Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol
Gwybodaeth am y darparwr
Ar 1 Awst 2016, trosglwyddwyd cyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan). Mae’r Ganolfan yn gorff hyd braich wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i chartrefu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Ailstrwythurodd y Ganolfan ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ledled Cymru gan sefydlu 11 darparwr Dysgu Cymraeg. Maer Ganolfan yn cyllido’r darparwyr Dysgu Cymraeg hyn i gynnig arlwy Cymraeg i oedolion o fewn eu cymunedau.
Un o argymhellion Estyn i’r Ganolfan yn dilyn arolwg 2021 oedd rhannu methodoleg addysgu a chaffael ail iaith lwyddiannus gyda sectorau perthnasol eraill i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg gweithredol erbyn 2050.
Sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector a nodwyd yn ystod arolygiad, yn ymwneud â chwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd benodol
Mae Cynllun Cymraeg Gwaith a sefydlwyd yn 2017 wedi caniatáu i’r Ganolfan ymgysylltu gyda nifer uchel o gyflogwyr a sectorau amrywiol ac mae hynny wedi cefnogi dysgwyr i gael mynediad hygyrch at wersi fel rhan allweddol o’u gwaith dydd i ddydd. Mae’r Cynllun wedi gweithio gyda dros 1000 o gyflogwyr amrywiol, ac wedi datblygu cynlluniau sectorol benodol erbyn hyn, sy’n cynnwys y canlynol:
- Iechyd a Gofal,
- Gofal lliniarol a diwedd oes
- Gofal cymdeithasol
- Gweithlu Addysg a Gofal a blynyddoedd cynnar
- Gweithlu addysg bellach ac addysg uwch
- Awdurdodau lleol
- Chwaraeon
Yn 2023 crëwyd cyfarwyddiaeth newydd o fewn strwythur y Ganolfan er mwyn cefnogi ymhellach y gwaith o ddysgu Cymraeg i’r gweithlu addysg. Yn 2023 cyflwynwyd astudiaeth i’r Llywodraeth yn cyflwyno achos i ymestyn gwaith y Ganolfan i gydlynu rhaglen genedlaethol dysgu Cymraeg i’r Gweithlu Addysg i Llywodraeth Cymru, gwireddwyd hynny yn 2024 gyda’r bwriad o barhau i ymestyn rôl y Ganolfan yn y maes hwn i’r dyfodol.
Mae rhaglen Cymraeg yn y Cartref wedi tyfu hefyd, a bellach yn cynnwys rhaglen Clwb Cwtsh mewn partneriaeth a Mudiad Meithrin sy’n rhoi mynediad i rieni a gofalwyr at wersi sy’n rhoi blas iddynt o’r Gymraeg. Mae hyn yn ei dro yn eu hysbrydoli yn aml at ddechrau defnyddio’r Gymraeg gyda phlant ac at ddysgu Cymraeg mewn gwersi prif ffrwd. Yn yr un modd, mae partneriaeth rhwng y Mudiad Meithrin a’r Ganolfan o’r enw Camau yn darparu cyrsiau ar gyfer y gweithlu addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae Cymraeg yn y Cartref hefyd wedi datblygu rhaglen newydd sy’n lleoli Tiwtoriaid mewn Ysgolion cyfrwng Cymraeg er mwyn cynnig gwersi dysgu Cymraeg am ddim i deuluoedd sydd wedi dewis addysg Cymraeg i’w plant.
Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
Mae’r Ganolfan yn rhannu ei wybodaeth addysgeg a chaffael iaith y tu hwnt i Gymru hefyd, ac wedi datblygu nifer o gysylltiadau rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys cysylltiad gyda Llydaw ble mae’r Ganolfan wedi rhannu adnoddau i greu cwrs hunan-astudio cyntaf yn y Llydaweg. Mae hefyd wedi rhannu gwybodaeth am gynllun Cymraeg Gwaith gyda chynllunwyr Polisi Quebec, ac wedi rhannu arferion addysgeg yn Ynys Manaw ac Iwerddon. Cafwyd cyfle hefyd yn ystod 2024 i rannu gwybodaeth am waith y Ganolfan yng Nghynhadledd Cymdeithas y Comisiynwyr Iaith yng Nghaerdydd.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr
Mae gwersi prif ffrwd yn elfen hanfodol o waith y Ganolfan ac mae’r dysgwyr yn eu cymunedau wrth wraidd y ddarpariaeth. Er hynny, mae’r Ganolfan wedi esblygu’r ddarpariaeth er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gwahanol gan deilwra’r cynnig dysgu Cymraeg ar eu cyfer. Mae hyn yn e dro yn cael effaith gadarnhaol ar safonau dysgwyr ac, yn achos sectorau fel y gweithlu addysg, ar dealltwriaeth ymarferwyr o addysgeg a dulliau caffael iaith llwyddiannus.
Dros amser, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn esblygu o fod yn ddarparwr cyrsiau a gweithgareddau Cymraeg i oedolion yn unig i fod yn ddylanwadwr ieithyddol. Mae’n ganolog i fentrau niferus i normaleiddio defnydd o’r iaith ymhlith dysgwyr a siaradwyr anfoddog o bob oedran, yn gymunedol ac o fewn sectorau allweddol.