrau i gynorthwyo dealltwriaeth disgyblion o emosiynau, fel dicter ac ofn, a sut mae’r rhain yn gwneud i’n cyrff deimlo. Hefyd, bu’r plant iau yn dysgu am emosiynau gyda staff yn dangos strategaethau iddynt ac yn darparu adnoddau i’w helpu. Mae ardaloedd gan ddisgyblion yn eu hystafelloedd dosbarth gydag adnoddau a chardiau personol sy’n dangos eu gweithgareddau dewisedig, sy’n eu cynorthwyo pan fyddant yn methu rheoli’u hemosiynau. Gall yr holl blant ddefnyddio’r ardaloedd hyn yn annibynnol, a gallant ddisgrifio’u dewis eu hunain o weithgareddau a sut maen nhw’n eu helpu i deimlo’n bwyllog. 
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Yn gyffredinol, mae’r dulliau hyn wedi:

  • Gwella ymgysylltiad disgyblion â dysgu a chynnydd ar draws y cwricwlwm
  • Gwella hunan-barch a llythrennedd emosiynol disgyblion

O ganlyniad i’r gwelliannau yn eu geirfa, mae disgyblion bellach yn fwy hyderus o ran deall a mynegi’u hanghenion. Mae gwelliant o ran hunanreolaeth disgyblion wedi arwain at eu bod yn gallu adnabod adwaith i emosiwn a defnyddio strategaeth i fynd i’r afael â’u teimladau. Mae disgyblion yn defnyddio’r medrau a ddysgwyd yn yr ysgol i gefnogi hunanreolaeth gartref ac mewn ardaloedd eraill y tu allan i’r ysgol. Mae rhieni wedi hysbysu’r ysgol fod eu plant yn defnyddio’r strategaethau yn llwyddiannus gartref.

Mae’r ffocws ar empathi wedi arwain at ddisgyblion yn deall yn well sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar bobl eraill. Gwelodd yr ysgol fwy o oddefiant ac empathi tuag at gyfoedion, sydd wedi gwella amseroedd chwarae ac mae anghydfodau’n cael eu datrys yn gyflym nawr, a hynny’n aml drwy ddisgyblion yn adnabod materion heb yr angen am ymyrraeth gan oedolyn.

Dyma ddywedodd y disgyblion wrthym am wersi geirfa:

  • “Mae’r geiriau yn fy helpu i ddeall beth rwy’n ei ddysgu.“
  • “Mae’n fy helpu pan rwy’n siarad â rhywun am fy mod i’n gwybod pa air i’w ddefnyddio.”

O ran hunanreolaeth, dywedant:

  • “Mae wir yn gwneud i chi deimlo’n bwyllog os ydych chi wir wedi’ch cynhyrfu.”
  • “Os ydych chi’n pryderu, mae’n helpu oherwydd mae ymarferion y gallwch eu gwneud a fydd yn eich helpu.”
     

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae staff o ysgolion eraill wedi ymweld i weld y strategaethau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer hunanreolaeth, a sut maent yn cael eu trefnu yn yr ysgol. Mae’r ysgol yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac offeryn cyfathrebu â rhieni ar-lein i rannu’u gwaith empathi gyda rhieni. Mae dosbarthiadau wedi gwneud ffilmiau o’r prosiectau drama, ac maent wedi’u rhannu gyda rhieni

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair yn ysgol cyfrwng Saesneg i blant 4-11 oed yn awdurdod lleol Sir Fynwy. Mae’n gwasanaethu ardaloedd de Sir Fynwy. Ar hyn o bryd, mae 149 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Mae rhyw 14% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. 
Mae rhyw 20% o ddisgyblion yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.

Tua 23% yw canran y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, ac mae datganiad o anghenion addysgol arbennig gan 2%.
  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Santes Fair wedi’i lleoli ar ffin Cymru mewn ardal lle na siaredir Cymraeg yn gyffredin, ac mewn rhai achosion, ni welir siarad Cymraeg fel medr gwerthfawr i’w gaffael o angenrheidrwydd. Mae’r ysgol wedi ceisio hyrwyddo’r Gymraeg bob amser, ac annog datblygu medrau disgyblion. Fodd bynnag, sylweddolodd arweinwyr mai ffactor allweddol i ddisgyblion wneud cynnydd da oedd lefel hyder a medrau aelodau staff. Er mwyn i’r ysgol gael effaith sylweddol, roedd rhaid iddi fynd i’r afael â’r ffaith bod yr awydd gan lawer o staff i addysgu Cymraeg yn dda, ond nad oedd yr hyder ganddynt i wneud hynny. Dechreuodd eu taith drwy annog athrawon i feddwl am fanteisio ar y cyfle i wneud cais i fynd ar y cwrs sabothol Cymraeg – Cymraeg mewn Blwyddyn. Arweiniodd hyn at ddau aelod o staff yn cwblhau’r cwrs, ac o ganlyniad, lledaenu arfer dda a defnyddio’u medrau uwch i ddatblygu medrau iaith yr holl staff.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Cwrs sabothol Cymraeg
Roedd y cyfle i wneud cais am y cwrs sabothol ‘Cymraeg mewn Blwyddyn’ yn allweddol i allu’r ysgol i ddatblygu defnydd o’r Gymraeg yn gadarnhaol yn yr ysgol. Llwyddodd dau aelod o staff i gael lle ar y cwrs, ac maent wedi bod yn awyddus i sicrhau bod y medrau a’r profiad a gawsant yn cael eu defnyddio, nid yn eu dosbarthiadau eu hunain yn unig, ond ar draws yr ysgol gyfan. Mae un athro, a gwblhaodd y cwrs yn 2021, yn addysgu Blwyddyn 6, tra bod y llall, sydd yng nghamau olaf cwblhau’r cwrs, wedi bod yn yr ysgol am un diwrnod yr wythnos ers mis Mawrth i gefnogi’r dysgu mewn dosbarthiadau iau. Roedd y staff wedi gweld y cwrs sabothol yn un dwys iawn, ond fe wnaethant fwynhau’r profiad yn fawr a’i argymell i eraill. Teimla’r ysgol bod addysgu iaith o unrhyw fath yn cael ei wneud orau gan arbenigwr, un sy’n gallu darparu model iaith rhagorol i eraill, ac mae’r cwrs Sabothol Cymraeg yn rhoi’r medrau i athrawon wneud hyn. Mae’r ffaith fod gan yr ysgol ddau aelod o staff bellach sydd wedi cwblhau’r cwrs ac yn addysgu mewn cyfnodau gwahanol yn golygu y gall barhau i adeiladu ar y cynnydd iaith cryf y mae eisoes wedi’i wneud fel ysgol.

Asesu
Roedd yr ysgol eisiau casglu tystiolaeth i ddatblygu darlun clir, gonest o’r hyn y gallai disgyblion ei wneud a’r hyn nad oedden nhw’n gallu’i wneud, o ran Cymraeg llafar. Datblygodd y staff offeryn olrhain ar-lein, a’u helpodd i weld yn hawdd ble’r oedd y meysydd gwendid ym mhob dosbarth. Cynhaliont asesiad gwaelodlin yn ystod tymor yr hydref a sylwont fod llawer o’r patrymau iaith haws, er enghraifft, dweud eich enw a ble rydych yn byw, yn gryf ar draws yr ysgol. Fodd bynnag, wrth i batrymau iaith fynd yn anoddach neu fynnu ymestyn brawddegau, roedd yn amlwg bod llawer llai o ddisgyblion yn gallu siarad yn hyderus. Roedd yn amlwg hefyd fod gwendid clir yng ngallu disgyblion i ofyn cwestiynau. Fe wnaeth casglu’r data hwn alluogi’r ysgol i weld y meysydd angen yn glir o fewn carfanau penodol, gan olygu bod modd rhoi cynllun cymorth pwrpasol ar waith.

Cymorth pwrpasol mewn gwersi
Trwy gyllid ôl-sabothol, dyrannodd yr ysgol amser yn wythnosol i alluogi staff i gynorthwyo cydweithwyr yn eu hystafelloedd dosbarth a modelu arfer orau mewn modd cefnogol. Yn ystod y sesiynau hyn, cynllunnir gweithgareddau byr, gyda ffocws ar siarad. Mae’r pwyslais ar gael ymgysylltiad lefel uchel gan ddisgyblion, trwy gemau iaith yn bennaf. Mae’r ymateb i’r sesiynau hyn wedi bod yn gadarnhaol gan ddisgyblion a staff. Mae’r disgyblion yn ymgysylltu’n dda iawn ac yn awyddus i weithio ar eu targed dosbarth mewn pryd ar gyfer y sesiwn nesaf. Mae athrawon a chynorthwywyr addysgu sy’n mynychu ar sail rota yn cyfranogi’n llawn yn y gwersi ac yn eu defnyddio fel cyfle i ymarfer eu Cymraeg eu hunain ac i ofyn cwestiynau’n ymwneud â dulliau addysgu. Mae adnoddau a ddefnyddir o fewn y gwersi’n cael eu rhannu’n hwylus gyda’r staff fel y gallant eu defnyddio yn ystod amser ymarfer Cymraeg dyddiol.

Hyfforddiant i Gynorthwywyr Addysgu
Mae cymorth yn yr ystafelloedd dosbarth wedi’i ategu gan sesiynau hyfforddiant ar gyfer cynorthwywyr addysgu sydd wedi bod yn amhrisiadwy o ran sicrhau dull ysgol gyfan mewn perthynas â gweledigaeth yr ysgol. Yn ystod y sesiynau, caiff cynorthwywyr addysgu eu cyflwyno i ymadroddion a geirfa allweddol a fydd yn ddefnyddiol yn yr ystafell ddosbarth. Mae pecynnau hyfforddiant yn cael eu darparu ac yn cynnwys dolenni at fideos a recordiadau, sy’n cynorthwyo ag ynganu. Anogir cynorthwywyr addysgu i edrych ar y sesiynau hyfforddi fel cyfleoedd i ymarfer mewn ‘man diogel’ heb gael eu barnu, er mwyn meithrin hyder. Gofynnir iddynt osod targed iaith personol ac yna gwerthuso eu cynnydd eu hunain ar ôl cyfnod amser penodedig. Mae’r dull hwn wedi’i wreiddio’n gadarn yn y ddealltwriaeth bod mannau cychwyn gwahanol gan bob dysgwr, ac y mynnir targedau y gellir eu mesur a’u cyflawni. Mae’r ymateb i hyfforddiant wedi bod yn gadarnhaol iawn a chroesawodd staff y cyfle i ddatblygu. Gyda chyllid ôl-sabothol yn y dyfodol, mae’r ysgol yn bwriadu parhau â’r hyfforddiant hwn, gan gydnabod ei bod yn bwysig cadw’r medrau iaith ‘ar y berw’, fel y gall adeiladu ar gynnydd.

Meithrin gwerthfawrogiad o ddiwylliant a thraddodiad Cymru
Ochr yn ochr â datblygu Cymraeg llafar, mae’r ysgol wedi gweithio tuag at sicrhau bod y Gymraeg a diwylliant a thraddodiad Cymru wedi’u gwreiddio ym mhob maes o fywyd yr ysgol. Mae’n teimlo ei bod yn bwysig nad yw Cymraeg yn cael ei weld fel pwnc sydd ‘mewn blwch’ yn unig, ond yn hytrach fel pwnc sy’n cael ei adlewyrchu ym mhopeth a wnânt. Ceir disgwyliad bod Cymraeg yn cael ei defnyddio ym mhob gwers yn ogystal â thu allan i’r ystafell ddosbarth, er enghraifft cyfarch teuluoedd wrth gatiau’r ysgol, ar yr iard, yn ystod gwasanaethau ac wedi’i hymgorffori ym mhob arddangosfa. Mae’r ysgol yn rhoi gwerth uchel ar ddigwyddiadau sy’n hyrwyddo diwylliant Cymru fel ‘Diwrnod Shwmae’ a’r Eisteddfod flynyddol. Mae ymagwedd gyfannol at y Gymraeg yn rhywbeth mae’r ysgol yn teimlo ei fod yn cael ei gadarnhau’n gryf yn y cwricwlwm newydd. Gyda hyn mewn cof, cynhaliodd hyfforddiant ysgol gyfan i gynllunio testun â thema Gymreig ar gyfer tymor y gwanwyn, wedi’i ysgogi gan feysydd dysgu gwahanol a datganiadau beth sy’n bwysig ym mhob dosbarth. Er enghraifft, yn Nosbarth 6, addysgwyd y celfyddydau mynegiannol a llythrennedd gan ddefnyddio’r testun ‘Y Cwilt’, gan arwain at waith celf o ansawdd uchel. Yn Nosbarth 5, gwyddoniaeth oedd yr ysgogwr, gyda disgyblion yn ymchwilio i erydiad ar arfordir Cymru. Cyflwynodd bob un o’r dosbarthiadau arddangosfa o’u gwaith i’r gymuned ysgol gyfan ar Ddydd Gŵyl Dewi, gan alluogi’r ysgol i gynnal prawf ar ymagwedd newydd at eisteddfodau traddodiadol y blynyddoedd blaenorol.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud wedi cael effaith ffafriol sylweddol ar y ddarpariaeth Gymraeg yn Ysgol Santes Fair, ac mae wedi arwain at gynnydd nodedig yn safonau dysgwyr. Mae proffil y Gymraeg a diwylliant Cymru wedi’i godi ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, a cheir ymdeimlad pendant o bositifrwydd at y Gymraeg yn ogystal â balchder yn yr hyn sydd wedi’i gyflawni, ac y gellir parhau i’w gyflawni. Mae’r gwahaniaeth o ran agweddau a hyder yn nodedig, a chadarnheir hyn yn y dystiolaeth o weithgareddau i staff a gweithgareddau llais y disgybl, yn ogystal ag olrhain asesiadau iaith.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae cyllid ôl-sabothol wedi galluogi staff i raeadru’u hyfforddiant yn effeithiol a modelu arfer orau ar draws yr ysgol gyfan. Mae ysgolion eraill o fewn clwstwr Cas-gwent wedi cysylltu ag Ysgol Santes Fair i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr er mwyn rhannu arfer yn ehangach. Hefyd, mae’r ysgol yn gweithio gyda’r consortiwm rhanbarthol lleol a Llywodraeth Cymru i ddatblygu ei darpariaeth ymhellach a cheisio ffyrdd i ddod yn ysgol gwbl ddwyieithog.